Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
OWAIN GLYNDWR. PENOD VIL /\…
OWAIN GLYNDWR. PENOD VIL T FONEDDIGES. "A ddarfu i chwi fy ngweled o'r blaen ?" gofynodd Cadifor. U A gaffi glywed yr achos fod boneddiges o'ch safle chwi yn teimlo y fath ddyddor- debynwyf?" Plygodd y foneddiges ei phen i lawr am rai mynydau, ac ni ddywedodd air, ond ynmhen ychydig, cyfododd ei phen i fyny a dywedodd, "Cofiwch mai eich genedl eich hun sydd wedi eich bradychn i ddwylaw eich gelynion. Yr oeddwn yn edrych arnynt, ac y maent wedi derbyn cant o farciau aur am eu caredigrwydd. Yr ydych yn wir newynog." "Yr ydych yn iawn," ebe y swydd- og—" felly yr wyf yn teimlo." A fedrwch chwi ddyfod i lawr ?" Medraf. Yr wyf yn teimlo fy hun yn lied dda—ychydig o boen syddyn fy mhen." Yr oedd yn ei ddillad ei hnn, ond yr oedd wedi cael ei ddiarfogi yn 11 wyr- nid oedd cymaint a chyllell logell yn ei feddiant. Cyn pen pum mynyd yr oedd yn eistedd wrth fwrdd wedi cael ei ar- lwyo o ddanteithion peaaf natur, a gwnaeth gyfiawnder a hwynt. Wedi iddo ddiwalla ei hun, trodd at y fon- eddiges gan ddywedyd, Yr wyf bellach yn teimlo fy hun yn gryf a gwrol i sefyll fy mhrawf." "Y Forwyn a fyddo gyda chwi," oedd yr ateb. Ymorphwyswch ar y Forwyn a'r holl Seintiau. Dyma fi yn eich gadael-y maent ar ddyfod. Ni fyddant nwchlaw pum mynyd eto. Byddwch ddewr a gwrol. Cyn y byddwch yn ymadael a gaf fi glywed yn mha le yr ydwyf. Yr wyf yn gwybod fy mod mewn rhyw amddi- ffynfa Saesneg, ond nis gwn yn mha Ie." "Yr ydych yn awr yn Nghastell Caer-yn-arfon. Yr wyf yn rhwym o fyned," ac yna diflanodd trwy y drws. Cyn pen dwy fynyd wedi iddi fyned, yr oedd y drws yn cael ei agor, y dan filwr yn dyfod i mewn. "Gwelaf fod y cadfridog Cymreig yn mwynhau ei hun yn noble iawn," ebe un o'r milwyr ar ei waith yn dyfod tros y troth wy.»s. "Gweddol," yr ateb. "A oes rhyw beth a fynoch chwi a mi ?" Dim rhyw lawer, ond yn unig eich hysbysu fod y llys milwrol yn eistedd, a bod yn rhaid i chwi ymddangos ger ei fron. Dyna yr oil." "Parion. Dyma fi yn barod." Cyfododd a cherddodd yn gryf a gwrol tna'r porth, yn cael ei ganlyn gan y ddau filwr a chleddyfau noethion yn eu dwylaw. Wedi myned allan o'r ys- tafell, dywedodd un o'r milwyr, Ffordd yma, os gwelwch yn dda," Ac arweiniasant ef yn mlaen trwy ryw haner dwsin o ystafelloedd, ac yna daethant i'r llys, yr hwn oedd ystafell eang a gorwych. Yn y gongl bellaf yr oedd math o fainc fechan addnrniedig, ac yn eistedd yn gylch o'i chwmpas yr oedd denddeg o ddynion. Ychydig nes yn mlaen yr oedd mainc arall, nen yn hytrach math o eisteddle eang, ac ar yr eisteddle yma yr eisteddai y barn- wyr a'r dadlenwyr. Maine y brenin ydoedd y gyntaf a nodwyd, ac