Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
YR HUGUENOTS.
YR HUGUENOTS. YR oedd cydymdeimlad dwfn yn Uoegr a'r canoedd o filoedd o Bro- testaniaid oedd yn dyoddef yn Ffrainc, ac a'r rhai a ddiangasant am eu byw- ydau i'r wlad hon. Cyfodwyd 36 o leoedd addoliad iddynt yn Llundain yn unig. Nid oedd poblogaeth Llun- dain y pryd hwnw yn gymaint ag un rhan o bedair a'r hyn yw yn awr. Sefydlasant yn Canterbury, Norwich, Southampton, Bristol, Exeter, &c., ac yn yr Iwerddon mewn amryw dref- ydd. Yn lie gofidio uwchben effaithiau cigyddol cyfraith erledigaethus y brenin, yr oedd y Pabyddion yn llawen- ychu yn y gyfraith felldigedig a'i heffeithiau. Yr oedd v Canghellydd Le Tellier, wrth'roddi ei sel wrth y gyfraith, yn ei hen ddyddiau, yn defn- yddio geiriau Simeon, Yn awr y gollyngi dy was mewn tangnefedd, canys fy llygaid a welsant dy iachawd- wriaeth." Un o nodweddion Pabydd- ion yw gwyrdroi yr ysgrythyrau, a'u deihyddio allan o'u hystyr dwyfol, yn rhyfygus a chableddus, fel ffordd i eneinio eu gweithredoedd anfad hwy a geirian y nefoedd. Mewn pregeth angladdol, ar amser claddedigaeth y dyn hwn, sef Tellier, defnyddiodd Bossuet ei ddoniau areithyddol i ganmol y brenin am wneud y gyfraith erledigaethus. Nid yw dysg na dawn dynion yn sicrhau rhyddid i eglwys Dduw oddiwrth er- ledigaeth. Yr oedd Madame de Mainteuon, gordderchwraig y brenin, fel gwraig Herodias yn erbyn loan Fadyddiwr, yn cynllunio dinystr y Protestaniaid, er mwyn boddloni yr offeiriaid Pab- aidd, i'r dyben o'u tueddu hwynt i sancteiddio ei chysylltiad godinebus a'r brenin, yr hyn a wnaethant. Fel y mae y mawrion annuwiol yn mhob oes yn arfer siarad yn ddiystyr- 11yd am y rhai a erlidiant, yr oedd y dynion uchel yn llys y brenin, yn arfer y geiriau "lladdwch hwynt o'r ffordd," fel digrif ymadrodd ysgafn. Yr oedd boneddiges o'r enw Madame de Sevigne, yr hon oedd yn byw yn Brit- tany, yn nghanol Cymry Ffrainc, yn dweyd mewn llythyr at gyfaiH, Y mae crogi y Protestaniaid sydd yma yn gysur mawr i mi. Y maent yn awr yn myned i ddienyddio ugain neu ddeg ar hugain, o honynt." Mewn llythyr arall, dywed am y daith flin- edig a gafodd ei mab-yn-nghyfraith wrth ymlid yr Huguenots ar hyd y mynyddoedd ac yn en hogofeydd." Cysurodd un o'i chyfeillion boneddig hi, gwr mewn awdurdod, trwy ei hys- bysu hi, ei fod ef wedi alltudio 76 o honynt i'r rhwyf-longau cospawl. Dywedodd boneddiges arall fod y brenin wedi "defnyddio ei awdurdod i uno y Protestaniaid a'r Eglwys Babaidd, yr hyn a wnai les mawr idd- ynt hwy a'u plant, ac y dygai hyn fen- dith y nefoedd ar y brenin Yr oedd y French Academy yn canmol gweithred y brenin yn erlid yi Huguenots. Gall crefyddwyr