Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

OWAIN GLYNDWR.

News
Cite
Share

OWAIN GLYNDWR. PENOD VIL Y FONEDDIGES. TRODD pob un ei wyneb at y gwersyll, ond pan yr oeddent ar gyrhaeddyd y linell allanol, dyma ddynes yn gweith- io yn mlaen trwy y tywyllwch, ac yn sefyll o flaen Cadifor gan ddywedyd, A ydyw yn bosibl i mi gael siarad gair a fy arglwydd ?" Siarad a mi!" ebe y swyddog. Ie, siarad a chwi." "A ydyw y peth o natur gyfrinach- ol ?" Ydyw. Nid oes neb i'w glywed ond chwi yn unig." Symudodd y ddan tuoli lwyn o goed oedd yn yr ymyl, ac wedi i'r ddynes afaelyd yn flaw Cadifor, dywedodd, A ydych chwi ddim yn meddwl nad oes bradwyr yn eich mysg?" Nac ydwyi," oedd yr ateb. "Nis gallaf gredn y fath beth." Felly. A ellwch chwi gredu eich bod i gael eich llosgi heno am ddeuddeg o'r gloch bob enaid byw, a hyny gan eich dynion eich hunain ? ond y mae yr hyn sydd wedi dygwydd heno wedi tafia y weithred hyd nos Wener-nos Wener bydd yn cael ei chyflawni. Y pryd hwnw defnyddir y Pattar, a llosg- ir chwi yn llndw." Syllai Cadifor yn wyneb y ddynes, ond^nid oedd ddim gwell. Yr oedd gorchudd trwchus dros hwnw, ac yr oedd wedi lapio ei chorff mewn gwisg "Chwaer Drngarog." Yr oedd eiystori wedi ei yru yn fwy na haner hurt, ond wedi edrych arni am ychydig, dywed- odd, "A ydyw fy chwaer yn meddu ar dafod geirwir ?" "Yr wyf yn galw y Forwyn yn dyst," oeddyr ateb. Y mae yr hyn a ddywed- ais yn eiriau gwirionedd a sobrwydd, a chewch weled y bydd iddynt gael eu cyflawni nos Wener nesaf bob iota." Beth pe byddem yn cyfodi y gwar- chae heno, pa beth fyddai y canlyniad?" Nid yw hyny wedi cael ei siarad eto-byddai yn rhaid tynu cynlluniau newyddion. A ydych chwi yn meddwl fod gelyn- ion mor feiddgar yn ein mysg ni ?" "Yr wyf yn gwybod hyny. Nid i yn y castell pan dygwyddodd y ffrwydriad ofnadwy yna, ond yr oedd rhai o'ch dynion chwi yno." A ydynt yno yn awr ?" "Nac ydynt. Y maent gyda chwi yn y gwersyll." A ydyw yn bosibl i mi gael eu henwau ?" "Nid genyffi. Yr wyf wedi tyngu i'r Forwyn na bydd i mi eu hysbysu, ond hyn a wnaf-hnm-yn rhy berygl- ns." Yn rhy beryglus i ba beth ?" "Yn rhy beryglus i ddyfod i'ch gy- farfod chwi wrth draed Trum y Brain —nis gallaf anturio." Gwir fod y daith yn beryglus i foneddiges o'ch bath chwi, ond carwn gael gair oddiwrthych, ond pa fodd nis gwn." A wyddoch chwi am Bryn yr Afr ?" Gwn." Byddaf yn sefyll yr ochr ogleddol i hwnw nos Lun nesaf am ddeuddeg o'r gloch. A ydyw ya bosibl i chwi fy nghyfarfod yno ?" H Y dyw os byddaf byw." "Nos da i chwi," ac ynadiflanodd o'r golwg. Safodd Cadifer fel delw am rai myn- ydan-nis gallai syflyd modfedd. Yr oedd ei feddwl yn terfysgn fel mor aflonydd. PW7 oedd y ddynes ? Pa fodd yr oedd wedi dyfod i wybod yr holl gyfrinion ? Pa un ai priod ynte gweddw ydoedd ? Pa beth