Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
DMIIEK, SYLW *8WAEDYW BYWYDYDVN. 6 IF A ED DRW G *"R aohos o'r rhan fw.uo'r ciefy^-u ^■etfuf ag v mae r corff tiynil yn dioddef o > i- *MYRT. Y Gwaed sydd vn derb a y gwpnv. n ? W ti gario i'r gwahanol rhnniu o f oorff, nea ?I» yn mlaen r B ast, Scir^, Gam* ydo", l^jjijnioi, Clwyfau, Ciown Garw, Yate y tee. w OWAED DRWG Hohoa o'r Piles, Imfiammatioa j llygaii, ^juegoii, Gont, Danodd, Spleen yn y Danedd, 4o., Stitohee yn yr Ochrau. &o. w OWAED DRWG J* aohoa yn ami • Glefydaa'r Afu. Diffyg »*|J, Jaundioe neu'r Clefyd Melyn, Dwfr Poeth "•War Ysbryd, So. w (jrVAJSD DRWO aohos o'r Manwynionnea Glefyd y Brenin, ~*Wydd yn y Glands, Cleffdau Banywaidd S*D« Ataliadan Natur Heintian, Chwye Oer, Bgwan, Cryd, Gloesiadan, Darfod- "■yethftc a CT nae o'r pwys mwyaf i Boro, Glanhau, ?^ryfhaa y Gwaed, a thrwy hyny Dadwreiddio *?■ Aflechyd, trwy gymeryd y feddyginiaeth y Gwaed, sef t-' PATENT >rawf~o'r effaith neillduol sydd ^nddynt, jjiir^yma rai o'r tystiolaethau sydd yn fy *<ddiant.— -Gyda diolch yr wyf yn eich hysbysn :"11eI mawr a wnaeth eich Pills rhvfeddol o'r y "Hughes Patent Blood Pills," i mi. Yr ydym am ddwy flynedd mewn blinder mawr •J* Ysfa a Phcethder y Cnawd, wedi en haohosi g Ddistemper y Cwaed, ac wedi cymiryd ond JJkydig o'r Pills hyn, mi a gefiais lwyr rhydd'id, JJr wyf yn anion hyn er bndd y cyhoeda7—B. JROMAB, Dolau. IJaaelli. mteWUd Kynod o'r Distemper a'r Piles (Talfyr- W) STB,—Drwy gymeryd eich Pills hynod at Owaed, sef "Blood Pills," cafodd fy meroh *»IHiad neillduol oddiwrth Darddiant ar y ytwd, Poen jn y Pen ac yn y clnnian, dim ^•hwaeth, Gwrthwyneb y Cylla, a mawr fiinder jjfcataliadan Natar. Hefvd, trwy gymeryd yr pPilla, oefais lwyr iaohad oddiwrth y Piles, gddvlai pawb wybod am danynt.—D Da vies, ^8Uam Street, Llanelly. "Ckoellhad oddiwrth y Piles. ^S,—wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd N{ {'(jjj hysbysn fy mod wedi cael bndd mawr r^Rrmeryd dan flychaid o'oh Pills gwerth- uf "Hughes' Patent Blood Pills." Yr nmethu cerdded cam braidd, ao yn I eistedd oherwydd y Piles a phoen ;yn y 2* *laf o'r cefn, y olaniau, a'r Pen, ao yn **Hlo yn bur wan. Yn awr yr wyf vn hollo 1 &C yn taimlo yn bur ddiolohgar.-MAR Y t^BS, Cwmbran, Awst 22, 187J. Y mae'r HQa hyn yn Patent Cosbir pob ffagiad..Regis- Trade Mark—"Blood Pills. ioerth mewn Blychaugan holl Chemists y J"*## am 1». H"- 9c-> a 6". Oyda'r W 1#. 