cyd- wybodol fod yn eithaf sicr, pe cyfodai erledigaeth, yr ymunai dysgedigion a llenorion annuwiol a'r erlidwyr. Y maent yn gwneud hyny yn awr yn y ffurfiau o erlid gwir dduwioldeb a gan- iata deddfau y wlad. Yr oedd dynion dysgedig yn des- grifioyr erledigaeth fel peth gogon- eddus a holl orwychder iaith. Can- molid ef ag atbrylith y beirdd. Gal- went ef yn wyrth o ddaioni! Yr oedd tynu i lawr dai addoliad y Protestaniaid yn boddloni chwaeth y mob. Yr oeddynt-fel y dorf yn am- ser y croeshoeliwyd Crist-yn ceisio boddloni y mawrion, trwy chwilio am guddfeydd yr Huguenots. Yr oedd cynygion yr awdurdodau o wobrau arianol am eu dal, yn eu denu i wneud eu goreu i'w rhoddi yn llaw eu gelyn- ion. Yroedd yr erledigaeth yn boblog- aidd gyda'r milwyr, y rhai a osodid yn nhai y Protestaniaid i fyw a bod, er mwyn eu gorfodi i fod yn Babyddion. Nid oedd tal y milwyr gan y llywodr- aeth yn un uchel. Yr oedd yr erledig- aeth, gan hyny, yn dwyn byd da hel- aethwych beunydd iddynt hwy. Defn- yddient bob peth a gaffent yn nhai y Protestaniaid fel eu heiddo eu hunain. Yr oedd yr erledigaeth yn fanteisiol i'r rhai oedd am brynu meddianau am lai na'u gwerth mewn amser o lwydd- iant. Yr oedd tir 11a wer Protestant yn cael ei gymeryd oddiarno, a'i werthu i ryw un a'i prynai. Yr oedd cybyddion fel hyny yn edrych allan am fargenion da er mwyn cyfoethogi eu hunain. Yr oedd y Protestaniaid yn cymeryd eu hysbeilio yn llawen o'u meddianau er mwyn Crist, fel y Cristionogion yn amser Paul, "gan wybod fod gan- ddynt iddynt eu hunain olad gwell yn y nefoedd, ac un parhaus." Yr oedd y Jesuitiaid wrth eu bo dd yn yr olwg ar yr erledigaeth. Yr oedd- ynt yn llanw eu lleiandai a'u hysgol- ion a phlant y Protestaniaid, y rhai a orfodid i dalu am eu haddysg gan offeiriaid y Jesuitiaid. Rhoddwyd capelau y Protestaniaid, y rhai a dyn- wyd i lawr, yn meddiant y Jesuitiaid, er mwyn iddynt hwy eu troi yn ysgol- dai a lleiandai at eu pwrpas eu hunain. Daeth rhan o'r ysbail a gymerwyd trwy yr erledigaeth oddiar y Protes- taniaid i feddiant Bossuet Fawr. Cymeradwywyd yr erledigaeth gan iai o'r Jansenists, gan fod yr urdd hono yn un Babyddol. Meddyliodd y Pabyddion nad oedd ond un grefydd yn Ffrainc, set y grefydd Babaidd, wedi iddynt hwy yru yr Huguenots o'r wlad. Goddefid yr Atheistiaid am nad oedd ganddynt un grefydd. Y mae dynion annuwiol Atheistaidd yn fwy cymeradwy o lawer gan Bab- yddion na Phrotestaniaid. Hawdd deall pa fodd y mae hyn. Dyn di- dduw, diofn Duw, yw y Pabydd. Y mae yr Atheist ag yntau yn blant i'r un tad. Gallesid meddwl fod y milflwydd- iant wedi gwawrio ar yr Eglwys Babaidd yn Ffrainc. Yr oedd yr orsedd o'i phlaid yn y modd mwyaf