Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

------=-OWAIN GLYNDWR.

News
Cite
Share

-=- OWAIN GLYNDWR. PENOD V. YN Y MYNYDDOSDD. Caw sant lonyddwch bellack trwy y nos ni ddaeth dim i'w haflonyddH, a threnliwyd tranoeth i osod yr amddi- ffynfeydd mewn pwynt gweithio, a chyn tri o'r gloch prydnawn yr *eddent i mewn cyflwr rhagorol. Tna phump o'r gloch, tybient eu bod yn canfod rhyw wrthddrychau yn ymaymud yn ol ac yn mlaen, draw yn y pellder—yr oedd rhyw beth tua thair milldir rhyngddynt a hwy; ond cyn pen chwarter awr yr oeddent wedi diflann. Parodd yr olwg arnynt i'r Cymry fod ar ddihun. Credent y buasai y gelyn yn tain ymweliad a hwynt yn y nos, ac yn hyn yr oeddent yn iawn. Yr oedd wedi canol nos, pan yn sydyn, gwelent fyddin o wyr meirch yn dyfod i mewn i'r fynedfa. Gellid meddwl en bod o gant i chwech ugain o nifer; ac yr oeddent yn teithio yn hynod araf a phwyllog, gan syllu yn fanwl o'n cwm- pas fel yr elent yn mlaen. Cyn hir daethant at fan y gyflafan y nos fiaen. orol, ac yn y man hwnw y safasant. Yr oedd yn noswaith hyfryd, ac erbyn hyny yr oedd y lloer yn dechren taflu ei llewyrch dros glogwyni y mynydd- oedd, ac yn goleno ychydig ar y dy- ffrynoedd. Wedi iddynt ddal eu golyg- on am rai mynydyn ar eu brodyr oedd wedi cael eu cymysgu trwy eu gilydd, fel yr oedd yn ormod gorchwyl i un dewin i dynu y naill oddiwrth y Hall o honynt, dywedodd y prif swyddog wrth y lleill, }' Y mae hon yn oly gfa ofnadwy. Pa beth a wnawn ? A allwn anturio yn mhellach ?" 11 Yr wyf yn ofni," ebe is-swyddog ond cyn bod y gair olaf yn dyfod dros ei wefus, yr oeddent yn clywed rhyw swn megys pe byddai y mynyddoedd "n ymrwygo neu y creigiau yn ym- hollti yn chwilfryw, a chyn pen eiliad yr oedd talpian mawriono greigiau yn taro yn erbyn en gilydd hyd nes yd- oedd y tan yn goleuo y dyffryn. Golyg- fa ofnadwy ydoedd hon. Nis gall iaith ei dysgrifio, na dychymyg ei gosod allan. Y mae yn chwerthin am ben dychymyg dyn, ae yn gwawdio athrylith angel. Yr oedd dynion a cheffylau yn nn mass marwoltrwy eu gilydd, heb un rhith bywyd yh y naill na'r Hall o honynt. Gwir fod rhai o .honynt wedi parhau i ruddfan ac ochen- eidio am ryw fynyd, ond dim chwaneg. Yr oedd y dynion yn rhifo tua chwech ugain, a chawsant fynell i'r farn ar darawiad llygad. Yn mhen rhyw fynyd a haner, nid oedd ond dystaw- rwydd prnddaidd yn teyrnasu trwy yr holl gylch -y rhyferthwy fawr wedi myned heibio, ac angan megys yn dal ei anadl cyn dechren ar rhyw orchwyl newydd, Nid oedd dyn yn weledig yn nu man, na Ilais dyn i'w glywed yn mheU nac yn agos. Daeth y boren cyn hir, ac yr oedd y wlad yn rhydd o elynion can belled ag y medrai llygad noeth ganfod. Aeth y dydd hwnw heibio, a thranoeth yr un fath, ond hwyr y trydydd dydd can- fyddwyd rhyw wrthddrychan yn ym- symud ar goryn Trum y Brain. Nis gellid gwneud allan pa nn a'i dynion ynte rhyw bethau ereill oeddynt, ond ni fuwyd yn hir cyn gosod gwylwyr yn y cyfeiriad hwnw. Tua chanol nos, clywodd y gwylwyr rhyw fodau yn ymsymud o gyloh y fan, ond nis gall- ent ganfod dim. Yr oedd yn hynod. dywyll, a'r cymylau yn dilyn eu gilydd yn gyflym dros wyneb y ffurfafen. Gwir y gallai gelynion yn y ffordd hono ddyfod i mewn i'r badell nen loches ein gwron, ond He go beryglus ydoedd. Yr oedd yn rhaid iddynt ddisgyn dros ddanedd craig serth am fwy na chant a haner o latheni, ac yr oedd hono yn sefyll braidd yn syth. Estynai y gwylwyr eu golygon yn mlaen trwy y ty wyllwch, ond nis gallent ganfod dim. Cyn pen ychydig fynydau, yr oedd Cadifoi yn gwybod fod rhyw beth allan o le yno, ac ni fu yn hir cyn bod yn y fan. Yr oedd wedi cyrhaeddyd yno rhyw beth tua phnm mynyd cyn ei fod yn canfod pedwar