2o., 2m. 11C., a 4s. 9e. oddiwrth y Hughes, Apotheearies' Hall Llanelly- (M«doa Agents—Barday, Sattoc, Newbury, Hovendon. Bristol—Pearoi, WarrAn, I ^rpool—EvanB & Son, Baimes. Cardiff-Ker- *• Manchester—Matter. <LLLW.BA?«A HALL, ABERDAR. ftYjfgLIB Eisteddfod Gerddorol yn y lie «ohod, dj dd Lion, Medi 17eg, 1877. PFTCF DDABNAU. v?' Cor, heb fod dan 60 mewn rhif, na ^*Sodd droa £ 15 o'r blaeo, a gano yn Dated maa Rhwymau Caethiwed,' Thomas, Blaenwieroh 10 0 0 o'r arweinydd a'r oor buddugol, 110 0 k*t Cor, heb fod dan 40 mewn rhif, J*Blodi droa £ 15 o'r blaen, a gano PH* (Molwch yr Arglwydd,' gan 55* Parry, sef yr Anthemo fawF ar ^•BdlgaeUx glowyr Tynewydd. 6 0 0 fj*8nhardai'r arweinyddgwerth J 0 0 Parti, heb fod dan 16 na throat rW a gazoln ores I The Thamss C^Scmg,' an Parson Prioe (oopiau gan Hywel Cynon) .160 Mr. J. Evans (Eos Myrddin), Dowlaia, ohaqiateir i neb arwain y oorau a fyddo 4DM droe £ 16 o'r blaen. ttae rheatr gyflawn o'r testynan yn barod, 'I* gael gan yr ysgrifenydd am geiniog; trwy oeinior a dimai. T. 8. TKOIü8, Yag., 4, Clifton Place, Aberdar. GL0! GL0! GL0! IfUlUNA- [heophilus Da vies, Black Horse* if ihwng Hirwaun ac Aberdar, hysbysu y ffoedd yn tfredinol ei fod yn gwerthn glo ar rhes> mol, yn nghyd a'i glndo i'r tai, neu bath arall. lkdwerydd Eisteddfod Flynyddol Gwauncaegurwen. • JVNELIR yr Eisteddfod uohod dydd Nadolig» Wl, 1877, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr ^*Ogol mewn oerddoriaetb, barddoniaeth, &c. PRIF DDARN CORAWL. ^tCor. h9b fod dan 50 mewn nifer, a gano yn ft? 'Requiem i'rdiweddar Birch. J. Roberts Gwyllt), gan J. Parry, gwobr Wyth ^fta chadair hardd i'r arweinydd. —y Gerddoriaeth, Mr, Thos. Howells 2^11 vnon), Aberaman, Aberdar; yFardd- Mr.D James (Dewi lago), Gwaun- jP^Wen, Brynaman, R S.O. j5?a8ramme8 a'r holl fanylion dechreu Med;, '• JOHN JENKINS, Ysg., Mountpleasant, Brynaman, R.S.O. Ir BWRDD Y GOLYSYDD. gyntaf o Anerchiad Mr. Mac- ^oald, A. S., yn Nghynadledd yynydi'ol IJndeb Cenedlaethol y *Wnwvr, yn M«i diweddaf, i ym- ^ogos vn ein aesaf, ac i barhau ei crorphen. Yr ydym yn ddiolchgar am y cyfieithiad, a Denj r yr anerchiad gyda budd A&i filoedd o'n darllenwyr. th Shon o'r Cwm yn ein nesaf. I ob Gohebiaeth i'w chyfeirio, "Editor of the TARIAN, Aberdare, (Glam.) Pob archebien a thaliadau i'w hanfon i Mills a Lynch, TARIAN Office, Aberdar
Y STRIKE YN AMERICA."
