Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
^OR0c,^f|| 0. CAMBRIAN LOZENGES, [KEGISTBRBD.] ? Singers and Pnblic Speakers. Tlzese Lozenges render the Voice VELODIOUS AND CLEAR AS A BELL Patronised by eminent Musical Celebrities & Public Speakers. Price 3d., 6d., and rs. per Box. PROPRIETOR, '} J. GEORGE, M.R.P.S. HIRWAIN, GLAMORGANSHIRE. PENUEL, CASLLWCHWE. PIDDED hysbys y oynaiir Eisteddfod yn PIDDED hysbys y oyn«!ir Eisteddfod yn Mj) Jle uchod ar ddydd Nadolig, Rhagfyr J f|ifc 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswi r ttig&Hatius mewn Cetddoriaeth, Barddoniaetb, JBtyddiaeth, Gweiyddiaeth, &o. j Programmes yn awr yn barod, ao 'w •Ml g*n yr yegrifeuydd am y pris arferol trwy y Fait. D. Rbb8, Tag Broad Oak Colliery, Loughor. C Tra mor tra Brython.' TABERNACL, MAESTEG. TPPTDDED hyabys y oynelir Eisteddfod Flyn- D yoddl y capal uchod Dydd Nadolig, 1877, i Sggdy gwobrwyir y buddugwyr ar y testynau aqdync4> BBIBNIAID: Y Qaniad^th, Mr. D. HOWELLS 'Gwyn Alaw.) Y Farddoniaeth, &o Mr. T. W. HenX78 (Enis Ddu.) "jn bob hyabysiaeth pellach ymofyner a'r zitanydi. raelir Cyngberdd ardderchoa; yn yr hwyr. DAN MAURICE, Yeg, 41, GarnRoai, M.^steg, Glam. erydd Eisteddfod Flynyddol Gwaunc&egmrwen. TiIR yr Eisteddfod nfhod "ydd Nadolig i, pryd y gwobrwjir yr ymgeiswyr mewn cerdd riMeth, ba ddoniaeth, fto .Jd-y Gerddn-«th, Mr Thos Howeiie Cynoo), Aberaman, Aberdar; y FMdd. %Mr. D. James (Dewi Iago), Gwauo- en, Brynaman, R S 0 unm8SJ"r bJI ftnytion dechreu Medi. JOHN Jevkins. Tag., M*inntpe»sant, Bryoaman, R.S 0. ITIODPO if UNOEBJL IKOGN- TAIN ASH, '|T)|^P hrB M J yr «j6odyn y Woncmux's Hall, dydd Nadoig, k ydd y programme ynoynwys y test/nau, ,barod ya fuan. Hyd hyny yr ydym yr i y canlynol: ^nylion pellaoh, gwel y Programme,p tie yr bwn sydd i w gael gan yr Yagrif- THOS. EIVWABDS (Iorwerth Gcohj, Ysprifenvdd. W. HALL, MEETHYE. •ED byebya y oyndir Eisteddfod flyn tol y lie uohod dydd Nadolig, Rhagfyr a beirniad yr Adroddiadau: THOS. J 5<»w., arolygydd gwaith glo Hirwaun. y Gaoiadaetb: JOSEPH PABRY, YBW., America), a Phroffeswr Cerddoriaetb 4, Cymru, Aberystwyth. LEWIS ROBERTS, 69, Lower Thomas-street, Merthyr, JOHN ELIAS HUGHES, 62, Breoon Road, Merthyr, Vøgn. Gellir cael copiau o'r Miner's Hymn, yr nn, neu lø. 60. am ddau ddwain ac 'tU1 Mr. Jno. Vaughan, 18, New Castle- ierthyr. UM. PONTBKENLLWYD, PEHDERYN. i)DED h> stys y cynelir Eisteddfod yn y Jpel nohod, dydd Iau, Rhagfyr 20fed, lo77. wydd: Mr. Jomt PHILLIPS, Hirwaun. jroiaid Y Traethodau y Farddoniaeth, a'r iddiadan, Ao., T. J. EVANS, YBW., goruoh- Glote y Bwllfa, Hirwaun; y