Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

YR HUGUENOTS.

News
Cite
Share

YR HUGUENOTS. YR oedd perffeithrwydd creulondeb Pabyddiaeth yn ymddangos yn eu gwaith mileinig o geisio rhwystro y Protestaniaid uchod i ddiauo o'r wlad. Ni chaent addoli Duw yn ol y Beiblyn eu gwlad eu hunain. Gan hyny, yn ol cyfarwyddyd' Crist, ceisient ddianc i wledydd ereill. Gwnaeth y Pabyddion bob ymdrech i'w rhwystro i wneud hyny, yn y modd mwyaf manwl, pen derfynol, a chreulawn ag y medrent. Ond yr oedd miloedd yn ymfudo o'u gwaethaf hwynt. Defnyddient bob moddion o fewn eu eyrhaedd at hyny. Prynent y passports angenrheidiol, y rhai a werthid iddynt gan ysgrifenydd- ion y mawrion oedd mewn awdurdod, a hyd y nod gan glerks gweinidogion y llywodraeth. Prynent frafr y milwyr a osodid i'w gwylied a'u rhwystro, trwy rpddi mewn amtell engra,ifft, gymaint a EI.50 a £333, am gael rhyddid i ddianc. Diangai y rhan fwyaf yn y nos, ar hyd lwybran dyeithrol, unigol. Cudd- ient eu hunain mewn ogofau yn ysto d y dydd. Yr oedd ganddynt lyfriu wedi cael eu parotoi at eu cyfarwyddo yn y teithiau hyn. Ymlithrent lawr ar hyd glogwyni serth, dringent fynydd- oedd uehel, ac ymddangosent yn mbob math o wisgoedd, i gadw eu -gelynion Pabyddol rhag eu hadnabod. Ym- ddangosent fel milwyr, bugeiliaid, teithwyr pereriudodcl, helwyr, gweis- ion' boneddigion, masnachwyr, cardot- wyr, ac ymddangosai rhai fel gwerth- wyr coronigau, a rh@slwyni paderau y Pabyddion. Yr cedd boneddigesau, y rhai nad oeddynt wedi gweled dim ond byd esmwyth trwy eu hoes, rhai o hon- ynt yn 70 mlwydd oed, yn teithio 300 milldir i ryw bentref, ynol cyfarwydd- yd y brodyr Protestanaidd o dan erledigaeth. dwnaed hyn hefyd gan foneddigesau ieuainc, tyner. Carient feichiau, a gwthient berfaau trol o'u blaenau. Anurddent eu hwynebau a rhyw bethau i'w gwneud yn llwyd, crychlyd, a ehyftredin, nes chwysigenu eu crwyn. Ceisient ymddangos yn attach, mud, a gwallgof, fel Daiydd o flaen brenin Gath. Gwisgai ambell foneddiges ddillad gwryw, a dilynai ryw un mawr ar geffyl, fel gwas, trwy y llaid. Ymddangosai llawer o honynt fel hyn yn Rotterdam yn Holland. Rhai wedi cael eu gorfodi i law-nodi eu bod wedi troi yn Bab, adion oedd miloedd o'r rhai hyn. Pan gyr- haeddent Rotterdam, cyn tynu ymaith eu gwisgoedd benthyg, aent at y pulpit Protestanaidd i gyhoeddi eu hedifeir- weh o'u llawnodiad gorfodol. Garfodid hwynt, nes iddynt er mwyn diane ymguddio yn y llongau yn nghanol nwyddau, barilau, a glo, rhag iddynt gael eu rhoddi i fyny i'w gelyn • ion. Y mguddiai plant mewn lleoedd o'r fath am wythnosau, heb. lefain, i fradyehu eu hunain ac ereill. Byddai mamau tyner a'u babanod yn dianc mewn badau agored, heb gymeryd digon o ddwfr gyda hwynt, rhag wrth gymeryd digon o ddwfr cyn cychwyn, y byddai y Pabyddion yn tybio eu bod yn dianc, ac yn eu rhwystro i fyned ymaith. Disychedent eu rhai bach a'r eira a ddisgynai i'r badau, neu a allent gymeryd gyda hwynt. Bu miloedd o honynt feirw trwy ddylanwad oerfel, teithio blinedig, newyn, llongddrylliadau, a bwledau y milwyr Pabyddol. Daliwyd miloedd, a chadwynwyd hwynt wrth lofruddion, a llusgwyd hwynt fel hyn trwy y deyrn- as, er mwyn creu ofu yn eu brodyr i ddilyn eu siamplau. Condemniwyd hwynt i rwyfo llongau fel drwg weiih redwyr. Yr oedd y galleys cospawl yn Marseilles yn llawn o'r Protestaniaid hyn, y rhai oeddynt, lawer o honynt, wedi bod yn ynadon, swyddogion gwladol uchel, boneddigion, ac yn hen bobl. Gyrid y gwragedd i leiandai Pabyddol, ond nid oedd bygythion, nac unrhyw fath o greulonderau yn tycio i beri iddynt ymadael a'r ffydd. Y mae eu gwaed hwynt heddyw yn gwaeddi am ddial;' ac y mae yn syrthio yn gawodydd o ddial ar y Babaeth, trwy holl Ewrop, yn awr. Cyftrodd y Ilys wrth weledy boblog- aeth yn diflanu, a gweithfeydd yn ter- fynu. Meddyliodd mai perygl oedd yn peri