Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CWMAMAN, ABERDAR.

News
Cite
Share

CWMAMAN, ABERDAR. DAMWAIN HYNOD.—Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf syrthiodd merch fechan Mr. D. Rees, Forchneol Place, or lie ucliod, yr hon sydd rhwng dwy a thair oed, i lyn o ddwfr gerllaw y Globe Inn. Y mae y llyn dwfr hwn wedi ei wneud can Mr. Bevan er mwyn bod yn foeder fw waith. Mesura oddeutu wyth troed- fedd o ddyfader, a'i led yn lhywbeth at yr un maintioli. Yr oedd ynddo o bed- war i chwech troedfedd o ddwfr pan syrthiodd y plentyn iddo. Ni welodd neb hi yn syrthio ond dau neu dri o blant oedd yn dygwydd bod yn chwareu yn y fan ar y pryd, ac yn eu mysg brawd y fechan a syrthiodd, yr hwn sydd vchydig dros bedair oed. Gwnaeth llefau a gwaeddiadau y plant dynu sylw menyw sydd vn byw yn yr ymyl; ac wedi i hono ddeall fod plentyn wedi syrthio, gwaedd- odd ar ei phriod, yr hwn oedd gyda ei waith fel peirianydd yn mhwll Mr. Bevan. Daeth hwnw i'r lie mor fuan ag y gallai, ac erbyn hyny yr oedd yno dayn arall. Ond gan nad oedd yno arwydd yn y byd fod neb wedi syrthio, medayliasant mai camgymeryd oedd y plant. Beth bvnag, aethant i chwilio y pwll a darn o bren, gan feddwl os oedd hi yno ei bod erbyn hyny wedi boddi. Wedi i'r ddau ddya chwilio am ychydig, a methu taro wrtni. barnent nad oedd y plentyn yno. Ona llefai ei brawd byehan o hyd, a dywedai fod ei chwaer fechan wedi cwympo i'r pwll mawrt a dywedai plentyu arall yr un Eeth. Gyda hyny tarawodd pren im o onynt yn ei dillad, a chodwvd hi i'r wyneb, ac ymaflwyd ynddi. Yr oedd o ran ymddangosiad yn hollol farw. Wedi iddynt ei rhoddi i lawr taflodd gryn lawer o ddwfr i fyny, ac yn ffortunus iawn daeth Dr. Griffiths heibio ar y pryd, a chymerodd ati, ac yn fuan canfyddwyd nad oedd bywyd wedi llwyr adaef. Boreu tranoeth yr oedd y plentyn fel arfer, mor hoyw a bywiog ag erioed, yr hyn a ym- ddangosai i bawb a'i gwelodd yn cael ei chodi o'r dwfr fel gwyrth. Y mae clod a pharch yn ddyledus i'r ddau ddyn, a h phawb fu yn nghylch ei chael o'r pwll, ac yn neillduol i Dr. Griffiths, yr hwn yn ddiau a fu yn gyfrwng effeithiol i gael y plentyn i sefyllfa a chyflwr o ddy- ogelwch. Diamheu genym y teimlir Earch mawr gan rieni y fechan iddo tra yddont byw, a gall nithau wedi iddi dyfu i fyny edrych arno fel un fyddo wedi dyfod a hi yn ol i fywyd o borth marwolaeth ei hun'. Gobeithiwn y gwna Mr. Bevan dalu sylw buan i'r angen- rheidrwydd o well fencing o amgylch y pwll dwfr hwn, oblegyd mae yn beryglus iawn gan ei fod mor agos i'r brif ffordd. Nos Lun diweddaf, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgoldy Brytanaidd y lie uchod, mewn eysylltiad ag agoriad dar- llenfa yn y lie. Cymerwyd y gadair gan Mr. LL Llewelyn, arolygydd cwmni j Powells Dyffryn. Agorodd y cadeirydd y cyfarfod gyda nodiadau pwrpasol ac awgrymiadol dros ben. Da genym weled Mr. Llewelyn yn cymeryd y fath ddy- ddordeb mewn symudiadau o'r natur yma. Nid yn umg y mae yn cefnogi y mudiad trwy ei bresenoldeb mewn cyi- arfodydd cysylltiedig ag ef, ond hefyd yn rhoddi yn haelionus tuag at ei gario yn mlaen. Cafwyd anerchiadau byrion gan Mri. R. Evans, W. Davies, G. Thomas, White, J. Thomas, a'r Parchn. H. Davies, W. Davies, a T. Humphreys. Ar 01 cyf- lwyno diolchgarwch gwresocaf y eyfarfod i'r cadeirydd, ymadawyd gyda theimlad ein bod wedi cael eyfarfod da iawn. C beithiwn y gwna trigolion Cwmbr an gefnogi y sefydliad gwerthfawr hwn, yn neillduol felly y bobl ieuainc.

Advertising

DIFETHIANT TWROI.

ABERDAR.

ILLITH YR HEBOG GLAS.

RESOLVEN.

WERN, GER PENCLAWDD.

DALIER SYLW EVANS' QUININE…

Family Notices