Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

AT D. THOMAS, FFYNON TAF.

News
Cite
Share

AT D. THOMAS, FFYNON TAF. SYR,—Gwelais ysgyrnygiad eich danedd yn y DARIAN cyn y diweddaf. Yrydych yn teimlo am i mi godi'r wawch yn erbyn ymosodiadau ysgrabinllyd pawenau cathod eich cyfaill. Carech fy ngweled yn dyoddef yn llibrmaidd, ac yn bwyta pastai tawelwch. clan y driniaeth, yn ddiau. Cofiwch mai eicb cyfaill a'i gyf- eillion yntau a osodasant orfod arnaf i ysgrifenu yr hyn a ysgrifenais. Nid oeddwn wedi nodi digon o ddiffygion" yr Arweinydd a'i gor wrth fodd un, ac yr oedd y Hall yn awyddus iawn am glywed "rhagor," Bu'm garediced wrthynt ag oedd modd ddydd yr Eisteddfod; ac ni fuaswn yn cyhoeddi dim am danynt pe cawswn lonydd. Ond er y cwbl, mae yn bosibl i ni ddyfod yn gyfeillion eto. Mae eich sefyllfa chwi yn fwy peryglus. Mae Ilawer ymyrwr wedi ei chael hi yn waeth nicr ymladdwr. Mae eich casgliad chwi oddiwrth gymhariaeth y crychydd yn ysmala a chwerthinllyd rhyfeddol. Mae ti^jfegnt i bob peth o'r fath ag a welais er^jed. Hefyd, mae cymharu yr ar- weinydd i geffyl," fel ag y gwnewch chwi, yn llawn cynddrwg a'i gymharu yn curo'r awyr a'i freichiau i grychydd yn ysgwyd ei adenydd. Ai onid ydych yn barnu eich bod wedi gosod eich coes ynddi," ys dywedai Punch ? Yr wyf fi yn barnu oddiwrth eich ysgrif y byddai yn fantais i chwi gofio cynghor yr Ynad Llwyd, sef siarad pan fo'r cwrt yn eich galw," rhag ofn i chwi wneud creadur hir-glustiog o honoch ei hun, yr hwn sydd yn llawn mor nodedig a'r creadur hir-adeiniog y cyfeiriwyd ato. Yr eiddoch, &c. JENKIN HOWELL. [Yr ydym yn ddiolchgar i chwi am eich haddewid, bydd yn dda genym eu cael.- GOL.]

L'ERPWL.

Y TYWYDD.

O'R WEST.

TANYSGRIFIADAU AT Y BWRDD…

IDARGANFYDDIAD RHYFEDD

IE, EISTEDDFOD LLWYNPIA ETO.