o ddynion yn dyfod yn mlaen, ac yn sefyll uwchben y graig erchyll. Yn fuan clywodd un o honynt yn dweyi wrth y lleill, Dyma y fan. Os na allwn fyned atynt y ffordd yma, y mae wedi darfod am byth." Yr wyf fi yn hollol yr un farn," ebe nn arall-" ugain o raffau hirion a symuda i'r gwaelodion bum mil cyn y boreu." Wei, gallwn feddwl fod pum mil yn ddigon," ebe y trydydd. Yn llawn," oedd yr ateb. "Os gallwnarwain pum mil yn mlaen at eu gwersyll pan y byddant yn cysgn, gwnawn o'r goreu. Nid ydynt hwy uwchlaw pum mil; ac y mae llawer o honynt yn gwylied trumiau y mynydd- oedd yma." "Yn ddiamhenol," oedd yr ateb. Gosod rhes o raffau i lawr yn y fan yma, ac yna ni fyddwn dros bedair awr yn symud pum mil i'r gwaelod- ion*' Yr ydych yn lier o fod yn iawn," ebe un arall. Y mae genym ddigon o raffau i'w cael, ac os ydynt yn rby fyrion, gallwn en sicrhau wrth eu gilydd Yn awr gadewch i ni gychwyn, a hod yn barod yn y fan yma erbyn naw o'r gloch nos yfory. Cant gynyg arni nos yfory, ond rhaid bod yn ofalus." Gwir," oedd yr ateb, ac ynacy- chwynasant. Pan deallodd Cadifor eu bod yn ddigon pell, galwodd ei gynghoriaid yn nghyd, ac wedi siarad ao ymddyddan gryn lawer, dywedodd Cadell, yr hwn oedd fachgen cyfrwys a dichellgar ofnadwy, "Y mae rhyw beth fel hyn wedi rhedeg trwy fy mhen i, ond dichon na welwch lawer o synwyr yoido." Gadewch glywed," ebe Cadifor. Wel, rhyw beth fel hyn. Taa haner y graig y mae ogof fawr-digon i gynwys cant o ddynion, ac yr wyf yn meddwl dethol haner cant o'r saeth- wyr goreu a feddwn a'n gosod yn yr ogof yma, a phan y byddent hwy yn disgyn i lawr dros yr ogof, planu dau saeth gwenwynig yn ngnawd pob un o honynt, ac felly ni fyddant uwch law eiliad cyn disgyn ar y gwaelod, a man y disgynant ar y gwaelod, bydd eu peiriant wedi sefyll." Safodd pob un yn fnd am ryw fynyd neu fynyd a haner, a'r cyntaf i dori ar y dystawrwydd ydoedd un Rhydderch, yr hwn a ddywedodd, Yr wyf yn ystyried y cynllun yn un rhagorol. Gallwn felly eu cael i'r gwaelod yn hollol ddidrwst-ni fydd neb yn gwybod dim am eu tynged. Cynceradwywyd y cynllun hwn yn gyffredinol, a barnasant ei fod yn nn nynod rhwydd i'w osod mewn gweith- rediad. Yr oeaa genau yr ogof yr ydym wedi son am dano tua deg llath o led, gyda chraig gadam yn nen iddi, ac felly yr oedd yn ddigon mawr i ddeugain neu haner cant o ddynion i weithio ynddi. Gellid myned i mewn iddi yn rhwydd, dim ond teithio vohyd- ig dros lechwedd y graig. Gwir mae taith beryglus ydoedd, ao yr oedd yn rhaid bod yn hynod ofalns cyn ei chyrhaeddyd. Gyda thoriad gwawr boren tranoeth, gwelid y Cymry yn tynu tua'r fan-pob nn a'i fwa ar ei fraich, ei gawell saethan ar ei gein, ei gleddyf wrth ei ochr, ei fwyall wedi ei rhwymo wrth ei ysgwydd—yr oedd- ent wedi eu harfogi hyd at eu danedd. Yr oedd y saethwyr goren wedi cael en dethol, ac yn mysg y cyfryw yr oedd Cadifor, Cadell, a'n gwron ac heb aros dim, dechreuasant symud i lawr dros lechwedd y graig, a chyn hir yr oeddent yn ddyogel yn ngenau yr ogof. Treuliwyd y dydd fel arfer i wylied. a lie noble i wylied ydoedd. Yr oedd talpian mawrion o greigiau yn blith trapblith ar draws eu gilydd, fel nad oedd ond gorchwyl hawddi filoedd ar filoedd o ddynion i lechu yn eu mysg allan o'r golwg. Aeth y dydd hwnw heibio a daeth y nos, ac oddeutu haner awr wedi saith neu wyth o'r gloch, clywid rhyw drwst ar goryn y graig, ac yn fuan deallwyd fod y gelynion wedi dyfod, a'u gorchwyl cyntaf ydoedd sicrhau y rhaffau, pa rai oeddyn 15 o nifer. Yr oedd deg o honynt yn rhed- eg i lawr yn gywir dros enau yr ogof, a chyrhaeddent i'r gwaelodionobry.

[No title]

CROMWELL.

ENWOGION SIR GAERFYRDDIK.

- EISTEDDFOD GADEIRIOL GOSEN,…