Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

LLUEST Y MYHYDD.

News
Cite
Share

LLUEST Y MYHYDD. CHWEFROR 11, 1876. IEUAN Goch a ofynodd i Owain i egluro pa fodd yr oedd efe yn gallu profi fod honiadau, ffurfiau, a defod- au Cymdeithas Hen Sgidie yn rhai Pabyddol. Owain a ddywedodd. Cymerwch ffurf cysegriad neuadd, fel ei ceir yn nhudalen 288 y llyfr Americanaidd, a gyhoeddwyd gan un o brif swyddogion yr nrdd, ac a ledir dros y wlad i gyfarwyddo ei haelodau. Dywedir yno7 Gosodir yr allor yn nghanol y neuadd, amgylchyna y swyddogion yr allor, a'r aelodau tu allan idd- ynt! DarUenir rhaucm o'r ysgry- thyr (!) gan y Sabbi. Hyn fydd dechreuad y gwascmmth (!) Dywed y Swyddog uchaf:- Y mae y seremoniau a gyflawnir genym yn cael eu eefuogi- gan arferion cysegredig hen amseroedd an- rhytfedd'iis Y mae cysegroedd crefydd wedi cael eu neillduo trwy ddefodau dylanwadol. Yr ydym yma yn yumno mewn rhwymau brawdol dirgel. Yma yr ydym yn cyfodi ein liallor gysegredig. Gan ddal cwpanaid o ddwfr yn ei law, dywsd efeYma, yn enw Cymdeithas Hen Sgidie, yr wyf yn cysegru y lie hwn, at ddibenion cysegred g ein sefvd- liad. Yna taenella y dwfr ar y llawr !r' Sylwer, fel y dengys y dyfyniadau uchod, yr oedd y swyddogion ereill a'r aelodau i fod o amgylch yr allor. Ond yn nghysegriad gweithredol yr allor a'r neuadd, nid oes dim llaw gan neb ond v swyddog uchaf. Yr wyf yn eysegru" yw ei iaith. Y mae hwnw yn cael ei osod i fyny wrth reol argratfedig, yn fath o Bab, neu esgob, i gysegru yr allor a'r neuadd, heb fod rhan na chyfran gan neb o'r swyddogion na'r aelodau sydd yn bresenol, yn y gwaith. Gwna efe hyny yn enw yr urdd, fel y gwna y Pab yn enw Eglwys Rufain. Efe yw'rurdd aryr ach- lysur, fel mai y Pab yw'r Eglwys yn ngol- aelodau cySi edic. Y mawredd eithriadol- wgy Pabyddion. Slafiaid ffeudalaidd yw'r unbenaethol hwn, a berthyn i swydd, fel yn Eglwys_ Eufain, yw y maen tynu sydd yn peri i luaws fod yn selog dros y gymdeithas. Gan fod cynifer o swydd- ogaethau, a'r ffordd yn fer i'w cyrhaedd -dim ond ychydig o gyfrwy^lra gyda'r pleidleisiau yn y salon dyna'r dyn uchelgeisiol yn D.D. double dunce, heb astudio un gramadeg yn ei oes, na bod yn gymaint a gwenynen sillebol erioed. Tra y mae teitl colegaidd o M.A. neu D.D. yn costio arian, amser, a llafur mawr, y mae y corach pen mynydd, anllytbyrenog, yn cael y teitl o D.D. heb drwbwl gan salon ymhongar o greadur- iaid anwybodus fel ef ei hun. Derbynia lythyrau gyda'r post wedi eu cyfar- wyddo to the Rev. Esau Arfonwyson Powell, D.D. Ac os bydd dyeithriaid yn camsynied y D.D. am Doctor Divinity, yn lie Double Dunce, goreu i gyd, gan mai rhwysg dirgelwch yw holl werth y cwbl a fedd yr urdd, fel dirgel bethau Pabyddiaeth. Rhoddodd offeiriad Pab- aidd flwch bychan i ferch, fel swyn i'w garib oddeutu ei pherson i gadw y diafol a phob drwg oddiwrthi. Ond nid oedd hi i agor y blwch ar ei bywyd, oblegyd os gwnai, meddai efe, byddai yn agored i gael ei difetha gan holl ellyllon anwn. Ond cafodd rhyw wag afael yn y blwch ac agorodd ef. A beth oedd ynddo, wedi'r cwbl, ond blawd llif! Yr hyn sydd yn cynhyrfu swyddogion Cym- deithas Hen Sgidie yn fy erbyn i, yw, fy mod i yn agor hen flyehau gwael eu jswyngyfaredd hwy, ac yn cael ynddynt bethau gwaelach o lawer na blawd llif, a fy mod i yn hysbysu y gwirionedd wrth y bobl a geisiant hwy eu twyllo a swyn- ion eu dirgeledigaethau Pabyddol. Ond dyna beth Pabyddol arall:—Yn nghysegriad yr allor fel y gwelir uchod, taenella y prif swyddog ddwfr ar y llawr yn ol deddf yr urdd. Gwneir yr un peth bron yn gwbl gan y Pab, wrth gysegru allor. Dywed awdwr Faiths af the World o dan y gair Altar gyda golwg ar dde- fodau Eglwys Rufain, yn nghysegriad allor, The Pontiff, in