Canu, Mr. fHUiMPS (Gwilym Cynan), Aberdar. PRirDDARNAU. £ s. Ð. Wr Pivti, heb fod dan 2 > mewn rhif, Pflno TO oreu Molwoh yr Arglwydd,' •■^Zroff Parry,. II II 2 0 0 Ft 12 a ganont yn oreu 'Caerlleon/ oBpfrToBMi Isoaa Gwrllt (erwel At- 4mu), ar y gefiiiu, 'O th fl.pn, O IHBWt 'rwy'n dyfod,' &o., gwobr rhodd- •&[ Mr. a Mrs. Winston 0 10 0 ■ Programmes yn awr yn barod, ac f w oael fwtebnm aiferol gan yr ysgrifenydd, T. JONES, 1, Station R ad, Hirwaun. Trydedd Eisteddfod Flynyddol JERUSALEM, LLWYNXPIA. (Dydd Nadolig, Rhagryr 25, 1877;) Mywydd— W. WILLIAMS, YBW., Grovefield House, Penygraig. inreiaydd: Y PAKOH. J. R. JONES, Llwynypia. Beiniaid: YCytanaoddiadaa Barddonol, Rhydd- iaeth, a'r Cyfieithad- HTWEL Cb&NTW, Corwen; y Ganiadaath, &o., MB. R. C. JENKINS, Llanelly yr Adroddiadau, HOMO DDU ao EVAN LEWIS, Tonypandy. Pianist: Miss LEWIS. Caerdydd. Yr Eisteddfod i ddechreu am 10 o'r glooh. IKgaediad i mewn, la.; Plant dan 12 oed, htner Yb yr hwyr oynelir Cyngberdd, pryd y oymerir 4MB ynddi gan Miss GERTBXJD LEWIS a Miss fault LEWIS, Caerdydd, Ms R. C. JENKIXS, llnelli, MR. LBAx, Llantrisaat, yn nghydag VMnrcr ereill o gantorion o eafle. Bute y programs yn awr yn barod, yn oy- l|n yr oil o'r testynau, yr am^dau, &o., •iVt oael oddiwrth yr ysgrifen dd am y pris «*rol, g»Q ba nn hefvd y gellir oa »l y darnau «MUorol; W. WILLIAMS, Bookseller, 1 Tonypandy, Pontypridd. C Goreu art, arf dysg 4 Höb Dduw, heb ddim.' Eisteddfod Gadeiriol Caerffili. CSNEL1R >r EisteddLd ujbodDydd L!un Sulgwyn, 1878, pryd y gwobrwyir mewn traethodau, bardd .niaeth, carddoriaeth, caniad- aetb, &c. Arweicydd f d.,dd: Thomas G. Evans, Yew Hirwaun. Beirniad y traethodau, barddonneth, &o. y Parch. W. Thomas (Islwya.) Hysbysiryn ftwn pwy f dd beirniad y eanu. C^feihdd y dydd: Mr D BJWJU, Dowkis. PRIF DBSTYNAU -BARDDONIAETR. Am yr Awdl orea, I Yr Haul' ddim drca 3:0 0 linellau 6 5 0 a Chadair Dderw hardd, Am y Bryddest or. a, Trugaredd/ ddim dros iicO o linelhu .220 CERDDORIAETH. Am y G&.U Baritone oreu, yr awdwr i ddewis ei eiriau. 2 2 0 Am y Don oreu ar M.C.D. 0 10 6 CANIADAETH. I'r Cor, heb fod dan 100 mewn rhif, a gano yn oreu I Then shall your light' 30 0 0 a Thlws Aur i'r Arweinydd. I'r Cor, ddim dan 60 mewn rhif, na enillodd dros SIb yn ft .enorol, a gano yn oreu Y Mab Afradlon,' (Lloyd.) Gwel y Gcrddjrfa 16 0 0 I'r Cor o'r un gynulleidfa, ddim din 30 mewn rhif, a gAn i yn oreu Molwch yr Arglwydd,' (JLarry) 10 0 t Caniateir i ddevis arweinyid. Y Prog a.11 me i'w gael am y p-is arferol. JOHN THOMAS, Checkweigher, Pwllypant, Bed- was, near Caerphilly, Y-gritenyd4 LleJJ. EDWARD