Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

fcwOGION SIR GAERFYRDDIN.…

News
Cite
Share

fcwOGION SIR GAERFYRDDIN. BP GAN DAFYDD MORGANWG. Yn mJiob gwlad y megir glew.'—Diar. ENWOGOION BRENHINOL. GRUFFYDD AB RHYS. Yiioedd Gruffydd, gwrthddrych y byw- graffiad hwn yn fab i'r enwog Rbys ab Tewdwr. v anwyd et yn Ngha^tell pinefwr, yn Ystrad Tywi, yehydig cyn marwolaeth ei dad, ac fel yr awgrym- wyd yn niwedd y bywgi&ffiad blaenorol, cafodd ei gymeryd i'r Iwerddon panyn faban dao flwydd oed i gael ei ddwyn i fyny. Tra yr oedd ef yn yr Iwerddon, daeth Ilarri I. yn frenin jjloegr, yn y flwyddyn 1100. Yr oedd yn arferiad gan f;iwrion Hoegr y pryd hwnw i briodi a boneddigesau Cymreig o waedoliaeth uchel, er mwyn dyfol i feddiant o diriogaethau yn Nghymru, mewn dull mwy cyfreittilon a hedd- ycbol na thrwy awch y cleddyf. &c. xrciiii juton, j „ i jr i/iauil na*^chynal rhyfel parhans rhyngddo a thrigolion y Debeubartb, a gymerodd Nest, merch Rhys ab Tewdwr, a chwaer Gruffydd, nid yn briod, ond yn or- dderch-wraig yr hon a ymddng iddo yr enwog Robert o Gaerloyw. Er cymaint a ganmolir gan rai haneswyr ar y teyrn hwn, y mae hanesiaeth gywir jn eyfeirio ei bys at amryw ysmotiau duon yn ei gymeriad, ac un o'r cyfryw oedd ei ymddygiad tuag at ferch yr hen dywysog dewr; ni fuasai yn un di- anrhydedd arno ei phriodi, ond yr oedd yn sarhau ei gymeriad ei hun a'r dywys- oges with wneud gordderch-wraig o honi. Wedi iddo efgael digon ami, rhoddodd hi yn wraig i Gerald de Windsor, yrhwn a adeiladodd Gastell Penfro, yn 1108, yn yr hwn le y pres- wyliai Nest ac yntan wedi hyny. Pan oedd Gruffydd ab Rhys tua 25 oed, daeth drosodd o'r Iwerddon i dab ymweliad a'i chwaer i Gastell Penfro, ac a'i ewythr Cynan, tywysog Gwyn- edd, ac unwyd ef mewn priodas a'i gyfnither, merch Cynan. Pan ddeailodd Harri, Brenin Lloegr, fod Gruffydd, gwir etifedd Tywysogaeth y Deheubartb, wedi dyfod i'r wlad, efe a ddrwgdybiodd ei fod yn bwriadu boni hawl yn ei etifeddiaeth, a chodi gwrthryfel yn ei erbyn ef; a thuag at osod atalfa ar hyn, efe a anfonodd orchymyn i Cynan i drosglwyddo Gruffyad yn garcbaror iddo ef; a chan fod ar Cynan ofn y brenin, efe a ym- drechodd gyflawni ei gais. Pan ddeall- odd Gruffydd fod bradwriaeth wedi ei lunio yn ei erbyn rhwng ei dad-yn- nghyfraith a brenin Lloegr, efe a ffodd o Gastell ei ewythr, yr hwn oedd yn ei ganlyn, a thuag at ddyogeln ei fywyd a'i ryddid, ymguddiodd Gruffydd yn Eglwys Aberdaron, a cheisiodd Cynan dori i mewn ato, ond rhwystrwyd ef i wneud hyny gan yr awdurdodan eglwys- ig, y rbai a roddasant gyfleustra i Gruffydd i ddianc yn ddirgel: ac efe a ffodd i'w diriogaeth ei hun, i Ddinef- wr, yn Ystrad Tywi. Wedi dyfod yno, i blith cyfeillion ei dad, wrth weled ymddygiadauangharedig brenin Lloegr tuag ato, efe a benderfynodd gasglu byddin gref o filwyr, i geisio ademll etifeddiaeth ei deidiau yn ol o grafang- au y Normaniaid. Ar ol casglu ei fyddin yn nghyd, efe a ymosododd gydag egni eawraidd ar y Normaniaid a'r Saeson oeddynt yn ei diriogaeth, gan ddinystrio eu meddianau a'u gyrn hwythau ar ffo allan o'i derfynau. Yn yr ymgyrch hwnw ymosododd ar dref a Cbastell Caerfyrddin, gan wneud llawer o'r dref yn a1" ion, a difantelln y castell. Wedi hj-uy arweiniodd ei fyddinoedd yn erbyn Castell Aberyst- wyth ond cafodd hwnw yn rhy gad arn i'w gymeryd, a