erlidgar. Yr oedd enwogion o'i mewn hi yn y pwlpudau-Bossuett Bour- daloue, Flechier, a Massillon, pregeth- au pa rai sydd yn adnabyddus i lawer Cymro. Ond er hyn i gyd, cyn pen can mlynedd, yr oedd yr Eglwys Babaidd wedi colli ei dylanwad ar bobl Ffrainc. Cyfododd Deistiaid ac Atheistiaid allanofynwes yr Eglwys, ac aethant yn uwch yn eu dylanwad na'r offeiriaid Pabaidd. Aeth y bobl i gredu fod Voltaire, Rousseau, Diderot, a Mirabeau, yn fwy dynion na Bossuet, Bourdaloue, Flechier, neu Massillon. Ac er fod y Jesuitiaid yn llanw y pwlpudau a moliant i'r brenin am ei greulonderau tuag at y Protestaniaid, cafodd weled effeithiau niweidi@l yr erledigaeth mewn miloedd o ffyrdd am ddeng mlynedd ar hugain wedi di- ddymu Edict Nantes, y weithred a roddodd y ffrwyn yn rhydd ar, war y bwystfil PabyddCl. Aeth y werin yn erbyn y llywodraeth. Cynorthwyodd Holland a Lloegr y werin wrthryfel- gar yn Ffrainc. Aeth pethau yn ddifrifol iawn ar yr erlidiwr coronog a'i lys. Ofnasant hwythau yn eu tro y cwpan erchyll a osododd Rhag- luniaeth o'u blaenan i'w yfed. Cyfod- odd Duw y Protestant enwog hwnw Gwilym III. yn ei erbyn ef. Wedi hyny Due Marlborough. Collodd frwydrau a thiriogaethau, tynodd Ffrainc i lawr o'i mawredd, a gosododd hi yn y llwch wrth draed Ewrop. Yr oedd wedi gyru miliwn o'r dynion goreu yn y wlad ymaith a'r erledig- aeth. Trodd y wlad yn anialwch. Arllwysodd ei drysordy. Nid oedd nebyn ymddiried ynddo. Gosododd y deyrnas mewn dyled. Gorthrymodd hi a threthi. Difethodd ei masnach hi. Collodd ei blant. Cystuddiwyd ei gorff a fistula angeuol. Gadawyd ef yn unig gan ei ordderch wraig, a bu farw yn nwylaw y Jesuitiaid; ac yn ol pob tebyg, yr oedd gwaed Protestan- iaid yn drwm ar ei gydwybod.
i BWRDD SIION CENT.
BWRDD SIION CENT. Ensr GWYLWYR GWLADOL AC Ys- BRYDOL.—Y fath wastraff arswydus ydyw fod chwech o alluoedd Ewrop, rhyngddynt, yn eadw tair miliwn o filwyr, a byny ar adeg o heddwch. Y mae amddiffyniad y Deyrnas Gyfunol yn costio £25,000,000, eiddo Rwsia yn costio £ 30,000,000. Ffrainc 25,000,000, Germany £ 16,000.000, Awstria 11,000, 000, ac Itali £ 9,000,000. A chymeryd yn ganiataol mai holl boblogaeth Rwsia ydyw 82,000,000, Ffrainc 42,000,000, a'r Amerodraeth Br)deinig, 284,000, 000, y mae yn canlyn fod Ffrainc yn talu £505 am amddiffyniad pob mU o'r boblogaeth, Rwsia te,68, a Lloeg £ ] 75. Wrth edrych, o'r ochr arall, ar nifer ein gwylwyr ysbrydol, y mae Shon yn cael fod yn Nghymru a Lloegr un gweinidog ar gyfer bob 718 o'r" bobl- ogaeth. Yn Unol Dalaethian America, un ar gyfer bob 879. Yn Rwsia y mae un offeiriad ar gyfer bob 323 o'r boblogaeth, neu gyfanswm o 253,080. Yn Ffrainc, y mae un offeiriad, bugail, neu weinidog i bob 234 o'r boblogaeth, neu yr oil yn 153,629. Yn Itali y mae un ar gyfer bob 142 o'r boblogaeth, neu oddeutu 190,000 yn gyfangwbl. Yn Spain, y wlad fwyaf fendithiol, y mae offeiriad ar gyfer bob 54 o'r bobl- ogaeth, neu 315,777 yn gyfangwbl. Nifer holl offeiriaid a gweinidogion o bob gradd yn Nghymru a Lloegr, yw 31,942, ac yn yr Unol Dalaethiau 43,862. ESGEULUSO MANION.