Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

t-WALTER LLWYD; NEU HELYNTION…

News
Cite
Share

t WALTER LLWYD; NEU HELYNTION Y GLOWR. PENOD VIII. Y DANCHWA. Yn ffodus ni chyrhaeddodcl y tan hyd ato ef, ond am eiliad neu ddau yr oedd y gwres yn annyoddefol. Wedi i'r mor tan ddarfod rholio, dyma drwst eto yn Ilawer cryfach na'r tro o'r blaen. Yr oedd y chwythiad mor gryf y tro hwn fel yr oedd yn symud colofnau o lo o dan y top. Gyda bod yr awel neu y cynhyrfiad yma -L yn darfod, dyma wynt nerthol yn pasio. Yroedd y danchwa wedi chwythu rhyw fur neu furiau oedd rhwng hen bwll yr Rafod a rhyw bwll arall, enw yr hwn nis gwyddent, ac yr oedd y naill bwll yn tynu ar y Hall. Yn pasio y ffordd hono ar y pryd yr oedd tua deng mil ar hugain o droedfeddi ysgwar o awyr bob mynyd, a hyny oedd dda. Nid oedd nag after damp, na thagnwy, na dim arall yn cael aros o'i flaen,—yr oedd yn clirio y cyfan i ffwrdd. Wedi i gynliyrfiadau y llosg- nwy ddarfod, daeth ein gwron allan o'i loches, ond nis gallai ei gyfaill ddyfod, yr oedd ef wedi llewygu. Gafaelodd Walter ynddo a dygodd ef allan i'r awyr, yr hwn a'i dadebrodd yn go fuan Wedi i'r llanc edrych yn wyllt a brawychus o -gwmpas gofynodd, 'A ydym yn ddyogel, Walter 1' Yr wyf yn meddwl ein bod,' oedd yr ateb. Gwn nad oes i ni un perygl oddi wrth dan, ond gall awel y tan ein lladd. Yr ydym yn sefyll mewn man eithaf pe- ryglus.' Felly nid oes dim i wneud. Y mae rhyw boea ofnadwy yn fy mhen.' Os nad ydyw y poen yn ormod cych- wynwn eto. Nid wyf yn hoffi aros yn hir yma.' 'Gallaf gerdded yn noble; gellwch startio pryd" y mynoch o fy rhan i." Wedi iddynt fyned i lawr ychydig, dy- wedodd ein gwron, Yr ydym yn awr yn mhwll Abereithin.' Yn mhwll Abereithin1?' ebe y llanc, gan syllu yn myw llygád ei gydymaith. Ie yr wyf yn adnabod yr hen heading yma yn dda ddigon,—fy nhad a minau ddarfu ei agor.' Felly yn wir. A ydych yn meddwl .fod yma ddynion wedi cael eu lladd ?' Nis gallaf ddweyd dim am hyny. Gad e well i ni fyned i lawr i'r lefel.' Walter,' ebe y llanc mewn llais pry- derus, I ba le yr aeth yr holl ddwfr yna ? Nid oes dim o hono yn weledig.' Y mae'r dwfr yn sicr o fod wedi gwneud gwaith erchyll, ond gadewch i ni fyned.' Ffwrdd a nhw. Cyn hir cyrhaeddas- ant mur y lefel, ac yr oedd yno ychydig o'r peth a elwir after damp arno. Yn yr ymyl yr oedd twll i fyned i lawr, ac wedi myned i'r lefel cawsant olygfeydd a bar- odd i'w gwaed fferu yn eu gwythienau. Gerliaw y twll yr ydym wedi son am dano yr oedd corff bachgenyn bychan, o ddeuddeg i bymtheg oed, heb un pen arno yr oedd ei ben ddeugain Hath oddi wrth ei gorff. Rhwng pen a chorff y llanc bach, yr oedd dau geffyl wedi cael eu maisio trwy eu gilydd, fel nas gellid tynu un o honynt oddiwrth y llall Yr oedd un o honynt wedi cael ei hollti yn gywir trwy y canol. Wedi iddynt weith- io