Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

YR WYLFA.—EHIF IV. !

News
Cite
Share

YR WYLFA.—EHIF IV. YN mhlith prif bynclau y gwahanol newyddiadnrcD yr wythnos ddiweddaf, sylwir ar ar^etli JOHN BRIGHT, 7 yr aelod seneddol dros Birmingham, yr lion a draddododd ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf. Sylwai un new- yddiadur arno fel hyn.—" Y mae yn destyn llawenydd fod Mr. Bright yn alluog unwaith eto i gymeryd ei le ar yr esgynlawr mewn dullwedd tebyg fel yr arferai fel noddwr y bobl. Rhaid i ddyn sydd yn meddu y fath allu ar- uthrol i siarad nes y mae'n treiddio i galon y boblogaeth, gymeryd gofal mawr, nid yn unig er atal ei hunan rhag cael ei gamddeall, ond hefyd am ei fod o dan deimiad dwfn o gyfrifol- deb, fel ag I gyriiaeddy pynciau mawr- ion ag ydynt deilwng o sylw y wlad." Ychwanegai hefyd drwy ddweyd ei fod yn drueni mawr fod yr areithydd, Mr. Bright, erioed wedi bod mewn swydd yn y weinyddiaeth. Dywedai Mr. Bright, yn mhlith pethau ereill, fod pob ty yn Birmingham yn feddianol ar bleidlais, ond, fod yn rhaid talu aT- dreth o £ 15 neu £ 17 yn y siroedd cyn y gall dinesydd feddu yr un hawlfraint Gwadai a phrofai fod mwyafrif y Ceid- wadwyr wedi en hanfon i senedd-dy Prydain gan y dosbarth gweithgar, ac fod y mwyafrif wedi en hanfon o blith yr eiholwyr hyny lie nad oedd gan y dosbarth gweithgar bleidlais, am fod gan y Ceidwadwyr dros y bwrdeisdrefi 50 yn llai o aelodau na'r Rhyddfryd- wvr. Cafodd dderbyniad gwresog gyda yr eithriad o ychydig bersonau. Y mae llawer o ysgrifenu wedi bod yn ystod yr wythnosau sydd wedi syrth- io i'r gorphenol, gan offeiriaid yr Eglwys Sefydledig ac ereill, yn nghylch yr ansoddair PARCHEDIG. Tybiwn i'r ymrysonfa ddechreu am fod gweinidog i'r enwad Wesleyaidd am roddi ei enw argareg fedd ei ferch, ac fel y cyfryw, roddi yr ansoddair Parch- edig o flaen ei enw. Modd bynag, pallodd yr offeiriadyn ganiatau hyny, am yr ystyriai pad oedd a fyno a'r teitl. Syndod y byd, carwn wybod pa deitl ydyw Arweiniodd y gwrthodiad i'r gweinidog Wesleyaidd roddi cyf- raith ar eu gwarau. Y canlyniad fu, fod hawl i'r gweinidog roddi y teitJ Parchedig o flaen ei enw. Y mae yn destyn syndod ouid yw, fod gweinidog- ion yr Eglwys Sefydledig, ac efallai, Ymneillduol hefyd, yn ymladd ifrae bapyr am y gair Parchedig Y gwir yw hyn, y mae yn rhaid cael rhywbeth heblaw enw a theitl y dyddiau hyn; gan hyny, nid yw yn werth iddynt wastraffn eu hamser a pbapyr i ym- ryson am dano. Y mae yr enwog Mr. Spurgeon yn ei wrthod, a gwell i ereill ei efelychu. Yn wir, yn ol y newydd- iaduron, y mae rhai yn gwneud hyn, canys fe ymddangosodd yr hyn a gan- lyn yr wythnos ddiweddafmewn papyr a elwir Y Guardian Derbyniodd y cyhoeddwTyr luaws o apeliadau oddi- wrth dderbynwyr offeiriadol; yn gofyn am beidio eu hanerch mwyach fel y Parchedig, wedi dyfarniacl y Pwyllgor c cl Brawdwrol, yr wythnos ddiweddaf. Dymunent gael eu hanerch yn y dyfod- ol fel Rector neu Ficer," yn ol eu sefyllfa, yn lie fel arfer." Yr oedd yn dda genyf gael fy hys- bysu yr wythnos ddiweddaf, fod fy hen gyfaill ME T. MORGAN (LLYFNWY) wedi symud yn ol i Faesteg. Y mae Llyfnwy yn berffaith adnabyddus yn Neheudir Cymru fel arweinydd eis- teddfodau, hynafiaethydd, ac ysgrifen- ydd. Bu yn ohebydd ffyddlawn am flynyddau i gydwythnosolyn, ac ysgrif- enodd nifer mawr o lythyrau dan yr enw 'Hen Backman,'y rbai, gan mwy- af, oeddynt yn dra derbyniol, addysg- iadol, a dyddorol. Tna dwy neu dair blynedd yn ol, symudodd Llyfnwy i Nantgarw, ger JNynon Taf. Rhuthr- odd un o donau geirwon bywyd ilenorol drosto tra yno, a'r canlyniad fu, iddo orfod symud i Llanilltyd Faerdref, pentref bycban rhwng Pontypridd a Llantrisant. Ni wenodd ffawd arno yn rhy dda tra yno, o herwydd marweidd-dra masnach, ac oganlyniad penderfynodd ddychwelyd yn ol i'w hen drigfa, Maesteg, lie y derbyniwyd ef gyda breichiau agoredgan ei holl gydnabod, ac yn neillduol ei gyfeillion fienyddol. Nid oedd Llanilltyd Faer- dref na Nantgarw yn ei ateb, am ei fod mor hoff o gyfeillach llenorion. Bellach, ay ma fe wedi dychwelyd, a gobeithiaf y bydd iddo anion anibell i lith eto i'r DARIAN. Yn ol y newyddion 0'1 AMERICA, hysbvsir ni mai gwell i bawb ydyw aros gartref. Bod y gweithfeydd yn hynod o farwaidd, a llawer o honynt wedi sef- yll yn hollol, a miloedd, allan o waith. Y gwir yw h vn, fod pethau yn dlotach yn America nag ydynt yma gyda ni. Nid oes ond llythyrau hynod ddigalon yn ein cyrhaedd, ac ofnir na wnaiff y wlad wella fawr hyd nes yr etholir y Llywydd yr hyn a gymer le eleni. Ll I Yr oedd yn dda genyf ddarllen am Iwyddiant Mr. D. Jenkins, Trecastell, Brycheiniog, sef ei fod wedi enill y dorch am gyfansoddi An them yno hefvd am Iwyddiant Mr. Thos- D. Grif- I w cl fiths, St. Clair, Pennsylfania, (brawd.y Griflisiaid, yr argraffwyr, o Gwmafon), ei fod yntau yn parhau yn ei lafur cerddorol, a'i fod wedi enill dwy wobr bwysig yu Eisteddfod Canolbarth Pen- nsylfania, yr hon a gynaliwyd y Nadol- ig. Am gyfansoddi cerddoriaeth y rhagarodd ynteu hefyd. Llwyddo wnelont yw dymuniad Y GWTLIWR.

O'R WEST.

YMWELIAD A GWEITHFEYDD ALCAN…

"IvIULTUM IN PAR vo."

HYSBYSIAD. '

IIYSBYSIALX

Advertising