PHILLIPS, Esq, Caerphilly, Trysor- ydd. BETHANIA MAESTEG. BTDDED hysbys y o nelir Eisteddfod fawr- rddog yn lie uchod, dydd Llun, Maw th ileg, is:8, pryd y gworwyir yr ymgdswyr Uwyddianus mewn cerddoriseth, barddoniaeth, &o. PRIF DDABNAU. £ 8. c. I'r Cor, heb fod dan 3J me öVn rhif, a gano yn o- en 'Requiem i'rdi oddar Barch J. Roberts (Ieuan Gwyllt), gan Proffeswr Patr^ 10 0 0 a Metronome i'r arweinydd. I'r Cor a gino ya oreu 'Clyw, 0 Dduw, f Llefain,' gan Mr. Jenkins, Trecastell.. .200 ebj-eir v keirniaid yn foaB. Bydi y Prc- gramme yn barod dechreu Ionawr, ac i'w giel am y pris arf jrol. J. LB-WIS, 10, Stition-street, Mieateg. -——————- Pob Gohebiaeth i'w chyfeirio, "Editor of the TARIAN, Aberdare, (Glam.) Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills a Lynch, TARIAN Office, Aberdar
CWYMP PLEVNA.
CWYMP PLEVNA. Y mae Plevna yn y rhyfel sydd yn Twrci wedi dyfod i hynodedd neu sylw fel Waterloo, tra bo dwfr yn rhedeg. Nid yn unig y mae dwy ymherodraeth, Rwsia a Thwrci, wedi bod yn gwylied eu gilydd yn Plevna am fisoedd, ond y mae trigolion holl Europ wedi bod ar flaenau en traed yn dysgwyl terfyn- iad y wyliadwriaeth yn Plevna. Nid oedd y pellebyr yn gwneud ei waith yn ddigon cyflym i foddloni syched pobl Europ am newyddion o Plevna. Tybid mai yno y penderfynid tynged y Twrc, neu beth fyddai nerth Rwsia am oesoedd. Yr oedd gwerth mawr yn cael ei osod ar bob tameidyn o hys- bysrwydd a ddeuai allan o Plevna yn nghylch y Tyreiaid, y rhai oeddynt wedi cael eui cloi i fyny yno gan y Rwsiaid. Gofynid gyda phryder beth oedd eu nifer ? a oedd ganddynt ddigon o fwyd ? beth oedd eu cynllun- iau ? a geisient hwy dori allan o'r car- char ? Nid oedd un ateb boddhaol i'w gaeL Yr oedd dirgelwch, fel tywyll- wch dystaw canol y nos, yn hongia n uwchben y He. Yr oedd llywydd y y fyddin Dyrcaidd garcharedig yno mor ddystaw a phe buasai wedi cael ei gladdu. Yr oedd ambell un o'r car- charorion yn dyfod allan, oblegyd newyn y He; ac yn foddlon rhoddi fyny eu wrthwynebiad i Rwsia er mwyn cael tamaid o fwyd. Ni cheid ond ych)dig hysbysrwydd credadwy gan hwnw. Yr oedd chwedl dychym- ig, fel arfer, ynddiwyd, gwisgi, asionc. Cynygiai hi ei dysgleidiau o danyr enw newyddion, wedi en coginio yn daclus, twt, a blasus ac eisteddai y gwleddwyr bob dydd i geisio bqddloni eu wane ar yr hyn a droai allan mewn 24 o oriau yn gibau disylwedd. Dy- wedai chwedl ioddigo i o fwyd gan Osman Pacha, llywydd y fyddin Dyrc- aidd yn Plevni, i fedru aros yn dawel nes y byddai y ganafwedi rhewi y Rws- iaid ymaith, neu nes y byddai gwared- igaeth yn dyfod ddo trwy ymdrechion