Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

KARL Y LLEW;| NEU ! MAR GEO…

News
Cite
Share

KARL Y LLEW; NEU MAR GEO G Y LLAW GOCR PENOD VIII. BYDDAI yn anhawdd iawn desgrifio teimladau Karl pan oedd yn parotoi i ffoi. Nis gailai ef ei hunan ddweyd beth oeddynt. Yr oedd presenoldeb y gwrthddrych hardd a welodd yn ei freuddwyd o'i flaen, yn nghyd a'r dad- gnddiad rhyiedd ei bod hithau wedi ei weled yntau, yn ei lanw a syndod. Ond nid oedd ganddo amser i feddwl llawer. Cafodd fod ceffyl y swyddog cwympedig wedi ei addysgu yn dda, a llwyddodd yn fuan i osod y cyfrwy yn y fath fodd fel y gallai Gertrude farch- ogaetb yn rhwydd arno. Yr wvf yn meddwl," mcddai Gertrude. fod yinborth yn y bwthyn. Gwelais Zentil yn cariopasged Efailai ei bod yn meddwl y byddent allan drwy y dydd, a daethant a lluniaefcli gyda hwy." <S Os oes ymborth yn y fasged," ebai Karl, "bydd yn fendith fawr i ni. Mi a edrycha ar unwaith." Cafodd fod yno ddigon o fara, cig, a girfki, ac wedi ei sicrhau a'i hongian wrth gefn ei gyfrwy, aeth i gynorthwyo Gertrude ar gefn ei cheffyl. Yr wyf yn meddwl," ebai, wedi iddo yntau esgyn, y gallaf gael gafael yn fy ffordd yn ddiofid o hyn allan. Collais fv ffordd yn y goedwig, a dyna'r rheswm fy mod yma." "Dylwn gydymdeimlo a chwi yn eic-li anffawd, Syr Karl, ac eto, rhaid i mi ddweyd y gwir, nad wyf mewn modd yn y byd yn fiin eich bod wedi colli y ffordd. Gall hyna fod yn wir," ebai Karl, a theimlad ei galon i'w weled yn amlwg ar ei wyneb Y mae yr hyn oedd yn y boreu, i'm tyb i, yn ymddangos yn anffawd, wedi ei draws gyfnewid gan y nefoedd dirion yn fendith." Ond rhaid i ni beidio aros yn hir yn y lie yma," ychwanegaTr Marchog. A wnewch chwi fy nilyn." Gwnaf." Yna gadewch i ni ymadael mor fuan ag y gallwn. Ac yn awr Hector," ebai wrth ei geffyl, "cei ddewis dy ffordd. A ydwyt ti yn meddwl y gelli gadw ar y Ilwybr y daethom ar hyd iddo." Cychwynodd yr anifail ar unwaith, a'r Hall ar ba un yr oedd y foneddiges yn marchogaeth a'i dilynodd ef. Teith- iasant yn y modd yma am tua pbump awr, heb siarad ond ychydig iawn. Yr oedd wedi baner dydd pan gyrhaedd- asant lanerch fechan, drwy ba un y rbedai dwfr grisialaidd a ddisgynai o'r mynydd gerilaw. Meddyliodd Karl y buasai yn welliddynt aros ychydig yn y fan hyny. "Byddai yn well i ni ganiatau i'n ceffylau gael ymborthi a gorphwys ychydig ac," ychwanegai gan wenu, rhaid i mi gyfaddef nad wyf fawr gwell na bod yn newynog fy hunan." Addefodd Gertrude ei bod hithau yr un peth. Felly disgynasant, ac wedi i Karl weini ar yr anifeiliaid, dygodd y fasged a'r bwyd yn mlaen i ochr y gornant, gan osod lie Fr foneddiges i eistedd, ac eisteddodd ei hunan ar y borfa werdd. Yr oedd yn ddigon hawdd gweled fod Mangus Zentil yn cario lluniaeth dda gydag ef. Tra yr Cjeddynt yn bwyta, yr oeddynt am y rhaif fwyaf o'r