Y STRIKE YN AMERICA. Hysbyswyd yn mhapyrau dyddiol Lloegr, oddeutu dechreu Mehefin di- weddaf, fod goruchwylwyr Rheilffordd Pennsylvania wedi lleihau cyflog en gweithwyr ddeg yn y cant yr wyth- nos cyn hyny. Gwnawd yr un peth ar reilffordd arall. Er fod y lleihad hwn mewn cyflogau yn effeithio ar filoedd o weision y rheilffyrdd, derbyn- iwyd y lleihad yn ddystaw, oddieithr gan weithwyr cyffredin perthynol i un rheilffordd yn New York. Penderfyn- asant hwy ar strike, a llanwyd eu lleoedd gan rai eraill. Yn yr wythnos ganlynol lleihawyd cyflogau gweithwyr yn y New York Steamship Docks ddeg yn y cant. Ymddengys fod y lleihad wedi cymeryd lie yn gyffredinol mewn cy- sylltiad a rheilffyrdd. A dywedir fod can mil o bobl dan ddylanwad y lleihad. Ar y cyntaf ymddangosent yn dawel yn ei wyneb, fel peth nas gellid ei rwystro, am ei fod yn angenrheidiol. Penderfynodd gweision rheilffyrdd Baltimore ac Ohio, ar yr 16eg o Orph- enaf, i wrthod y lleihad yn en cyflogau. Gosodwyd rhai i weithio yn en lie hwynt. Ceisiasant hwythau atal y rhai hyny i weithio, ond rhwystrwyd hwy gan yr heddgeidwaid. Gwnaeth- ant wreck o un tren trwy symud y rheilen dro, (switch), mewn un man. Yn Martinsburg, Virginia Orllewinol, aeth y rhai sydd yn sefyll allan yn drech nag awdurdodau y rheilffordd a'r police. Cymerasant feddiant o orsaf y rheilffordd. Rhwystrent bob tren i fyned allan ond rhai teithwyr. Anfonwyd at y llywodraeth i geisio y milwyr. Aeth mintai o honynt, ond aeth y gweithwyr ag arfau tan yn eu herbyn hwy. Clwyfwyd a lladdwyd rhai. Torodd y gweithwyr gysylliadau y gerbydres oedd yn cludo y milwyr. Ymddangosai y fuddugoliaeth yn llaw y gweithwyr. Yr oedd mil o honynt yn cadw y ffordd, a'r milwyr yn analluog i'w gorchfygu. Yr oedd pwyllgor y gweithwyr yn dal meddiant mewn pedwar ugain o beirianau y ffordd. A rhoddasant hysbysrwydd y saethent unrhyw beirianydd a geisiai eu symud allan. Ataliwyd y trenau yn Baltimore gan awdnrdodau y rheil- ffordd, rhag i ddrwg ddygwydd iddynt. Rhwystrwyd oddeutu deg a thriugain o drenau i redeg. Oydymdeimlai y milwyr a'r gweithwyr. Gadawsant un lie yn eu meddiant hwy. Fel hyn y y gwnaeth mwy nag un fintau o filwyr yn Martinsburg. Yr oedd y cwbl yn heddychol yno gan fod y Strikers yn llywodraetha. Eglnr yw fod pla y strike wedi lledu yn eang iawn trwy yr Unol Dalaethiau. Gosododd y Llywodraeth yn ddiweddar bron yr oil o fyddin y wlad mewn gwahanol fanau i rwystro terfysg oddiwrth y gweithwyr ar strike. Y mae y sefyll allan yn effeithio yn niweidiol iawn ar iasnach j wlad. Y mae pris bwyd wedi myned i fyny, oblegyd nas gellir ei dros- glwyddo o'r trefydd dwyreiniol i'r wlad orllewinol. Y mae cyllid y wlad yn lleihau, am nas gellir trosglwyddo ei gwahanol ranau hi i Washington. Gosodir