Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YR HUGUENOTS.I

News
Cite
Share

YR HUGUENOTS. PROTESTANIAETH oedd crefydd mwyaf- rify boblogaeth yn mynydd-dir Lan- guedoc, un o randiroedd Ffrainc. Syrthiodd trallod mawr arnynt pan y penderfynodd y brenin roddi terfyn ar eu haddoliad mwyaf cysegredig. Bu- ont am amser yn ymostyngar, ac yn ymddangos yn ddigynhwrf. Yr oedd eu hamynedd wedi myned yn ddiareb yn mhlith eu gelynion. Galwent ef mewn gwawd yn "amynedd Hugue- not." Ond nid oedd eu herlidwyr yn deall dewrder mynyddig y dynion hyn, yr hwn a ymddangosai oddiallan yn am- yneddgar. Yr oeddynt wedi dyoddef gweled eu capelau yn cael eu tynu i lawr, a'u gweinidogion yn cael eu halltudio, a hwythau yn cael eu gad- ael fel defaid heb neb i'w harwain i'r porfeydd gwelltog. Clywsant fod eu gweinidogion, y rhai a hoffent, wedi cael eu dal yn pregethu mewn lleoedd anial, a'u bod wedi cael eu crogi am wneud hyny. Parodd hyn iddynt ym- gynhyrfu a rhoddi ffrwyn i ddigofaint nerthol. Penderfynasant wrthod ym- adael a'u crefydd, na derbyn hyd yn nod grefydd y brenin yn ei lie. Ni allai y brenin wneud iddynt gredu Eglwys Rufain, mwy na chredu y gall dau a dau wneud chwech. Credent fod ganddynt hawliau fel dynion uwch- law hawliau gorsedd. Barnent fod hawl cydwybod uwcblaw pob un arall. Yr oeddynt yn foddlon rhoddi eiddo Caesar i Caesar, ond ni roddent iddo yr hyn a berthynai i Dduw; ao os gor- fodid hwynt i ddewis rhwng y ddau, teimlent fod yn rhaid iddynt anufydd- hau i'w brenin daearol gwladol, yn hy- trach na gwrthod ufydd-dod i FRENIN y breninoedd. Yn ol y rheol hon, y mae pob dyn duwiol-etifedd y nef- oedd-yn gweithredu yn mbob oes. Rhagrithiwr neu hunan-dwyllwr ar y ffordd i ddystryw yw pob dyn a ufydd- ha i'r dynion uwchaf neu luosocaf yn fwy nag i Dduw. Er eu bod wedi cael eu hamddifadu o'u bugeiliaid eglwysig, eto, oddiar reddf eu hymlyniad crefyddol wrth Dduw, dechreuasant gydnabod eu gil- ydd fel brodyr Protestanaidd yn gy- hoeddus. Er bod eu capelau wedi cael eu tynu i lawr, ymgynullent i addoli yn y meusydd, y gelltydd, ac ar ochrau y mynyddoedd, er fod hyny yn groes i gyfraith y wlad. Gwroniaid yn gwneud fel hyn oedd Daniel a'i gyfeillion, a ffyddloniaid pob oes. Penderfynasant beidio esgeuluso eu cydgynulliad eu hunain. Cadwent eu cyfarfodydd, y rhan amlaf, yn y nos. Lledodd y cyfarfodydd hyn dros ranau helaeth o Ffrainc, nes peri trallod nid byehan i'r Pabyddion a'r brenin erled- igaethus, marwolaetb pa un ar ol hyn a goffasom o'r blaen. Yr ydym yn awr yn dechreu rhoddi hanes ffurf newydd o weithredu a gymerodd yr Huguenots yn ngwyneb yr erledigaeth greulon a osododd y brenin ar droed yn eu her- foyn. Pan y deallodd y brenin a'u swydd- ogion fod y trigolion gwledig mynydd- jg hyn yn cynal cyfarfodydd Protes- tanaidd, lie bynag y gallent wneud hyny, penderfynasant anfon milwyr ywgwasgaru, ac i gymeryd eu har- weinwyr yn garcharorion. Cyflawn- odd y milwyr eu gwaith yn y modd Dlwyaf barbaraidd. Rhuthrent i'r cyfarfodydd, ac a'u cleddyfan noeth- ion torent yr addolwyr diarfog i lawr fel gwelltglas. Crogent ereill ar y coed agosaf. Nid oedd hyn yn tycio i roddi ter- fyn ar y cyfarfodydd. Yr