Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CWMAMAN, ABERDAR.

Advertising

DIFETHIANT TWROI.

ABERDAR.

ILLITH YR HEBOG GLAS.

RESOLVEN.

News
Cite
Share

RESOLVEN. MASNACH.—Nid yw masnach yn myned yn mlaen cystal y dyddiau hyn a'r mis- oedd sydd wedi myned heibio. Dau a thri diwrnod yr wythnos yw y gweithio mwyaf yr wythnosau hyn, a thylawd iawn yw amgylchiadau yr ardal o her- wydd hyny. Ond er fod masnach yn farwaidd, darfu i'r cyfundebau crefyddol sydd yn y lie ymdrechu yn fawr er ded- wyddu ychydig ar ieueuetyd Ysgolion Sabbothol yr ardal dydd Llun Slilgwyn, trwy roddi iddynt wledd o de a bara brith. Gwahoddwyd yagol y Methodistiaid gan Mr. Thomas, arolygwr, i Glyn Castle i fwynhau eu gwledd. Cawsom gae at eiu gwasanaeth, yn nghyd a phob peth angenrheidiol i'n gwneud yn llawen. Treuliwyd diwrnod hapus dros ben. Ar ol diwallu y corff, cafwyd ychydig o ym- arferiadau corfforol. Cyn ymadael can- odd y cor amryw donau swynol iawn. Aethpwyd oddiyno i'r capeL a chafwyd cyfartod adloniadol iawn. Y cadeirydd oedd y Parch. Moses Thomas. Cafwyd adroddiadau pwrpasol iawn gan y plant, ac areithiau ar y perwyl gan y Par«h. M. Thomas, W. Thomas, Ysw., a Glan Clyd- ach. Canodd y cor drachefn amnrw don- au o Swn y Juwbili, yn nghyd a r ddwy anthem, 'Clyw, O Dduw, fy llefain,' a Bendigedig.' Wedi talu diolehgarwch i'r rhai a wasanaethasant wrth y byrddau, &c., yn nghyd a Mr. a Mrs. Thomas, Glyn Castle, ymadawodd pawb yn llawen a boddlongar, wedi mwynhau diwrnod hyfryd, a dymuniad am gael un tebyg yn fuan eto. RODRI.

WERN, GER PENCLAWDD.

DALIER SYLW EVANS' QUININE…

Family Notices