tyddinoedd ereill Twrci. Rhoddai y Daily Telegraph, y Tory Tyrcaidd, bwys mawr arbob awgrymiad o'r fnth a roddid gan chwedl dychymyg. Gwnaed y peth a ddymunid i ym- .ddangos fel ffaith/ heb fod iawr o ofal fod y seiliau yn safadwy. Paentiwyd y Twrc i ymddangos fel angel y goleuni. Barddonwyd ar ei rinweddau tybiol. Molianwyd ei nerth milwrol. Tynwyd pictiwr atgas o'r Rwsiaid. Gwnawd iddo ymddangos fel anghenfil barbar- aidd, am geisio rhwystro y Twrc i ladd a llosgi dynion, gwragedd, a phlanfc, am Dad ydynt yn Fahometaniaid! Ond, boreu dydd Llun, Rhagfyr 10, 1877, chwalwyd breuddwydion chwedl, a chwythwyd hwynt ymaith fel us gan gorwynt. Symudodd nos dirgelwch oddiar achos Plevna. Gwnaeth y Twrc ymdrech yn ymyl trancedigaeth, i dori allan o'i garchar. Ymosododd ar y rhwystrau fel dyn yn gwybod fod yn rhaid iddo farw ryw fodd ac mai gwell fyddai iddo farw wrth ymladd am fywyd, nag ildio i anadlu ei anadl olaf o dan garnau newYD. Aeth y mil* oedd byddin y Tyreiaid allan o Plevna i wynebu magnelau a milwyr Rwsia, y rhai a gylchynent y lie. Aethant gyda'n gilydd i geisio gwneud un rhan o gadwaen filwrol Rwsia yn ddigon gwan i fedru dianc trwyddi. Yn yr ymdrech hwn lleddwyd canoedd lawer o'r Rwsiaid. Ond wedi llwyddo i'w gosod hwy ar y llawr, yr oedd dwy gadwaen arall y tu blaen iddynt. Prof- odd y rhai hyny mor nerthoi a chraig. Yn ofer y ceisiodd tonau cynddeiiiog y fyddin Dyrcaidd luchio eu hunain yn erbyn y graig. Gwelodd Osman Pacha, llywydd y fyddin hyn trodd yn ol, gan feddwl dychwelyd i'w nyth yn Plevna. Ond daliwyd ef fel Pharaoh yn y Mor Coch. Yr oedd y mor yn agored iddoi fyned mewn, ond pan y ceisiodd efe ffoi yn ol, yr oedd y mor wedi can. Erbyn i Osman Pacha droi yn ol tua Plevna, yr oedd y Rwsiaid wedi myned yno tu cefn iddo. Amgylch- wyd ei fyddin tu allan i'w amddiifyn- feydd ef yn Plevna. Nid oedd dim ganddo i'w wneud ond rhoddi ei arfau i lawr, ac iddo ef a'i boll zy, dain fod yn garcharorion yn meddiant Rwsia. Yr oedd efe ei hun wedi cael ei glwyfo. Rhoddodd ei gleddyf i fyny i un o g ;dfridogion Rwsia. Wedi hyny ym- welodd Y rnherawdwr Rwsia ag ef. Canmolodd ei wrhydri, a rhoddodd ei gleddyt yn ol iddo. ijtosoctuiM- j /vij.i.■ trwm ar Rwsia, gam fei feod wedi cael dros ddeng mil-ar-ugain o Dyrclaid newynog i'w porthi, a'u gwylied ac i feddyginiaethu miloedd. o glwyfedigion. Bydd ymdrechion y cafllywyddion Suleiman a Mehemet Ali, i waredu Osman o Plevna, wedi terfynu. Bydd y cadlywydd dewr Gourko, y Rwsiad, yn rhydd i weithredu ar gynllun newydd. Bydd yr effeithiau yn fawr ar Ewrop yn gyffredinol. Ergyd trwm yw y tuddugoliaeth