Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYMANFA GERDDOROL GWENT A…

News
Cite
Share

CYMANFA GERDDOROL GWENT A MORGANWG-REHEARSAL TREORCI, RHONDDA. Cynaliwyd y rehearsal uchod nos Iau diweddaf, Gorphenaf 5ed, dan lywydd- iaeth ac arweini1,d yr un personau ag ar- ferol, sef, Mr. John a Mr. Prosser. Gan fod y rehewsal hon yn cael ei chynal yn nghanol y dosbarth, yr oeddwn yn dysg- wyl gweled cynulliad lluesog iawn ac y mae yn dda genyf allu dweyd na chefais fy siomi yn hollol. Yr oe id cerddorion y gwahanol gymydogaethau wedi dyfod yn nghyd gryn lawer yn fwy cryno nag arfer; a phe h- .asai diwygiad cyfatebol wedi cvTsevyu 1)13 yn mysg y dosbarth- V 1 iwn y pleser am dro j, •V 4 wedi ei larrw, ond y id yn rhy gynar eto i Myxgvy- hyny yn y cymydog- ;f;tin,r. hyn. Yr oedd y rehearsal hon yn wa,ei ei chynal am y tro ar -y noswaith y cynelir y society ami yn y rhan fwyaf o r eapalau, a thybiais inau mewncanlyniad-l dai hyny oedd yr achos fod mor ileied 0 ddosbarth neillduol yn nghyd ynddi; ond cefais ar ddeall drachem nad hyny oedd yr achos, gan fod y society wedi ei roddi heibio yn y rhan fwyaf o leoedd, 88 nad yn yr oil o honynt, am y noswaith hono. Eglurwyd i mi gan gyfaill cyfar- Wydd, fod y rehearsals hyn yii caw eu cynalyn eu tro ar bob noswaith o'r wyth- nos, a hyny er mwyn peidio myned ar draws cyfarfodydd sefydlog yr eglWysi end mor anfynych ag y byddo bosibl; 8AI am hyny, fod y cyfarfodydd a enwyd—y eyfarfod gweddi, y cyfarfod dirwestol, y tocieiy, &c., yn cael eu rhoddi heibio pan ddygwyddo y rehearsals ddisgyn ar yr un noswaith a hwy. Y mae swydd ion yr eglwysi i'w canmol yn fawr am gyanabod fet hyn, fod y cyfarfodydd canu cynull- eidfaol yn gydradd a'r cyfarfodydd ereill. Y maent yn gwneud yn dda cyn belled ag y mae hyn yn myned ond paham y maent hwy eu hunain yn cadw draw o hono ? Dywed pobl graffus mai yr unig greadur afresymol ag sydd YI1 alluog i rifo ydyw y fran, ac mai hyd dri y medr hithau rifo ac hyd y gallwn i weled, wrth edrych dros lawr y capel, nid oedd rhaid myned y tu allan i derfynau rhif- yddiaeth bran, i gael allan nifer y swydd- ogion eglwysig ag oeddynt yn bresenol yn rehearsal Treorci, Y mae yn gweddu 1 ni, y bobl gyffredin yma, beidio bod yn hyf iawn ar y gwyr da sydd yn myned i mewn ac allan o'n blaen ond hwyrach y goddefwch i mi roddi awgrym iddynt, mai nid diogel o gwbl ydyw gadael pobl ieuainc y gwahanol eglwysi i ddeall y gellir gwneud hebddynt hwy mewn un- rhyw fath o gyfarfodydd. Achwynir yn fawr y dyddiau hyn yn erbyn Plymouth- ism gohebwyr y Faner, ac nid yw yn an- mhosibl fod y syniadau hyn yn cael der- byniad gan lawer yn ein heglwysi. Cy- merer gofal, ynte, i ddiogelu y gwahanol swyddogaethau, trwy gyflawni y dyled- SWyddaU perthynol iddynt. Ar ol dechreu y cyfarfod, trwy ddar- llen a gweidio, canwyd Ardudwy yn gyntaf, a chafwyd drill rhagorol ami ac yn wir, nid heb ei fawr angen. iity na fyddai y cantorion yn rhoddi mwy o'u hamser hamddenol i ymarter yn y tonnu a!r anthemau cynwysedig yn y rhaglen; ac yn ol anogaeth briodol yr arweinydd, Sa sefydlu coran yr aelwyd yn inhob ty e y mae defnyddiau i hyny. Wedi hyny, canwyd Ewing, ac yna don na chynwysir VH y rhagien, sef Ramoth—hen fovourite, fel yr wyf yn deall, yn y dosbarth hwn —ac yna aed at waith mawr y rehearsal, sef y ddwy requiem. Canwyd rem"™ Maw Ddu yn llawer gwell nag yn y cyf- arfod blaenorol ac y mae y cantoiion yma yn addaw canu ami yn N ghymanfa Caerdydd na chlywyd o'i fath yn fynych. Am requiem Parry, yr oedd hon dan yr un anfantais ag ydoedd yr eiddo A law Ddu y tro o'r blaen gobeithio y ceir gwell canu ami y tro nesaf. Ar ol treulio cryn amser fel hyn gyda'r ddwy requiem, canwyd y don Mendelssohn, a hon, fedd- yliwn i yn sicr, oedd coron y cyfarfod álls well that ends well, a diwedd ar- dderchog i gyfarfod ag oedd trwyddo yn dda, oedd y oanu rhagorol a gafwyd ar y don hon. Ar ol anerchiad rhagorol, yr hwn oedd yn cynwys cynghorion angen- rheidiol iawn, gan y Parch. E. Pugh, a threfnu fod y rehearsal nesaf i gael ei chynal yn y Pentre, nos Fercher, y 19fed o'r mis presenol, terfynwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. J. Williams, Ton, Ystrad. Dygwyd cyhuddiad gan rai cyfeillion yn y cyfarfod hwn yn erbyn amryw o'r cantorion, eu bod yn esgeuluso y cyfar- fodydd canu yn nhre. Yr oedd yr esgeu- luswyr hyn yn haeddu cerydd trwm am yr hyn oeddynt yn ddiffygiol ynddo, a gwnaed yn briodol iawn wrth alw sylw y dosbarth atynt ond dylid bod yn ofalus wrth geryddu, bob, amser i geryddu am ,yr hyn fyddo yn feius yn unig, ac na chysyllter bai a rinwedd a'u gilydd yn y cerydd. Yr oedd y rhai hyn rai o hyn- ynt beth bynag, yn gwneud yn iawn ac dda wrth ddyfod mor gyson i'r rehearsals, a phrin yr oedd yn deg danod hyny wrth eu ceryddu am esgeuluso yr ysgol gan. ,Beth bynag, gobeithio na wnaed dim niwed, a gobeithio hefyd nad wyf finau yn gwneud niwed wrth ymyryd fel hyn a dyledswyddau pobl ag ydynt yn meddu ar lawer mwy o aUu na mi i arwain a llywodraethu y cantorion yma. PEN PYCH.

[No title]

WAUNARLWYDD A GOWER ROAD.…

YN YR HAFOD.

PRIZE DRAWING PENTREBACH.'

Advertising

"CONCWE3T AS Y TORI AID."