Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

Advertising
Cite
Share

DARCANFYDDIAD RHYFEDD Gwellhad rhag y Dropsy, y Dwfr Gwynt, a Gravel, &c., &c. MA WR yw y dyoddef oddiwrth y clefydau peryglus hyn, a mawr yw y siomiant sydd yn feunyddiol oddiwrth gyffyrau meddygol ond yn awr, trwy y dargan- fyddiacl. rhagluniaethol hwn, fe ellir cael gwellhad uniongyrchiol oddiwrth Boen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau, yn yr Ymysgaroedd, yn y Traed, &c., &c., Diffyg Anadl, Gwynt yn y Cylla a'r Perfedd, Curiad y Galon, Gwendid, Gravel, &c., &c., (yr hyn oil sydd arwyddion o'r Dropsy,) trwy gy- meryd Hughes' Patent Dropsy Pills," un blwch a brawf eu rhyfedd effeithiol- deb. Gellir eu cael trwy ranrhyw fferyllydd yn y Deyrnas am Is. lie., 2s. 9c., a 4s. 6c. JACOB HUGHES, Apothecaries' Hall, LIanelly. Wholesale :-London: Messrs. Hear- on, Squire, and Francis, Barclay & Sons, Sutton. Bristol: Pearces & Co. These Pills are Registered at Station- ers' Hall, London. Any infringement will be prosecuted. Un neu ddau 'allan o lawer o dystiol- aethau yn fy meddiant sydd fel y canlyn (A Copy.) Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyginiaeth effeithiol o'r enw Hughes' Patent Dropsy Pills.' Y maent wedi fy llwyr iachau o'r Diffyg Anadl, Poen yn y Cefn, Diffyg Dwfr, Chwydd yn y Cluniau a'r Traed, ac yr wyf yn gobeithio y caiffpawb wybod am danynt fel y gailont gael iachad.—D. DAVIES, Llanelli, Tachwedd 10, 1875. (A Copy.) Trwy gymeryd eich moddion effeith- iol chwi, cefais fy iachau o'r Dropsy, chwydd mawr dros yr holl gorff, Diffyg Dwfr, Peswch, a diffyg mawr ar yr Anadl, a churiad y Galon. Yr oeddwn yn bur annhebygol o wella, er cymeryd llawer o foddion, eto dim daioni. Yn fuan wedi cymeryd eich moddion rha- gorol chwi at Dropsy y Gwynt a'r Gravel, cefais ryddhad. Gwnewch y defnydd a fynoch o hwn. Yr eiddochl- R. THOMAS, Llandybie." AERATED WATER WOEKsT" Clifton Street, Aberdare. WILLIAM DAVIES, .MANUFACTURER of Ginger Beer, Lemon- ade Soda Water, Champagne Cider, Shrub, Peppermint, &c. All orders promptly attended to. THOMAS DAVIES, J Llyfr-rwymwr, LIyfr-werthwr, &c., Penire- Ystnad} WRTH: ddiolch i'w gyfeillion a'i gefnog- wvr lluosog am eu cefuogaeth yn y b)ynyddoedd a aethant heibfo, a ddy- muna hysbysu fod ei stock llyfrau, pabyr at bapyro tai, dorluniau, &c., yn helaefchach a rhatach yn awr nag y bu- ont erioed, a'i fod befyd mewn ffordd bellach i wasanaethu y cyhoedd mewn pob peth ag y masnacha ynddynt ar delerau mor fanteisiol a neb yn y De- heudir. THOMAS DAVIES, PENTRE- YSTHAD. ATHOLL LOWYR^CTEREILL PERTHYNOL I WEITHFEYDD GLO DOSBARTH ABERDAR. FRODYR,—Bydded hysbys i bawb o hon- och y cynelir cyfarfod cyhoeddus cy- ifredinol (mass meeting) yn ISfhy Marchnad Aberdar, dydd Llun nesaf, y 14eg cy- fisol, i ddechreu am lleg o'r gloch, i'r dyben o roddi ychydig eglurhad ar weithredoedd y Bwrdd Cymodol. Y mae yn wybyddus i bawb fod yr holl ymdrafodaeth wedi ei gadw yn ddirgel oddiwrth y lluaws hyd yn hyn ond yn nnig rhai penderfyniadau gwir angen- rheidiol eu cyhoeddi. Gan ein bod, yn hyderus gredu y bydd y cyfan wedi ei orphen ar ein cyfarfydd- iad nesaf, sef dydd Sadwrn, y 12fed cy- fisol. credwn ei bod yn ddyledswydd ar- nom fel eich cynrychiolwyr ar y Bwrdd, i alw y cyfarfod hwn er rhoddi mantais i bawb ddeall y cytundeb newvdd yn dda, yr hwn, gobeithiwn, fydd yn fodd- ion i ddwyn yn ol yr ysbryd perthynasol hwnw sydd yn hanfodol angenrheidiol er llwyddiant y naill a'r llall. Anwyl gydweithwyr, goddefwch i ni eich taer gymell i fod yn bresenol yn y cyfarfod hwn, gan y gall eich presenol- deb fod yn rhwystr i unrhyw amryfusedd gymeryd lie yn ol Ilaw. Yr eiddoch yn rhwymau cariad, JOHN PROSSER, Nantmelyn. DAVID MORGANS, Mountain Ash. AT HOLL DANWYR DEHEUDIR CYMRU A MYNWY. BYDDED hysbys i holl danwyr (under- growndfirernen) trwy Ddeheudir Cymru a Mynwy', y cynelir cyfarfod yn y Crown Inn," Aberdar, am ddeg o'r gloch, dydd Sadwrn, Chwefror y 26ain, 1876, pryd y dysgwylirfod cynrychiol- ydd o bob pwll a lefel, o'r steam coal, house coal, a'r stone coal yn bresenol. Bydded i'r gweithiau hyny, lie nad oes ond un fireman yn y lofa, i gynrychioli eu gilyad, os ydynt yn gweled y draul yn ormodol. Caniateir iun gynrychioli 5 neu 6 o'r man weithiau a nodwyd. Na fydded i neb gymeryd esgusawd nas gall fod yn brydlon trwy fod y eyfarfod yu dechreu yn rhy foreu. Gwnewcb eich goreui ddyfod fel bydd y trains yn eich ateb, a bydd pob croesawiad i chwi y pryd hwnw. Cofied bechgyn y stone coal yn Nghwm Gwendraeth, fod y llinyn mesur yn cyrhaedd hwythau y waith hon. Yr eiddoch yn ffyddlon dros y frawd- oliaeth,—AB CENECH. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, "Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.

.UNDEB YR EGLWYS.

ARGLWYDDESLLANOVER A'R EGLWYS.

AGORIAD Y SENEDD.

GvV A WH, ABERAMAN.-

CASTELLNEDD.

HIRWAUN.

CWMFELIN, COLLY

MAESTEG.

BRYNAMAN.

DYFFRYN GWENDRAETH A'R CYLCKOEDD.

Family Notices