-Manion byw- yd ydynt y pethan pwysieafyn fynych, a'r dyn neu y ddynes a esgeuluso y pethau by chain, ni ddylid ymddiried iddynt am bethau mwy. Esgeuluso yr agen fechan oedd yn y Hong, a fu yn acbos ei soddiad, a cholliad bywydau y rhai oedd ar ei bwrdd y maes a esgeulusir sydd yn dwyn chwyn yn lie bara; esgeuluso y wreichionen a ach- osodd i'r ystorfa bylor ffrwydrio, gan hyrddio canoedd o fodau darnedig i'r byd tragwyddol; esgeulusdra swyddog i daflu i fyny rocket ar noson neillduol achlysurodd gwymp Antwerp ac a Jlfclodd ryddhad Holland am ugain neu fwy o flynyddoedd esgeulusdra gwyliwr i roddi yr alarwm a ataliodd gwymp Sebastopol, ac a fu yn achos i golli miloedd o fywydau. Na adawer i'r dyfodol yr hyn. a ddylid ac o ellid ei wneud yn y presenol. Dywedodd Moody y dydd o'r blaen y byddai yn haws neidio o lofa mil o droedfeddi o ddyfnder, nac i ddyn ddy- fod i fyny o hono ei hun o bydew Adda —pydew pechod.
.— MASNACH GLO A HAIARN.
— MASNACH GLO A HAIARN. Ionawr 29, Birmingham. Y gangen fwyaf marwaidd yn masnach hardware yw cangen y jewellery. Ystyrir mai yr aehos o hyn yw, fod gormod o'r pethau hyn wedi cael eu gwneud. Y mae tuedd at welliant yn y cangenau ereill oddigerth y nwyddau gorau. Y mae nwyddau y tymor yn myned yn dda. Felly y rhai sydd yn cynyrchu gwelyau baiarn. —. Ionawr 29, Middlesborough. Y mae gwaith Gogledd Lloegr wedi dyfod yn fwy sefydlog. Y mae y gweithwyr yn Middlesborough a Stockton wedi myned at eu gwaith ar ostyngtad cyflog o 7 a 1 9 haner yn y cant. Nid yw y fasnach yn fywiog er ei bod yn lied dda. Chwefror 1, Middlesborough. Pris pig iron yehydig yn is. Mwy o ofyn am forge iron. Marwaidd yw masnach mewn rails. Y mae cangen y plate a'r angle wedi myned yn mlaen yn dda er ys llawer o amser bellach. Chwefror 2, Wolverhampton. Yr oedd digonedd o lo yn cael ei gynyg heddyw. Gallesid ei brynu am bris iselach nag o'r blaen. Ond yr oedd prynwyr yn cadw draw. Yr oedd gofyn anghyfrredin air haiarn da. « —
GLOFEYDD AMERICA.
GLOFEYDD AMERICA. Y MAE perchenogion glofeydd yr Unol Dalaethiau, mewn cyfarfod yn New York, wedi penderfynu atal glofeydd y glo tai am 23 o ddyddiau, o herwydd fod gormodedd yn y fare hn ad. Y mae yr ataliad i ddechreu ar y 17eg o'r mis presenol. +
GLOFA Y MAERDY, RHONDDA FACII.
