Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

OWAIN GLYNDWR. PENOD II.

News
Cite
Share

OWAIN GLYNDWR. PENOD II. YN Y CARCHAK. Wedi iddynt gau y drws, teimlodd ein harwr yr un llaw yn gorphwys ar ei ysgwydd drachafn; ae wedi bod yn ddystaw am ryw fynyd, dywedodd, "Yr wyf yn rhwym o gael eich gusanu cyn ymadael. Nid ydych wedi bod yma ddwy noswaith heb fy mod i yn ymweled a'ch liystafell, ac yr wyf wedi eich gnsanu bob nos, ac yr wyf yn rhwym o gael gwneud yr un peth heco eto." Gan ei bod wedi d wyn y fath newydd cysurus iddo, nis gallai wrthod hyn iddi, ac felly plygodd ei ben i lawr, a chyn pen eiliad yr oedd yn teimlo ei gwefasau yn cynhesu ei fin. A gaf fi glywed," ebe efe, pwy sydd yn teimlo y fath serch tuag ataf?" Dim heno," oedd yr ateb. Ffar- wel." Yna tynodd agoriad o'i llogell, agor- odd y drws, a chlodd ef ar ei hoi a ffwrdd a hi. Wedi iddi fyned, yr oedd ein gwron yn fwy na haner gwallgof. Yr oedd yn dra sicr mae dynes ydoedd -yr oedd ei llais, ei gwisg, a'i liaw fechan yn profi hyny, ond pwy ydoedd nis gallai ddyfalu. A oedd yn bosibl mai ei ferch ydoedd ? Nis gallai gredu hyny. Pa fodd yr oedd ei ferch wedi gweithio ei hun i mewn i'r fath le a hwnw-Ile oedd yn cael ei wylied gan filwyr ddydd a nos. Credai ei hod yn anmhosibl i'w ferch fod yno-nis gall- ai weithio ei ffordd i'r castell ond pwy ydoedd ynte ? A oedd yn bosibl credu fod rhyw estrones yn teimlo y fath ddyddordeb ynddo ? Na, nid oedd hyny yn debygol. Nid oedd ef ond dyeithr i bawb yno ac felly nis gall- ai hyny fod. Tra yn troi y pethau hyn yn ol ac yn mlaen yn ei feddwl, clodd cwsg ei lygaid, ac ymollyngodd ar ei wely, ac ni ddeffrodd cyn i'w fara a dwfr ddyfod iddo boren tranoeth. Pasiodd y dydd, a daeth y nos yn ei amser, a iiiua iz 'i gioch., olywodd drwst tn allan i'w gell fel y nos flaen- orol, ond ei fod i'w glywed yn agosach o iawer. Ambell i dro meddyliai ei fod yn gywir o dan ei ystafell, ond yn mhen rhyw beth tuag awr, seth y owN yn ddystaw. Yr oedd ein gwron yn awr yn hynod galoaog. Credai fod ei rydd- nad yn yr ymyl, ac yn cael ei lywodr- aethu gan y syniad hwnw, methodd a chysgu dim llygadyn trwy y nos. Nos tranoeth a ddaetb, a phan yr oedd ein gwron yn creda fod 12 o'r gloch wedi myned heibio, dechreuodd wrando yn astud ond dim gwell—yr oedd y cyfan mor ddystaw ar bedd. Wedi gwrando am ryw awr, dechreuodd feddwl fod ei gyfeillion wedi ei adael, nen ynte wedi cael en dal; ac os oeddent wedi cael en dal, nid oedd ond angau yn eu haros ac felly yr oedd ei achos ef yn an- obeithiol byth. Pan yr oedd yn nghan- 01 helbul a gofid, dyna ddrws ei ystafell yn oael ei agor, a rhyw un yn dyfod i mewn. Pwy sydd yna ?" gofynodd mewn llais dystaw. "Dystawrwydd," oedd yr ateb- "neswch yma, mor