nid oedd yn gyfreithlon i neb i eistedd ami ond y penadur ei hun. Yn mhen rhyw bum mynyd wedi i'r Cymro fyned i'r llys, cyfododd dyn bychan ar ei draed, acwedi pwyntio a'ilaw at.y carcharor, dywedodd, Y dyn hwn eich arglwyddiaeth sydd fradwr ei wlad, ac wedi cyflawni uchel- drosedd. Nid wyf yn meddwl fod ei achos yn werth i ni alw tystion yn mlaen i brofi ei euogrwydd. Y mae ei achos yn ddigon eglur yn barod." Drwg genyf glywed," ebe dyn tew a thrwehus a eisteddai yn agos i ganol y fainc. Yr wyf wedi clywed mai efe a achosodd y ffrwydriad erchyll yna ddygwyddodd y nos arall yn y castell hwn." "Y mae eich harglwyddiaeth yn iawn," ebe y dyn bychan. Efe oedd wrth wraidd y fusnes o'i ddechren i'w ddiwedd, a deallwyf fod ganddo law yn y gyflafan erchyll hono a gyflawn. wyd yn Rhuthyn er ys ychydig fisoedd yn ol." "Yr wyf am iddo gael pob chwaren- teg i amddiffyn ei hnn," ebe y barnwr, "A ydych chwi yn enog o'r pethan a ddygir yn eicl^herbyn ?" gofynodd y barnwr gan syllti yn difrifol yn wyneb y carcharor. Nid wyf yn gwybod," oedd yr ateb. Yr wyf yn meddwl fod genyf law yn ( ngwrthwynebn bob Saia a ddaw ar fy ] ffordd." t CI Aellwch ohwi nodi rhyw reswm I dros wrthwynebn pob Sais ?" gofynodd j y barnwr drachefh." Gallaf." u Wei?" "A* mae lladron a llofruddion ydynt." « Cymerweh chwi bwyll—ystyriwch chwi y peth naw waith cyn ei ddweyd. A ydych chwi am hysbysu y llys fod pob Sais yn lleidr ac yn llofrudd ?" Ydwyf—yr wyf am hysbysu y llys fod pob Bais yn galw am dair llatho- gordyn am ei wddf." Oni wyddoch chwi nad ydychiddianc o'r llys hwn a'ch pen ar eich ysgwydd- au?" Gwn. Yr wyf yn gwybod na fydd i chwi ymddwyn yn wahanol i bob Sais arall—dyna arfer y Saeson. Ond y mae un beth yn dywyll i mi, a dyma fe: Gan eich bod yn penderfynu fy Uof- ruddio gam neu cymwys, paham na chyflawnwch y weithred yn down right, yn lie ymdroi a throsi o'i chwmpas ?" Dyma y ffordd yr ydym yn cael tipyn o ddifyrwch," ebe y bamwr-Ilyr ydym yn hoffi poenydio ein gelynion; ond gan eich bod chwi mor awyddus am gael golwg ar eich perthynasau, cewch eich dymuniad yfory am ddeg o'r gloch. Ysgrifenwch y wys farwol, Donald, fel y gallwyf ei harwyddo cyn ymadael." Ychydig fynydau oedd yn ddigon i gael y wys yn barod, ac wedi i'r larll ei harwyddo, dywedodd, Bydded i chwi, Jackson, ofaln, fod i hon gael ei dwyn i weithrediad boreu yfory am ddeg o'r gloch. Symndwch y carcharor i'w gell." Pan oedd y Cymro gwladgarol yn ymadael o'r llys dywedodd, "Nis gellwch ladd ond fy nghorff. Bydd fy ysbryd yn eich dilyn bant a bryn wedi i mi farw. Yr holl Seintiau a'ch boenydio. Yr wyf yn marw yn ferthyr dros fy ngwlad a'm cenedl, ac yr wyf yn falch o hyny. O'r cwn nffernoll Pe buasai