Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

--

News
Cite
Share

OWAIN GLYNDUPK. PENOD I. Y CENADON. YR oedd yn foreu hyfryd yn Gorphen- af. Yr oedd anian yn gwenn, yr adar yn cann, y detaid yn prancio ar hyd y llethrau, a'r anifeiliaid cyrnig yn pesgi ar hyd y gwastadeddau breision. Tua deg o'r g och y boreu hwnw, gwelid dyn \n esgyn i fyny yn araf a phwyll og tua choryn y mynydd a elwir Cyrn y Brain arno, ynswyddDinbych, Gog- ledd Cymru. Fel y dywedwyd, yr oedd yn teithio yn araf a phwyllog ac yr oedd ei holl agweddion yn profi ei fod mewn myfyrdod dwys. Tra yn myned j — y j rhagddo, taflai ei ireichiau allan, cauai ei ddyrnau, a chadwai ei olygonyn setydlog ar y ddaear. Wedi iddo gyr- haeddydcor >n uchafy mynydd, eistedd- odd ar graig o gryn faint, a throdd ei wyneb i fyny dros y dyffryn bras oedd odditano, hyd nes iddo ddyfod at Rhnthyn, ac yn y man hwnw cadwodd ei olygon yn sefydlog am gryn ams r. Wedi eistedd am ryw haner awr, cyf- ododd ar ei draed, a cherddodd yn ol ac yn mben ar hyd y mynydd gan siarad yn uchel wrtho ei hun, Y raae dydd dial yn yr ymyl. Ni chaiff estroniaid ein gorthrymn yn dragywydd. 0 Gymru dylawd, y mae dy drigolion wedi myned yn gaethweis- ion, a'th gyfoetb yn meddiant gormes- wyr. A ydyw pethau fel hyn i bar- hau byth ? Ydyw. Nis gelli byth mwy ymryddhau. Y mae dy dynged wedi ei selio. Y mae dy wroniaid y naill ar ol y llall wedi cael en rbifo i'r bedd: y mae y cleddyf a'r fwyell wedi rhoddi bedd anamserol iddynt. O! Gymru dy- lawd, dis gelli ymryddhau mwy. Rhaid ymfoddloni, er bod y dryehfeddwl yn ofnadwy ac yn annyoddefol-caeth- weision tragywyddol rhaid iv ni fod bellach. Ond am danat ti, sydd yn cyfaneddn yn y Castell acw, cofia fod amser setlo cyfrif i fod rhyngot ti a minan rhyw ddiwrnod. Ni chei wledda a phesgi ar yr eiddo fi. 0 1 ellyll tragywyddol, pa hyd y dywedi gel- wydd ? Pa hyd y cymer y ffwl yna ei dwyllo genyt ? Os ydwyt yn teimlo dyddordeb mewn llunio brad yn fy er. bynucofiaj^^ser sobr$n ddweyd, Caiff hwn ddrachtio y dafn olaf o waed dy galon-caiff hwn symud dy ran anfarwol i fJsg ellyllon, a'th rhan farwol i'r clai—i'r clai a ddywedais-yn ymborth i fwystfilod y maes a ddylas- wn ddweyd. Caiff y blaidd, y llwynog, a'r eryr ymborthi ar dy gnawd. 0 ddi- afol so etifedd y fagddu fawr. Ai ti sydd yn lladrata fy eiddo ? Aros J ym- bwylla." Yna dyrchafodd ei olygon i fyny tna'r nen, gan ddywedyd mewn Uais difrifol, 0 I Forwyn Santaidd, eymhorth fi. 0 Sant Paul anwyl,estyn dy law. Gwel fy nghyflwr truenus: y maent yn lladrata fy eiddo. Y maent yn fy ngalw yn fradwr, ac nis gallaf ddy- oddef y fath gymeriad. Gwyddost fy mod yn ddyn gonest a didwyll. 0 Sant Pedr, trugarha wrthyf." Ar hyn safodd, gan edrych yn fyfyr- iol ar y ddaear, ac wedi bod yn y cyflwr hwnw am rai mynydau dywedodd, "Pob peth yn iawn. Hum. Nis gwnant; nis gallaf ymddibynn arnynt: mynaf brawf." Y na gosododd ei gleddyf yn y wain, a ffwrdd ag ef yn frydog i lawr dros lechwedd y mynydd. Ein harwr ydoedd j gwr hwn, a chyrhaeddodd S.vcharth, sef ei balas ei hun, erbyn tri o'r gloch y prydnawn. Pan yn dynesu at ei gastell, canfyddodd dri dyn yn aefyH ar gyfer y porth gogleddol, ac adnabyddodd hwynt mewn tarawiad. "Pa beth sydd yn bodheddyw?" ebe efe yn ddyataw wrtho ei hun, "Barri yn aflonydd eto. A ydyw efe a'i Grey yn bwriadu lladrata chwaneg a fv eiddo ?" Erbyn hyny yr oedd yn mlaen, a chyiar choud un o'r dynion ef gan ddy- wedyd, Y mae yr Arglwydd Owain wedi bod yn mwynhau golygfeydd naiur, gallwn feddwl." Y mae