Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
YR HUGUENOTS.
YR HUGUENOTS. YR oedd perffeithrwydd creulondeb Pabyddiaeth yn ymddangos yn eu gwaith mileinig o geisio rhwystro y Protestaniaid uchod i ddiauo o'r wlad. Ni chaent addoli Duw yn ol y Beiblyn eu gwlad eu hunain. Gan hyny, yn ol cyfarwyddyd' Crist, ceisient ddianc i wledydd ereill. Gwnaeth y Pabyddion bob ymdrech i'w rhwystro i wneud hyny, yn y modd mwyaf manwl, pen derfynol, a chreulawn ag y medrent. Ond yr oedd miloedd yn ymfudo o'u gwaethaf hwynt. Defnyddient bob moddion o fewn eu eyrhaedd at hyny. Prynent y passports angenrheidiol, y rhai a werthid iddynt gan ysgrifenydd- ion y mawrion oedd mewn awdurdod, a hyd y nod gan glerks gweinidogion y llywodraeth. Prynent frafr y milwyr a osodid i'w gwylied a'u rhwystro, trwy rpddi mewn amtell engra,ifft, gymaint a EI.50 a £333, am gael rhyddid i ddianc. Diangai y rhan fwyaf yn y nos, ar hyd lwybran dyeithrol, unigol. Cudd- ient eu hunain mewn ogofau yn ysto d y dydd. Yr oedd ganddynt lyfriu wedi cael eu parotoi at eu cyfarwyddo yn y teithiau hyn. Ymlithrent lawr ar hyd glogwyni serth, dringent fynydd- oedd uehel, ac ymddangosent yn mbob math o wisgoedd, i gadw eu -gelynion Pabyddol rhag eu hadnabod. Ym- ddangosent fel milwyr, bugeiliaid, teithwyr pereriudodcl, helwyr, gweis- ion' boneddigion, masnachwyr, cardot- wyr, ac ymddangosai rhai fel gwerth- wyr coronigau, a rh@slwyni paderau y Pabyddion. Yr cedd boneddigesau, y rhai nad oeddynt wedi gweled dim ond byd esmwyth trwy eu hoes, rhai o hon- ynt yn 70 mlwydd oed, yn teithio 300 milldir i ryw bentref, ynol cyfarwydd- yd y brodyr Protestanaidd o dan erledigaeth. dwnaed hyn hefyd gan foneddigesau ieuainc, tyner. Carient feichiau, a gwthient berfaau trol o'u blaenau. Anurddent eu hwynebau a rhyw bethau i'w gwneud yn llwyd, crychlyd, a ehyftredin, nes chwysigenu eu crwyn. Ceisient ymddangos yn attach, mud, a gwallgof, fel Daiydd o flaen brenin Gath. Gwisgai ambell foneddiges ddillad gwryw, a dilynai ryw un mawr ar geffyl, fel gwas, trwy y llaid. Ymddangosai llawer o honynt fel hyn yn Rotterdam yn Holland. Rhai wedi cael eu gorfodi i law-nodi eu bod wedi troi yn Bab, adion oedd miloedd o'r rhai hyn. Pan gyr- haeddent Rotterdam, cyn tynu ymaith eu gwisgoedd benthyg, aent at y pulpit Protestanaidd i gyhoeddi eu hedifeir- weh o'u llawnodiad gorfodol. Garfodid hwynt, nes iddynt er mwyn diane ymguddio yn y llongau yn nghanol nwyddau, barilau, a glo, rhag iddynt gael eu rhoddi i fyny i'w gelyn • ion. Y mguddiai plant mewn lleoedd o'r fath am wythnosau, heb. lefain, i fradyehu eu hunain ac ereill. Byddai mamau tyner a'u babanod yn dianc mewn badau agored, heb gymeryd digon o ddwfr gyda hwynt, rhag wrth gymeryd digon o ddwfr cyn cychwyn, y byddai y Pabyddion yn tybio eu bod yn dianc, ac yn eu rhwystro i fyned ymaith. Disychedent eu rhai bach a'r eira a ddisgynai i'r badau, neu a allent gymeryd gyda hwynt. Bu miloedd o honynt feirw trwy ddylanwad oerfel, teithio blinedig, newyn, llongddrylliadau, a bwledau y milwyr Pabyddol. Daliwyd miloedd, a chadwynwyd hwynt wrth lofruddion, a llusgwyd hwynt fel hyn trwy y deyrn- as, er mwyn creu ofu yn eu brodyr i ddilyn eu siamplau. Condemniwyd hwynt i rwyfo llongau fel drwg weiih redwyr. Yr oedd y galleys cospawl yn Marseilles yn llawn o'r Protestaniaid hyn, y rhai oeddynt, lawer o honynt, wedi bod yn ynadon, swyddogion gwladol uchel, boneddigion, ac yn hen bobl. Gyrid y gwragedd i leiandai Pabyddol, ond nid oedd bygythion, nac unrhyw fath o greulonderau yn tycio i beri iddynt ymadael a'r ffydd. Y mae eu gwaed hwynt heddyw yn gwaeddi am ddial;' ac y mae yn syrthio yn gawodydd o