genyf gleddyf, cawsech weled a theimlo fod gwaed Cymro yn rhedeg trwy fy ngwythieu- au." Erbyn hyny yr eedd allan o'r llys ac yn nrws ei gell. Hyrddiwyd efi mewn a chauwyd y porth ar ei ol, a chlywodd un o'r milwyr yn dweyd ar ei waith yn troi ei gefn, M Pan y byddot ti yn dyfod allan oddiyma byddi yn dyfod allan i wnend rhwyd o dy gnawd." Yr oedd ei gell yn berffaith dywell: nid oedd rhithyn o oleuni yn dyfod i mewn iddi. Nid oedd angau a marw yn effeithio dim ar feddwl y Cymro dewr, ond yr oedd cyflwr ei gydgenedl a'r chwildroad oedd yn y wlad yn agos a'i yru yn wallgof. Yr oedd ef gyda hwynt yn y dechreu, ond yn awr yr oedd yn rhaid iddo ef farw a'u gadael. Pa beth oedd y foneddiges hono ? Credai mai hi oedd dechren a diwedd ei ofidiau a'i drallodion. Yr oedd yn credu erbyn hyn mai hono oedd wrth wraidd y cyfan oil, ond dyna, nid oedd o fawr bwys: yroedd ei amserar ben: dim ond ychydig oriau, ac yna byddai iddo ef ganu yn iach i'r anialdir. Carai gael golwg ar ei hen feistr, a ffarwelio a'i gydswyddogion cyn marw, ond yr oedd hyny yn anmhosibl. Nis gallai gael y naill na'r llall o'r pethan hyn-yr oedd bellach yn ddyogel. Rhyw bethau fel yna oedd yn rhed- eg trwy ei feddwl, ae nis gallai gaelllon- yddwch am fynyd awr. Yn mhen ychydig, clywai ei ddrws yn cael ei agor, a swyddog yn dywedyd, A ydyw yr hen frawd mewn hwyl at ymborth? Dyma fe—estynwcheich llaw." Estynodd ei law i gyfeiriad y swn, a derbyniodd ddarn bychan o fara a chwpanaid o ddwfr. Ymwelaf a chwi boreu yfory eto," ebe y swyddog ar ei waith yn can y drws." Pa amser ydyw ?" gofynodd y car- charor. « Y mae wedi myned yn nos," oedd yr ateb. Wedi llyncu yr ychydig ymborth a gafodd, taflodd ei hnn ar ei wely caled, ac ymdrechodd gysgu, ond methodd- yi oedd ei feddwl yn rhy derfysglyd. Yr oedd yn gorwedd ar ei wely, a thybiai ei bad yn tynu yn mlaen tua chanol nos, pan yn sydyn clywodd drwst tu arall i fnr ei ystafell. Start- iodd ar ei wadnan a gwrandawai yn astad. Yn fuan olywodd rhyw beth megys pe byddai y mur yn symnd allan o'i lee Syllai a gwrandawai4 ond ni j chadwyd ef yn hir mewn pryder. Erbyn- ei fod ef wedi sefydla ei olygon ar y mar, yr oedd hwnw yn ymagor, a goleuni tanbaid yn ymddangos, a llais mwyn a ewynol yn gofy* yn ddysfcaw, A ydych yn gyeums yn eich gar- trefnewydd?" "Nid cysfcal," ebeefe,^an eylln ar I gwrthddrych prydferth oedd yn sefyll ger ei fron. "Paratowch i'w adael, ynte," ebe y foneddiges, (canye y foneddiges yr ydym wedi son am dani amryw weith- ian yn barod ydoedd). "Canlynwuhfi,»' ebe hi. Heb siarad gair, allan ag ef trwy dwll yn y mnr ar ei hoi, ac yn fuan yr oedd yn sefyll ar rodfa hyfryd.
ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.
