Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

OWAIN GLYNDWE. PENOD II.

News
Cite
Share

OWAIN GLYNDWE. PENOD II. YN Y CARCHAR. ERBYN chwech o'r gloch prydnawn tranoeth yr oedd neuadd fawr Iarll Cae? wedi cael ei llenwi. Yr oedd wedi dyfod rpi f) bdf fawrion y deyrnas, yn nghyda boll arglwyddi y cyffiniau. Tua saith o'r gloch, wele y brervin a'i fab-Ilane o gwmpas 12 oed, yn gwneud eu hymddangosiad. Safodd yr holl fawrion ar eu traed pan daeth eu penadur i mewn ae fel yr oedd yn dyfod yn mlaen ac yn pasio, gostyngai pob un o honynt ei glin ond Glyndwr. Safai ef yn dalsyth heb hidio dim am neb, ond trodd y brenin ei olygon ato, ond ni ddywedodd air. Wedi i Harri gyrhaeddyd ei sedd, yr hwn oedd wedi cael ei gwychu ag anr pur, safodd ar ei wadnau gan ddywedyd, Ilk y Arglwyddi, a phrif foneddwyr fy nheyrnss, nid oes achos i mi fyned dros yr achos neu y peth sydd wedi ein cynull yma at ein gilydd heno. Yr ydych oil yn gwybod. Gwyddoch fod yr Arglwydd Owain wedi troi ei gefn fifnom-ei fod yn anffyddlawn ac yn fradwr, ac yr wyf am osod terfyn ar beth felhyn yn ei fabandod nis gall- af ddyoddef i beth felly fyned yn gryf a gwreiddio yn y wlad. Yr wyf yn rhwym o osod terfyn arno ar unwaith, a chan fod yr Arglwydd Grey yn bre- senol, yr wyf yn ei alw yn mlaen i draethu yr oil a wyr am ei gymydog. Nid wyfyn 'mofyn dim ond y gwir." Fel y dywedwyd yn barod, yr oedd Arglwydd Grey a'n gwron yn ddau elyn marwol. Yr oedd Grey yn byw yn N ghastell Rhuthyn, a'n harwr yn byw yn Sycharth, yn mhlwyfLlansilin, ac yr oedd tiroedd y ddau yn ffinio a'n gilydd. Hwy ydoedd perchenogion yr holl wlad fras o ryw ddwy filldir i'r gogledd o Rhuthyn, ac i lawr tua mill- dir tn isaf i Mwyf LIansilin. Hwy yd- oedd arglwyddi yr holl barthan hyn. Er ys rhyw flwyddyn cyn yr adeg sydd genym yn awr dan sylw, gafaelodd Grey mewn darn eang o dir Glyndwr, a therfynodd y ddadl yn ei gylch yn llys f brenin, yr hwn lys a farnodd berchenog lodd Grey yr un fath. Gwyddai Grey nad efe ydoedd per- chenog y tir, a gwyddai Harri hyny hefyd, ond yr oedd Harri yn chwenych cyflwyno anrheg feohan i'w gyfaill myn- wesol. Yr oedd Grey a Harri fel Jonathan a Dafydd, ond nid oedd Glyndwr felly, Yr oedd efe yn elyn i'r ddau, a phe cai ei ffordd ni fyddent yn hir cyn bod yn arolygwyr tanddaear- ol. Nid oedd Glyndwr wedi gwneud dim erioed yn eu herbyn, na dim er- iped 0'0 plaid chwaith. Yr oedd efe wedi ymneillduo i'w balas allan o drwst y byd, ac yn meddwl trenlio gweddill ei oes felly ond yn awr yr oedd wedi cael ei ddwyn i brawf am ei ymddyg- iad. Aeth Grey yn mlaen, ac a safodd ar fainc fechan wrth draed y brenin, ac wedi edrych ar y gwyddfodolion, dywedodd, Yr wyf yn barod i brofi fod yr Arglwydd Owain yn anufydd i'w fren- in, os nad yw yn fradwr iddo. Gwyr llawer o houoch fy mod i wedi derbyn y wys i'w wahodd i gynorthwyo ybren- in yn y rhyfelgyrch diweddar i'r Uchel- dir, ac hefyd i'r