Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

" CHWALU CERYG."

News
Cite
Share

CHWALU CERYG." MR. GOL.Er mwyn i'r darllenwyr ein deall, yr ydym am ddweyd mai nid ar yr ordd na'r Chwalwr y mae y bai wedi bod am y colli- tro yma, ond yn rhywle yny post, (un stiff yw post). Y mae y post wedi bod yn ormod o wr boneddig i gyflwyno ein llythyr i chwi, a gallwn ddweyd yn y fan yma, mor wir a pliost, fod un o'r Hithiau goreu yn yr iaith Gymraeg wedi myned ar goll! Y mae yma gam o bethau yn aros sylw, ac y mae y byd yma yn un glew rywlodd am gynyrchu meini tram- gwydd. Y mae y rhai hyn yn cael eu cloddio o bob chwarel, a hyny wrth y llwythi. Y mae pob edlych o ddyn, a phob tipyn o bwyllgor wedi myned i gredu, yn nghanol yr oes oleu hon—ydynt yn wir--wedi myned i gredu y gallant dwyllo y eyhoedd; ac yn wir, gallwn ddweyd rhyngom a ni ein hunain yn y fan hon, wrth y tan yn yr ystafell yma, gallwn ddweyd yn ddystaw, nad ydynt yn mhell o'u lie, oblegyd v maent yn llwyddo yn rhagorol. Y maent yn medi yn doreithiog o ffrwyth ein llafur. Y mae y grefft wedi dyfod mor berffaith, a'r ddyfais yn gweithio I mor rh wydd, a phob cynyg yn cyrhaedd ei amcan mor llwyddianus, nes nad oes yo ar ddim avail braidd. Eithafion twyll, a haerllugrwydd anonestrwydd, sydd yn cael y llythyren frasaf, y ddalen flaenaf, a'r lie amlycaf yn y newyddiadar, a phob man arall braidd. Yr ydym am ddangos i'r bobl hyn ein bod niuau yn gwybod hyn--nid am ddangos eu twyll iddynt hwy, am y credwn eu bod yn ei wybod o'r goreu, ond yr ydym am ddweyd yn syml ein bod ninau yn gwybod hyny, rhag iddynt feddwl nad ydym ni, dru- ain, yn gallu gweled drwy beth mor dywyll! Y mae pob peth braidd yn cael ei roi o flaen y cyhoedd yn rhy eithafol. Darlith benigamp! Cwrdd heb ei fath Damwain angeuol! (am dori coes). Y canwr goreu yn y wlad! (am 15 neu 20 o gwcwod.) Ar ben y rhes (gydag enw 50 neu 60 o rai nad oes fawr obaith y gwel un o hon- \rntben y rhes byth bythoedd.) Eis ^eddfod fawreddog am bob esgus o rdd, a thwyll gynulliad. A dyma y peth oedd ar ein meddwl. a dweyd y gwir i chwi, y tro yma, oedd yr eithafion diegwyddor gydag hysbysu man gyfarfodydd. Y mae hyn wedi myned yn bla anweliadwy braidd. Yr oedd un o'r crach gyrddach yma yn cael ei hysbysu mewn cydwythnos- olynyn dra diweddar, ac yn cael ei droi allan yn nghanol crug o ansodd- eiriau dysglaer, fel y penderfynodd cyfaill i mi anfon am yr hysbyslen, neu y programme! ddylaswn ddweyd. vVoJ, dyna dair ceiniog wedi myned. Wei, beth am y rhestr testynau a gwobrwyon ? Ni gawn ddechreu gyda y canu. I'r gwryw a gano yn oreu y solo "The death of Nelson," gwobr Is. Barddoniaeth-am yr englyn goreu i'r "Hooter," gwobr Is. Ad- roddiad—am yr adroddiad goreu o'r "Ystorm," o Almanac Francis Moore, gwobr Is. Y mae yna ddau neu dri o bethau ereill, ond y mae y rhai hyny yn fwy afresymol na'r rhai a nodwyd, ac er mwyn bod yn deg cant lonydd. Eheolau.—M wobrwyir oni bydcl teilyngdod. Cedwir tocyn blaensedd o'r wobr, os nafyddy budd- ugol yn bres-Iriol. Mynediad i mewn trwy docynau, blaenseddau, 2s.; ol- seddau, Is., &c., &c. Yn awr, y mae fy nghyfaiil yn fardd, ac yn fardd da hefyd, nid rhyw dipyn o fardd. Yr oedd yn meddwl cynyg ar yr englyn i'r Z7, Hooter." Yr oedd yn clywed fel swn testyn da ganddo, a buasai wedi cyfansoddi, a thebyg iawn o fod wedi enill hefyd, oni buasai i mi agor ei lygaid "i fwrw'r draul," a gwelodd yn y fynyd y buasai raid iddo anfou swilt gyda'r englyn i dalu am y tocyn blaensedd, ac yr oedd y programme wedi costio tair ceiniog iddo eisoes, a gwelodc1 fod yr "Yr hooter yma'n ddrytach yn eibib o dipyn b'.ch," nad oedd ef yn meddwl, a fchallodd y goichwyl heibio. Pwy sydd yn myned i ganu U Death of Nelson" am swllt, ond ni wn i yn y byd pwy mor wag eu penau ydyw gwyr y swn Pwy aiff i'r gost o brynu Almanac Francis Moore" a brwydro ar tywydd yno, a'r cyfan am swllt ? A phwy sydd yn myned i dalu ei drain i'r lie ? Nid ydym yn credu fod digon o arian ar y rhagdrefn i dalu train neb eill gyfansoddi englyn i'r lie, pe cyfrif- em hwy bob swllt, gan hyny nid oes dim ond colled anadferadwy yn rhwym o fod yn ei aros. Yr ydym yn penderfynu ergydio ar oethau fel hyn nes cael llun arall arnynt -neu eu cael yn Ilwch. Araf iawn y mae beirniadaethau y Nadolig yn dyfod allan, ai nid oes modd eu cael. Yr ydym yn hyderu ac yn gobeithio nad oes ofn gweled goleu ddydd ar un o honynt. Carem weled rhai lied bwysig yn ymddangos. CHWALWR.

u O'R WEST " ETO.

Advertising

L'ERPWL.','