Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

KARL Y LLEW;I NTKU MAECHOG…

News
Cite
Share

KARL Y LLEW; NTKU MAECHOG Y LLAW GOCH. PENOD VII. MAX, Sadock," ebai'r swyddog, gan anerch un yn gyntaf, a'r llall wedi. hyny, un i'r debau a'r Hall i'r aswy, safaf finau o'i flaen." Ni arosodd Karl iddynt ddechreu. Tarawodd gleddyf y swyddog i'r mull ochr, ac ar yr un eiliad disgynodd y fwyell, ac aeth y milwr i lawr a'i ben wedi ei hollti. Yna symndodd gam J35 ol, gan ddal blaen ei gleddyf o flaen y dyn ar y llaw chwith, ac ar yr un pryd tarawodd yr un ar y Haw ddehau yr un molld sc y tarawodd y blaenaf. Syrthiodd y trydydd ar ei linian. Yr oedd yn ddyn tua deg ar hugain oed, ac yn feddianol ar gorff cadarn, pen mawr yn cael ei gudtiio a gwallt coch gwyneb hagr, heb fed yn annhebyg i wyneb ci fyddai wedi cael clygiad da i fyny. Yr oedd garsddo lygad cyflym, a meddul dipyn yn glir helyd. Deall- odd yn union fod y dyn dyeitbr yn ochel mewn awdurdod wrth ei d iuii o siarad, a gwyddai hefyd fod galln yn ei fraich. Gwelodd beth arall, set yr ysbardynau auraidd oedd wrth sodlan ein harwr. Gwyddai nad oedd neb ond marehogion o'r radd uchelaf yn cael er- gwisgo felly. Tra ar ei ben- linian, llefai yn daer am drugaredd. 11 Yn gyntaf dim," ebai Karl, "e.wch a symndweh y llian acw oddiarn Wen y foneddiges, ac yna dychwelwcb, efailai yr arbedaf chwi ar amodau." Cododd Max yn fnaIl, a gwnaeth fel y gorchymynwyd iddo, ac yna dych- welodd. Beth ydyw dy enw," gofvnai tin ,.¡ b harwr. Max, fy arglwydd- "OWIl mai gwas i Frankenstein ydwyt. Pwy ydyw y foneddiges acw." Merch yr Arch Ddnc, fy arglwvdd —y foneddiges Gertrude." Teimlai ein harwr ryw beth rhyfcdd yn saethn trwv ei gyf&nsoddiad. Cofiodd beth oedd wedi ei glywed am yr hen bendefig penwyn yu y daeardy, ac nis gallai yn m iyw symud y peth o'i fedd- wl. Meddyliai hefyd y gallai ei dad fod yn bendefig uehel, gan fod Syr Lodwig wedi ei alw yn gyfaill. A dyma feroh Lodwig, yn cael ei hawlio gan y gormeswr. Credai yn sicr fod y net- oedd wedi ei arwain i'r He i'w gwaredn. Yn awr, Max, esboniweh y cwbl i mi." "Diangodd oddiwrth ei thad, fy arglwydd, a danfonwyd ni i'w dal." Paham yr oedd yn dianc." Mynai ei thad iddi briodi a'r larll Valsburg, ond gall y foneddiges ddweyd yn well na mi." Yr oedd Karl wedi clywed am Gaspar o Valsburg, a gwyddai mai dyn dryg- ionus a chreulawn ydoedd. Daeth peth arall i'w feddwl yn awr. Os gadawai y dyn yma yn rhydd, digon tebyg y dychwelai ar unwakh at ei feistr a'r hysbysrwydd beth oedd wedi eyroeryd lie. Braidd na ddvmunai ei fod wedi ei ladd gyda'i gy feillion ond nis gallai wneud hyny yn awr. Gan nad pa faint yr oedd y dyn yn haeddu marwnheth, nis gallai Karl gymeryd ei fy wyd