ENWOGION SIR GAERFYRDDIN. JONES, DAFYDD, LLANWRDA. Cyhoeddwyd yr ail ran o'r Difyr- wch i'r Pererinion, fel y crybwyllwyd eisioes, gan Rhys Thomas yn Llanym- ddyfri, yn 1764, Cynwysa y rhanhon 40 o enymau gwreiddiol o waith yr awdwr o Lanwrda, gyda 52 wedi eu cyfieithu o enymau Watts. Tuag at ddangos eu tlysni a'u natur- ioldeb, nis gallwn wnead yn well na chopio ychydig o honynt GWREIDDIOL Mae mae, yr amser hyfrvd yn nesau, Paa gtffo'm henaid ei ryddhau, 0 m ty a glai fyn'd tu* m gwlad Nid yma mae'm gorphw* sfi i, Mae hono fry yn nhy fy Nhad. Bob dydd, fy nhabernaol brau o bridd, O'i syifaen yn dadUlio sydd Nid yw dianydd hwn yn mhell- Fy enaid cJfia hyn bob cam, A meddwl am adeLiad gaell. Fa'm, pa'm rwy'n caru aros yn nhir Ham Na bawn yn cwyno'n fwy bob cam Mewn hiraeth am fy ne/ol dy Gael tiflii lawr fy lien o gnawd Fln'd atfy mrawd.a'm priod fry. Fry, fry, uwch awyr las a'i dysglasr la, Mae koll hjfrydwch f enaid cu, Does yma ddim d Aioal i'w gael; Rwy wedi gwel d a phrofi r byd Does ynddo i gyd ond gwagedd gwael. » Diw daw, fy anwyl lesu maes o law, I'm o/rohu drosodd i r wlad draw, I'm bywyd dystaw a dibeen Caf gana'n llawen gyda'r tin, GanJMoees fry, a ch&n yr Oen. Mae y penill cyntaf o'r rhai uchod ar gof miloedd o Gymry yn bresenol, ac y mae llawer pererin wedi gollwng allan deimladan ei galon yn ngeiriad y penill hwn ganoedd o weithiau. Dyma ychydig benilllon eto ar fesur arall, mor felus ag unrhyw enyman a feddwn yn yr iaith, ac y mae rhai o honynt yn hynod o boblogaidd:— 0 gwelwn gariad Crist mor fawr4 At bryfed gwael difri; O'i hardd ogoniant datttl i lawr, I wisgo'n natur ni. Aeth hefyd dan ein cosb a'n bal- Bu farw yn ein Ile, I'n codi ni o ddyfnder gwae, I uchder gwjnfyd ne. Priolodd Iesu Brenin nef, Ein natar wael ei Hnn, 'Nawr asgwrn y m o i argwrn ef, A chnawd o'i gnawd ei hun. Gwahanu'r sawl wnaeth Duw yn un, Sjdd orchwyl rnawr rhy drwm, Mau n henaid eieioes wrtho'n nglyn, Ni ddetyd neb y c'lwm. Maan henwau'n 'sgrifenedig fry, Yn ihol y bywyd mawr, Ni ddichon Sitan a'i holl lu, Oddi yno'n tynu lawr. Er tloted ydym ni yn awr, Er gwaeled yw ein gwedd, Mae ini etifeddiaeth fawr, Yr oohr draw i'r bedd. Plant ydym eto dan ein hoed, Yn dyegwyl am y etad, Mae'r etifeddiaeth ini'n dod, Wrth d^stiment ein Tad. Am hyny,blant na fyddwn drist, Yn hytrach lla^enhawn, Cyd etifeddion y'm a ChTitt, Rhan o'i ogoniant gawn. Cyn gadael y rhan hon, nig gallwn ymatal rhag dyfynu y penill peraidd ac anwyl canlynol, yr hwn a genir yn bar- haus gan bererinion gwlad y Bryn- iau:— n caersi,lem'dinu hedd, 0 na bawn yno'n byw, 0 hyd cawn weled gwedd, A siriol wyneb Duw, Mae weithiau'n dywyll arna'i nawr, Fy haul nid a byth yno'i lawr. Rhoddwn eto ychydig benillion o'r drydedd ran o'i Ddifyrwch i'r Pere- rinion, yr hon a argraffwyd yn IV 70, ac a gynwysai 43 o emynau gyda chan o gynghori wr ieuanc i geisio Dnw mewn pryd. Dyma ychydig benillion o'r drydedd ran Tyred Arglwydd cu i'r c&nol Gad in' werd dy raaol wedd, Dyro glywed dy hyfrjdlais, Wrth ein henaid traetha hedd, Hyn fydd ddigon, &o., o Jawenydd ao o wledd. 