Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Y TRYDYDD DYDD.

Y RHEITHFARN.

[No title]

PATAGONIA.—ATEBIAD I ' PIO.'

[No title]

Y BWRDD CYMODOL.

CHWIFF GLOWYR YSTALYFERA.

,..'DYF^RYN TAWE.I

News
Cite
Share

DYF^RYN TAWE. MRI. GOL.,—Gwelwch fy mod wedi ymgymeryd a chofnodi dygwyddiadau sydd yu cymeryd lie yn mhlith dynion mawrion a phwysig cymdeithas, tra mae cofnodydd eich cydwythnosolyn wedi dewis chwilota y ffosydd am ddygwydd- iadau yn mhlith cymdeithas i'w cyfhodi. 'Adar o'r un Iliw A ehedant i'r un lie.' Clywais fod swyddog cyfrinfa neillduol o dan effeithiau Syr John Barleycorn mewn lie cyhoeddus. Clywais fod swyddog sefydliad yn cablu a rhegu yn erwin am na chaffai ef gan y cyfarfod cyffredinol ail ethol ei hen gydswyddogion. Clywais am fwrdd a'i fwyafrifyn Rhydd- frydwyr trwyadl wedi talu deg punt am weddiau i'r plant. Clywais fod sefydliad neillduol gan' punt mewn dyled, er fod prif gyfrifchwil- wyr y dyffryn wedi sicrhau ei fod yn elwa a'r cyfrifon yn gywir. Gwelais fod annealldwriaeth yn mhlith y frawdoliaeth asgellog. Gwelais ddodrefn person neillduol yn cael eu cymeryd ymaith am ddyled. Gwelais fod ustus parchus, gyda ei frodyr, wedi gorfod cospi ei gydaelod am ymddygiad anweddus. Tair dichell satan er cael myned a'i ganlynwyr i'r capelau Ymneillduol- Cynal cyngherdd er budd i'r claf a'r anghenus, can 0 glod i'r gweinidog, a beddargraff i'r hen ddiacon yn yr eis- teddfod, a rhan o'r elw at gyweirio neu baentio y capel. Pedwar testyn gorfoledd-Nad ydym ni yr Eglwyswyr, fel yr Ymneillduwyr, yn rhoddi ein Ileoedd cysegredig at gynal eisteddfodau achyngherddau; fod y faril a'i phleidwyr wedi cael dau aelod ar y Bwrdd Ysgol; fod ein plaid ni (plaid y Beibl) wedi cael dau gymeriad teilwng ar y bwrdd, tra na chafodd yr Ymneill- duwyr ond un ao mai ond oddeutu wyth ugain o bedwar cant o bleidleiswyr aeth i'r poll. Dyma enghraifft o'r Ymneillduwyr sydd yn ymffrostio cymaint yn eu heg- wyddorion a'r ddwy fil, gan ein pardduo ni y blaid Eglwysig yn barhaus, onite? Gwelais, a chlywais hefyd, ar fy ym- daith trwy y dyffryn am lawer o bethau ereill anweddaidd yn mhlith yr v/pper ten; ond gan fy mod dan arwydd y Royal Queen, rhaid rhoddi pen ami yn y fan yma, a myned i orphwys. G. T.

LLITH YR HEBOG GLAS.

EISTEDDFOD FAWREDDOGI DOWLAIS.

[No title]

Advertising

TREFORRIS.

YB AIL DDTDD.