mt-wi, gwaed oer. ":Max,' ebai, "pa mor bell y mae Castell Syr Rupert." Tua chwech milldir, fy arglwydd. Pe buasai'r coed yma oddiar y ffordd, byddai'r Mynydd Du i'w weled yn agos." Rhyfeddai ein harwr glywed hyny. Yr oedd wedi crwydro ugain milldir yn y man lleiaf o'i ffoidd. Trodd at y dyn, a dywedodd Yn awr, edrych- wch yma. Y mae eich meistr yn eiyn perffaitli i mi, er na chafodd achos erioed i hyny. Os gollyngaf chwi yn rhydd, a fydd, i chwi ddychw.elvd ato." Ond, fy arglwydd," ebai'r dyn, "ni ddychwelaf byth. Crocsaf V mynydd- oedd i Germany. Y mae cyleillion genyf yno." Plygodd Karl ei ben am fynyd i iyfyrio. Cododd efyn fuan drachein, a dywedodd)- "Max, atebwch hyn, a ydych chwi wed: gweJed evrfr yn hongian ar goed o gyich y ih yma rywbryd. ,_J Ydwyi, iy arglwydd, a darn o bapyr wedi ei sicrhau wrth eu dillad, yn dysvedyd ea bod wedi eu condemnio gan I/vs y Llaw Goch." "Gwrandewch yn awr, ynte. Os cymerwch chwi eich hunain i ffwrdd oddiyma yn union, gall y bydd pob peth yn dda gyda chwi. Ond os ceir allan eich bod yn agoshau i Gastell Drosendorf, fe syrthia barn y Llaw Goch arnoch chwi. Nid oes daeardy yn Bohemia mor ddwfn, nac ogof mor dywyll a all eich cuddio oddiwrth aelodau y Llys yma. Ydwyt ti yn deall." Yr wyf yn deall yn dda, fy ar- glwydd. Y mae chwech yn barod o weision Syr Rupert wedi ei gael a'r dagr yn en calonau." "Edrychweh ynte, na chyfarfyddwch chwith au a'r un dynged. Cymerwch eich ceffyl ac ymaith a chwi. Ond, aroswch." Bu ein harwr bron anghofio un peth pwysig. '1 Pa bryd y gadawodd y foneddiges Gertrude y Castell." Rhyw bryd yn ystod y nos, fy ar- glwydd." "Oes rhyw rai ereill wedi myned i chwilio am dani." Nac oes, fy arglwydd." Pa gyhyd yr arosa Syr Rupert am eich dychweliad, cyn anion ereill i chwilio am danoch chwi?" Nid yw'n brysio dim, gan fod Man Zentil yn swyddwr da, a'r Arch Dduc, yn ymddiried y cwbl iddo." "Dyna ddigon, yr ydych yn rhydd yn awr." Trodd y dyn at ei geffyl, ac yr oedd allan o'r golwg yn fuan. Wedi i Max fyned, aeth Karl yn mlaen at y fan lie yr oedd y foneddiges yn eistedd. Pan ddaeth ein harwr yn mlaen, cododd y foneddiges a'i gwyneb hardd yn pelydru o ddiolchgarwch. Pan welodd y gwyneb hwnw, arosodd yn sydyn— arosodd am nad allasai beidio arcs. Beth oedd yn ei weled! Gwelai yr un gwyneb o'i flaen ag a welodd yn ei freuddwyd y boreu hwnw. Yr un, ac eto nid yr un. Yn ei freuddwyd yr oedd yn edrych yn nefolaidd, ond yn awr pan yn sylweddol o'i flaen, ym- ddangosai, os yn bosibl, yn fwy angyl- aidd. Llewyrchai ei llygaid gleision yn ogoneddus, ei gwallt hir fel tonau auraidd yn ngoleuni yr haul; ac yn ngholwg Karl yr oedd ei hagwedd a'i hystum yn berffaith. Yr oedd rhyfedd- od bob ochr Yr oedd y foneddiges yn sefyll yn syn. Yr oedd Karl yn ddyn ieuanc prydferth a hardd y tu hwnt i'r cyffrediu o ddyuion ond nid dyna'r cwbl a welodd. Nis gallai hyny gyfrif am yr ymddangosiad sydyn yma o .