horl i'r Pab a'r Jesuit- iaid. Gwelant fod Bismark aPhrotest- iasth yn cael y dydd, a hwythau yn ei golli. Ymddengys fod-) y fuddugol- iaeth wedi effeithio eisioes ar Ffrainc. Ymddengys MacMahon yn fwy parod i wrando ar lais y wladjnag ar y Pab- yddion, y "rhai sydd wedi ei arwain i'r gors hyd yn hyn. Teimlir fod dealldwriaeth rhwng Bismarck a llyw- odraeth Rwsia, a bod holl ryddfrydwyr y byd yn cydymdeimlo a Rwsia yn y cweryl presenol. Effeithia y fuddugoliaeth yn fawr ar y Toriaid yn y wlad hon. Y mae Mr. Hardy eisioes wedi bod yn siarad yn ysbonciog a heriol, fel y gwna y Toriaid yn gyffredinol, fel pe bai y wlad hon yn barod i bleidio y Twrc. Y mae laril Derby yn gallach lawer na Mr. Hardy. A thra y byddo Mr. Gladstone a Mr. Bright yn fyw, nid oes dim llawer o berygl y caiff hen Doriaeth Mr. Hardy-yr hwn sydd wedi llwydo er ys blynyddoedd, yn n^hanol gweoedd y pryf copyn, ddim llawer o ddylanwad ar benderfyniadau y aeyrnas hon. Yr un peth fyddai i'r Ethiopiad newid ei groen a'r llew- pardei frychni,' ag i Doriaeth ambell ddyn, fel Mr. Hardy, ddysgu un wers oddiwrth gynydd dylanwad egwyddor- ion rhyddfrydig yr oes. Beir y weinyddiaeth Doriaidd am beidio ymuno a galluoedd ereill Ewrop i geisio gorfodi y Twrc i fod yn gyf- iawn a dyngarol tuag at ei ddeiliaid, y rhai nad ydynt o'r un grefydd ag efe ei hnn.. Yr oedd y Prif "Weinidog, Arglwydd Beaconsfield, am gadw Twrci ar ei thraed mewn annibyniaeth, trwy wrthod ymuno a'r galluoedd ereill i'w gorfodi i wneud yr hyn oeid iawn. Ond y mae Twrci wedi colli ei hannibyn- iaeth yn y mater. Yr oedd y Prif Weinidog, trwy wrthod uno a'r gella- oedd ereill yn y Berlin Memorandum, wedi meddwl siomi Rwsia a'i chadw yn mhell o Caercystenyn. Eto, y mae ei gyallun ef, nid yn unig wedi gwneud Rwsia yn fwy dylanwadol Bag oedd hi, ond hefyd y mae wedi arwain Twrci i orfod derbyn telerau Rwsia, pan y gwneir heddweh, a bydd yn anhawdd i'r Prif Weinidog gael gan y galluoedd ereill i ymuno ag ef i geisio gwell telerau i Twrci nag a fydd Rwsia yn gosod arni. Nid yn unig hyny, y mae gwaith y Weinyddiaeth Doriaidd yn gwrthod cydymdeimlo a'r Cristionog- ion yn Twrci, y rhai a orthrymid yn farbaraidd gan y Twrc, a'r diystyrwch a daflodd y Toriaid tuag at yr hanes- ion a gyhoeddwyd yn nghylch creulon- derau y Tyrciaid tuag at y Cristionog- ion, wedi oeri y rhai hyny tuag at y wlad hon ac y mae gwaith Rwsia yn gwneud aberthau mawrion i'w gwaredu hwy, wedi gwneud Rwsia yn boblog- aidd aruthrol yn eu plith. Gallasai y wlad hon gyfranogi yn y poblogrwydd hwn oni buasai i'r Weinyddiaeth Dori- aidd wrthod cydweithredn a'r