Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

--WALTER LLWYD;

News
Cite
Share

WALTER LLWYD; NEU HELYNTION Y GLOWR. PENOD VI. Y LLANC BYCHAN. "Ve1 yn awr, John, yr wyf yn meddwl nas gallwn wneud dim yn well na myned i mewn i'r hen heading yna, a gweddio ar yr Arglwydd am ein parotoi erbyn marw.' Yr wyf o'r un farn,' oedd yr ateb, gan syllu yn ddifrifol ar y llawr.' Nis gallwn wneud dim yn well na pharotoi. erbyn byd arall.' Dychwelodd y ddau i'r hen heading,— "heading deep ydoedd, ac yr oedd yn 11awn dwfr yn agos i'w ben uchaf. Ar ei dop yn lan yr oedd ychydig wastadedd cyn dyfod allan i'r lefel, ac ar y gwastadedd hwn yr oedd ein gwron a'i gyfaill ieuanc yn llechu. Eisteddodd y ddau yn ymyl y mur, ac yr oedd golwg ddifrifol arnynt. Yr oedd barn marwolaeth wedi dyfod i'r teimlad erbyn hyn. Nis gallent ganfod un ddiangfa, ac mewn gwirionedd nid oedd un ddiangfa yn weledig iddynt,— nis gallent weled dim ond angau. Yr oedd angau yn syllu yn eu gwynebau, ac yn bygwth eu cymeryd yn ei fynwes un o'r dyddiau nesaf. Yr oedd pobpeth daearol wedi cefnu arnynt, a'r sylweddol a'r tragwyddol megys cylch o'u cwmpas. Nid oeddynt yn medru canfod dim yn awr ond yr ysbrydol,-yr oedd y materol yn cilio draw, ac yn diflanu o'u golwg. Yr oedd ganddynt gyfeillion a pherthyn- asau unwaith, ond dim yn awr. Yr oedd gagendor rhyngddynt a'u perthynasau, a thragwyddoldeb ar ei hyd rhyngddynt a'u cyfeillion. Yr oedd pob cysur daear- ol wedi cefnu am byth arnynt. Ysbryd- ion pur oedd i fod yn gyfeillion iddynt mwy. Cymerodd y ddau yehydig lun- iaeth o'r yehydig oedd ganddynt,-yr oedd y llanc wedi dyfod ag ychydig gyd- ag ef, digon am un diwrnod feallai; ac wedi iddynt ymborthi gorweddasant yn ymyl y mur i roesawu angau pan y delai. Yn fuan wedi iddynt orwedd, clywent rhywun yn gwaeddi yn y pwll. I Dyna lais Jac Huddug,' ebe y llanc. .J ac Huddug,' oedd jr ateb gan gyfodi yn ei eistedd. '0 ba. le y mae ef wedi dyfod ? 'Nid wyf yn gwybod, ond yr wyf yn sicr mai llais Jac ydoedd.' Gadewch i mi'gael gweled.' 'Dim modfedd;—ni chewch symud modf edd o'r man hwn. G we 11 genyf fi 10 weithiau i chwi farw o newyn na marw trwy ddylanwad arfau uffernol Jac Hu- ddug.' Yn mhen ychydig gwelent oleuni ar waelod y pwll, ac yn fuan wedi iddynt weled y goleuni clywent lais yn gwaeddi, 4 Nid yw y whelp yn weledig yn unman, ond am Wil, druan, y mae yn un swp marwol; gallwn feddwl nad oes un as- gwrn o h ono yn gyfan.' Yr oeddynt yn clywed rhyw rai draw yn y pellder yn ei ateb, ond nis gallent ddeall dim, na deall dim a ddywedent. Yr oedd y ddau gyfaill erbyn hyn wedi diffodd eu canwyllau ac yn llechu yn y tywyllwch. Gwell i mi rwymo Wil yn y rhaff cyn myned i chwilio am dano,' ebe y, gwr oedd yn y pwll. Wedi gafael ynddo pa un ai y dur ynte y plwm a ddefnyddiaf ato ? Ver y well; un noble ydyw y plwm. Gofalaf na fydd iddo ddiane y tro