oeddynt yn hytrach yn cynyddu. Meddyliodd yr erlidwyr am ychydig amser y buasai moddion tynerach yn Ilwyddo. By- gythiwyd hwynt cyll eu dyfetha; ond dywedasant y byddai angeu yn fwy dewisedig ganddynt nag ymatal oddi wrth addoli Duw yn ol eu cydwybodau. Meddyliasant yn y diwedd, fel Cyf- amodwyr (Covenanters) Scotland, yn amser Siarls 11., ei fod yn iawn iddynt ymarfogi mewn hunan-amddiilyniad. Tybiasant fod y ddaear wedi cael ei roddi iddynt hwy gystal ag i'w herlid- wyr, a bod ganddynt hawl i amddiffyn eu cyrff ag arfau rhyfel. Nid oeddent yn gweled un ffordd i gynal addoliad cyhoeddus, a dwyn eu cyd-ddynion at Grist, heb wneuthur hyn. Ymunodd gweithwyr mewn ffermydd, bngeiliaid, cymynwyr coed, ac ereill a'u gilydd. Casglasant arian i gynorthwyo eu brodyr a'u chwiorydd o dan erledig- aeth. Ffurfiasant eu hunain yn fyddinoedd i ddyfod yn nghyd pan y byddai eisieu. Pan y cynalient gyfar- fodydd, gosodent wylwyr ar dwmpath- au y rhai a rybuddient y gynulleidfa os gwelent eu gelynion yn dyfod. Dewisasant ryw nifer fel heddgeid- waid neu ysbiwyr i gymeryd sylw ar symudiadau milwyr y brenin, er mwyn rhoddi hysbysrwydd o'r cyfeiriad a gy- merent. Deallodd Louvois, gweinidog erlidgar y brenin, fod y trueiniaid ffyddlon i Dduw, yn trefnu eu hunain mewn ffordd o amddifiyniad; a phar- odd hyn gryn ddychryn yn y Uys, gan y byddai yn debyg o ycbwanegu rhyfel cartrefol at y rhyfel oedd yn bodoli a gwledydd ereill. Ond beth gwell na hyn a allesid ddysgwyl oddiwrth Bab- yddiaeth. A gasgl dyn ffigys oddiar ddrain ?" Yr oedd y bobl, y gweith- wyr Protestanaidd, yn cyfarfod yn anialdir Cevennes. Meddyliodd yr er- lidwyr am alltudio pawb o bonynt, a gwneud y tir yn anial beb drigianydd mewn gwirionedd. Ond yr oedd an- hawsderau ar ffordd rhoddi y cynllun hwn mewn gweithrediad. Yr oedd chwarter miliwn—250,000—o Bro- testaniaid yn Languedoc. Os alltudid hwynt, beth a ddelai o gyfoeth y dal- aeth, ac o'r trethi i'r brenin ? Ac yr oedd yn angenrheidiol cael llawer o filwyr i'w halltudio o'r wlad. Er y cwbl, gwnaeth yr erlidwyr dall ymgais i roddi y cynllun hwn mewn gweith- rediad. Ond bu y cynllun yn gwbl aflwyddianus. 0 waethaf bwtcher- iaeth y milwyr, parhaodd y cyfarfod- ydd yn yr anialdir. Penderfynodd yr erlidwyr lanw y dalaeth a milwyr, a difeddianu y trig- olion o'u harfau. Gosodwyd 40,000 o filwyr at y gorchwyl hwn. Cyfodwyd tyrau, gwnawd ffyrdd ar hyd y myn- yddoedd. Meddianwyd passes. Clud- wyd magnelau. Er hyn i gyd, cadwyd y cyfarfodydd Protestanaidd yn yr anialdir o waethaf alltudiaethy dirdyn- glwyd, a'r crogi diarbed addyoddefodd canoedd o weithwyr tlodion Protestan- aidd Yr oedd dragoons acoffeiriaid yn methu troi y bobl hyn yn Babyddion. Aent i ochr y bryniau yn nyfnder y nos gyda'u gilydd i addoli, er na wydd- ent pa foment y byddai eu gelynion ar eu gwarthaf. Y mae y rhanau sydd ynolo'u hanes yn fwy ihamantus o lawer na nofelau dychymygol yr oes. +—

MARCHNAD Y GLO A'R HAIARN.

CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR Y GLO…

GWR A THAD TEILWNG.

CYFARFOD CHWARTEROL DOSBARTH…

CYFARFOD MAWR. 0 LOWYR j YN'…

GWEITHIAU CYFARTHFA.

GLOFEYDD PLYMOUTH, MERTHYR.

[No title]

Advertising