gallu- oedd ereill i orfodi Twrci i wneud ei dyledswydd tuag at ei deiliaid. Gwaith y Weinyddiaeth Doriaidd yn dal rhagolygon o help i Twrci yn er- byn Rwsia oedd Ilawer o'r achos i Twrci fentro myned i ryfel. Ac yn awr gan fod Twrci wedi cael ei tharo i'r llwch, heb fod y Toriaid wedi rhoddi help iddi yn nydd ei chyfyngder, y mae siomedigaeth y Tyrciaid y fath, fel y mae yn Iled debyg y bydd Rwsia yn uwch yn eu golwg na Lloegr. Fel hyny, trwy ddiffyg dot thineb, diffyg ymdrech o blaid cyfiawnder a dyngarweh, diffyg gwrando ar Mr. Gladstone ac ereiil, y mae y Toriaid wedi gosod y wlad hon yn isel iawn yn Ewrop. Trwy wrthod ymuno a'r gallu- oedd ereill y mae hi yn sefyll ruewn unigedd i wynebu ar ganlyniadau buddugoliaeth Rwsia. Y mae hi wedi colli cydymdeimlad trigolion Bulgaria, &c.; wedi .gosod Rwsia yn uchel a galluog yn Ewrop, ac wedi gadael i'r Twrc fyn d i'r clawdd, a cholli ei ym- ddiried ef am byth. Fel hyn y gellir ymresymu mor bell- ed ag y gall dyn wsied pa lodd y mae Ond gan fod Dnw yn llywodraethu i'r manyldra mwyaf ar yr holl am- gylchiadau, yn rhoddi doethineb i rai tywysogion, ac yn ei atal oddiwrth ereill, at ei bwrpas mawr.ei hun, digon tebyg fod pob peth sydd wedi cymeryd lie, i ddwyn oddiamgylch ddinystr Mahometaniaeth a Phabyddiaeth yr un pryd. Y mae yn eithaf sicr fod llwydd- iant Rwsia yn dyfetha cynlluniau y Pabyddion, fel y mae yn dwyn Mahomet- aniaeth i'r llwch. Yn araf y mae yr Arglwydd yn dwyn ei amcanion i ben, ond y mae ei holl amcanion ef yn sicr o gael eu cyflawni. Brysied y dydd y bydd heddwch yn teyrnasa trwy yr holl fyd.
BUDDUGOLIAETH GLOWYR( MAESYMARCHOG.(
BUDDUGOLIAETH GLOWYR ( MAESYMARCHOG. ( Dydd Gwener, wythnos i'r diweddaf, gwyswyd 23 o lowyr y lie uchod o flaen yr ynadon yn Castellnedd ar y cyhudd- ] lad o absenoldeb o'u gwaith o r 20fed i'r 26ain cynfisol; ac er gwneud y golled i ] fyny, gofynai Mr. Banfield un o berch- enogion y gwaith, y swm o lOp. yr un; a bu mor gyfrwys a chadw eu pay i'r dyben o dalu rhan o'r lOp.; ond methodd y gwalch yn ei amcan y tro hwn. Am- ddiffynwyd yr atalydd gan Mr. Charles, a'r gweithwyr gan Mri. Plews a Leyshon, a rhoddodd y Fainc eu dyfarniad o du y gweithwyr yn hollol, ac iddynt gael eu talu yn union. Er hyn oil, y mae wedi taflu 924 Os. 6e. o gostau ar gefn y gweithwyr, a byddem yn wir ddiolch- gar pe byddai i'r glofeydd cylchynol wneud rhyw ychydig o gynorthwy. Dysgwyliwn wrth lowyr y Broad 04k yn neillduol. Pawb a fydd yn dewis dangos eu cydymdeimlad, i'w danfon i D. H. Jeffreys, Camnant House, Onllwyn a chydnabyddir derbyniad pob arian gyda throad y post. LLEW.