hwn. Yr oeddwn yn meddwl ei fod wedi cael gafael yn y chain, ac yr oeddwn yn dweyd hyny hefyd, ond ni chredent.' Yr oedd y brawddegau olaf yn cael eu Uefaru mewn dull fel penabyddaiyn fodd- Ion i neb arall i'w glywed. Wedi iddo drigo yn ddystaw am ryw chwarter awr, gwaeddodd,' Tynwch y rhaff, a thynwch yn gryf, y mae yn lied drwm All right, dyna ef yn dod. Dyma fi yn myned i chwilio am y trysor, a weindiwch chwi- thau i fyny. Os ydyw yn y pwll mynaf afael ynddo.' Yna gwelent ef yn dyfod yn mlaen trwy y lefel yn frysiog, a revolver yn ei law. Aeth heibio yr hen heading lie yr oedd y ddau lane yn llechu yn hullul ddisylw, ac yn mlaen i rywle. Wedi iddo basio, dywedodd y llanc bach, Rhaid i ni chwilio am rywle heb hwn.' Pa le y cawn ef ?' oedd yr ateb. I Pa beth yw hwn l' Yn mha Ie ?' Ar ben y coed yna.' Yr oeddent wedi goleu canwyJl yn awr, ac yn chwilio am fywyd am le o ddyogelwch.' Gwna y lie yna y tro ebe y llanc, 'os ydyw y coed yn ddigon cryfion i'n dal.' idynt; eithaf rhyddyn deri ydynt.' Ciwnaed pob brys i wthio i mewn ar eu penau, ac wedi iddynt farnu eu bod yn all riJht, diffoddwyd y goleu, a. gor- weddwyd yn dawel. Yn mhen ryw ba- ner awr, dyma Huddug yn dychwelyd gan syllu yn fanwl ar yllawr fel yr oedd yn teithio yn mlaen. Daeth i mewn i'r hen head<ng, ac wedi edrych o gwxnpas, dywedodd mewn llais uchel. Dyma y peth mwyaf uffernol eto. Yr wyf yn sicr ei tod wedi cael ei daflu i'r pwll, ond pa le y mae yn awr ? Y mae yma ol traed chwaneg nag un -daa o leiaf. Can wired a bod y diawl yn uffern y mae rhyw r.d wedi ei godi trwy pwll, a bydd yn sicr o fyned i olwg Mr. Llewelyns eto, a nin iu wedi derbyn y cant punt. Mae hyn yn ofnadwy a chythreulig. Bydd y I boneddwr yn credu na ddarfu i ni gyf- lawni ein gwaith yn iawn. 0 na chawn olwg ar y bustach am eiliad,' ebe fe, gan gyfodi ei arf angeuol ifyny.. Ni fyddwn uwchlaw haner mynyd cyn gwneud chwe' ffordd awyr trwyddo. Y mae rhyw rai yn sicr o fod wedi ei gyfodi. Nid wyf ddim gwsll o aros fan yma. Gallaf fyned pryd y mynwyf.' Yna edrychodd o gwmpas a ffwrdd ag ef. Apth yn ol o dan y pwll, a gwaeddodd, 'Nid ydyw y bradych yma. Y mae wedi cael ei gyf- odi trwy y pwll: nid oedd ganddo un ffordd arall i fyned allan. Gollyngwch y rhaff ychydig nes i lawr.' Yn mhen ryw ddwy neu dair mynyd yr oedd Huddug yn cael ei gyfodi trwy y pwll, a man deallodd y ddau gyfaill ei fod yn ddigon pell, daethant allan o'u Uoches, a gosodasant dan yn eu canwyll- au. Wedi iddynt edrych yn syn ar eu gilydd am ychydig, dywedodd ein harwr, Diangfa gyfyng oedd hona.' Bum bron a llewygu,' oedd yr ateb. Pan welais y revolver- yn ei law teimlais fy ngwaed yn sefyll yn fy ngwythienau, a rhyw gryndod trwy fy holl gyfansodd- iad. Dyna rhyw drwst eto yn y pwll,- dringwch i fyny.'

PENOD VIII.

. ENWOGION SIR GAERFYRDDIN.

BEVAN; MADAM, 0 LACHARN.

+ CROMWELL.

. MAE NHW YN DWEYD.