Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

" G." A'l GABLDRAETH.

News
Cite
Share

G." A'l GABLDRAETH. MR. GOL.Er fod Judas y bradychwr wedi ymgrogi, a'i gorff wedi pydru yn y ddaear ddu er ys rhagor na deunaw cant o flynytldau bellach, eto. mae ei epil mor ddiwyd yn bradychu y diniwed heddyw ag erioed. Y maent mor barod i gablu a gwarthruddo dynion gan nad pa mor enwog y byddout am eu diniweidrwydd a'u hunanymwadiad. Mewn gwirionedd, ni cha yr un dyt. lonyddwch ganddynt os meddylient eu bod yn ddigon o ddyn- ion i'w drechu mewn iaith gableddus ac enllibus. Dyna G.' yn eich rhifyn di- weddaf yn fy nghablu i, a hyny am ddim. Fachgen, well i ti edrych ati. Beth sydd a fynot ti a fi ? A ydwyf fi wedi §W1J6J1(^ acho» 1 g°di dy lef, ac i fal- aorddan anwireddau ar faes y byd 1 Cofia na elli ddysgwyl cael Ilonyddweh tra byddot yn myned yn mlaen yn y cy- feiiiad hwn. i frewyll i farch, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn yr ynfyd,' medd y I gwr doeth, a'r wialen gei dithau hefyd os na ddiwygi, a hytiy ar frys. Yr ydwyt yn ddigon haerllug a beiddgar i unryw beth. Nid oes yr un weithred yn rhy iselwael fel na fedri di ei chyflawni, ond bvdded hysbys i ti, a phawb ereill o'r Frenhines gyfoetbog ac urddasol ar ei gorsedd i lawr hyd at Peter Junk y car- dotyn dinod, nad wyf yn prisio fawr am dy enllib, gwarthrudd, na'th ymgrewc- ian. Nid yw dy lol a'th faldordd yn aflonyddu dim arnaf. Sonia 'G.' ryw- beth am ryw nifer o fechgynos yn cynal cyfarfod bychan nad yw o un pwys i neb wybod dim yn ei gylch ond hwy eu hun- ain, <fec. Dim pwys, cofier. Rhaid cyfaddef fod y didduw yn rhy gibddall i weled fod pwys hyd y nod mewn cynal cyfarfodydd o duedd dda, ac efallai mai un o'r boblach hyn yw G.' Yr oeddwn i wedi arfer meddwl nad oedd golygydd- ion newyddiaduron yn caniatau i gymaint a llinell gael ymddangos ar eu tudalenau os na fuasent yn gweled rhyw bwys yn y linell hono. Ond wele yr archolygydd am fy ngorfodi i gredu yn wahanol. oblegyd dywed ef fod tri golygydd wedi caniatau i gofnodiad or cyfarfodydd 'dibwya' hyn gael ymddangos ar eu tu- dalenau llachar. Ond beth yw barn tri golygydd galluog yn ochr barn gul a chrabachlyd Mr. 'G.' Yn nesaf daw yn mlaen at res 0 ffugenwau. Yn wir, nis gallaf lai na thalu teyrnged o ddiolch- garweh iddo am y ffugenw newydd yma, sef4 Elan Aeron,' gallaf ei sicrhau na ddarfu i mi weled yr enw fel y mae uchod o'r blaen. Ond nid oes gwahan- iaeth yn y byd am hyny. Nid yw o fawr pwys gan Mr.' G.' pa un a'i gwir neu an- wira ysgrifena. Ar ol trin a thrafod tipynary cyfarfod 'dibwys' a gynal- iwyd yn Llwynhendy, ac arllwys ei gyn- wysiad gwenwynig ar draws y cadeirydd, -ie, y cadeirydd sydd yn ei fiino, cof- iwch—dechreua ymosod ar lane o ganwr, sef y byd-enwog Alaw Hendy. Oni bae hwn, cawswn i a'r cadeirydd, Morgan, lonydd. Bu dadl frwdfryaig rhwng Alaw Hendy a David Jones, o barthed merch fechan D. Jones, yn y Llanelly Qua/rdian yr wythnos ddiweddaf. O'r diwedd, aeth y ddadl yn rhy frwd a phersonol, fel y gorfu ar y golygydd parchus folltio y drws yn eu t erbyn. A chan na chawsant arllwys digonou llys- nafedd yn y Ckwdian gwelaf fod 4 G.' am ddwyn yr un hen ddadl anfuddiol eto i'r D ARIAN. Fe allai mai dadleuon o'r natur hyn gyfrifa Mr.' G.' yn bwys- ig.' Wrth derfynu, yr wyf yn gofyn i'r mawreddog Mr. 'G.' ddyfod allan o dan ei enw pnodol, os oes ganddo air i'w ddweyd neu i ofyn ac os na chydsynia Mr.' G.' a'r amod hon, credaf na ddylas- ech chwi, Mr. Gol., roi eich maes yn agored iddo. Ni ddylasai dyn gael bradychu dyn arall o dan gysgod ffug- enw. DANIEL JAMES (Daniel Ddu.) [Dim gair yn ychwaneg arypwnc.-Gol.]

CYFARFOD Y GLOWYR YN LLANFABON.

GLYNNEDD.

[No title]

Advertising

GLOWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU.

! GOSTYNGIAD PRIS ETO.

EISTEDDFOD TREFORGAN.

HANES RHYFEDD.

GWELLHAD HYNOD.

YR HYN A ^LY^WAIS.