marsiandwyr mewn penbleth. Caniata y terfysgwyr i lythyrau, &c., gael eu trosglwyddo. Ond gwrthoda awdurdodau y rheilffyrdd anfon y mails heb i gerbydau teithwyr gael myned gyda hwynt, o dan nawdd y Llywodraeth. Dywedir fod Chicago mewn sefyllfa derfysglyd iawn, a bod 6,000 o hedd geidwaid arbenig yn cylchwylio yno. Er hyny mae y mob wedi trechu y police, a chymeryd meddiant o 50 oynau yno. Mewn lie o'r enw Shamokin, Penn- sylvania, ymosdodd y terfysgwyr ar orsaf y rheilffordd, ond gyrwyd hwynt ymaith gan yr hedd geidwaid, a chlwyfwyd pump o'r terfysgwyr. Amddiffynir San Francisco gan 7,000 o'r dinaswyr, dwy long rhyfel,. a minteioedd o filwyry llywodraeth. Cynygiodd cwmni rheilffordd Erie deleran cymod i'r terfysgwyr. Ni chynygiasant gyfodi eu cyflogau. Ond nid yw y cwmni i roddi cyfraith ar y terfysgwyr. Eto y mae j rhai sydd wedi niweidio meddianau y cwmni i gael eu cospi. Derbyniwyd y telerau hyn gan nifer fawr o weithwyr, a bu llawenydd mawr. Gellid meddwl wrth y newyddion diweddaf fod y terfysg ar I derfynu mewn rhai manau. Diau fod y terfysg hwn wedi bod yn un mwy pwysig na dim arall yn yr Unol Dalaethiau er y rhyfel cartrefol fu yno flynyddau yn ol. Lledodd trwy yr holl wlad fel tan, gyda chyflymdra mawr. Eglur yw fod y gweithwyr wedi bod yn cynllunio yn ofalus o for y Werydd i afon Mississippi. Yr oedd yr hyn a wnaethant yn wrthryfel gwlad- wriaethol. Bu y llywodraeth mewn dwys fyfyrdod yn cynllunio ymddwyn tuag at dair talaeth fel I hai mewn gwrthryfel, a galw oddeutu 75,000 o filwyr gwirfoddol allan i drechu y gwrthryfelwyr. Hyny oedd y nifer a alwyd allan flynyddau yn ol gan yr Ar- lywydd Lincoln, ar y dechreu, i osod tertyn ar wrthryfel y Talaethau Deheu- ol. Ymddengys fod gweithwyr ereill allan o waith, yn ymuno a gweision y rheilffyrdd. Gwrthodant gydnabod baner y llywodraeth. Y mae pob peth wedi myned i anrbefn. Rhwystrir masnach. Nis gellir teithio. Anhawdd yw gwybod pa fodd y gellir trosglwyddo bwyd i'r dinasoedd mawrion. Nid yw New York wedi dyoddef cymaint a rhandiroedd mwy gorllewinol. Dywed y Times fod y gwrthryfel wedi cyfodi yn mhlith Gwyddelod anwybodns, ac ymfudwyr o Germani. Diau fod yr elfen Babyddol wrth wraidd y terfysg. Gwaith y Pabyddion trwy y byd yw cyfodi terfysg am na allant gael yllaw nchaf mewn un wlad ar y ddaear, oddi- gerth y rhai iselaf a mwyaf paganaid.p Eiddigeddant wrth lwyddiant cwmni- au y rhai na ymostyngant iddynt hwy. Nis gallwn ni yn y wlad hon osgoi effeithiau y terfysg yn yr America. Y mae llawer o drigolion y wlad wedi rhoddi arian ar reilffyrdd America. Ac os parha rhwystrau yno i drosglwyddo awyddau, bydd hyny yn sicr o stopio iefhyddian gwaith a bwyd i ddyfod i'r wlad hon. Dywedir fod goruchwylwyr rheil- ffyrdd yn gyfrifol am yr hyn sydd wedi