allas&i gael! ganddinosLun? Pwy oedd y brad-] wyr ? A oeddent yn swyddogion, &c ? Rhyw bethau fel yna oedd yn rhedeg trwy ei feddwl; ond o dipyn i teth ymlusgodd yr ochr arall i'r llwyn at ei frodyr. Pan ddaeth hyd atynt, cafodd ci holi yn fanwl yn nghyleh Ilawer o bethau, ond nid oedd mewn hwyl ateb dim. Yn fuan yr oedd y gwarchae wedi ei gyfodi, a hwythau ar eu taith. Tranoeth galwodd Cadell a'n gwron o'r Beilldu, a dywedodd y oyfan oil Wrth- ynt yn nghylch y bradwyr, ac aethant iwythau i lawn cymaint o syndod ag yntau. Nis gallent ddyfalu pwy oedd- ent, os oedd bradwyr o gwbl yn eu mysg-yr oeddent yn gogwyddo i Sedu nad oedd dim. Yr oedd ym- ygiad y ddynes dipyn yn dywyll idaynt hefyd. Paham yr oedd yn bradychu ei chyfeillion ? Yr oedd hi yn rhwym o fod yn y plot, His gallai wybod yr holl fanylion heb ei bod. Os ] oedd hi yn clywed yr holl gynllun yn cael ei drefnu a'i dynu, paham na fuas- ai yn ea gwrthwynebu y bryd hwnw ? Yr oedd pob peth yn dywyll iddynt, ond er hyny yr oedd Cadifor yn ben- derfynol o'i chyfarfod nos Lun. Nis gallai roddi cyfrif paham yr oedd yn rhaid iddo, ond felly yr oedd yn teimlo. Nos Lun a ddaeth, ac wele Cadifor yn cychwyn ar ei daith. Yr oedd wedi arfogi ei hun hyd at ei ddanedd. Crogai cleddyf wrth ei glun, tri dagr yn ei wregys, bwyell wrth ei ochr, bwa ar ei fraich, a chawell saethau arei gefn. 0 radd i radd cyrhaeddodd gor- yn y mynydd, ac wedi syllu a gwrando am beth amser, cychwynodd yn mlaen yn araf a phwyllog i bwynt Camedd Llywelyn. Wedi dilyn yn mlaen yn y cyfeiriad hwnw am tuadwy filldir, trodd ei wyneb tua'r gogledd, ac wedi teith- io yn y cyfeiriad hwnw drachefn am tua dwy fllldir a haner, safodd-yr oedd wedi cyrhaeddyd terfyn ei daith. Yr oedd wedi dyfod i ochr ogleddol Bryn yr Afr. Yr oedd yn awr yn tynu yn mlaen o gwmpas haner awr wedi un-ar-ddeg o'r gloch, ac felly yr oedd ychydig yn rhy gynar i ateb y cyhoedd- iad. Safodd gan sylln i lawr i bwynt y dyffryn. Nid oedd dim yn weledig. Wedi sefyll yn y fan hono am oudeutu haner awr, tybiodd ei fod yn canfod rhyw beth draw yn y pellder, ond yr oedd yn rhy dywyll iddo i wneud allan pa beth ydoedd. Cadwai ei olygon yn sefydlog arno, a thra yn y cyflwrhwnw, clywai rhyw swn hynod a dyeithr yn rhedeg trwy ei ben, a chyn pen eiliad yr oedd yn canfod pob gwrthddryrh o gwmpas yn diflanu o'i olwg, ac yntau yn syrthio fel careg ar y ddaear. Wedi iddo syrthio, teimlai rhyw un yn dal cadach llogell, neu rhyw beth cyffelyb wrth ei enau, a chlywai rhyw un yn dy- wedyd, "Gatlwn feddwl ei fod yn all right yn awr." "Ynberffaith ddyogel, syr," oedd yr ateb. Y mae ei ben yn werth cant o farciau aur." Yr ydych yn iawn-dyna y cytun- deb," ebe rhyw berson arall. "Nis gall ef yn awr syflyd bys na bawd er ei fod yn clywed y cyfan oil." Wedi bod yn gorwedd ar y ddaear am rai mynydau, clywai un o'r dynion yn dywedyd, I'r castell, onite." el Ie," oedd yr ateb. "A ydyw y trysolion yn barod ?" Ydynt." 