eu ffordd heibio y pentwr marwol yma gwelent ddarn o ddyn yn crogi wrth bar o goed dwbwl,—dim ond ei ran isaf. Nid oedd y rhan arall yn weledig yn un man. Edrychent yn fanwl am dano o'u hamgylch, ond dim gwell-nid oedd yno. I Yr oedd yr heol yn y ffordd yma mor laned a bwrdd boneddwr nid oedd cy- maint a llwchyn yn weledig ar hyd-ddi. Wedi pasio y lie hwn, newidiod y go- lygfeydd ychydig,—nid oeddynt yn hollol o'r un natur. Nid oedd yr heol yn lan a gwastad mwy, ond yn hytrach wedi cael ei rhychio i lawr i'r dyfnder o ddwy droeddfedd neu lathen, a'r hyn oedd yn fwy rhyfedd fyth, nid oedd cymaint a llwchyn o'r stwff yn weledig yn un man, -yr oedd wedi difianu yn hollol. Ryw ugain llath o'r man hwn i bwynt y pwll yr oedd rhyw ddeugain neu haner cant o barau o goed dwbwl wedi cael eu chwythu yn un pentwr ar draws eu gilydd. Yr oedd rhai o honynt yn goed cryfion lawn, ond yr oeddynt wedi cael eu dryllio nes oeddynt fel matches. Yr oedd llawer o stwff y ffordd yma, a chaf- odd y ddau gyfaill lawer o waith i fyned heibio. Tu draw i'r stwff a'r coed yma yr oedd dau ddyn wedi cael en tori yn y canol. Yr oedd un o honynt yn ddau ddarn, a'r llall yn agos iawn a bod. Meddyliodd y ddau gyfaill fod un o hon- ynt yn -anadlu pan ddaethant hwy yn anadlu pan ddaethant hwy yn mlaen. Dichon nad oedd eu barn yn gywir. Heb fod yn mhell oddiwrth y trueiniaid hyn, yr oedd ceffyl a chledren (rail) deg pwys ar liugam y llath wedi cael ei chwythu drwyddo. Yr oedd y creadur yn sefyll ar ei draed fel pe byddai yn fyw, ond yr oedd yn hollol farw. Wedi mynel ychydig yn nes yn mlaen, gwel- wyd corff y gyrwr, pen yr hwn y darfu i ni son am dano yn fiaenorol. Yr oedd wedi cael ei stwffio rhwng y gob a'r top, ac yr oedd wedi cael ei wthio mor dyn fel yr oedd yn anmhosibl ei gael oddiyno. Rhyw ddeg llath oddiwrth hwn yr oedd dau geffyl a drams gyda hwynt. Fel 7f gellid barnu, yr oedd y ddau geffyl yn gweithio un o flaen y llall, a chafodd y blaenaf ei chwythu i ben yr olaf. Yn eu hymyl yr oedd pen a choes dyn yn wel- edig dim ond ychydig o honynt oedd yn y golwg yr oedd y ceffylau yn cudd- 10 y rhanau ereill. Yr oedd pedair coes y ceffyl uchaf wedi myned ymaith. Trams coed oeddynt, ond nid oedd dim yn weledig yn awr o honynt ond yr hai- am a berthynai iddynt. Yr oedd y coed wedi myned yn deilchion i rywle. Yn ymyl y pwll yr oedd o ddeg ar hu- gain i ddeugain o ddrams wedi cael eu massio ar benau eu gilydd yn y pwll,-yr oeddynt fel matches. Yn dyfod i'r golwg o dan y cruglwyth yma yr oedd braich a Haw dyn eiddo yr hitckwr wrth bob te- byg. Ychydig nes yn ol na'r pentwr yma yr oedd dyn yn gorwedd ac yn mhang- feydd marwolaeth. Yr oedd un goes ac un fraich iddo wedi cael eu tori ymaith, a bernir ei fod wedi cael ei chwythu am ddau cant o latheni. Yn nes at y pwll ychydig gamrau na'r dyn hwn, yr