Arglwydd Talbot yn iawn," oedd yr ateb, "yr wyf wedi bod ar g#ryn uchaf Oyrn y Brain, ac wedi bod yn syllu ar y wlad oddiamgylch. Spt y mae y brenin ? a ydyw yn mwyn- un iechyd da ? Pa bryd y cawsoch elwJl arno ?" Mor ddiweddar a thri diwrnod yn ebe yr un gwr, ac y mae gwym gttoadwri oddiwrtho atceh efrwi. I Ataf fi ?" ebe ein harwr, gan agor ei ddan lygaid mesrysdau fyd, ataf fi. Wel, de'wch i mewn, a gadewch glyw- ed." Wedi myned i ystafell eang ac addurnedig, tynodd Arglwydd Talbot ddan bapyr o'i logell, ac a'n darllen odd yn araf a phwyllog ac wedi iddo orphen, neidiodd Glyndwr ar ei draed gan ddywedyd. "Celwydd bob gair. Ni chlywais i air o son am ei ryfelgyreh-dim gair hyd y mynyd hwn." Y mae efe wedi dattfon at ch," ebe Hywel Sele. Yr oedd y gwr hwn yn gefnder i Glyndwr, ond yn gyfaill calon i'r brenin, ac felly cafodd ei ddewis yn un o'r cenadwyr at ein gwr- on. Yr wyf yn dra sier fod y wys wedi cael ei hymddiried i Arglwydd Grey chwanegodd. I Arglwydd Grey ?" ebe ein har- wr yn fyfyrgar, "y wys wedi cael ei hymddiried i Arglwydd Grey Hum. Yr wyf yn gweled. Nid oedd yn ddigon i'r ellyll hwnw i ladrata fy nhiroedd, ond ihaid iddo hefyd fy nangos yn fradwr ger bron y brenin Do, lladrataodd dros dri chan' erw o fy nhiroedd, a dyma fe yn awr yn ceisio fy llofruddio mewn gwaed oer!" ) A ydyw yr Arglwydd Owain," gof- ynodd yr Arglwydd Talbot, am ddy- wedyd na chafodd y wys ? "Yd wyf," oedd yr ateb. "Ni welais gymaint a cherpyn o honi. Os rhodd- wyd hi i Grey, y mae ganddo efynawr." Edrychodd y tri boneddwr ar eo gilydd am rai mynydau heb ddweyd gair, ond torwyd aT y dystawrwydd yn mhen ychydig trwy i Hywel Sele ddy- wedyd, "Y mae byn yn rhyfedd. Gwelsom ef yn ei chael, a gwnaeth yntau lw y bnasdi yn ei chludo i chwi'; ondyn awr nis gwn: y mae y peth yn rhyfeda." Ydyw," ebe Talbot, ond yr ydym yn rhwym o weithio y gorchymyn allan." Yr ydych yn iawn," ebe Ranwlph de Kondon, yr hwn oedd wedi tod yn fad hyd y pryd hwnw, Yr ydym yn rhwym o'i gymeryd i Gaer." Cymeryd pwy i Gaer ?" gofynodd ein gwron. Eich eymeryd chwi," ebe Talbot: a-L'fS6 JrSryifmil uer§0 ohwi ymddangos ger ei frow." Safodd Glyndwr ar ei draed, ac es- tynodd ei gorff lluniaidd i fyny, gan ddweyd, Nis gall Brenin Lloegr fy ngorfodi. Yr wif yn dywysog Cymreig, a gallaf olrhain fy llinach yn ol hyd at Rhodri Mawr. Genyi fi y mae bawl i eistedd ar orsedd Cymru, ac nid gan neb arall. A welweh chwi y cleddyf yma sydd yn crogi wrth fy ochr ? Bu hwn yn cael ei drafod gan Rhodri Mawr, Gruffydd ab Cynan, Owain Gwynedd, Iorwerth Drwyndwn, Llywelyn ab Iorwerth, Gruffydd ab Llywelyn, a chan yr Ar- glwydd Rhys, brenin y tywysogion Oymreig. Do, bu y cleddyf hwn yn cael ei drafod gan y rhai yna oil. A ydyw Harri, Brenin Lloegr, mor bres- aidd a gorchymyn i mi ymddangos ger ei fron? Nis gallaf, ac nis gwnaf chwaith." "Byddai yn well i'r Arglwydd Owain i ystyried pa beth sydd ganddo mewn llaw," ebe Talbot. "Ni charwn iddo ddyiod i ofid a thrallod, yr hyn fydd yn sicr o'i gyfarfod os gwna wrthod." A ydych chwi yn atebol am fy nyogelwch i fyned a dyfod ?" gofynodd ein gwron. Ga lwn feddwl ein bod yn rhwym," ebe Hywel. Yn sicr," ebe Talbot, "byddwn yn rhwym o ofalu am danoch hyd nes y byddoch yn dyohwelyd i'ch castell." "Eithaf gwir," ebe Ranwlph. "Caiff osgordd o filwyr iV ddanfon adref yn ddyogel." Purion," ebe ein gwron. "Byddaf gyda chwi boreu yfory." Da genym glywed," ebe Hywel. Cychwynwn gyda thoriad gwawr."

Advertising

+— CROMWELL.I

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.