Iwerddon. Wedi i mi ddychwelyd adrefj trosglwyddais y wys iddo fy hunan, ac wedi iddo ei derbyn ac edrych drosti, dywedodd, Os ydyw y brenin yn chwenych ym- ladd, bydded iddo wneud hyny ei hunan, a pheidio arwain el ddeiliaid i ddyryswch. Gwnawn bob peth o fewn fy ngallu dros y BreniD Richard, ond dim dros hwn-nid yw yn werth gwnend dim drosto.' Dyna ddigon," ebe Harri. Gad- ewch i ni glywed amddiffyniad yr Ar- glwydd Owain. Y mae efe yn canfod fod y cyhuddiad sydd yn ei erbyn yn galw am ei fywyd, a gallwn feddwl fod ^eth tra phwysig. Caiffberffaith chwareuteg. Arweiniwch ef yn mlaen yma." Dygwyd y carcharor yn mlaen, a gosodwyd ef i sefyll yn ymyi Grey ac wedi iddo syllu ar ei elyn am ryw fynyd, dywedodd, "A wyt ti, ellyll, ddim yn ofni y Forwyn na'r Seintiau ? Pa hyd y byddi byw eto i ddweyd celwydd ? A wyt ti ddim yn ofni y purdan a'r farn ddi- weddaf ? Y mae adeg yn dy aros di, gelli benderfynu, pryd y bydd yn rhaid i ti fwyta tan fel bara." Dystawrwydd," ebe y brenin, gan < pyllu yn gynhyrfus a digofus ar y car- charor. "Os oes genych amddiffyn- iad i wneud, carwn ei glywed, ond os Z7 na, gwyddom pa fodd i ymddwyn tuag atoch-cewch sich byrhau o'ch pen. Dyna wobr pob bradwr." Gwrando, 0! frenin," ebe Glyn- dwr u nid oes genyi un gwrthwyn- ebiad i farw. Nid wyf well na'm tad- au, y rhai;1 rifasoch chwi trwy fin y c'eddyf i'r bedd yn anamserol. Yr wyf yn dywysog Cymreig, a chenyf hawl y mynyd hwn i reoli fy ngwlad a'm cenedl. Y mae yr hawl yn perthyn i mi yn naturiol a gwreiddiol, ac nid fel tydi, yr hwn a feddiani orsedd anghyf- iawn. Yr orsedd sydd genyt ti, Had- rad ydyw. Darfu i ti newynn un o'r dynion goreu a feddai yr ynys er mwyn ei chael; ond am ftnaf fi, y mae gor- sedd a theyrnwialen fy ngwlad yn perthyn i mi trwy etifeddiaeth." Symudwch ef i gell tanddaearol," ebe y brenin, a gosodwch filwr i'w wylied ddydd a nos. Bydd i mi dynu y breuddwydion hyn allan o hono cyn hir. Symudwch ef ar nnwaith." Pan oedd y swyddogion yn nesu yn mlaen i'w gymeryd ymaith, eyfododd Hywel Sele ar ei draed gan ddywedyd, Bydded hysbys i ti, O frenin, fod yr hyn a ddywedodd Arglwydd Grey am y carcharor yn wirionedd pur bob gair. Clywais ef fy hunau yn dy gablu, a chlywodd fy Dau gyfaill yma yr un peth. Dywedodd na fuasai byth yn ymostwng i ti na chydnabod dy aw- durdod." Celwyddbob gair," ebe ein gwron ar ei waith yn cael ei symud o'r llys. Bydd i'r Forwyn dalu i ti am dy gel- wydd," a dyna y gair olaf a lefarodd. Cyn pen yebydig fynydau yr oedd mewn cell tanddaearol, a hono mor dywyll a'r fagddu ei hun. Yr oedd dydd a nos iddo ef yn ei dy newydd yr un ffynyd—dim gwahaniaeth. Yr oedd Castell Caer ar yr adeg yma yn gadarn ofnadwy, ac yn cael ei wylied ddydd a nos gan osgordd o filwyr. Yr oedd dianc o gelloedd hwn yn beth yn ymyl bod yn anmhosibl. Bu ein gwron yn ei gell am yn agos i dair wythnos heb gael ei aflonyddu gan ddim, oddieithr ymweliadau y milwr oedd yn ei wylied, nea yn ivj anaiji -y uui.