cymeryd lie eu bod wedi arfer gosod llwyddiant masn&chol rheilffyrdd allan mewn iaith mor chwyddedig, fel yr oedd yn beth nsturioI i'w gweithwyr gredn y dylasent hwy gael cyfran o'r llwyddiant mawr. Nid rhyfedd fod y gweithwyr yn gwrthod ymostwng i lei- had eu cyflogau, ddeg yn y cant, pan yr oedd eu meistri yn ceisio darbwyllo y byd fod y rheilffyrdd mewn sefyllfa lwyddianus iawn. Pe buasai swydd- ogion cyfarwyddol y cwwniau yn onest i ddweyd sut yr oedd pethau yn bod, digon tebyg y gallasai y gweithwyr mwyat synwyrol barswadio y rhai mwyaf anwybodus i fod yn llonydd. Yn y terfysg, ymddengys fod llawer wedi cael eu Uadd. Lladdwyd Sirydd a chlwyfwyd un o gadflaenoriaid y mil- wyr. Diangodd y milwyr i un ty nerthol. Ceisiodd y terfysgwyr eu llosgi yn y ty hwnw. Bu y milwyr dan orfod i ffoi o'r lie, a chawsant eu hym- lid gan y terfysgwyr, pryd y lladdwyd rhai. Yn Pittsburg, He y mae gweith- feydd glo a haiarn y bu hyn. Bu y lie yn meddiant y terfysgwyr. Dinystrias- ant lawer o dryciau y rheilffyrdd. Tor- asant i siopau, a chymerasant bob arf rhyfel a allent gael. Llosgasant dai a meddianau, ac ysbeiliasant y trigolion. Ond trodd y trigolion arnynt yn y di- wedd a gorchfygwyd hwynt. Lladd- wyd a chlwyfwyd oddeutu 300. Pallodd militia y dalaeth a gweithredu yn eu herbyn. Difethasant reilffordd Read- ing, a thaflasant bont i lawr. Terfyn- asant drafnidaeth ar reilffordd Cleve- land. Difethasant werth oddeutu L800,000 o nwyddau yn Pittsburg yn unier. Barna y Times mai nid ffrwyth angen yw y terfysg, ond ffrwyth ym- drechiondynion drwg i berswadio y lluaws eu bod yn slafiaid i ddynion yn meddu arian ar reilffyrdd, &c. Cwm- niau rheilffyrdd yw y rhai yr ymosod- wyd gyntaf arnynt fel gorthrymwyr arianog. Ond ni bydd cwmniau ereill yn hir heb gael eu gwrthwynebu. Dywedir nad gweision rheilffyrdd yw y terfysgwyr, y rhai sydd wedi cael eu cymeryd yn garcharorion, ond dynion drwg sydd yn barod i ysbeilio a niweid- io eu cymydogion. Diau nad yw yr hysbysiadau sydd wedi cael eu derbyn yn y wlad hon, yn nghylch y terfysg, o fewn llawer iawn i fod yn berffaith. Anhawdd yw cael gwyboèaeth o fan hosion ac effeithian. Arfer yw siarad yn drahaus am wei< Ond ar yr nn pryd, ni ddylai r osod en hunain uwchlaw cyfraith gwlad. Nis gallant enill dim, ond colli llawer, trwy derfysgu yn waedlyd, fely mae gweith- wyr America wedi gwneud. Brwydro ymresymiadol, doeth, yn erbyn gormes yw yr un mwyat effeithiol yn y pen draw. Y Ilwybr byraf i goncro yw trwy ddefnyddio nerth materol. Ond y llwybr sydd yn dyfetha gwerth y goncwest yn fwyaf sicr yn mhen amser yw y llwybr hwnw. Dim ond i weith- wyr ofalu am yr hyn a enillant, llyw- odraethn eu hunain, a bod yn sobr a phwyllog, y maent yn sicr o enill y dydd.
!BRYN SION, TRECYNON.