0 tyred Arglwydd da, Mewt siriol fodd neea, I blith dy blant, Caal golwg ar dyiwedd, A phrofi' th hyfryd hedd, Yw'r unig felus wledd Sydd arcom ohwaat. Bernwn mai ein dyledswydd yw dweyd gair nen ddan am dano fel cyf- ietthydiC"e¥ > ^ohon nad atelja h^ny lawer o ddyben gan fod gi gyfieit|adau mor adnabyddns yn y wlad. Eto, gan fod tuedd fawr yn y werin i brioaoli llawer o'i emynau gwreiddioj, a[i gyf- d llawer o'i emynau gwreiddioj, a[i gyf- Psalmau i gyd, gMi rai i Dafydd Wwfo- in) nid anmhriodol fydd difynn ychydig o'r cyfleithiadan mwyaf arferedig, er mwyn dangas mai i'r emynwr enwog o Lanwrda yr ydym yn ddyledus am danynt yn eu gwisg Gymraeg. Diwygiodd y cyfieithydd rai canoedd o wallau ag oedd yn yr Argraffiad cyn- taf o Psalmau Watts, pan ddaeth yr ail Argraffiad allan, ac y mae lie i ys- twytho llawer ar raio honynt eto. Y mae wedi bod yn bur ffedus er hyny gyda rhai o'r Salmau a'r emynau, ac wedi gwella y gwreiddiol mewn rhai amgylchiadau. Pwy yn Nghymru nad yw wedi clywed y rhai canlynol yn pael eu cann gyda hwyl nefolaidd laweroedd o weithiau Gwaith hyfryd ia-wn a melas yw, Molianu'th enw di o Ddaw, Son am dy gariad foreu glas, A'r nos am wirioneddau'th ras. Mae gwlad o wyBfyd pur heb haint, Byth vno y teyrnas'r saint, Lie nid OfS trwyll nos ond dydd, A phleser heb ddim blinder sye d. Or Iachawdwriaeth fawr yn Nghrist, Swn melus hyfryd yw i'm olust, Balm cr\ f i'm olw) fau o bob rhyw, A chordial i'm rhag ofnau yw, &c Y mae y cyfieithiadau nchod, yn nghyd a'r emynau gwreiddiol a wnaeth, yn dangos mai nid dyn cyffredin oedd Dafydd Jones o Lanwrda; ond o'r tu arall, rhaid ei resu yn mhlith mawrion ein gwlad, ac yn un o'i phrif emynwyr. Yr ydym yn hollol gredu y bydd rhai o'r penillion ag ydym wedi ddyfynu yma o'i waith, yn nghyd a Unaws ereill yn arferedig yn mhlith crefydd- wyr Cywru cyhyd ag y bydd yr iaith Gymraeg yn arferedig. Ymddengys mai Calfin selog o ran ei farn oedd Dafydd Jones, ac yr oedd yn grefyddwr gwresog a bywiog iawn: a bu yn offeryn i wneud llawer iawn o ddaioni i'w gyd ddynion yn ardaloedd Llanwrda a Chayo, yn annibynol ar y daioni mawr a wnaeth i eglwysi Cymru yn gyffredinol trwy eu hanrhegu a lluaws o emynau a Salmau ysbrydol. Ar ol trealio oes o lafar a defnydd- ioldeb, bu y gwr enwog hwn farw Awst 30ain, 1V77, yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Crugybar. Mae y capel presenol wedi ei adeiladu uwch ben ei fedd.
