Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

HKLYNTION TREFORRIS.

-' CWMAFON.

News
Cite
Share

CWMAFON. MEI. GOL. Wel, wn i ddim pa le i ddechreu yr wythnos hon, canys y mae cymaint o weithrediadau anfad y bob! glecyddol yma yn dyfod i'r golwg, a chymaint oswnwrthglywcdy bobl yn gwaeddi tcais trais Y mae ffywyth yrgweithrediadau hyn yn gwau trwy fy meadwl, a lluaws o bynciau yn ymgynyg am aelocaSfh yn fy upper store, fel yn jpgwyneb yr oil yr wyf yn methu yn lân It deall fy hun. Rhyfedd y fath gulni sectyddol a drwgdybiaeth plentynf i id sydd yn maddiauu rhai pobl. Drwg gênyf weled cymaint c'r plentyn yn dyfod i'r golwg yn rhai o honynt. Yr oedd hyny yn dyfod i'r golwg yn ngwaith rhai poblyn drwgdybio y brawd diniwed, J. Morgan, o fod yn awdwr llithiau 'Afan- fab.' Bobl anwyl, yn enw holl foch sir Aberteifi, a oes dim cywilydd gwyneb arnoch i ddwyn y fath gyhuddiad yn erbyn y brawd diniwed ? Yr ydych wedi sathru yr wyfchfed orchymyn jn eich gwaed eich hun, sef dwyn camdystiol- aeth yn erbyn eich cymydog.' Da y gwaaethai J. Morgan a'r rhai hyny sydd yn dweyd mai efe yw' Afanfab' pe crogai hwynt a maen melin am eu gyddfau, a'u taflu i eigion mor. Ond dyna, gadawaf rhyngddo ef a hwynt. Y mae ei bwt bach o lith yn profi ei fod yn fwy na match iddynt. Y tro nesaf y dygant y fath gamgyhuddiad yn ei erbyn, cy- nghorwn et i osod y gyfraith ar eu gwar- au, fel y bydd iddynt gael ymddangos o 9 0 flaen eu gwell. Pe dygent y fath gy- huddiad yn fy erbyn i, buaswn yn sier o wneud hyny. Da mhobl i, peidiweh a bod mor Babydd-1, a diwygiwch o hyn allan. Rhyfedd y fath helfa sydd wedi bod ar Afanfab' y dyddiau diweddaf yma. Yn wir, mae fy nuelynion o'm deutu wrth y canoedd. Pythefnos yn ol, cyfarfu pwyll- gor, o dan yr enw Clecwyr, er mwyn ys- tyried y priodoldeb o gael dyfod o hyd i Afanfab.' Cynygiwyd Mr. Bravo i fod yn y gadair. Eiliwyd y cynygiad, a phas- iwyd ef yn unfrydol. Wedi cael anerch- iad agoriadol gan y csdeirydd, awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod. Wedi dys- tawrwydd am fynyd, dyma Mr. Barf Goch yn codi ar ei draad, g?m ddweyd ychydig eiriau gyda llais awdurdodedig. Yrwjf yti cynyg, meddai, ein bod i anfon at y Gol. i ofyn pwy ydyw; ac os nafydd iddo ddyfod i'r golwg felly, yr wyf yn cynyg ein bod yn gosod pum' punt o wobr i'r cyntaf a'i dalio. an bod ninau fel pwyllgor i wneud ein goreu er cyrhaedd yr amean. Cyn i'r ffwlbryn hwn gael amser i eistedd i lawr, dyma Wil y Can- twr yn codi ar ei draed, ac yn eilio y cynygiad, a phasiwyd ef yn unfrydol gyda banllefau o gymeradwyaeth. Wei. v. el, y fath bris sydd ar groen Afanfab Os truan o ddyn wyf, pwy a'm gwared oddi- wrth gorff y faiwolaeth hon? Terfyn- wyd y cyfarfod trwy weddi, gan ddymuno bendith ar yr hyn fu dan sylw, a phawb i wneud ei oreu. Amen felly y byddo. Gohiriwyd y ty hyd yr wythnos ganlynol. 0 dyna helfa fu yr wythnos wedi hyny; ond y cwbl yn ofer ac i ddim dyben. Yr wythnos ganlynol, cj f «-fu y pwyllgor drachefn. Wedi i Mr. Bravo gymeryd y gadair, anerchwyd y cyfarfod gan y rhai canlynol:—Mr. Barf Goch, Mr. Punch, Mr. Fiddler, a Mr. Cockattoo. Yna codai Wil y Cantwr ar ei draed, gan ddweyd ychydig eiriau i'r pwrpas. Wel, gyfeillion, meddai, y mae yn flin genyf ein bod wedi colli yn y frwydr beeth yma eto. Deuwch i ni gael tsrfynu y cyfarfod trwy ganu y penill yma, a phob un i ofalu peidio prynu y DARIAN o hyn allan Mi fcddyliaia ar y c7ntal Bonswn amser mtith "yo hto Wedi Ci«i gjf-»el ar Aianfab, I' Ac Jngwledda ar ben y bryn 8i6medigaeth, eiomedigaeth Gawsom yn yr > mdrech hoa. 0! fath hwyl nefolaidd a gawsant ar yr hen benUl galarus uchod, nes oeddynt wedi anghofio y byd a'i bethau, ac am yr helfa fawr ftutr Afanfab.' Terfynwyd, ac aeth pawb i'w ffordd ei hun. Wel, fy mhobl bawh i, cynghorem chwi i beidio bod mor ffol o hyn allan, a gwas- traffu eich amser i ddim pwrpas. Dos ac na phecha mwyach, rhag dygwydd i ti beth a fyddo gwaeth.' ] £ r ydych mor bell o afael Afanfab' ag yw yr haul oddiwrth y lleuad, a pheid- ied, y dynion bychain yma a bod mor fusneegar o hyn allan, yn enwedig y Mri. Dales, rhag y bydd i mi roddi blychaid o bills iddynt o A-. Y Llwynog a fyddai yn sier o wneud lies anferthol i chwi. Y mae y rhai yma mor afml a ffrogaid Llan- rwst (chwedl y Llwynog), ac y maent yn beio hwn a'r Hall o fod yn 'Afanfab.' Byddai yn well iddynt adael eu hen ar- feriad mochynllyd, new ynte cant deimlo Has fy nanedd llymiog. Un peth mae y bobl glecyddol a gafferyddol yma yn llawenhau ynddo yw fod y Llwynog wedi myned oddiyma mewn cyn lleied o amser. Dyma eiriau un o honynt wrth frawd arall, Clywch, nid yw y Llwynog yn ddigon cyfrwys i ddyfod yma. Os arosai yn hir iawn yma, byddai Mr. Loucher yn sier o gael gafael ynddo.' Y fath ben- boethni plentynaidd, onite? Yr wyf newydd reportio y cyfryw i'r Llwynog, a chofied y gwr hwn pan ddaw ei dycged y bvd í hi yn dylawd arno. Terfynaf y tro hwn, er mwyn i'r dar- llenyc'd a minau gael ein hanad!. Byddaf j u sicr o dalu ymweliad a chwi pob copa walltog, a rhodilaf i chwi bills a fydd yn werth i chwi dalu 5s. y blychaid am dan- ynt, ac hyd hyny, feehgyn, byddwch wych. AFANFAB.

I ETHOLIAD BWRDD YSGOL LLANGIWC.

; ,' [HYSBYSIAD.]

HELYNTION CWMNEDD.

Advertising

ALLAN O'R WASG.

FFUGCHWEDL Y LLWYNOG.

LLITH Y BAHOIT D.