Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

BWRDD YSGOL LLANGIWC.

News
Cite
Share

BWRDD YSGOL LLANGIWC. DYDD MAWK Y FOTIO. 0 bob boreu a wawriodd ar ardal ddi- nod CwmllynfelJ, yr wyf o'r farn mai dydd mawr y fotio ydoedd y rhyfeddaf oil. Ni fu, ac ni fydd, gobeithio, y fath derfysg, helbul, a ffwdan ag a fu yma y boreu hwnw, a byny i ddim llai dyben nag ethol un i eistedd ar y bwrdd uchod am y tymhor byr o dair blynedd. Pe buasai trethdalwyr Cwmllynfell am osod eu dyn dewisedig i eistedd ar orsedd Prydain Fawr, neu ei neillduo i fyned ar daith i edrych hinsawdd y blaned Iau, a chwilio pi fath sylweddau sydd yn cyf- ausoddi Orion, ni aliasent byth ffwdanu a thrafferthu mwy. Myn rhai pobl gredu fod y byd yn,dyfod yngallach. o hyd ond yr wyf fi o'r farn mai myned yn ffolach y mae. Gan fy mod yn llygad-dyst o weithrediadau y dydd hwn yn Ngwaun- caegurwen, yr wyfar safle deg i farnu hefyd; a phe cawn fy rhyddid 1 adolygu y dydd, ac i filoedd darllenwyry DARIAN fy nilyn, yr wyf yn sicr y barnent hwyth- an yr un peth. Dacw y wawr yn codi ei phen dros der- fyngylch aur y dwyrain. Y mae yn foreu mwyn a thawel. Ust! dyna swn cerbvd yn mesur yr heol tua Brynaman, a cheffyl gwyn mor deneu a lantern yn ei dynu! Pwysydd ynddo ? Cwlwm o etholedig- ion. Bolo! dyna un arall! Pwy sydd yn hwnw? Trip o gynffonwyr. Gwarchod ni, dyna un arall eto! Beth sydd yn bod 1 Beth yw y gwylltio a'r terfysgu sydd drwy yr ardal? Beth yw y cynhwrf a'r cyffro? Boreu "dydd mawr y fotio" sydd wedi gwawrio. Dyna y gwynt yn dechren chwibanu, y gwlaw yn ymarllwys • ond dim yn tycio. Pirhau yn anterth eu hynfydrwydd mae y bobl i ddylifo tua ),uneaegurwen. Rhai yn chwyrnellu yn eu cerbydau, rhai ar asynod, ac ereill yn rhedeg trwy y gwynt a'r gwlaw ne3 haner foddi eu hunain. Ond nid yw y rfrialtwch a'r pleser ond megys dechreu eto. Yn y dychwelyd yr oedd llawenydd a chythreuleiddiwch y dydd i gvrhaedd ei glimax. Dewiaai pob un ei ffordd ei hun i ddychwelyd. Mewn un cerbyd byddai "pedwar gallu Ewrop" (chwedl lanto guro'i ddanedd) yn dychwelyd, gan wneud SpOI t o bawb a gyfarfyddent, yn eael eu leado gan y prif allu Jac Pata- gonia. Fiei i'r giwaid. Pe cawn i haner modfedd o ryddid, mi wnawn sport o honynt hwy ar faes y DAMAN. Mewn cerbyd arall deuai yr hen deamm plwyfol dan besychu, a'i fol fel cerwyn hyd yr ymylon. Yr oedd ef yn gweled yn ddwbl. Taerai fod y Mynydd Du yn sefyll ar ei ben, fod y lleuad yn gwisgo cot a chwt fain, ac fod y ser yn rhedeg races yn y ffurfafen. Cludwyd rhai ar garllwydi, .a llusgwyd ereill ranau o'r ffordd gerfydd eu traed trwy y dwfr a'r baw. Yr oedd • swn yr wbain a'r bloeddio yn hollti y cymylau. Boreu dranoeth nid ydoedd aderyn yn yr awyr i'w ganfod, nac un creaduryn poi rarydolydd. Yroeddynt 1 gyd wedi ffoi trwy "fwlch aed wynt" fnherwydd swn y bloeddio. Rhyfedd y fath ddiwrnod! Bum i yn edrych gydasobrwydd uwch ei ben wrth ■ 7 weled i'r fath eithafion o ryddid ac ofer- goeJedd y mae dynoliaeth mor barod i ymollwng. Ni fuaswn yn codi y llinellau hyn i sylw oni buasai fod gwir angen am, argyhoeddiad. Gofidus yw meddwl fod dynion cyfrifol wedi gwerthu eu hunain am y dydd i'r duw Bacchus, yn taflu y ffrwyn yn ei hyd i'w blys a'u chwantau, ac yn dyfod adref a llyfetheiriau eu pro- ffes yn chwilfriw am eu traed. fod rhai o henuriaid Sanhed- rim wedi bod yn ymgodymu a Syr John, ac iddynt yn yr ymdrech gael cwymp dirfawr, fel y bu gorfu iddynt ynherwydd effeithiau y codwm gael plastr i guddio'r archollion er eu galluogi i ddyfod i'r cyf- arfod boreu'r Sftbboth canlyaol. JPiti! phi!! SYLWBDYDD.

., FFYNON TAF.

.GLAIS. - J

^LLANSAMLET.

"TWYNYGRAIG.'

.4 • CWMLLYNFELL.

I' PONTARDAWE.

AT Y BEIRDD.

OWYN YR AMDDIFAD.

GORPHENWYD.

CUSAN.

Y GOLOMEN GLUDYDD.

Y FASGED.

Y FYNWENT.

ANERCHIAD 'NOL I'W DAD.

ALLAN O'R WASG. CAN.

Advertising