Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Y LLWYNOG. Wei, wel, mae wedi dod yn grand o'r diwedd. Tra yr wyf fi yn nodi allan bechodau pobl y lie hwn, mae rhyw rai mewn lie arall yn gwisgo'r cap ac os yw yn ffitio, y mae iddynt bob croesaw i'w wisgo y dydd i gadw y gwres allan, a'i wisgo y n s i gadw breuddwydion erchyll i ffwrdd waith os ydynt yn euog o'r pethau bryntion hyn, tra yn ceisio ymddangos i'r byd fel dynion crefyddol, mae yn rhaid fod breuddwydion dychryn- llyd yn myned trwy eu penau yn ystod y nos. Ond hyn sy'n capso'r cyfan fed gwraig i gaffer yma un ochr i'r stryd, a gwidw yr ochr arall i'r stryd, yn hela ac yn gwaeddi Tali ho' bob yn ail pan fydd personau neillduol yn myned heibio. Y mae yma siarad yn ein cymydogaeth ni am gael cyfarfod cyhoeddus er nodi dan neu dri i fyned i lawr i Benybont i edrych os oes yno le i ychwaneg o fenywod wedi colli eu senses. Mae lie i ofni fod cwpwl eto bron yn barod i'r gwallgofdy. Ond y mae yma ofyniad yn eyfodi yn meddyl- iau amryw yn y lie hwn, sef, I Pwy fydd yn rhaid eu cynal yn y gwallgofdy ?' Ni a obeithiwn y bydd i'r trueiniad uchod ddala y Llwynog cyn bo hir, fel y bydd iddynt gael hamdden i wella, waith bydd yn well gan y Llwynog fod yn y ddalfa ei hunan na bod yn achos i fenywod mor respectable ac mor gryfion eu synwyruu i gael eu hunain yn Ngwallgofdy Peny- bont. Yr ydych yn coflo fod gwobr wedi ei chynyg yn Eisteddfod y T'w'llwch, am y Traethawd goreu ar y Cysylltiad sydd rhwng gwallgofrwydd a bywyd anllad a ffug grefyddol.' Wel, i'r rhai sydd yn bwriadu cystadlu ar y traethawd uchod, dymuna y Llwynog gyflwyno y stori uchod iddynt. Y mae ston arall, llawn mor darawiadol ar y pwnc, yn adnabydd- H8 yn y cymydogaethau hyn; ac os bydd whyw rai o bell yn bwriadu cystadlu, cant yr hanes, gyda thread y post, oddi wrth un sy'n gwybod yr hanes yn dda, sef ysgrifenydd Eisteddfod y T'w'llwch Heblaw hyny, bydd y Llwynog, yn mhen cwpwl o fisoedd, yn debyg o fyned i mewn i fanylion yr hanes, a'u dadlenu gar bron holl ddarllenwyr y DARiAN a ehewch weled ei fod yn hanes dychryn- yd iawn. S" h Yn y papyrau Seisnig yr wythnos hon ceir ynewyod pruddglwyfus fod Brigham Young wedi marw. Pan welais yr hanes yn y papyr, fe fu fy nghalon bron neidio allan o'i gwisg, gan ofn mai Brigham Young Cwm Rhondda, oedd wedi marw. Chredwch chwi ddim, Mri. Gol., y fath le fuaaai yn Cwm Rhondda, cyn pen pedair awr ar-hugain, pe. buasai y Brigham hwn wedi marw. Mae y Llwynog yn meddwl y byddai cymaint o gylch y ty yn wylo am eu gwr ag sydd o amgylch ambell bwll ar ol tanchwa. Y mae'r Llwynog yn dychymygu eu clywed y fynyd hon,—un yn dolefain, 'O! fy Mrigham anwyl, beth a wnaf; O! betha wnaf ? Cyn i mi a/m plant bach symud i'ch ty chwi yr oeddym yn methu yn lan athaluy rent, ond wedi symud, yr oeddwn i a'm plant bach yn cael tamaid i fwyta, a diHad i wisgo, a chwithau