ddial ar y Babaeth, trwy holl Ewrop, yn awr. Cyftrodd y Ilys wrth weledy boblog- aeth yn diflanu, a gweithfeydd yn ter- fynu. Meddyliodd mai perygl oedd yn peri i ddynion fyned ymaith, nid eu ffydd. Agorasant, borthladdoedd y wlad. Lluosogodd hyny nifer yr ym- fudwyr yn aruthro1. Wrth weled hyn cauodd y llys yporthladdoedd drachefn y diwrnod nesaf ar ol eu hagor. Cafodd yr ymfudwyr gydymdeimlad boll Brotestaniaid Ewrop. Yr oedd pawb yn eu croesawu. Yr oedd pawb yn barod i wneud en goreu i ddiwallu eu hangenion. Rhoddwyd digon o gyfle a iaodd iddynt enill eu bywiol- iaeth. Adeiladwyd tai addoliad iddynt fel y gallent addoli Duw yn ol y Beibl a'u cydwybodau. Yr oedd pobl Pryd- ain, yn llywodraethwyr a pbawb, yn nghyd a phobl Switzerland, Hollan-l, Prwsia, Denmarc, Sweden, &c.; yn rhoddi croesaw brwdfrydig iddynt. Aeth trefedigaoti-iali o honynt allan i ogledd America, ac i'r Cape of Good Hope. Ond er colli ocldeutu. 400,000. o'i ddeiliaid goreu fel hyn, er niweid mawr i'w deyrnas, ni leihaodd ysbryd erledigaethus brenin Ffrainc i'r gradd- au Ileiaf. Yr oedd oddeutu miliwn o Brotestaniaid yn Ffrainc wedi yr ym- fudiad mawr. Cafodd y rhai hyny eu trin yn y modd creulonaf a allai v Pab- yddion ddyfeisio. Cvmerwvd e-ti plant o bump i chwech oed oddiarnynt trwy orfodaeth yr orsedd, i'w dwyn i fyny yn Babyddion. Chwilid eu tai hwynt am ysgrifeniadau Protestanaidd a Beiblau, a llosgid hwynt yn. y tan. Y mae geiriau yr Arglwydd trwy y protfwyd Jeremiah yn gymwysiadol at y Pabyddion creulon hyn, H Onid ym- welaf am y pethau hyn ? Medd yr Arglwydd oni ddial fy enaid ar gyf- ryw genedl a hon ?" Yn lie lleihau nifer y Protestaniaid, bu yi erledigaeth yn foddion i'w cyn- yddu. Bu hyn yn siomiant mawr i'r erlidwyr. Cadwai y Protestaniaid gyf- arfodydd eu haddoliad mewn gelltydd coed, ar benau mynyddoedd, ac yn nyfllder dyffrynoedd gwledig. Addun- edont gadw at eu ffydd yn y Baibl byd angau. Ond mewn rhai parthau o Ffrainc y gallent, hyd y nod fel hyn addoli yn gyhoeddus. Cylioeddwyd y byddai i unrhyw bregethwr Protestan- aidd, a safai i fyny i bregethii, gael ei ddienyddio fel drwg-weithredwr, ac yr alltudid pawb a roddai lety iddo. Cyn- ygiodd y llywodraeth wobr fawr am ddal pregethwr Protestanaidd. Cy- hoeddwyd y rhoddid i farwolaeth bob dyn a elai i gyfarfod i wrando pregeth- wr Protestanaidd. Yn ngwyneb hyn gwnaeth y milwyr annuwiol, fel dragoons Siarls II., yn ein gwlad ni, bob ymdrech i chwilio am Brotestan- iaid. Ac os clywent sain can a mol- iant, neu lef gweddi yn yr allt, neu ar v mynydd, rhuthrent fel ellyllon ar yr addolwyr a lladdent hwynt oil yiiy fan, yn y modd mwyaf creulon. Llanwycl y carcbarau a'r llongau alltndiol a Phrotestaniaid. Alltudiwyd llawer i America, lie y buont feirw bron i gyd. Yr oedd yr urdd Babyddol, y Jan- senists, yn erbyn y creulonderau hyn. Ond yr oedd y Jesuitiaid yn gwneud eu gorea i'w cadw yn miaen yn eu rhwysg melldigedig. Yr oedd y Pab yn cefnogi y Jesuitiaid. Yr oedd Archesgob Paris, Noailles, yn Jansen- ist. Ceisiodd efe gan y brenin i der- fynu y creulonderau. Felly y gwnaeth Fenelon esgob Cambray. Ond cyhoedd- odd y brenin edict greulon arall ar y 13 El rill, 1608. Erlidiwyd y Jansenists eu hunain gany Jesuitiaid a'r Pab. A phar- haodd yr erledigaeth ar yr Huguenots Protestanaidd. Wedi i'r ddeddf uchod gael ei chyhoeddi i gadarnhau yr un greulon o'r blaen, deehreuodd y ddeu- nawfed ganrif, yn y fiwyddyn 1700, yn nosaidd iawn ar Ffrainc. Ymlidiwyd dynion Duw am ddweyd eu cwynwrtho mewn dirgel fanan. Rhoddid hwynt i farwolaeth am geisio diddanwch i'w heneidiau. allan o'i Air ef. Rhyfedd oedd amynedd Duw tuag at y bwtcher- iaid PahyddoI.