GLOFA Y MAERDY, RHONDDA FACII. BYDD yn dda gan ein miloedd darllen- wyr gael ar ddeall fod y glo wedi ei daraw yn y lofa newydd uchod er dydd Sadwrn diweddaf. Perchenog y lofa ydyw Mr. Mordecai Jones, a dygir. y gwaith yn mlaen dan arolygiaeth Mr. James, prif arolygydd glofeydd Mr. Jones. Y mae y pwll wedi ei suddo i'r dyfnder o 236 o latheni, ac yr oedd rhai yn credu nad oedd glo idd ei gael yn y lie y soddid. Eerbyn hyn y mae eu chwedlau wedi myned gyda'r gwynt. Y mae y glo yr ydys wedi ei gael yn un rhagorol, ac yn dair troed- fedd a chwe modfedd o drweh. Y mae gan Mr. Jones, yn y lie uchod, y medd- iant helaethaf o dir o'n holl berchen- ogion glofeydd, a thry fod y glo yn troi allan mor llwyddianus, bydd dyffryn Rhondda Fach mewn ychydig flynyddoedd, yn un o'r ll'eoedd mwyaf poblogaidd yn y deheudir. Y mae yr ymgymeriad a'r llwyddiant sydd wedi dilyn suddiad y pwll hwn, yn siarad yn uchel am alluoedd a dealldwriaeth daearegol Mr. James, yr hwn, fel y deallwn, a dystai yn ngwyueb pob gwrthwynebiad fod y pwll wedi ei soddi mewn lie cyfleus a sicr o lwyddiant.
-+ MARWOLAETH TRWY NEWYN I
+ MARWOLAETH TRWY NEWYN I Y MAE amgylchiad torcalonus o ne- wyn wedi eymeryd lie yn Birmingham. Enw y trancedig oedd John William Smith, rhwng 40 a 50 mlwydd oed, yr hwn a fu gynt yn fasnachwr cyfrifol, ond wedi cyfarfod ac anffodion, ac wedi syrthio i d'lodi anarfercl. Yr oedd yr holl deulu yn cysgu ar llawr y gegin. Ymddengys fod y trancedig a'i wraig yn rhy uchel i geisio cynorthwy plwyf- ol, &c. Yr oedd yn y cyfiwr truenusaf o ran ansawdd ei gorff, a bygythiai gyflawni hunanladdiad os byddai i'w wraig wneud cais at yr awdurdodau plwyfol. ——
Y BWRDD CYMODOL.
Y BWRDD CYMODOL. Cyfarfyddodd aelodau y Bwrdd hwn yn Nghaerdydd dydd Sadwrn diwedd- af, pryd y derbyniwyd adroddiad y cyfrifolygwyr a apwyntiwyd i arshwilio liyfrau y gwahanol feistri. Dywedai y cyfrifolygwyr eu bod wedi cyflawni en swyddogaeth yn unol a'r cyfarwydd- iadau a dderbyniasant, ac mae cyfan- swm pris y glo gwerthedig gan y cyf- ryw feistri yn misoedd Tachwedd a Rhagfyr oedd fel y canlyn Glofeydd No. 1, glo mor mawr wedi ei screeno, 10s. 7.82c. y dynell. Glofeydd No. 2, Gwythienau Mynydd- islwyn a Tillery, lis. 2.78c. y dynell. Glofeydd No. 8, gwythien Rhif y 3ydd Rliondda, 10s. 5.83c. y dynell. Oddiwrth y prisoedd hyn y bydd y cyflogau am y chwe mis dyfoc101 yn cael eu penderfynu, a bydd hyny yn cael ei benderfyn ddydd Sadwrn nesaf gan y pwyllgor unol. Oddiwrth yr byn a allwn ei gasglu a'i gofio am bris y glo yn 3 869, a bod y safon presenol i fod yn 5 y cant yn uwch nag yr oedd y pryd hwnw, nis gall y gostyngiad i weithwyr y glo mor, debygem, fod yn fwy nag o bump i saith punt y cant, yr hwn ydyw y lie istlaf y gall eu cyflogau fyned.