ddystaw a'r bedd." Nesodd yn mlaen oddiwrth y gwely, atheimloddlawyn gafaelydyn ei fraich, a chlywodd lais yn dweyd wrtho, "Plygwch i lawr a theimlwch y gareg sydd wrth y mur." Gwnaeth felly, ao wedi cael gafael yn y gareg, gofynodd, Pa beth yn awr ?" "Safwch," oedd yr ateb, "hyd nes clywoch swn odditanoch." Yn mhen rhyw bum mynyd, clyw- odd rhyw beth yn gweithio yn ddystaw odditano, ac yn faan ar ol hyny clyw- odd lais yn dywedyd, "eyfodwch y gareg." Ymdrechodd wnend hyny, ond yr oedd yn methu. Gwthiwch eich Ilaw rhyngddi a'r mur," ebe y sawl oedd gydag ef yn yr ystafell, a phan yr oedd yn yr act o wnead hyny, dyma ddrws ei gell yn cael ei agor, a llais yn gofyn, Pa beth sydd yn myned yn y blaen yma?" Dim," ebe ein gwron, gan daflu ei hun ar y gwely. Dim trwy wybod i mi." Hum. Ni fyddwch yn hir eto cyn fy ryddhan o'r gofal poenus hwn," ebe y person drachefn. Nid oes genyeh ond dan ddiwrnod i fy mhoeni. Pa sawl diwrnod ?" gofynodd ein harwr. Dau, ac yna gwnawn blanhigfa o'ch orff Y mae aros dau ddiwrnod eto yn lied boenus i mi." Yr un fath y mae pob bradwr yn teimlo. Daw eich hamser yn ddigon buan. Cysgwch yn dawel." Ar hyn flwrdd ag ef a chauodd y drws ar ei ol. Pan deallodd Glyndwr ei fod yn ddigon pell, gofynodd i'r per- son oedd gydag ef yn yr ystafell, A ydych am i mi dreio y gareg eto ?" Gwthiwch eich Haw i lawr rhyng- ddi a'r mur," oedd yr ateb. "Pnrion," ebe ein gwron. Plygodd i lawr a gwnaeth yn ol y gorchymyn, a daeth y gareg allan yn rhwydd yn ei law a'r eiliad y darfu iddo ei chyfodi, gwelodd lewyrch goleuni odditano, a dyna y tro cyntaf iddo gael golwg ar y fath beth er ys mwy na thair wythnos. Y maG y twll yn rhy fychan," ebe rhyw lais odditano, ond bydd yn ddi- gon mawr cyn pen mynyd. Gwnewch chwi eich goreu oddi yna, a gwnaf fin- au yr un peth oddi yma." Yn mhen dwy neu dair. mynyd yr oedd y twll yn ddigon mawr i fyned trwyddo, a dywedodd y person oedd gyda Glyndwr yn yr ystafell, am iddo ef startio yn gyntaf, a byddai iddo yntau ei ganlyn ond nid oedd ein gwron yn foddlon i hyny, ond gan ei fod yn cael ei gymell, ufyddhaodd. Startiodd trwy y twll, a ebafodd ei hun yn mysg rhyw haner dwsin o gyffeill- ion mynwesol. Cadifor," ebe ar ei waith yn estyn ei ben trwy yr agoiiad. Dim gair," oedd yr ateb. "Symud- wch yn mlaen mor ddystaw a'r bedd." Yn fuan yr oedd y person yr ydym wedi son am dano yn ei ganlyn. Darfu iddynt ymlusgo allan trwy ogof fechan fel nadredd, ac wedi iddynt deithio felly am o ddeugain i haner cant o latheni, daethant i le mwy eang, fel y gallent sefyll ar eu traed yn rhwydd a aidrafferth. Trodd ein harwr ei wyneb yn 01, ac yn sefyll yn ei ymyl canfyddai ei ferch. "0! fy mhlentyn," ebe efe gan wasga yr eneth rhwng ei freichiau, ai chwi