amser yn ddystaw; ond wedi iddynt gwblhau, torodd Karl y dystawrwydd trwy ddweyd: "Anwyl foneddiges," ebai yn garedig, a chyda theimlad gwylaidd, "dywedodd Max rywbeth wrthyf yn nghylch eich bod wedi gadael y castell, a dywedasoch rywbeth eich hunan hefyd. Carwn gael rhagor o'r hanes." "Gyda'r parodrwydd mwyaf," dy- wledodd Gertrude: "Os gwelsoch fy nhad, dichon eich bod yn gwybod mai 9 dyn'creulawn, caled ydyw." Yr Arch Dduc Rupert." Meddyliwyf fy mod yn ei adnabod yn dda." Temtiwyd Karl unwaith eto i rhoddi hanes genedigaeth y ferch ieuanc yn 11awn ar unwaith iddi, o herwydd gwyddai mai merch y Barwnig Lodwig o Drosendorf vdoedd, ail gofidjo. Ond gailai ddweyd ttai nid y gormeswr gwaedlyd hwnw a elwid Syr Rupert, ydoedd ei thad. A ydych chwi yn adnabod yr Iarll Gaspard, o Valsburg," gofynai Ger- trade. Diia ond trwy glywed am dano. Nid wyf yn creiu fy mod wedi ei weled erioed." "Y na nid ydych wedi gweled y dyn mwyaf drygionus yn Bohemia. Angen- fil ar Inn dyn ydyw. Ond v mae yn gyfoethog ac yn alluog. Ychydig ddyddian yn ol, daeth yr Iarll, a rhai o'i weision gydag efi dalu ymweliad a'r castell, a deallais yn iuan ei fod yn dyfod i'm hawlio yn wraig iddo. Pan apeliais at fy nhad, tarawodd fi, a thyngodd os na fuaswn yn priodi a Valsburg, y cawswn fyned yn gaeth forwyn iddo. Gwyddwn yn eithaf da mai nid bygwth yr ydoedd heb feddwl, a phenderfynais ddianfi. Yn y nos-y neithiwr—llusgais allan o'r llys, a thrwy gynorthwy cyfaill, yr hwn na feiddiai ddyfod gyda mi, gwnes fy ffordd dros y mur. Ni allaswn ddyfod a'm morwyn gyda mi. Dim ond mewn un cyfaill y gallaswn ymddirisd, a phe gallasai ef adael y castell yn ddyogel,. buasai yn dyfod gyda mi." Teimlodd Karl rhyw bang rhyfedd yn gweithio drwy ei gyfansoddiad. Pwy oedd y cyfaill yma, yr hwn oedd mor ffyddlon ? Yr oedd y ferch ieuanc yn siarad am dano gyda theimlad cynhes. Dichon ei bod wedi gadael gwrthddrych ei serch ar ol. Yr oedd y dybiaech yma yn mhell o fod yn hapus. Penderfynodd fynu gwybod y cwbl. Gertrude" meddai, gyda'r fath gyf- newidiad ag a berodd iddi synu tipyn, a oedd y cyfaill yma adawsoch ar ol yn ddilynwr i'r Arch Dduc." Deallodd Gertrude yn union beth oedd wedi achosi y ewmwl yma ar wyneb y marchog dewr. Yr oedd y wen. a ddaeth i'w gwyneb, a'r modd y gosododd ei Haw yn dirion ar iraich ein harwr, yn brawf ei bod wedi deall ei feddwl. Siarad yr oeddwn am Winifred, qeidwad y carchar." Fflachiodd y goleuni i wyneb Karl mewn eiliad. Yr wyf wedi clywed am Winifred," ebai. Clywsoch am un o'r dynion goreu sydd yn y castell ynte," ebai Gertrude. Buasai yn dyfod gyda mi yn gwm- peini pe meiddiasai wneud hyny. Gan hyny, daethum fy hunan, gan obeithio cael y ffordd i fynachdy yn Keilberg. Yr oeddwn i ymguddio yn yr hen fwthyn hyd nes yr anfonai Winifred arweinydd i mi, yr hyn a addawodd wneud mor