BRYN SION, TRECYNON. Dyddiau Sul a Llun, Awst y 5ed a'r 6ed, cynaliwyd cyfarfodydd pregetbu y capel uchod, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Robert Roberts, Llundain, a Robert Jones, Treherbert. Cawsom ein siomi yn un o'r dysgwyledigion, sef y Parch. Moses Thomas, Resolven, o herwydd afiechyd ei briod. Cafwyd cynulliadau da iawn, a phregethu grymus anarferol. Casglwyd y swm anrhydeddus o 115 15s. Ole. Yr oedd y casgliadau y tu hwnt i'n dysgwyliad, ac ystyried yr amserau. Yr ydwyf yn hyderus gredu y bydd yr hâdda wasgar- wyd y ddau ddiwrnod yn adeiladaeth ysbrydol i'r eglwys, a gobeithiaf, yn ychwanegiad at eu rhif o'r rhai a fydd- ant bytli yn gadwedig, J. E.
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL ABERDAR.
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL ABERDAR. Dyddiau Iau a Gwener, yr wythnos ddiweddaf, cynaliwyd Arddangosfa Am- aethyddol Flynyddol Swydd Morganwg, yn Aberdar, yr hon a drodd allan yn llwyddianus anarferol. Yr oedd nifer mawr o greaduriaid yn cael eu harddang- os, yn nghyda phob math o gelfi amaeth- yddol, &c. Cymerodd Aberdar ran hel- aeth yn yr arddangosfa, er, efallai, nad oedd yma ond ychydig o ddyfeisiadau newyddion cartrefol yn cael eu harddang- os. Modd bynag, gallwn ymffrostio mewn peiriant newydd o ddyfeisiad cwmni y Gadlys, Aberdar, a dyfeisiad o offeryn cerdd, y Chiffonniere Organ, gan ein tref- wr, Mr. Phillips, Gadlys, yr hwn a dder- byniodd gymeradwyaeth mawr gan y miloedd a ymwelasant a'r Arddangosfa. Ymwelodd Arglwydd Faer Llundain a'r Arddangosfa ddydd Gwener, a boddha- wyd ef yn fawr yn yr oil a arddangosid. Y mae yn dda genym ddeall hefyd fod yr Arddangosfa wedi troi allan yn llwydd- ianus iawn mewn ystyr arianol, yr hyn a brofir gan y ffaith fod 12,000 o berson- au wtdi ymweled a'r lie yn ystod y ddau ddiwrnod
CWMAFON.
CWMAFON. Yr oedd dydd Sadwrn diweddaf yn ddiwrnod o gryn orfoledd yn y He hwn, a hyny am fod Mr. P. W. Flower a chyf. yn cymeryd meddiant o waith alcan y lie. Cafodd holl weithwyr y gweithiau eang swper ar yr achlysur, wedi ei bar- otoi ar gost y cwmni. Yr oedd yr holl dref yn ymuno yn y llawenydd. Am saith o'r gloch, cafodd Mr. Flower ei dynu mewn cerbyd gan y gweithwyr i Aber- afen—pellder o ddwy filldir-ac yr oedd yr helynt yn un brwdfrydig iawn. Di- olchodd Mr. Flower i'r dyrfa, gan obeith- io y byddai i lwyddiant a dealldwriaeth da barhau rhyngddynt yn Cwmafon.
MR. W. HOPKINS, U.C.W.
MR. W. HOPKINS, U.C.W. Bydd yn dda gan luaws o gyfeillion Mr. Hopkins gael ar ddeall ei fod wedi derbyn engagement yn Eisteddfod Gen- ellaethol Caernarfon, Chwi welwch mai nid dyrchafiad bychan y bydd hyn iddo, gan y bydd rhai o brif gantorion y wlad, os nad y byd, yn gwasanaethu ar yr achlysur. Da iawn, William. Diam- heu y bydd dy gyfeillion yn Mountain Ash yn llawenhau am dy ddyrchafiad. Gobeithio y bydd i hynyna ddwyn i ti gyfyd at dy faintioli yn y byd caniadol. GOGLEDDWR.