oedd dau ddyn arall, yn ymddangos fel pe byddent yn fyw. Gellid meddwl wrth edrych arnynt eu bod yn cysgu yn dawel, ond nid oedd asgwrn cyfan yn eu cyrff. Wrth eu teimlo gellid meddwl fod eu hesgyrn wedi cael eu malu mewn melin. Nid ydym yn gwybod pa beth fu yr achos o hyn. Yr oedd rhaffau y pwll yn dorch- au mawrion yn y gwaelod, a darnau o goed ar eu penau. Wedi i'r ddau gyfaill syllu am ychydig ar y tryblith oedd yp y pwll, aethant yn ol rhyw ddeg llath, ac eisteddasant ar gareg o gryn faint oedd yn dygwydd bod ar' yr ochr. Wedi trigo yn fud yn y fan hono am rai mynydau, gofynodd y llanc,' A ydych yn meddwl fod yr holl ddynion oedd yn y pwll wedi cael eu lladd ?' Y mae hyny yn lied debyg,' oedd yr ateb. Ond pa beth am y dwfr ?' Y mae hwnw yn sicr o fod wedi gwneud gwaith dychrynllyd.' Mae y golygfeydd ar hyd y ffordd yr ydym wedi teithio yn ofnadwy.' Ydynt, yn ddigon i rwygo calon craig.' Gallwn feddwl fod rhyw un yn dyfod i lawr trwy y pwll.' Y mae rhyw drwst yna—yn dyfod i lawr wrth y crab gellwch fentro.' Y mae crab ar ben y pwll yn barod.' 'Oes.-Dyma nhw yn dyfod.' Gyda hyny, yr oedd chwech o ddyni-n yn dyfod i'r golwg, ac yn eu mysg yr oedd Mr. Llewelyns a'r prif swyddog. Yr oedd y ddau gyfaill yn y tywyllwch. Safodd y dynion ar ben y coed a'r trams, a danfonasant y cludydd i fyny ar un waith, a chyn pen cwarter awr yr oedd haid arall ar lawr; a chyn pen dwy awr yr oedd yno ugeiniau o ddynion. 'O ba le y mae yr awyr yma yn dyfod, Johnson' gofynodd Mr. Llewelyns. Wn i ddini' oedd yr ateb,—nid oes genyf un dirnadaeth.' Gellir penderfynu nad oes yma ddim after dump na thagnwy.' Dim y mae yn sicr o fod mor laned ag ydyw ar ben y mynydd.' Gallwn feddwl hyny.' Nid oedd neb yn talu un math o sylw i'n harwr a'i gydymaith bychan, ond pob un yn gweithio am fywyd i glirio gwaelod y pwll. Yr oedd Llewelyns a Johnson yn gweithio fel rhyw un arall I-dim gwa- haniaeth rhwng meistr a gweithiwr, ac yr oedd ein harwr hefyd yn ymdrechu yn eu mysg, ond am y llanc nid oedd ef yn gwneud dim. Yr oedd yn sefyll o hirbell. Wedi cael gweled y pwll yn rhydd, trefnwyd byddin i fyned yn mlaen i edrych ansawdd y gwaith, ac ereill i gludo y meirw yn ol, a'u danfon i'r lan. Gosodwyd dau gorff ar y cludydd, a gwthiodd Walter a'i gyfaill i'r cludydd atynt, a chyn hir cawsant eu hunain ar dir y byw un waith drachefn. Y r oedd canoedd os Joid miloedd o ddynion ar ben y pwll, ac yr oedd ugeiniau wedi myned i lawr, a myned. i lawr yr oeddynt yn barhaus. Gan fed ein gwron wedi bod yn y fath draffierthion, penderfynodd i adael y lie ar unwaith. Aeth i chwilio am ei gyfaiUy ond.' nid oedd hwnw yn un man. Gwthioddti wy y torfeydd yn ol ac yn mlaen, ond dim gwell—nid oedd yno. Diffanodd yn hollol ar unwaith. (I'w barhau.)

.. CROMWELL. ",

^ EN WO G ION SIR GAERFYRDDINI

CHARLES, THOMAS, G. C.,