&anvn y Hall. Yr oedd yn cael bara a dwfr dair gwaith y dydd, a dyna y cyfan. Cyn bod y tair wythnos ar ben. yr oedd wedi blino yn enbyd, ac yr oedd yn hiraethu yn dost am iddynt ddyfod a gosod pen ar ei einioes. Yr oedd ei einioes wedi myned yn faich iddo. Yr oedd yn ddyn dewr ac yn filwr medrus ac nid oedd ei gaethiwed yn peri un gofid iddo, ond yr oedd ei gyflwr dar- ostyngol yn rhwygo ei galon. Yr oedd wedi bod yn ei gell dair wythnos cyf- lawn, a threuliodd lawer o'r amser hwnw i orwedd ar ei wely, sefpleneyn tua llathen o led yn sefyll ar byst by- chain. Fel yr oedd yn gorwedd ar y gwely hwn un noson—gallai leddwl ei bod yn mlaen tua chanol nos, yn sydyn clywodd rhyw drwst tua chwr dwy- reiniol ei gell. Gwrandawodd yn astud ond ni chlywodd ddim am gryn amser. Yn mhen tua chwarter awr, elywodd rhyw rhai yn gweithio yn eithafam- lwg tu allan i'r mur. Plygodd i lawr, a thybiodd fod y swn yn ei ymyl. Bu chwant arno waeddu, ond ofnodd y buasai hyny yn ei arwain i drallod, ac felly rhoddodd y syniad heibio. Cyn « hir yr oedd y swn wadi darfod-dim im siw na miw am ddim. Cyfododd i fyny a thaflodd ei hun ar y gwely dra- ehefn, gan ddwys fyfyrio pa beth allasai fod yno-pa un ai cyfeillion ynte gelynion. Tra yn troi y pethau hyn yn ei feddwl, clywodd ddrws ei gell yn cael ei agor ac yn cael ei gloi eilwaith. Tybioddfod y gwrthddrych a wnaeth hyn yn y gell gydag ef, ac felly gofyn- odd, Pwy sydd yma ?" "Dim gair/' ebe rhyw lais yn ei ymyl." Os gwnewch lefaru byddwn yn ddynion meirw." A gaf fi glywed enw yr angel sydd wedi ymweled a mi?" "Gostyngwch eich cluet," ebey llais drachefa, a tbeimlodd rhyw beth yn ymaflyd yn ei law, gan ei gwasgu yn dyner. Gwrandewch dydd Iau nesaf ydyw y diwrnod i chwi gael eich dien- yddio, ond peidiwch a digaloni; y mae eich cyfeillion yn gwylied diosoch, acymaent yn benderfynol o'ch cael allan cyn adeg y dienyddiad. Am 12 o r gloch bob nos cewch glywed trwst tn allan na fydded i chwi ddychrynu -eich cyfeillion fydd yno. Y milwr! Cysgwch." Yr eiliad nesaf yr oead drws y gell yo cael ei agor, a dau ddyn yn dyfod i mevra. Wel," ebe un o honynt wrth y llall, nis gallaf ddytalu. Yr wyf yh sicr fy mod wedi ei gweled yn pasio y llys." "Yr wyf finau yn credu eich bod wedi camgymeryd," ebey llall. "Nid oedd ganddo nn He i fyncd. Dynn y terfyn pellsf, ac nid wyf yn meddwl ei bod yma. A oedd y drws yn cghlo ?" "Yr un fath yn gywir ag y gadew- ais ef." Gellwch benderfynu nad oedd ond trychiolaeth." Yn ddiamheuol, ac felly ffolineb ydyw ymlid ar ei hoi. Holo yr hen geiliog, sut yr ydych yn t-imlo ?" gof ynodd un o'r milwyr i'n harwr. tc Gweddol iawn," oedd yr ateb. Pa bryd yr ydych yn bwriadu gosod ter- fyn arfy einioes ?". Dydd lau nesaf yr hen walch. Cewch startio dydd lau i edrych an- sawdd eich berthynasau. Cysgwch yn dawel." ac yna ymadawsant. (I'w barhau).

.. CROMWELL.

.t ENWOGION SIR GAER.