GWAELODYGARTH.
GWAELODYGARTH. Nos Lun, Rhagfyr lOfed, cynaliwyd cyfarfod gan Band of Hopes Pentyrch, Glandwr, a Tabor. Awd dros ganiadau y diwygiad, o Swn y Juwbili, gan y di- weddar Barch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt.) Llywyddwyd gan y Parch. T. Rees, Tabor. Arweiniwyd y canu gan Mr. T. Thomas, Glanyllyn. Nid oedd y canu ar y cyfan yn dda, a hyny yn ddiddadl o herwydd nad oedd y corau wedi cyfarfod a'u gilydd cyn y noson gyhoeddus. Yr oedd cynull- iad lluosog wedi dyfod yn nghyd. An- erchwyd y cyfarfod gan Mri. J. Milward, T. Treharne, a'r Parch. Mr. Morris, y gweinidog, y rhai a siaradasant yn hy- awdFac i'r pwrpas. LLANC O'B GARTH.
-_._-----DOWLAIS.
DOWLAIS. Y &WFITHFEYDD.—Lied ddigyffro y mae olwynion masnach yn parhau yn y lie hwn hyd yn hyn. Sibrydir fod gwawr gobaith amser gwell ar wawrio, os gellir cael y Twrc a'r Arth i ymdawelu, a Dis- raeli i beidio aflonyddu ar heddwch y cyfanfyd. Nid oes dadl na cheir amser gwell, ac y mae digon o'i eisieu bellach. Y N ADOLIG. Y mae adeg cynaliad Eisteddfod Neuadd yr Odyddion wrth y drws. Bydd yn dreat i bwy bynag a ddelo i ymweled a hi. Y mae £320 wobr am y prif ddarn corawl, a deallwyf fod amryw o gorau yn yr ymgyrch rhwng y prif ddarn a'r darnau ereill. Bydd Dr. Frost yn beirniadu gwyr y gan. Beirn- iadir y cyfansoddiadau, ac arweinir yr eisteddfod gan y Parch. D. Griffiths, Moriah, Dowlais Llywyddir gan y Parch. D. Rees, Bethania. Hyderwyf y bydd i'r eisteddfod droi allan yn llwyda- iant. Yr oedd un dyn dan yr enw XX yn ysgrifenu i'r Merthyr Express yr wyth- nos ddiweddaf, yn ymdrechu pardduo ym- drechiadau y pwyllgor am fod yno gy- maint o dafarnwyr yn cyfansoddi y pwyll- gor. Y mae yn rhaid fod yr ysgrifenydd o dan ddylanwad y XX y pryd hyny, neu ei fod yn anwybodus iawn o amcan eis- teddfod, yr hon sy'n dadenhuddo talent- au ac athrylith y genedl Gymreig, a rhoddi meithriniaeth a chefnogaeth bri- odol iddynt. Y mae cenedlgarwch yn rhinwedd a edmygir yn mhlith holl gen- hedloedd gwareiddiedig y byd, ac ni raid i ni fod a chywilydd o'n cenedl; ein hiaith, ein gwlad, na'n defodau. Y mae XX ac ereill yn ymdrechu eu sarhau a'u darost- wng, a hyny cyn gwybod dim am danom. Rhodder i bob pwyllgor yr hyn a deil- yngant, ac ymddyger atynt yn ol maint a gradd urddas eu bonedd. DARLLENIADAU CEINIOG. — Nos Sa- dwrn diweddaf cynaliwyd yr ail o gyfres y Darlleniadau Ceiniog yn ysgoldy Her- mon, capel y Methodistiaid Cilfinaidd, pryd y gwasanaethwyd gan Mri. D. J. Davies, George Harries, W. J. Bowen, D. Williams, John Janes, Wm. Jones, &c. Llywydd, Mr. John Francis. Yr elw at yr eisteddfod uchod. MENEVIUS.