byth yn go- fyn am y rent. Adenydd myrddiwn o angylion a'ch cysgodo, ac os oes gwreica a gwra yr ochr draw, gobeithio y bydd i chwi gael digon o wragedd, waith welais i neb erioed mor fond o honynt. O I Brigham, Brigham anwyl, beth a wnaf ?' Yr oeddwn yn dychymygu fy mod yn clyw§d 114 gwragedd Brigham Young o amgylch y ty, fel o amgylch pwll wedi anio. Wedi'r cwbl, y mae'n dda genyf eich hysbysu fod ein Solomon ni yn fyw ac yn iach, ac yn mwynhau ei wragedd cystal, os nad gwell, a Brigham Young Salt Lake,ond fod y Llwynog yn blino tipyn arno,-yn achos o ddiffyg cwsg y n< s iddo. Mae yn gorfod gwneud mwy o ymdrechion gyda phethau crefydd i geisio darbwyllo dynion a Llwynogod ei fod yn fwy crefyddol nag erioed. Yn wir, dywed ei fod ef bellach wedi myned yn rby ysbrydol i ymwneud a dim ond pethau crefyddol, ac mai ei dduw- ioldeb ef oedd yr achos fod y Llwynog ac creill wedi ei erlid, ac mai ei dduwiol- debef a'i frodyr oedd yr achos eubod wedi gallu goddef y cwbl mor amyneddgar, gan wneud gorchymyn Crist ac mai gwyn eu byd pan yn cael eu herlid gan ereiil,' a hwy yn gelwyddog.' Mae y Llwynog wedi edifarhau yn ofnadwy idd) wneud cais Barflwm, a myn'd a'i wraig i lodge ato. Dyna'r tro ffolaf a wnes yn fy mywyd. Ond fuaswn i ddim yn myned hefyd oni buasai i mi gael anhap, a thori fy ngen. Yr oedd- wn mewn lie dyeithr, ac yn meddwl y cawswn dipyn o dendance lied dda, a chwareuteg i'r en wella. Daeth y wraig, wrth gwrs, i aros ataf i dy Barflwm; ond, ond, os do, aeth ei pharch i mi yn llai bob dydd, a gwaeth na'r cwbl, yr oedd y wraig yn ddigon rhydd i dderbyn cariadon ereill. Yn awrmae'rllwynoges a minau wedi ym- adael. Mae hi wedi myned i gadw ty cyfleus i le arall, ac y mae yn dweyd yn blaen y dydd heddyw mai Barflwm a yrodd rhyngom, panoeidym ynlodgoyn ei dy. Melldith dynion, llwynogod, a chythreuliaid fo ar ei hen ben anifeilaidd, -cleddyfau poethion mil myrdd o ellyll- on a wano ei hen galon drachwantus, a'r lie poethaf, dyfnaf, a mwyaf brwmstan- aidd yn Gehena fyddo yn ei aros, am ddystrywio un o'r menywod harddaf, ac un o'r gwragedd caredicaf fu ar y ddaear erioed. Bydded hysbys i'r byd a China Cwm Rhondda, nad yw y Llwynog eto wedi dyfod at y pethm hyny, am y rhai y dywedai na ddychymygodd calon dyn gonest ericed am y fath bethau. Y mae pethau fel yr uchod, ddigon tebyg, i'w cael mewn llawer man, ond nid yw yn bosibl fod y ffordd i ddod yn gyfoethog' yn un man ond yma. Pihagymadrodd yw yr oil hyd yma. Yn awr, looh out, hoys, am y bregeth. Fe a llai mai program o waith y Llwynog ar y ffordd i ddyfod yn gyfoethog' fydd yn y nesaf. Ar ol dybenu a'r ffordd i ddod yn gyfoethog,' dangosaf y I ffordd i chwi geisio dyfod yn enwog.' Da b'och a dibechcd LLWYNOG.

CWMBACH—ODYDDIAETH.

Y DYFARNIAD YN NORTHUMBERLAND.

BRYNMAWR.

ABERAMAN.

.. PENYGROES, LLANDYBIE.

Advertising

GLOFA Y DARE OCEAN, CWM RHONDDA.'