Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

AT GREFFTWYR A GWEITHWYR CYMRU…

MERTHYR—PERFFORMIAD Y 'CREATION.'

LLANELLI.

RHYFEL, BARA, A MASNACH.

BWRDDD YSGOL BEWELLTY.

News
Cite
Share

BWRDDD YSGOL BEWELLTY. Gan y bydd y DARIAN yn llawytreth- dalwyr diwrnod etholiad y Bwrdd uchod, carwn i fy nghyd etholwyr i ystyried yn ddifrifol pwy sydd gymhwys i feddianu y seddau yma. Mae o'r pwys mwyaf i'r Ymneillduwyr i gael dynion egwyddorol, ac nid yn fedd- ianol ar yr egwyddorion hyny yn unig, ond yn berchen ar allu i'w cario i fudd- ugoliaeth trwy anhawsderau. Mae ymdrech mawr yn cael ei wneud gan rhyw glic hunanol sydd yn y plwyf i gau y drws y tro hwn yn erbyn yr hen gadfridogion sydd wedi ymladd dros egwyddorion ymneillduol mor ddewr a phenderfynol yn ystod y tair blynedd diweddaf. Mae yn golled mawr i'r plwyf fod y dewr a'r medrus Matthetes yn ffarwelio a'i lanerchau, ac wedi sicrhau trigfan ar fynwes Morganwg. A bendigedig fydd y bobl gaifffwynhau ei delentau dysglaer. Ond os collasom Matthetes, Mae y Parch. Edward Davies yn aros eto, ac Mae ei allu, ei fedr, a'i ffyddlondeb, yn nghyd a'r gwrhydri digymhar mae wedi wneud ar ran Ymneillduwyr y plwyf yn y Bwrdd diweddaf, yn rhwymo pob Ym- neillduwr ar dir cyfiawnder a rheswm i'w ddychwelyd y tro hwn eto. Mae yn syn genym feddwl fod neb yn yr anwad parchus mae yn aelod o hono mor am- ddifad o synwyr cyffredin a gwrthwynebu dyn sydd wedi gwneud cymaint dros Ym- neillduwyr, ac un sydd yn meddu ar y fath gymhwysder i lenwi y cylch hwn. Fethodistiaid, mae yn ddyledswydd arnoch i sefyll yn ddigryn dros Edward Davies. Nid yn unig bydd ei ddychwel. iad yn anrhydedd i chwi fel enwad cre- fyddol, ond bydd yn anrhydedd i holl Ymneillduwyr plwyf Bedwellty, ac i Gymiy benbaladr; a diamheu y dylai pob Ymneillduwr sydd yn berchen egwyddor gywir, daflu hatlin i drysorfa Davies ddydd y poll. Dvwedai Matnetes yn ddiweddar y byddai yn golled anrhaethol i golli Davies o'r Bwrdd a dywedai y byddai yn well ganddo fod allan ei hun na gweled Davies allan. Hefyd, dywedodd inspect- or y llywodraeth, pwy ddydd, wrth y Parch. J. P. Williams, Pontlottyn, mai Davies ydoedd y dyn mwyaf ei allu a'i wybodaeth, mewn cysylltiad a Byrddau Ysgol, ag yr oedd efe wedi gyfarfod ar ei daith, oddar pan mae yn arolygu ysgol- ion. Wrth hyn fe wel pob dyn diragfarn mae ein dyledswydd ydyw gosod Davies yn uchel ar y llechres dydd y poll. TRETHDAL WR.

EGLWYS Y GADLYS, ABERDAR.

DRUDANIAETH TAI YN .NHREORCI.

FERNHILL-PETHAU O'U LLE.

BRAWDLYS GWANWYN MOR, GANWG.

[No title]

Advertising