Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

"JOHN PLOUGHMAN'S TALK."

News
Cite
Share

"JOHN PLOUGHMAN'S TALK." GAIT Y PARCH. C. H. SPUEGEOAT. GAFAEIID MEWN CYFLEUSDERAU. Y MAE rhai dynion heb fod yn effro pan y byddo y tren yn cychwyn; ond ym- lusgant i'r orsaf bron mewn pryd i weled fod pawb wedi myned, ac yna, agorant eu Ilygaid gan ddywedyd, H vVel, anwyl, a yw y tren wedi myn'd ? Rhaid fod fy oriawr wedi sefyll ryw bryd yn y nos Deuant i'r dref bob amser ddiwrnod ar ol y ffair, ac agorant eu nwyddau yn mhen awr wedi i'r farchnad ddarfod. Y maent fel cyniton buwch bob amser ar ol. Y maent mor ddiwerth a hen almanack y mae yr amser y fgallent fod o ryw ddefnydd wedi myned heibio; ond, yn anffodus, nis gellwch eu taflu ymaith fel hen almanack. Y maent fel yr hen fon- eddiges draws hono y gadawyd tal blyn- yddol iddi, ac a benderfynai fynu gael ei lawn werth o hono; ni fyddant feirw ac nid ydynt o un dyben yn fyw.. Dynion diymdrech a ymesgusodant eu diogi yn fynych drwy ddweyd, "nad ydynt ond ychydig ar ol;" ond y mae ychydig yn rby ddiweddar yn llawer rhy ddiweddar. Aeth fy nghymydog i gauad y ffynon wedi i'w blentyn foddi ynddi, a rhedai i ymofyn dwfr am ei fywyd wedi i'w dy losgi i'r llawr; un o'r dyddiau nesaf bydd am wneud ei ewyllys pan y bydd yn rhy wan i ddal pwys yr ysgrif- bin, ac ymdrecha edifarhau am ei bech- odau ar ol colli ei synwyrau. Meddylia y cerbydau araf hyn fod yfory yn well i wneud pob peth na heddyw. Y maent bob amser yn dysgwyl eu llong adref, ac yn breuddwydio am amser gwell i ddyfod Pe arosai yr adar iddynt hwy osod halen ar eu cynffonau.-dyna wledd a gawsent i gymeryd adref i'w teuluoedd Ond tra y parhao pob peth i symud yn gyflymach na hwy, rhaid i'w rhai by chain gartref lanw.eu geneuau a llwyau gweigion. Fe dry rhyw beth i'r lan eto meddent yr hurtiaid paham nad aent eu hunain i'w droi i'r lan. Ni erys amser na llanw y mor i neb ac eto segura y breuddwyd- wyr hyn eu hamser fel pe bae ganddynt lease ar eu bywydau, a chraig o gyfleus- derau yn. eu haros. Gwelant eu camsyn- ied pryd y ca eisieu afael ynddynt, ac ni fydd hyny yn faith; y maent ar eu ffordd i bentref angen. Yr hwn ni tharawa yr haiarn tra fyddo boeth, a ga deimlo fod haiarn oer yn lied galed. Nid yw amser wedi ei gylymu wrth host, megys ceffyl wrth breseb; ond a heibio fel gwynt a rhaid i'r hwn sydd am falu ei lafur wrtho osod hwyliau ei felin i'r lan. Yr hwn a agoro ei enau nes y ca ei borthi a ga ei agor, nes y byddo wedi trengu. Nid oes dim i'w gael heb lafurio am dano, ond baw a thlodi. Yn yr hen amser dywedid fod Jack yn dyfod rhag ei flaen yn ei hurtrwydd." Teimlai Jack yn wahanol yn y dyddiau presenol pe buasai fyw; ond ni ddaeth Jack yn yr hen amser nac unrhyw amser arall rhag ei flaen wrth adael manteision i lithro heibio iddo yn ei ffolineb heb afaelid ynddynt: ni reda yr ysgyfarnog byth i enau own cysglyd. Nid gwiw gorwedd lawr a galw, Duw cynorthwya ni! Cynorthwya Duw y rhai hyny a gynorthwyant eu hunain. Pan y gwelaf ddyn yn achwyn fod yr amser yn dylawd, a'i fod ef bob amser yn aflwyddianus, yr wyf yn dywedyd wrthyf fy hun,—Yr hen wydd, ni eisteddodd ar y wyau nes oeddynt oil yn glwc, ac yn awr beia ragluniaeth am na ddeorant ganddo. Ni fu genyf erioed ffydd mewn ffawd, mwy na chredu fod ffawd yn cario dyn dros ffos os neidia yn dda drosti, ac y gosada ddarn da o facwn yn ei grochan os gofala am ei ardd a chadw mochyn. Y mae ffawd y rhan fynychaf yn dyfod i'r rhai sydd yn edrych am dano, a fy meddwl i yw ei fod yn galw wrth ddor pob un unwaith mewn bywyd; ac os na agora diwydrwydd y drwa iddo ymaith V-V a. ihyny a gollasant y cerbyd di- .c a adawsant bob cyfleusdra i lithro neibio iddynt, a droant i feio rhag- luniaeth am osod pob peth yn eu herbyn. "Pe buaswn i yn hetwr," meddai un, ipawb eu genu heb benau." "Pe i i'r mor i 'edrych am ddwfr, ei fod yn sych," meddai arall. Y mae pob gwynt yn wrthwynebol i hen long fethedig. Nis gall y doeth na'r cyfoethog gynor- thwyo I:) yr hwn sydd wedi hir wrthod cynorthwyo ei hunan.

UNDEB CYFFREDINOL Y GOFIAID…

LLANGOLLEN.

Y CYFÁRFODYDDADLONIÁDOL.

MOUNTAIN ASH.

MAESYRHAF, CASTELLNEDD.

CWMBACH.

EHYMNI.

I HIR WAIN.

----MERCHED Y GWElTHFEYDD.

Y FASNACII FEDDWOL.

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN BRISTE.

AT Y BEIRDD.

[No title]

GWAHODDIAD Y GWLADFAWYR.

-. Y DYDD.

CYNDDELW.

ENG-LYNION

ESIAMPL YR HAUL.

BEDDARGRAFF

LLINELLAU