mitre, dips the thumb of his right hand in the water he has blessed, and with that thumb and the said water makes a cross on the centre of the altar-slab," &c. Rhoddir lie mawr i holy water gan y Pab ac yn y salons. Cyn cyflawni y ddefod uchod darllenir rhan o'r Ysgrythyr fel y gwneir yn nefod Cymdeithas Hen Sgidie. A chan fod y prif swyddog yn y gwaith o gysegru yn cyfeirio at "arferion cysegre- dig hen amseroedd anrhydeddus," diau ei fod yn cyfeirio at arfer" y Pab wrth gysegru allor, yn ol deddf y Pontificate Romanum, oblegyd y mae y defodau mor debyg i'w gilydd a dau chignon, y tyrau sydd wedi bod ar benau y merched, i ateb chwaeth oddities defodol rhamantus yr oes. Os dywedir fod Father Bristol wedi cael y defodau yn ffurfiau y Free Masons, ni fydd hyny yn gwella dim ar y mater, oblegyd yr oedd y Free Mason, yn bodoli, yn ol eu tystiolaeth eu hunains mewn amser paganaidd cyn gwawr j Cristionogaeth. Yr oedd ypaganiaid yn J myned trwy la-wer o seremoniau wrth gysegru eu hallorau, fel y dengys Faiths J of the World. 0 ffurfiau y Paganiaid yn i Groeg a Rhufain y cafodd Eglwys Ruf- ain ei defodau hi. A hyn y cytuna holl haneswyr y byd. Gan hyny o'r unffyn- onell baganaidd y mae y tair ffrwd yn tarddu, y Masonic order yn ei seremoniau, os ydynt fel rhai Cymdeithas Hen Sgidie, a [defodau Pabyddiaeth, a'r def- odau a berthyn i'r urdd dan sylw. Dylid cofio hefyd fod y Pab presenol wedi bod yn Free Mason am iiynyddau, pan yr oedd mewn sefyllfa uchel yn Eglwys Rufain. Hynod ei fod wedi cweryla a'r urdd hono. Eto y mae hyny yn ol arfer y Pabau. Cwerylodd amryw Babau a'r urdd Jesuitaidd. Ond y mae hono mewn bri mawr gan y Pab presenol. Y mae Cymdeithas Hen Sgidie wedi anfon cen- adwri ostyngedig at y Pab gan ofyn iddo ddadgan ei gymeradwyaeth o honi. Felly y tystia ei haelodau. Rhoid gan hyny nad yw defodau yr urdd yn rhai Protestanaidd am y gwyr ei swyddogion fod y Pab yn melldithio Protestaniaeth. Pe buasai y Pab yn cydnabod yr urdd, efe fuasaiyn ben ar ei gweithrediadau hi, mewn canoedd o salons. Nid oes diolch i swyddogion uchaf yr urdd nad yw hyn yn bod. Ond os gwel Cardinal Manning fod pethau Pabyddol yn add- fedu yn yr urdd, ac y byddai ei gweith- rediadau hi yn fanteisiol i ledu Pabydd- iaeth, gallai efe yn hawdd ddylanwadu ar y Pab i ganiatau rhyw fath o gydna- byddiaeth o honi. Ofer yw dweyd ei fod ef yn erbyn cymdeithasau ddirgelaidd am ei bod yn ddirgel, oblegyd urdd ddirgel yw urdd y Jesuitiaid yr hon a fawrha efe, a chefnoga ddirgelwch uffernol y Gyffes-geil. Cofied y Cymry fod ffurf cysegriad yr allor a'r neuadd gan Gymdeithas Hen Sgidie, yn ol y ffurf uchod yn cau Crist allan yn hollol. Y mae yn v ffurf emyn, (Air, Bonnie Doon)" heb un gair am Grist mewn pedwar penill. Hwn yw yr emyn agoriadol. A gofynir i Dduw, fel Duw y cariad," am fendith ar gysegriad yr'' allor!" Ac yn ol ystyr y gair,nid oes allor heb aberth. Ond cedwir aberth Crist yn gwbl o'r golwg. Gan hyny allor baganaidd Babyddol raid iddi fod. Hefyd yn ngweddi y Rabbi ar ddiwedd y seremoni, nid oes sillaf am Grist na'i aberth, ond mawrygir y gymdeithas yn y geiriau mwyaf chwyddedig, gerbron Duw. Cenir emyn yn y diwedd (Air, Auld Lang Syne), heb fod sillaf yn hwnw, mewn pedwar penill, am Grist na'i aberth, er y sonir am Ffydd, Gobaith a Chariad, yn ystyr dymhorol y prif swyddog yn ei araeth. Cyfeirir at rwymau cariad" allan o Grist. Yr oeddwn wedi bwriadu gwneud sylw ar lawer o bethau ereill, ond yr wyf yn rhwym o'u gadael hyd y tro nesaf. LLUESTWK.

LLYTHYREHEDYDD PENPYCII- i

CWMLLYNFELL.

HIRWAUN.

CYFARFOD LLENYDDOL GWAWR,…

HEN BERSONAU.

AT Y BEIRDD.

Family Notices

CASTELL CAREGCENEN.

Y BEDD.

PELLEBYR MOR Y WERYDD.

* LLINELLAXJ

LLONGDDRYLLIAD.