Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

O WAIN GLYNDWR.

News
Cite
Share

O WAIN GLYNDWR. PENOD III. YN YR ALLT. EBBYN eu bod wedi croesi, yroedd rhyw beth tua thri dwsin o saethsu wed; cael eu gollwngar ea holau, ond dim ond un a dderbymodd niwed. Glyncdd saitk yn nghefn un o hon- ynt, ond nid oedd yn saith grenwyn- ig, ac felly gwellnaodd yr arjholl cyn pen vchydig ddyddian. Wedi glauio yn ddyogel yr ochr draw, syllent trwy y gwyll yn eu holau, a gwelent ddyn- ion yn gwau a gwibio yn ol ac yn mlaen fel ellyllon. I'r coed yn awr," ebe ein gwron. Y mae y lie hwn yn rhy beryglus i aros ynddo." Ct Gwir," ebe Cadifor, ['• ond pa beth ydyw yr hwdwch du yna sydd ar wyneb y dwfr ?" Yn mha le ?" Yn right ar eich cyfer." Yr wyf yn gweled -wn i ddim." "Gadewch i mi ei gynyg—yr wyf yn meddwl mai pagan ydyw." Taflodd ei fa oddi&r ei fraich, ac wedi gosod saeth arno, tynodd yn gryi a ffwrdd ag ef, a chyn pen eiliad yr oedd y gwrthddrych yn soddi yn gyf- 9 lym o dan y dwfr. "Un pagan yn llai eto," ebe efe, gan droi a dilyn ei gyfeillion tua chwr yr anialwch. Ni fnont yn hir cyn cael eu hnnain yn y lie mwyaf anial ag oedd i gael y pryd hwrw yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yr anialwch hwn yn cyrhaeddyd o yn a208 i Flint; ac i lawr i ymyl Caer Estyn. Gwir fod ambell i lecyn glas bychan i'w canfod yn awr ac yn y man rhwng y tyrau coed a'r llwyni an- ial, ond nid oeddynt ond ychydig. Gweithiodd Glyndwr a'i wyr eu hun- ain i mewn i'r goedwig fawrefldog hon, a chawsant yno ddigon o noddfeydd a dyogelwch, ond yr oedd peth arall yn dechreu eu blino yn awr, ac hwnw yc beth pwysig hefyd. Pa beth am ym. borth. N id eedd ganddynt ymborth i.w gaeljr ac nis gallent fyw yn hir iawn yn eu dyogel-nau hebddo. Pa beth oedd i'w wneud. Prydnawn tran- -ith, cofiodd ein gwrGlf" fod un Ifor ab ctruff/dd, nca yr Arglwydd Ifor iel y gd 'l,j e:-ë J" ¡' j'■ vdig tu isaf i Fijo^ a phei?derfyE;;i*.» wnend prawfl gared "grwydd, bu yn hynod llwyddia^ss. ('1, ddigon o ym- borfcn, a f,^ n! iiayi od a chyrchu rh xr?. ;j, oedd y bonedd- wr v J yri burtl (us agos i Glyndwr, •jtm <rxj daiGlyndwr pa un a oedd yi-. s din i Harri a'i peidio. Os oedd y ngy faill i Harri, yr oedd ar ben arno ef i gael un caredigrwydd oddiar ei law, ond trodd y fusnes yn llwyddiant peraaith. Amfynyd, goddefer i ni droi yn ol tua Chaer i edrych pa fodd y mae pethau yn myned yn y blaen yno. Pan deall- wyd fodein gwron wedi diane o'i gall, aeth yn ifw nd wr ffair trwy yr holl le. Nid oedd rhyw lawer o filwyr yn y castell ar y pryd, ond yr ychydig oedd yno, a gawsant eu gosod'ar waith bob copa. Yr oedd Harri ar y pryd yn Henffbrdd, a chafodd wybod am yr an- ffawd cyn nos tranoeth. Pan glywodd y néwydd, aeth yn fwy na haner gwall- gof, ac un o'i weithredoedd cyntaf yd- oedd tori ymaith benau y ddau filwr oedd yn gwylied ein