TREFORIS.
TREFORIS. Hawdd y gall Dai o'r Rings yna ddweyd wrth Netti, druan, am fyned rhag y blaen gan ychwanegu cryfdwr. Dylasai Dai, os yn Fforisiad, wybod fod anffawd blin, cywilyddus, ie, a gwarthus i'r pen wedi dygwydd yn ein plith ni, family y Fforest. Bu arnom chwant gwneuthur clear breast o honi, a chy- hoeddu hanes blagardiaeth a meddwdod Ben, er ei fod yn dal cysylltiad agos a ni fel teulu. Ond wedi meddwl seithwaith dros y peth, daethom i'r penderfyniad mai gadael pethau i oeri fyddai oreu; ac ni fuasem byth yn codi y mater i'r gwynt oni buasem yn clywed yr hen Jac, Cory, Yeo yn ei ddwyn ger bron clwb decs y Croes. Dichon fod gan Jac ddigon i'w wneuthur heblaw hyny ond cauwyd ei ben gan un o deulu hen Fari'r Brwshes gydar peth perta fu erioed. Taw, meddai wrth Jac, mewn ffit o fedd'dod y gwnaeth Beni bechu, ond am danat ti, mae arnaf gywilydd adrodd dy hanes, a rhoddi cystal bonclust o hint iddo ag a glywodd clustiau dyn erioed. Rhywbeth fel yna sydd wedi bod yn rhwystr i mi, Dai bach ond cofia, was bach. ar yr un pryd fod yn rhaid i tithau dd'od mas, nid trusto pobpeth i fi. Gall nad yw yr hen Watchman yn gwybod dim am danat tL Ond gad ti i nghoes i wella ar ol y bach- an Ben yna, yr I en iolyn ffol maeyn ddisgrase i family y Forest, mi rho i'r byd, a Llundain, a Llandudoch, hanes Dan bach o'r Bush, a'r hen Jery, a'r Young Jery sydd y tu ol i'r counter. Y mae hwna yn ganwaith waeth na'r hen haulier. Bydd di yn gwylied dipyn was bach, mi fydd hanes go ryfedd yn llanv colofnau TARIAN Y GWEITHIWR. Cefais nodyn byehan yn ddiweddar ag oedd mab Twm Trousers Glas wedi ei godi ar bont yr odyn, oddiwrth un o gleres Dr. Wack at yr hen Mrs. Jery, gan ei chyf- arch yn y modd gostyngeiddiaf, a'i h" bysu o faint oedd gwaith ac enillion7 a hwn, ac mai hi oedd yn gwybo^ faint o fwyd allai hi serfio dros am hyny o arian a dywedod^ j \> :u o'r North wrthyf hefyd, was y u. iW* nn o'r clercs wedi dweyd wrtho y'nf- • Is oedd am gael ares yn r -vaxtb v Xrv ik, mai gwell oedd iddo 'ios .gwybod yn yr office mewn pryd. Dai bach, raae yr hen grwyn wedi myneu yr; I is U3, Ipsiwns y dyddiau hyn amser gwell cyn geni y gwan 1 n, a mv iv. a amser gwell eto er ei waeti ■ f^dryched ati sydd oreu iddo. Maet i)ai. v nesaf, ,i\KTTP O'R
OW .ON.
OW .ON. Gyda golvg sexj'llis y "/t '■ r lie hwn nid yw yn "leu iawn JÍkd Shaw am dynu y pr ?dd i lawr yu is nag y nu.ut yn breaonol; ac os bydd i hyny gymeryd lie, caniynir efn weith- feydd ereill. Y n "p yn ddi&uiheu na fydd i'r gweithwyr IT eryd hyn v. Yr wyf yn meddwl ei bod >i well iddynt newynu heb weithio na ne \m~ yr gweithio. Y maent bron methu. ■ o fara yn awr, ac yr wyf yn sier na ent ragor wed'yn Y mae yn dda it. genym hysbysu fod Mr. W. Abraham wedi dyfod i r lle? a gobeithio y bydd i hyny fod yn fendith, fel y mae wedi bod mewn manau ereill T. T. C. 0
GLANDWR.