¡ndod oedd wedi ei meddianu. Wedi i Karl ddyfod dipyn i'w Ie, aeth yn mlaen ac estynodd ei law i'r foneddiges, yr hon a'i cymerodd hi yn rhwydd. Credwyf fy mod yn siarad a'r fon- eddiges Gertrude." Dyna. fy enw, Syr," atebai'r fon- eddiges. Gertrude o Drosendorf," gofynai Karl yn mhellach. "Gertrude o Drosendorf," ebai hithau. Y mae yr enw yn swnio yn ddigon naturiol; ond gelwir n yn Gertrude o Frankenstein." Bu yn agos iawn i Karl ddadguddio yr hyn a wyddai yn ei chylch, ond wrth ail feddwl, penderfynodd mai gwell fuasai aros. Gertrude ydych, beth bynag," ebai ein harwr gan wenu. Ie, Syr, ac yn awr," ychwanegai Gertrude, cyn eich bod yn ateb pwy a pha beth ydych, atebweh un gofyniad i mi: A ydych chwi yn adnabod marchog yn Bohemia a elwir Karl y Llew." Synai ein harwr at y gofyniad yma. Nid oedd yn rhyfeddudim fod ei enw sym), Karl, wedi cyrhaedd clustiai y foneddiges; ond trwy ba foddion,tybed, yr oedd yr ychwanegiad newydd o eiddo yr .ymerawdwr, wedi croesi y mynyddoedd o'i ilaen. Anwyl foneddiges," ebai Karl, "jT wyf yn adnabod marchog gObtyngedig sydd yn dwyn enw yr yna, ond yr wyf yn rhyfeddu pa fbdd y daethoch chwi i wybod yr enw." "Efailai y gwenweh, Syr Karl, pan ddywedaf wrtbych. Uyn fel y chwi a ddywedodd yr enw wrt-hyl mewn breuddwyd. Y chwi ydyw Karl y Llew." "Myli ydyw Karl, ac y mae yr ymer- awdwr wedi gweled yn dda rhoddi yr enw arall i m). Ah! gwrandewch. Clywaf udgorn yn cael ei chwythu. Onid yw castell Rupert yn y cyfeiriad yna." Ydyw, y mae," atebai Gertrude. I "Rhaid i ni symud oddiyma yn union, ynte. Yr wyf fi yn farchog Cristionogol, a rhaid i mi eich amddi- ffyn, a chaiff fy mywyd ei gysegru i chwi, os byddweh yn derbyn y cynyg. Yn awr, atebwch yn syml, pa un gwell genych ymddiried eich hunan o dan fy nghofal i, neu ddychwelyd at Rupert o Frankenstein." Gwell genyf ymddiried ynoch chwi ddeng mil o weitbiau, Syr Karl," ebai'r foneddiges, gan gydio yn ei fraich. "0, achubwch fi oddiwrtho, a dywedaf rhagor wrthych pan fydd cyfle." Cododd Karl ei Haw at ei enau, a chyda hyny dyma'r udgorn yn casl ei chwythu eto. A ydych chwi yn meddwl mai yr Arch Dduc sydd yna," ebai Karl. "Nage," atebai Gertrude. "Mae yn fwy tebyg mai cwmpeini o helwyr ydynt, a Yalsburg yn eu blaenori." Valsburg, a ydyw ef ar ymweliad a'r castell." Y dyw, neu ni fuaswn i yn y fan hon. Ond, oh gallant ddod y ffordd yma. Byddai yn well genyf farw na—" Ust! Rhaid i ni beidio colli eiliad yn hwy." 0

LLUEST Y MYNYDD.

YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.