Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

GAIR AT Y DARLLENWYR.

News
Cite
Share

GAIR AT Y DARLLENWYR. Hoffus Gyfeillion.—Fel y gwyddoch, prif orchwyl Nofelwyr yn gyffredin ydyw deso-rifio rhyw un egwyddor fawr, neu ddygwyddiad cynhyrfus ond yn y N efel hon yr ydym yn bwriadu ymwneud a'r mewnol a'r alianol-gweithrediadd-dg- hoeddus a dirgelaidd dynion, yn o {Ø:8 t¥ a'r egwyddorion oedd yn eu cymhell iltv cyflawni. Y mae golygfeydd yr hanes yn ymagor mewn lie o'r enw Cwmnoel. Dich- on nad oes llawer o honoch yn gwybod am dano yn hanesyddol na daearyddol, ond deuwch i wybod ychydig yn y man.. Yr ydym amichwiddeallnaddychymyg- ion gweigion, a breuddwydion diystyr, fydd genyin yn eu trafod, ond ffeithiau noethion, syml, ac adnabyddus. Ni fydd y cyfan ond dariuniad teg, cywir, a gwir- ioneddol, o fywyd y glowr-ei holl ym- wneud o dan y ddaear ac ar y ddaear- ei fanteision a'i anfanteision—ei beryglon a'i galedi pan yn teithio llwybrau na wel- odd aderyn, ac na chanfu llygad barcud- y trais a'r gormes a ddyoddefa, yn nghyd a'i ybryd anfoddog wrth ddwyn ei faich poenus. Er yn yn ymwneud a ffeith- iau adnabyddus-ffeithiau ag y gwyr bob glowr~profiadol am danynt, eto bydd yn rhaid ,i iii daflu math o orchudd dros lawerlo honynt cyn eu dwyn ger bron. Y mae genyf amryw resymaia dros hyn, ond dichon nad yw o bwys eu nodi ar hyn o bryd. Rhoddwch le i bwyll a barn. Ein hamcan o ddechreu y Nofel hon i'w diwedd, ydyw gwneud lies. Nid lies i uji neu ddau ond lies i gymdeithas yn gyffredinol—lies i'r miloedd, a dwyn y miloedd i undeb ffydd a chydweithrediad. Nid creu anghydfod rhwng meistr a gweithiwr, ond yn hytrach uno y ddau yn nghyd mewn rhwymyn cariad a thang- nefedd. Dangos i'r ddau eu dyledswydd- au, a'u hanog i'w cyflawni yn onest a di- dwyll. Gwir, y bydd yn rhaid dwyn llawerobethau goannymunolger eu bron- au ambell i dro, ond ein hamcan yn hyn fydd eu diddyfni oddi wrthynt, a'u cym- hell i fyw bywyd mwy rhinweddol yn y dyfodol. Fel yr ydym wedi crybwyll yn barod, bydd golygfeydd yr hanes yn ymagor yn Cwmnoel, yr hwn sydd dyffryn cul a chreigiog, ond hynod gyfoethog o adnodd- au mwnol. Yn y blynyddoedd gynt nid oedd uwchlaw pymtheg neu ugain o dai yn weledig o'r naill ben i'r llall o hono, ond herbyn heddyw y mae yno ganoedd lawer o honynt, a degau o lofeydd mawr- ion wedi cael eu hagor, fel nad oes dim i'w glywed trwy yr holl le ond swn peir- ianau nerthol yn ymdroelli ddydd a nos. Yn agos i'w gwr de-ddwyreiniol saif pen- tref bychan o'r enw Llanfair, yr hwn a gyfaneddir yn benaf gan lowyr perthynol i'r gwahanol lofeydd cylchynol. Ar lech- wedd y bryn, yn gywir ar gyfer y pentref, canfyddir amryw dai bychain a tho gwellt arnynt. Y maent yn ymddangos yn hynod brydferth-eu muriau wedi eu gwyn- galchu, a'r cyfan yn edrych yn lan a threfnus o'u cwmpas. Perthyna iddynt erddi eang a chauedig, pa rai yn y tym- hor sydd yn orlawn o ffrwythau gwerth- fawr. Yn y blynyddoedd gynt, cyfan- eddid y bwthyn a welir yn gywir ar gyfer Eeglwys, gan ddyn o'r enw Joseph wyd, glowr wrth gelfyddyd, ond tanwr yn mhwll Abereithyn ydoedd pan yr ydym ni yn ei ddwyn ger bron yn yr han- es. Yr oedd ganddo dri o blant. Yr hynaf yn yr adeg sydd yn dyfod o dan ein sylw, yn ddwy-ar-bymtheg oed, a'r ieuangaf yn dri mis. Yr oedd yn ddyn gonest ac ym- drechol; ond rhywsut, nid oedd ffawd wedi gwenu rhyw lawer arno yn ystod ei yrfa briodasol. Yr oedd ei briod ac yntau ar eu heithaf yn ymdrechu talu eu ffordd a chyfodi eu plant yn anrhydeddus, a thrwy lawer o lafur a lludded yr oeddynt yn llwyddo i gael y ddau pen i'r llinyn i gwrdd, fel y dywedir. Ychydig o arian traul yn unig oedd yn dyfod i'w ran. Yn y gwaith a'r gymydogaeth edrychid ar Joseph fel math o oracl, ac yr oedd ei air bob amser yn ddeddf. Credai llawer o'i gydweithwyr ei fod yn galhch, acyn fwy gwybodus na neb yn yr cial, ac ato ef y rhedent am gyfarwyda> J yn mhob achos o bwys. Yn byw yn ei ymyl yr oedd dau lowr _o'r enwau Morgan Rhydderch ac EdmwndPrys. Yr oedd y ddau yngweith- io yn mhwll Abereithyn, ac yr oedd Joseph a hwythau yn gyfeillion mynwesol, neu o'r hyn lleiaf yr oeddynt yn ymddangos felly. Yr unig gymeriad amheus o'r tri ydoedd Prys. Yr oedd efe yn meddu ar ysbryd uchelfrydig, ac yn dueddol iawn i genfigenu wrth ei gymydogion, os buasai ffawd yn gwenu ychydig arnynt. Ysbryd lied gas ydyw hwn sydd mewn dynion a gobeithio fod yr adeg yn yr ymyl pryd y diflana o'r tir. Dyn rhywbeth tua deu- gain oed ydoedd Joseph Llwyd,ac yr oedd &wen ei briod yn agos yr un oedran pan y maent yn dyfod yn awr ger ein bronau. Dynes wanaidd o gorff ydoedd Gwen ond hynod swynol yr olwg. Prif bwnc ei bywyd ydoedd cysur a dedwyddweh ei phriod i phlant. Hogyn cryf a gwrol ydoedd Walter, eu mab hynaf, yr hwn, er nad ydoedd ond dwy-ar-bymtheg oed, I ydoedd un o'r gweithwyr goreu yn y pwll. Bellach awn yn mlaen at yr hanes. I

.PENOD I.

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN

. CROMWELL.

. DAMWAIN I GWCH GER CAEB-DYDD—PEDWAR…

— —♦ Y WLADFA GYMREIG.

■«. OFFERYNRHYFEL GAN GYMRO-