ABERDAR.
ABERDAR. Y mae yn hyfrydwch mawr genyf hys- bysu fod cyfarfod rhagbarotoawl cyntaf Undeb Cerddorol Dosbarth Aberdar i'w gynal yn nghapel Trinity, Aberdar, nos Iau, yr 20fed eyfisol. Gobeithio y cawn weled y capel yn llawn.—CLUDYED.
CWMBACH.
CWMBACH. TWJ-J l Eisteddfod hono, perthynol l arenwrth- wynebydd y DARIAN, ar y telerau can- lynol, y rhai sydd wedi eu selio; hyny yw, nad yw efe ddim i holi na bygwth neb o'r cyfryw sydd yn dal cysylltiad a gwerthiad y DARIAN, ac nad yw efe i farnu hwn a'r llall fel ei chefnogwyr, a bygwth ei gyfreithiau Heng staidd ar ei gohebydd ond bydded iddo ymfalchio yn yr anrnydedd o weled ei enw yn y Merthyr Express, yn nghyda rhoddi am- bell dair ceiniog i Mr. Gwyntwyson, o Ysbryd y FrenhineSj o'r lie hwn, am gyfieithu y DARIAN iddo. Poor fellow I dim ond tair ceiniog! ie, a chario ei got fawr adref. Ond os dygwydd rhywbeth o'r fath eto bydd i ni godi y lien a dangos rhai pethau nad yw yn ddymunol i glustiau dynoliaeth eu clywed, na thaf- odau rhinweddol eu darllen. Gyda dy- muno lies i bawb, heb feio neb ond yr orad Die Shon Dafyddol hwn sydd yr dyoddef y gwewyr oherwydd cylchrediad y papyr hwn. Os na bydd y dogn hwn yn ddigon iddo, mae genym rai pills sydd yn gryf- ach, ond yn lied chwerw i'w gyfansodd- iad lliprynaidd a dienaid. Gadawaf ef yn awr, ond cewch glywed eto sefyllfa ei ddolur. GOHEBYDD.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Rhagfyr 4ydd, priod Mr. E. B. Wil- Uiams, U.D.Ysg. Uwch Deml Cymru, ar fab, a gelwir ef John Jones. Rhagfyr 7fed. priod Mr. John Samuel, Rhiwfawr, ger Cwmtwrch,ar fab, a gelwir ei enw David Jones Samuel. Rhagfyr 12fed, priod Mr. Wm Rees, Ton, Ystrad, ar fab, a gelwir ef Edward Thomas. Rhagfyr 16eg, priod Mr. Wm. Jenkins, Ton, Ystrad, ar fab. Rhagfyr 5ed, priod Mr. Samuel John, Tirdeunaw, ar ferch, a gelwir ei henw yn Jennett. Rhagfyr 13eg, priod Mr. John John, Tirdeunaw, ar ferch, a gelwir ei henw yn Catherine. PRIODASAM. I Rhagfyr lOfed, yn Eglwys Llangyfel- ach, Mr. Alfred Morgan David a Miss Hannah Lake-y ddau o Dirdeunaw. Rhagfyr 8fed, yn Eglwys Llangatwg, ger Castellnedd, gan beriglor y lie, Mr. John Evans, Pontardawe, a Miss Eliza Gibbs, Rhos, Cilybebyll, ger Alltwen. Rhagfyr 12fed, ynSwyddfa y Cofrestr- ydd, Merthyr, Mr. David Davies, Cwm- aman, a Miss Dorothy Jenkins, gwasan- aethferch yn Blaengwawr. Gweoau hat f o i Daf di—a'i fun deg, Raf yn dwvn gwir g n ydd Haf gwyn byd derfyn tu dydd, Haf a'i gael efo i gilydd. MORPAB,