YR UNDEB CENEDLAETHOL.
YR UNDEB CENEDLAETHOL. CYFARFOD Y BWRDD CANOLOG YN MHONTYPRIDD. CYNALIWYD cyfarfod o'r Bwrdd uchod yn y Bunch of Grapes Inn, Pontypridd, dydd Mawrth, 8fed cyfisol, pryd yr oedd yn bresenol y Mri. H. Mitchard, S. Davies, W. Jones, (trysorydd), J. Connick, Phillip Jones, George Coles, James Windsor, a Wm. Abraham. Yn mhlith pethau ereill, penderfyn- wyd, oblegyd rhyw amgylehiadau, fod y cyfarfodydd a drefnwyd i Mri. W. Pickard a T. Hallday i gael eu gohirio hyd yr wythnos gyntaf yn Mawrth, a bod yr ysgrifenydd, S. Davies, i'w hys- bysu o hyny ar unwaith. tTysbyswyd y cyfarfod gan Mr. Wm. Abraham fod Bwrdd Canolog yr U ndeb Cenedlaethol, dydd LInn diweddaf, wedi talu yr arian dyledus i lowyr Cwm Mawr a Rille, ger Llanelli, am yr amser y buont allan ar strike. Fod mater glowyr y glo careg i fod dan ystyriaeth pellach Bwrdd Canolog Deheudir Cymru, a bod Mr. Abraham i reportio i'r Bwrdd ar ol cael gwybod- aeth pellach o hono. Fod cyfarfod o gynrychiolwyr, un o bob glofa, i gael ei gynal yn y Cross Keys, Cross-street, gerllaw yr hen Eglwys, Merthyr Tydfil, dydd Mercher, yr 22ain cyfisol, am haner awr wedi deg o'r gloch yn y boreu, er cymeryd dan ystyriaeth degwch neu anhegweh safon y raddfa symudol, yn nghyd a'r priodoldeb neu yr anmhriodoldeb o toddi rybudd i ymadael oddiwrthi.
CYFARFOD 0 GYNRYCHIOLWYR Y…
CYFARFOD 0 GYNRYCHIOL- WYR Y GLO CAREG YN ABERTAWE. DYDD Llun diweddaf cynalrwyd cyfar- fod lluosog o gynrychiolwyr y glo caled, yn y Bird in Hand, Abertawe, pryd y cynrychiolid glofeydd Ynysgedwin, Hendfelbrgan, Cwmllynfeli, Gwaen- caegurwen, Carnant,'Raven, Middle A.man, Glynmoch, Garnswill, Blaenau, Cross Hands, Gwendraeth, Carway, Mountain, &c. Prif amcan y cyfarfod oedd dyfod i gyd-ddeallwmeth. a hyny er L-ydweithredti; meWil cysylltiad a phenderfyniad y Bwrdd Cymodol o barthed iddynt hwy fel dosbarth o lowyr. Cafwyd cyfarfod rhagorol ac unfrydol, a phenderfynwyd fod hon lowyr y gio careg i ddal yn dyn at benderfyniad a thelerau y Bwrdd. Hefyd, fod y cyfarfod yn dymuno ar bawb i ymuno a'r Undeb Cenedlaethol mor fuan ag y byddo modd, fel y byddo pawb yn gallu amddiffyn ei hun os tyr y cwmwl du sydd yn ymga,s<rlu uwchben glofeydd y glo gareg.
| LLECHAU (SLATES) AR WERTH
LLECHAU (SLATES) AR WERTH Os oes unr hyw berson mewn angen nifer o hen lechau (slates) tewion at doi ystablau, &c., gellir cael nifer mawr o'r cyfryw yn 37, Canon-street, Aber- dar. Am hysbysrwydd pellacb, yniofyner a'r gwerthwr, Henry Davies, yn y eyf- ryw gyfeiriad.