oedd angel gwarcheidiol eich tad ? Ai chwi oedd yn ei gusanu ynei gwsg ? Ai chwi ddarfu weithio eich ffbrdd ato trwy bob pervgl ? Bendith y Forwyn fyddo ar eich Den. "Bydded hysbys i fy Arglwydd," ebe Cadifor, nad lie i siarad ydyw hwn ond He i weithio. Cofi web fod pob mynyd yn werthfawr." Yn y fan yma darfu iddo gyfarfod a deg neu ddeuddeg o gyfeillion ereill, ac wedi trefnu y fyddin, cychwynasant tua genan yr ogof. Wedi dyfod mor agos i enau yr ogof fel yr oeddent yn canfod y ser draw yn y pellder, dy wed- odd Cadifor, Pwyll gadewch i mi weled os ydyw y ffordd yn glir." Slip- iodd allan, ond dychwelodd mewn llai na mynyd, gan ddywedyd, "Nid wyf yn canfod dim; gwell i ni anturio. Cofiwch wedi i ni fyned allan nad oes gair i gael ei lefaru—pob nn i weithio yn ddystaw, a phob un i dalu sylw i'r! arwyddion. Y mynyd nesaf yr oeddent yn sefyll uwchben yr afon, yr hon oedd yn ymdroelli rhyw wyth neu naw llath yn syth odditanynt. Yr oedd pedwar owch ganddynt ar yr afon, ond yr oedd braidd yn rhy dywyll iddynt hwy ar y pryd i'w canfod. Gafaelodd Cadifor yn y rhaff, ac i lawr ag ef; ond yn fuan gwelent ef yn sefyll, gan edrych yn wyllt o'i gwmpas, a'r eiliad nesaf gwelent ef yn dyfod i'r lan. Wedi iddo gael ei draed ar dir gwastad, gafaelodd yn ei fwa oddiar ei fraich gan ddywedyd yn ddystaw yn nghlust ein harwr, "Gwerthef fy mywyd iddynt am bris go uchel. Y maent wedi lladrata y cychod." Gyda hyny yr oedd yn taflu saeth ar ei fwa, ac yn ei ollwng, ac o fewn i ddeg llath atynt gwelent ddyn ya neidio i fyny oddiwrth y ddaear ac yn disgyn fel careg. Dyna un pagan yn llai," ebe Cad- ifor, gan osod saeth arall ar ei fwa. Yr oedd pob un erbyn hyn yn effro ac yn barod i waith. Yr oedd pob un yn dal ei arf yn ei law ond ein gwron a'i ferch nid oedd ganddynt arfau. I'r allt," gwaeddodd ein harwr. "Y mae hyiny yn anmhosibl," ebe Cadell. Y maent yn rhy gryf; nis gallwn dori trwyddynt pe byddem yn alluog i groesi y gamlas." Yr wyf yn gweled" oedd yr ateb. a Pa beth a wnawn, ynte ? Y foneddiges ydyw y pwnc." "We}?" Pe na buasai higydanigallemnono y gamlas a gweithio ein ffordd yn ddy- ogel i'r coed. Dyma nhw yn dyfod. Heibio congl y castell—'nawr. A gly w- soch chwi yr udgorn ?" Cyn pen eiliad yr oedd pob un yn gwneud y goreu o'i draed. Yr oedd Glyndwr yn gafaelyd yn mraich ei ferch; ond wedi dyfod i ym) 1 y gamlas, neu y llyn, dywedodd hi, Gollyngwch fi, nhad." Nid osdd amser i siarad dim. Yr oedd pob un yn taflu ei hunan i'r dwfr mor awyddus a phe byddai yn myned i orwedd ar wely o fan-blu, a chyrhaedd- odd y foneddiges y lan arall o flaen un o honynt. Yr oedd yn hollti yr elfen laith tel pysgodyn. Yr oedd nofio yn un o wrol-gampiau y Cymryyn y dydd- iau hyny.

CROMWELL.

ENWOGION SIR GAERFY