i ddynion fyned ymaith, nid eu ffydd. Agorasant, borthladdoedd y wlad. Lluosogodd hyny nifer yr ym- fudwyr yn aruthro1. Wrth weled hyn cauodd y llys yporthladdoedd drachefn y diwrnod nesaf ar ol eu hagor. Cafodd yr ymfudwyr gydymdeimlad boll Brotestaniaid Ewrop. Yr oedd pawb yn eu croesawu. Yr oedd pawb yn barod i wneud en goreu i ddiwallu eu hangenion. Rhoddwyd digon o gyfle a iaodd iddynt enill eu bywiol- iaeth. Adeiladwyd tai addoliad iddynt fel y gallent addoli Duw yn ol y Beibl a'u cydwybodau. Yr oedd pobl Pryd- ain, yn llywodraethwyr a pbawb, yn nghyd a phobl Switzerland, Hollan-l, Prwsia, Denmarc, Sweden, &c.; yn rhoddi croesaw brwdfrydig iddynt. Aeth trefedigaoti-iali o honynt allan i ogledd America, ac i'r Cape of Good Hope. Ond er colli ocldeutu. 400,000. o'i ddeiliaid goreu fel hyn, er niweid mawr i'w deyrnas, ni leihaodd ysbryd erledigaethus brenin Ffrainc i'r gradd- au Ileiaf. Yr oedd oddeutu miliwn o Brotestaniaid yn Ffrainc wedi yr ym- fudiad mawr. Cafodd y rhai hyny eu trin yn y modd creulonaf a allai v Pab- yddion ddyfeisio. Cvmerwvd e-ti plant o bump i chwech oed oddiarnynt trwy orfodaeth yr orsedd, i'w dwyn i fyny yn Babyddion. Chwilid eu tai hwynt am ysgrifeniadau Protestanaidd a Beiblau, a llosgid hwynt yn. y tan. Y mae geiriau yr Arglwydd trwy y protfwyd Jeremiah yn gymwysiadol at y Pabyddion creulon hyn, H Onid ym- welaf am y pethau hyn ? Medd yr Arglwydd oni ddial fy enaid ar gyf- ryw genedl a hon ?" Yn lie lleihau nifer y Protestaniaid, bu yi erledigaeth yn foddion i'w cyn- yddu. Bu hyn yn siomiant mawr i'r erlidwyr. Cadwai y Protestaniaid gyf- arfodydd eu haddoliad mewn gelltydd coed, ar benau mynyddoedd, ac yn nyfllder dyffrynoedd gwledig. Addun- edont gadw at eu ffydd yn y Baibl byd angau. Ond mewn rhai parthau o Ffrainc y gallent, hyd y nod fel hyn addoli yn gyhoeddus. Cylioeddwyd y byddai i unrhyw bregethwr Protestan- aidd, a safai i fyny i bregethii, gael ei ddienyddio fel drwg-weithredwr, ac yr alltudid pawb a roddai lety iddo. Cyn- ygiodd y llywodraeth wobr fawr am ddal pregethwr Protestanaidd. Cy- hoeddwyd y rhoddid i farwolaeth bob dyn a elai i gyfarfod i wrando pregeth- wr Protestanaidd. Yn ngwyneb hyn gwnaeth y milwyr annuwiol, fel dragoons Siarls II., yn ein gwlad ni, bob ymdrech i chwilio am Brotestan- iaid. Ac os clywent sain can a mol- iant, neu lef gweddi yn yr allt, neu ar v mynydd, rhuthrent fel ellyllon ar yr addolwyr a lladdent hwynt oil yiiy fan, yn y modd mwyaf creulon. Llanwycl y carcbarau a'r llongau alltndiol a Phrotestaniaid. Alltudiwyd llawer i America, lie y buont feirw bron i gyd. Yr oedd yr urdd Babyddol, y Jan- senists, yn erbyn y creulonderau hyn. Ond yr oedd y Jesuitiaid yn gwneud eu gorea i'w cadw yn miaen yn eu rhwysg melldigedig. Yr oedd y Pab yn cefnogi y Jesuitiaid. Yr oedd Archesgob Paris, Noailles, yn Jansen- ist. Ceisiodd efe gan y brenin i der- fynu y creulonderau. Felly y gwnaeth Fenelon esgob Cambray. Ond cyhoedd- odd y brenin edict greulon arall ar y 13 El rill, 1608. Erlidiwyd y Jansenists eu hunain gany Jesuitiaid a'r Pab. A phar- haodd yr erledigaeth ar yr Huguenots Protestanaidd. Wedi i'r ddeddf uchod gael ei chyhoeddi i gadarnhau yr un greulon o'r blaen, deehreuodd y ddeu- nawfed ganrif, yn y fiwyddyn 1700, yn nosaidd iawn ar Ffrainc. Ymlidiwyd dynion Duw am ddweyd eu cwynwrtho mewn dirgel fanan. Rhoddid hwynt i farwolaeth am geisio diddanwch i'w heneidiau. allan o'i Air ef. Rhyfedd oedd amynedd Duw tuag at y bwtcher- iaid PahyddoI.

-------+------BWRDD SHON CENT.

MAEWOLABTH HEN NBWYDDIADUE.

♦ TERFYNIAD Y STRIKE YN BLAENAFON.

..-'--' CNOI TRWYN YMAITH.

[No title]

RHYBUDD I YMFUDWYR.

J ABERDAR.

[No title]

Y CASGLIAD DIvlEDDAR YN Y…

----------AT DD08BABTII LLWCHWR…

TRINITY ABERDAR—ANBHEGFLAD

— TERFYNIAD YR ANNEALLDWR-IAETII…

AT LOWYE A MWNWYR StR. FYNWY…