gorfu arno yntan ddychwelyd yn ol i Ystrad Tywi. Pan welodd Harri y gwrhydri a gyflawnai Gruffydd, efe a ymdrechodd ddwyn terfyn ar ei einioes drachefn, trwy gyflogi a cbvfarwyddo Owain ab Cad- wgan ab Bleddyn, Arglwydd rbanau o Dyfed a Phowys, yn nghyd a'i fab Robert o Gaerloyw, i'w fiad-lofruddio. Nid yw yn ymddangos, modd bynag, i Robert nno yn yr ymgais i lofruddio ei ewythr, brawd ei fam. Yr oedd Owain ab Cadwgan cyn hyny wedi treisio Nest, chwaer Gruffydd, ac wedi ei lladrata oddi wrth ei gwr o Gastell Penfro, ac yr oedd yn ddigon pared i gyflawni y lofruddiaeth fwriadedig ac i'r dyben hwnw arweiniodd fyddin gref i Ystrad Tywi. Ond tuag at gj fl vwni yr ysgelerder i raddan yn ddirgel, gadawodd gorff ei fyddin o'r u ol, ac a aeth a thua chant owyr dewisedig i chwilio am Gruffydd. Ac wedi gweithio ei ffordd trwy y coed- wigoedd a amgylchent Dinefwr, e*e a ddaeth o hyd i yehydig o wyr Gruffydd, ac a ymosododd arnynt gan, ladd rhai a pheri i erei:I ffoi; ac wedi cyrmryd eu hanifeilia:d yn) sbaiI, dechreuodd ei ffordd yn ol at !!orff ei fyddin, heb gyrbaedd ei amcan llofruddiog. Erbyn hyn yr ce Id Gerald de Wind- sor, Argiwydd Penfro, wedi cyrhaedd yno a byddin, trwy orchymyn y brenin, i osod terfyn ar fywyd Gruffydd ei frawd-yn-nghyfraith. Yr oedd perffaith elyniaeth yn bodoli rhwng Gerald ac Owain, o herwydd y trais wnaetb yr olaf ar wraig y blaenaf, a phan welodd rhai o wyr Owain fod Gerald yn dynesu, hwy a aethant ato i'w hysbysu o'r perygl yr oedd ynddo. Ond ni fynai ef gredu fod pery»l, gan eu bod ill dau i gydweitbredu i ddwyn i ben amcan eu brenin. Ond yr oedd y meddyl- dir/ch wedi taro yn mhen G pi 10d J wedi -cuei cytteuBtra dr diwedd i ddial ar Owain am y sarhad a wnaeth ar ei wraig, ac felly heb oedi efe a ar- weiniodd ei fyddin i chwilio am Owain, ac mor faan ag y daethant yn ddigon agos, gollyngasant gawod o slethan at Owain a'i .wyr. Pan welodd Owain hyn, galwodd ar ei wyr, gan en hanog i ymwroli, er fod y iyddin wrthwyn- ebol yn saith am bob un ag oedd gan- ddo ef; mai byddin o Ffleming oedd- ynt, ac y buasent yn ffoi wrth swn yr enw Cymry, ac nad oeddynt yn enwog mewn dim ond meddwi a gloddesta. Calonogodd hyn ei wyr i wrthsefyll, ond ar ddechrea yr ymdrechfa, sudd- odd saeth i galon Owain, fel y syrth- iodd yn gel -in yn y fan. Fally trodd ymgais Harri am fywyd Gruffydd yn aflwyddianus y tro hwn etc, a gwel- odd mai y ffordd oreu i gadw y wlad yn heddychol oedd caniatau i Gruffydd feddianu rhyw ran o'r Deheubarth ac felly gwnaed heddwch ar yr amod fod Gruffydd i gael an Cwmwd yn cynwys deuddeg Maenor, a haner Cantref Caio, i'w dal yn feddiant fel deiliad i Harri Brenin Lloegr. Wedi i Gruffydd gadw meddiant o'r rhan a roddwyd iddo am ddwy flynedd mewn heddweh a llonyddwch, darfu i rai o'r Normaniaid ei gamgyhuddo o anffyddlondeb i'r I- y goron, yr hyn a barodd i Harri ei ddi- feddiann o'r tiroedd. Pan ddeallodd (gruffydd fod ei feddianau i gael eu cymeryd oddi arno trwy drais, efe a anfonoddgenhadcn mewn dull hedd- yehol i ofyn y rheswm am yr ymddyg- iad, a chan na chafodd atebiad, efe a barotodd i amddiffyn ei hun a chaf- odd gan Hywel ab Meredydd i uno ag ef i yrn y Normaniaid a'r Ffleming allan o'i diriogaethau, a hyny heb dy- wallt ond can lleied agy gellid o waed.

CREFYDDAU A CHENEDLOEDD TWRCI.

. CROMWELL.'

t Y GOLOFN AMERICANAIDD.