'Nawr am dani, ynte." Teimlai ei hun yn awr yn cael ei gyfodi oddiwrth y ddaear, ac yn cael ei glado ymaith, ond nis gwyddai i ba le. Nid oedd wedi myned yn mhell cyn iddo deimlo y cadach yn cael ei osod wrth ei enau drachefn, a chyn pen eiliad yr oedd yn colli pob cof a synwyr—aeth fel dyn marw. Nis gwyddai pa faint o amser yr oedd wedi bod yn y cyflwr hwn, ond pan daeth ato ei hun yr oedd mewn ystafell addum- iedig ac ardderchog, ac yn gorwedd ar wely na welodd o'i fath yn ei fywyd. Ni welodd le gwychach er y dydd y ganwyd ef, ond nis gwyddai ar ben bywyd i bwy yr oedd yn perthyn. Syllai o gwmpss-edrychai ar y darlun- iau heirdd, ar y dodrefn costus, ac yn neillduol ar y gwely rhyfeddol yr oedd yn gorwedd arno. Nid oedd wedi gweled y naiil na'r Hallo honynt erioed o'r blaen. Yr oedd mewn lie newydd holloI-yr oedd y eyfan yn ddyeithr iddo. Trayn y cytlwr myfyriol hwn, daeth y cyfan yn fyw i'w gof Cofiai am y nos flaenorol, os nos flaenerol hefyd—nis gwyddai pa bryd ydoedd ond cofiai helynt y mynydd—cofiai am y cadach yn cael ei osod wrth ei enan cofiai amy dynion yn siarad a'ugilydd -cofiai ei fod yn cael ei gyfodi yn groes ardrysoJion-cofiai yr adeg pan yr aeth pob peth yn anghof ganddo, ac yr seth yntau fel dyn marw. Daeth pob peth yn fyw i'w gef, ac am y ddyn- es, yr oedd yn cablu hono yn druenus. Yr oedd yn credu mai hono oedd wrth wraiddy oyfan oil, ond tra yn meddwl a myfyrio fel yma, dyma ddrws yr ys- tafell yn cael ei agor, fa boneddiges urddasol yn gwneud ei hymddangosiad. Ni welodd un creadur daearol mor brydferth yn ei fywyd. Yr oedd wedi ymdroi mewn melved a sidan, gyda gwallt wedi ei blethu gyda defynau o aur yn rhedeg trwyddo. Wedi iddi ddyfod yn mlaen at y gwely, dywedodd dan weni, Gwelaf eich bod wedi deffroi." Ydwyf, diolch i'r Forwyn," oedd yr ateb, end nid oes ond ychydig fynydau er pan agorais fy llygaid." Yr oeddwn yn meddwl. Yr wyf wedi eich gwylied yn lied faawl er un o'r gloch boren heddyw." Nis gallaf byth dalm i chwi am eich trafferth. A gat ti glywed enw yr hon sydd mor drugarog wrthyf ?" Nid yw hyny o un pwys," cedd yr ateb—" busnes arall yn awr. Dichon y denwch i wybod fy enw eto, ac ps na ddeuwch byth, nid yw o un pwys. Ond hyn. Yn mhen awr eto byddwch yn cael eich gylchynu gan filwyr, a bydd yn rhaid i chwi sefyll eich brawf fel bradwr eich gwlad. Fy nhad fydd yn eistedd ar y faine, a bydd yn sicr o'ch cael yn euog i farw. Wedi iddo basio y ferdyd arnoch, cewch eich gosod mewn cell tanddaearol hyd ddydd eich dienyddiad—ni fydd hyny yn mhellach na dydd Gwener neu ddydd Sadwrn."

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.…

IARLL beaconsfield