IARLL BEACONSFIELD
IARLL BEACONSFIELD (MR. DISRAELI). Fel ymresymwr nid yw Mr. Disraeli wedi bod yn gyson ag ef ei hnn erioed. Eglur yw nad yw efe wedi teimlo y bangfa leiaf tu fewn i'w feddwl yn ngwyneb prawf eglur o'r anghysondeb mwyaf yn ei haeriadau. Yn un o'i lyfrau dywed efe na ddy- lai efrydwyr astudio Saesonaeg,Italaeg, na'r Germanaeg, am en bod wedi lLel eu sylfaenn ar yr iaithoedd clasnrol. Cynghora hwynt i astudio Persiaeg ao Arabaeg, ieithoedd dwyreiniol. Ond mewn tudalen arall yn yr un llyfr, y mae efe yn condemnio unrhyw ymdrech a ellid wneud gan bobl gogleddbarth y ddaear i fabwysiadu arferion dwyr- einiol Mewn un man dywed y dylem astudio natur dyn fal natur rhyw anii- ail arall, ond wedi hyny yn fuan, dy- wed "ond byddai astndio dynion, fel y maent wedi bod yn yr amser a aeth heibio, yn cynwys tybiaeth fod dyn bob ameer yn parhan yr un. Nid felly yr wyf fi yn golygu." Gwada efe fodol- aeth athroniaeth moesau dyn, fel y dywedaaom o'r blaen. Ymddengys yn waith ofer i ymresymu yn erbyn haer- iadan nad oes rhithiant o ffrwyth rhes- ymu ynddynt. A gofidus yw meddwl fod dyn sydd wedi arfer haeru heb resymu yn Brif Weinidog gwlad mor fawr a Lloegr. Ymddengys na wnaeth Mr. Disraeli astudio egwyddorion a ffrwyth natur- iol ei haeriadan, a'i fod ef yn eu hys- grifenu yn unig am eu bod yn ddyeithr <—gwir nen gelwydd. Yr oedd efe am ddarganfod ibyw beth newydd mewn moesau, ond nis gellir gwneud hyny. Y mae y ddeddf foeeol, fel natar Duw, yn ddigyfnewid. Yn yr awydd a ddangosodd Mr. Disraeli i weled rhyw'beth newyddmewn moesau, 0 ran en deddf, yr oedd yn debyg i Voltaire a Rousseau, yr anffyddwyr. Iuddewaeth, eglwysyddiaeth esgobol ffurfiel, Toriaeth, ae amffyddiaeth, a gyfansoddant y cawl meddyliol a deyrnasa yn awr yn ein gwlad ni. Disgybl proffesedig i Voltaire oedd hero nofel Mr. pisraeli a elwid Contarini Fleming."—TTr oedd ymdrech Voltaire i wneud,deddf natur-dedlf tueddiadaa laaturiol dynion yn rheol en moesau, nodweddn iraru# am ngeinian o nyn- yddau. Cyhoeddodd Mr. Disraeli argrafiBad newydd o'r nofel uchod pan yn ei enw- ogrwydd addfed, a dangosodd gy- meradwyaeth o'i egwyddorion y pryd hwnw. Nid oes dim a ddengys lygred- igaeth a gwithgiliad mawr Eglwys Loegr yp. fwy na'i hymffrost hi yn y fath champion a Iarll Beaconsfield. Tra yr oedd efe yn rhoddi ffrwyn i'w ddychymygion yn nghyfansoddiad y nofel uchod yn ymyl pigdyrau yr Aipht, o dan ddylanwad yr haul yn y dwyrain, deallodd fod chwildroad yn niwygiad y Senedd yn Mhrydain wedi cymeryd lie, oddentu 1831, fod awyr cymdeith- as yn Lloegr wedi myned mor llawn 0 wefr ac awyr y gwledydd dwyreiniol, a bod cyfie iddo ef roddi ei freudd- wydion nofelaidd yn y farchnad bolit- icaidd. Yr oedd hero ei nofel wedi dadgan ei syched