GLANDWR. Y mae yma ryw syniad yn mhlith y glowyr am ail gychwyn yn egniol gyda'r Undeb. Yn wir, cynaliwyd cyfarfod yn y lie yr wythnos ddiweddaf gyda golwg ar hyny, pryd yr oedd Mabon yn bresen- ol, yr hwn a anerchodd yr ychydfg a ddaethant yn nghyd ar yr angen oedd am gyd-ddealltwriaeth yn mhlith y glo- wyr y dyddiau presenol.
[No title]
PRIODASAU. Awst 4, trwy drwydded, yn Eglwys St. Elfan, Mr. John Price, White Lion Inn a Miss Catherine Thomas, Trecynon, Aberdar. Gorphenaf 2, yn Abertawe, yn ngwydd y cofrestrydd, Miss Sarah Jane James, Glandwr, a Mr. William John, Treforris. MARWOLAETHAU. Gorphenaf 20. Mr. Thomas Davies, Wern, Ystalyfera, yn 70 mlwydd oed. Claddwyd ei weddili^n yn ngladdfa Bethania, Cwmtwrch. Gorphenaf 29, boreu. y dydd Gwener canlynol i'r danchwa ddiweddaf yn mhwll y Tunel, Abernant, yn 18 mlwydd oed, Mr Eleazer Ellis, Aberaman. Brodor oedd j r ymadawedig o yn agos i Bonty- berem. Daeth i'r lie hwn oddeutu dwy flynedd yn ol. Yr oedd yn enwog fel adroddwr ac areithiwr, yn nghyda chref- yddwr selog iawn. Y mae eglwys Gwawr wedi cael colled mawr, ac yn teimlo yr- ddwys ar ei ol. Gadawodd fam a brodyr. yn nghyda lluaws o gyfeillion mewn galar trwm. -„ Gloyw'th fwriad, gwJith foran,- Eleazer ElliB t. iw dy ddonian O ergyd tost, aethost tith m 0 ofal byd i'r nafol bau. Aberaman. B. EMLYN ROWLANDS.
Advertising
Raffle Thos. Jones, Cwmparc, Treorci. YR ydym am hysbysu unwaith yn rh<gor fod y tyniad am yr oriawr wt'di ovmervd lie yn y Stag Hotel, Treorci, ar y lOfed o Fawrth új- weddaf, a bod Mr. Gould, green qrocer, Trjorci, wedi enill y cyfryw.
MAERDY.
MAERDY. Cynaliodd y Methodistiaid Calfinaidd gwyl de yr Ysgol Sul dydd Llun, Gorph. 23ain. Er fod yr hin yn wlyb, daeth torf luosog yn nghyd i fwynhau y wledd o de a bara brith am y tro cyntaf erioed yn y Maerdy. Yr oedd y byrddau wedi eu gosod allan yn y modd mwyaf testlus, a'r boneddigesau yn gweini yn serchog. Nid ami y gwelir eu bath. Mae Mr. Thomas, confectioner, Ferndale, yn haeddu can- moliaeth fel gwneuthurwr teisen gwyl de. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod adrodd a chanu. Yn absenoldeb Mr. James, manaqer, Maerdy, cymerwyd y gadair gan Mr. Daniel Davies, yr hwn a'i llanwodd yn anrhydeddus. Awd yn mlaen a gwaith y cyfarfod yn rhagorol. Yr oedd yr adrodd a'r canu yn rhagarol. Canodd cor y lie amryw ddarnau, dan ar- weiniad Mr. Davies, Ferndale. Wedi talu y diolchiadau arferol, ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni. UN OEDD YNO.