fuan ag y gallai. Ond daeth fy absenoldeb yn wybyddus i fy nhad yn union. Cyfarfyddais ag un o'r gweision ychydig ffordd oddiwrth y castell, a digon tebyg fod hwnw wedi hysbysu yr hyn a welodd. Beth bynag, gyda ei bod yn dyddhau, clywn swn ceffylau yn fy nilyn. Cyrhaeddais y bwthyn, ond daethant am fy mhen yn fuan. Gwyddoch chwi yr amgylchiadau yn mhellach. Oh, Syr Karl, byddai yn well genyf farw fil o weithiau na dychwelyd yn ol a chydsynio a'r hyn mae fy nhad yn ei ofyn." Tra yn adrodd y geiriau hyn, estyn- odd ei Haw allan, a chymerodd law y marchog. Daliodd Karl ei Haw am eiliad neu ddwy, ac yna dywedodd, "Gertrude, a fyddai yn rhyw gysur i chwi i wybod nad oes dyferyn o waed Frankenstein yn rhedeg drwy eich gwythienau." Yr oedd y ferch ieuanc wedi ei tharo a syndod. "Karl, beth ydyw eich meddwl chwi? Oh, y mae eich geiriau fel rhyw adsaiia i lawer o freuddwydion. Dywedwch a oes lie i mi obeithio fod eich geiriau yn wirionedd." Gallaf eich sicrhau mai nid Rupert o Frankenstein ydyw eich tad. Yr oedd eich tad chwi yn farehog teyrn- garol a chywir, y Barwnig Lodwig o Drosendorf. Syrthiodd yn y rhyfel wafadwyddus hono rlmng y brodyr breninol, Joha ac Otho. Yr oeddynt eill dau yn ddynion drwg. Bu John yn frenin am beth amser, ac yna llof- ruddiwyd ef, a daeth Otho i'r orsedd yn frawdleiddiad, ac os nad efe darawodd yr ergyd, sicr yw mai efe oedd wedi trefnu i'r weithred waedlyd gael ei chyflawnu. Yr oedd Rupert o Frank- enstein wedi bod yn ffyddlawn iawn i Otho, ac mewn adaliad gwnaeth y brenin ef yn Arch Dduc, yn nghyd a'i anrhegn a Chastell Drosendorf, a'r holl diroedd oedd yn perthyn i'r yatad hono. Ac yn mhellach, credwyf fod y brenin wedi eich rhoddi chwi i ofal Rupert." "Ond," ebai Gertrude, nid efe ydyw fy nhad." N age." "Oh, fy mreuddwyd—fy mreuddwyd. Credwyf fy mod wedi gweled fy nhad lawer o weithiau. Dyn caredig, dewr, da, a glan yr olwg. A ydych chwi yn ¡ meddwl fod fy nychymyg lawer o'i le." "Nac ydyw," ebai Karl. Yr oedd- ech chwi rhwng dwy a thair blwydd oed pan welsoch eich tad' ddiweddaf, a dichon ei fod wedi gadael argraff ddwfn ar eich meddwl." Ac y mae un arall hefyd," meddai Gertrude, yr wyf yn gweled gwyneb hardd a charuaidd, yn ateb gan wenu pan fyddaf yn galw MAM." "Digon tebyg," ebai Karl. "Bu farw eich mam tua chwech mis o flaen eich tad." Oh, Karl," ebai Gertrude, "pa fodd y daethoch chwi i wybod hyn." Trwy un sydd wedi bod i mi yn dad, cyfaill, ac athraw, yr hwn hefyd oedd yn gyfaill agos i'ch tad. Collais inau fy nhad yn yr amseroedd gofidus hyny. Felly, chwi welwch, y gallwn gydymdeimlo a'n gilydd. Caniataed Duw i'n ymgyfarfyddiad esgor ar ryw ddaioni i ni ein dau." Ni ddywedodd Gertrude yr un gair. Pwysodd yn mlaen, a'i phen ar fynwes y marchog.

---------------. BEIRNIADAETH…

« JOHN PLOUGHMAN'S TALK."

EFFEITHIAU YFED CWBW.