gwron yn y car- char. Y peth nesafydoedd addaw dan cant o farciau aur am gael golwg ar Glyn- dwr yn fyw neu yn farw. Nid oedd o bwys pa un. A'r peth nesaf drachefn ydoedd gorchymyn saethu ceidwad y castell, Wedi gosod y gorchymynion hyn mewn gweithrediad, aeth pob un ar ei eithaf i chwilio am y gelyn. Yr oedd dan cant o farciau aur yn swm ofnadwy, ac yr oedd perygl ein gwron llawn cymaint oddiwrth ei gyfeillion ag ydoedd oddiwrth ei.elynion. Am y fath diysor, yr oedd canoedd o Gymry a fuasent yn gwerthu eu mameuchwaeth- ach estroo. Aeth saith niwrnod heibio beb i ddim o bwys ddygwydd, ac erbyn hyny yr oedd y fyddin fechan a lechai yn yr allt wedi dyfod yn bur gysurus. digonedd o ymborth a dillad yn dyfod iddynt yn ddyddiol. Ond ar brydnawn y seithfed dydd, fel yr oedd ein gwron a'i brif was yn sefyll ar dalp o graig fechan yn ymyl y gwersyll, sylwasant fod yr awyr yn hynod goch i lawr rhyngddynt a Wrexham a Chaer Estyn. Dalient eu golygon yn sefydlog yn y cyfeiriad hwnw, ac yr oeddent yn mpthu deall pa beth oedd yn ei achosi. Yn juhen ychydig troisant eu golygon i [ bwynt Rhyddlan, ac yr oedd yno hefyd yr un peth-cochni dros yr holl awyr- gylch; ac yn fuan darfu iddynt sylwi ei -fod yr; un peth drachefn o bwynt yr EryrL Nis gallent ddyfalu pa beth oedd yn bod. Hwyrhaodd cyn hir, a phan yr aeth yn mlaen tnag wyth neu naw o'r gloch, deallasant fod y goedwig fav/v ar dan o gwr i gwr, ac yr oeddent hwythau'yn ei chanol. Pa beth oedd Fw wneud yn awr! Yr oedd dianc yn beth anmhosibl. Yr oedd diluw o dan rbyngddynt ag allan yn mhob cyfeiriad. Y gwir yw, yr oedd y goedwig 31 y pryd yn llosgi mewn cant ag wyth o fanau, fel yr oedd dianc yn beth yn ymyl bod yn wyrth. Yr oedd yn rhaid iddynt ddyoddef cael en llosgi yn fyw! Pleth. odd y foneddiges ei dwy fraich am wddf ei thad, gan ei gusanu yn 8Wyd- wyllt; ond ni ddywedodd air wrtho. Yr oedd ei thad yn sefyll yn fad, gan ddal ei olygon yn sefydlog ar y ddaear ac yr oedd yn hawdd deall fod ei feddwl yn terfysga fel mor aflonydd. Yn mhen ychydig cyfododd ei ben i fyny, ac wedi syllu ar ei gyfeillion, dywedodd mewn rhyw lais rhyfedd o doddedig, "Nh gallwn wneud dim yn a-y-r ond trosglwyddo ein hunain i ofal y Forwyn. Gadewch i ni wynebu angau yn wrol. Chwi fy mhlentyn, cewch farw yn fy rtghol. Dyma ein terfyn Yr ydym yn gorfod marw yn herwydd twyll a chelwydd. Gadewch i ni or- wedd o dan y llwyn acw, a phob un i afaelyd yn Haw y llall." Yr oedd rhai o honynt yn wylo yn dorcalonus, ac creill yn Uefain ar y Forwyn a'r Seintiau ac yr oedd- ent yn sicr o fod yn gwaeddu yn ddi- dwyll ac yn onest. Ar yr adeg yma yr oedd Cadifor a Cadell yn sefyll ych- ydig bellder oddiwrth eu cyfeiUion, ond nid oeddent hwythau chwaith yn ym- ddangos yn rhydd oddiwrth fraw a dychryn.

CROMWELL.

.0,. ENWOGION SIR GAESFYRDDIN.

EVANS SAMUEL, (GOMER).

EISTEDDFOD CAERYNARFON.