am fod yn arweinydd "i blaid ddawnus," a'i fod ef Wedi cael ei eni i anadlu yn awyr chwildroad- au. Teimlodd Mr Disraeli fod ei adeg efwedi dyfod. Cyflymodd tua Lloegr. Daeth i ganol cynhyi fiad y Reform Bill." Gwelodd fod y goron Olym- paidd o fewn ei gyrhaedd. Beth oedd Brougham, Grey, a Russell, mewn cydmariaeth i'r breuddwydiwr talent- og, yr hwn a fu yn mharadwysau y dwy- rain ? Oni allai efe ei hnn yn unig gon- cro mawrion y Whigs, yrhai oeddynt yn marchogaeth y corwynt yn nghanol banllefau molianus y byd. Dirmygodd efe hefyd Peel a Wellington. Beth oedd eu ser bychain hwynt, mewn'cyd- mariaeth i'r seren fawr Inddewig Dis- raelaidd, yr hon oedd wedi cyfodi nwchlaw y terfyngylch yn ywlad hon? Yn ei olwg tywysogaidd ef, nid oedd arweinwyr y blaid Ryddfrydol, Lord John Russell & Co., ddim gwell nag ysbeilwyr pea ffordd fawr!! Nid oedd arweinwyr y Tori aid, Peel a Wellington, ddim ond Lilipntiaid gweiniaid, dall, heb fedr i rwystro lMf- eiriant y diwygiad! Rhaid i'r breudd- wydiwr dwyreiniol, Inddewig, ffhrfio cynllun newydd! Ni byddai efe yn ail i neb o'r corachod aristocrataidd nchod, Russell, Peel, Wellington, &c r Nid oedd undeb yn llywodraethu yn llwyr iawn yn ngwersyll y Whigiaid. Gofynai Mr. Disraeli iddo ei hun, "a ellidddim gwneud defnydd o'r Rad- icaliaid? Yr oeddynt yn fychain mewn rhif, ac am hyn, yr oedd yn bosibl bod yn fiaenor amynt." Cynygiodd ei hun i fod yn aelod Be neddol dros High Wycombe, tref yn swydd Buck- ingham. Wedi hyny bu am fiynyddan yn aelod dros y sir hono. Penderfynodd ofyn am gefnegaeth gan enwogion y Radicaliaid. Yr oedd O'Connell y pryd hwnw yn defnyddio holl rym ei athrylith yn erbyn y Rhyddfrydwyr cymhedrol. Ystyrid ef yn Radical. Ysgrifenodd Mr. Disraeli ato fel brawd mewn Radicaliaeth, i ofyn iddo am ei gefnogaeth i geisio myned i mewn i'r Senedd fel Radical dros High Wycombe. Cyfansoddodd O. Connell lvthyr cymeradwyol iddo. -Meddyliodd Mr. Disraeli fod y llythyr mor rhagorel fel y gorchymynodd iddo gael ei argraffa a'i osod ar y muriau yn yr heolydd. Gwnaeth yr nn peth a llythyr a dderbyniodd efe oddiwrth Hume. Yr oedd y pwyllgor mewn cysylltiad ag efe fel ymgeisydd yn gyfansoddedig o'r nn niter o Radical- iaid a Thonaid. Cynygiwyd ef ar yr esgynlawr ddydd yr etholiad gan Radical, ac eiliwyd ef gan llori, fel un oymhwys i fod yn aelod Seneddol. Nid oedd efe ond oddeutu 27 mlwydd oed y pryd hwnw. Proffesodd ei fod am Seneidd dair blynyddol, y balot, a diw- ygiad mewo materion arianol. Ond condemniodd efe y Rhyddfryd- wyr Whigaidd mewn iaith mor eithafbl, fel y tynodd Mr. Hume ei gymeradwy- aeth oddiwrtho, ac a'i rhoddodd i'r ymgeisydd Whigaidd, a chollodd Mr. Disraeli y dydd. Ni thorodd ei galon, ond aeth at y gwaith o gyfansoddi nofel newydd