-------+------BWRDD SHON CENT.
-+- BWRDD SHON CENT. AE yr amod nad oes neb ond chwychwi a minau, Mr. Gol.—dau berson pwysig welwch clnvi—i ysgrifenu Byrddau, yr wyf yn ymgymeryd ag ysgriblo Bwrdd i'ch TAIIIAH mor amled ag y medraf, gan ddeehreu gyda mesur byr, a hyny ar y mis byrafyn y flwyddyn. HEN* YSGRIF. Dywed yr Athenmum fod hen ysgrif werthfawr wedi cael ei darganfod yn yr Azores, Cyfeiria yr ysgrif at sefydlwyr yn mharthau gog- ledddol America yn yflwyddyn 1500, sef ymfudwyr o Oporto, Aveiro, ac Ynys Terceira. Ysgrifenwyd hi gan Francisco de Souzar yn 1570. Dywed Barboza lVlachado i'r ysgrifen gael ei eholli adeg y ddaeargryn yn Lisbon,. yn 1755. Y mae yr ysgrif bwysig hon ar gael ei chyhoeddi gan foueddwr Azoraidd, a dysgwylii" y bydd iddi daflu cryn oleuni ar y pwnc dadleuol o ddar- ganfyddiad America.
MAEWOLABTH HEN NBWYDDIADUE.
MAEWOLABTH HEN NBWYDDIADUE. Peth arall gwerth ei. nodi yn y byd llenyddol ydyw marwolaeth newydd- iadur yn Liverpool, o'r enw Gore's Advertiser, yr hwn unwaith oedd y newyddiadur masnachol pwysicaf yn y dref. Cyhoeddwyd ef am 111 o flyn- yddoedd. Heddwch i'w lwch (chwedl Cludydd). YMENYN. Pwy nad yw yn ho if o damaid o ymenyn da, aceto y mae yn ffaith, pe na ddygid i'n marchnadoedd ddim ond ymenyn digyirysg, y byddai o leiaf yn 5s. y pwys, ac o ganlyniad na welid ef ar fyrddau neb ond y nhw, y cyfoethogion. Er cyfarfod a'r prinder hwn, y mae cymysgedd yn cael ei wneud, a'r pethau a gymysgir yn benaf ydynt ddwfr, halen, starch, fllwr, todd- ion lard, mer, bloneg da a cheffylau, &c., y rhai nad ydynt yn- bethau ni- weidiol mewn un ystyr. Yr eiddoJh hyd y bon,—
♦ TERFYNIAD Y STRIKE YN BLAENAFON.
♦ TERFYNIAD Y STRIKE YN BLAENAFON. Y MAE yn dda genym gael ar ddeall fod gweithwyr haiarn Blaenafon wedi dech- reu gweithio eto er dydd Linn diwedd- af, wedi bod allan am bedair wythnos yn erbyn gostyngiad yn gwahaniaethu o 10 i 25 y cant. Cynaliodd y gweith- J wyr a'r prif oruchwyliwr amryvY gyfar- fodydd yn ystod yr wythnos ddiweddaf, canlynifid pa rai ydyw fad gweithwyr wedi ail ddechren ar y t-elerau fod y pttddlers i'w gostwng 8 a haner ycant, I y a'r. dosbarthiadau ereill o 8 i 15 y cant.
..-'--' CNOI TRWYN YMAITH.
CNOI TRWYN YMAITH. DYDD Idan diweddaf, yn Elkington, Derby, dedfrydwyd glowr or enw Whitland, i garchar am ddau fis am gnoi ymaith drwyn dyn yr oedd yn eweryla ag ef mewn tafarn.
[No title]
& Y MAE amgylchiad hynod o lo?i iaeth gwraig wedi cymeryd lie yn J <- stabl. Nos Lun, mewn eweryl, v- odd dyn o'r enw Dumpleton ei yn ei phen a phocer, ac wedi hyny ■ wanodd hi a chfllell, gan ei lladd yn y man.
RHYBUDD I YMFUDWYR.
RHYBUDD I YMFUDWYR. FE ymddengys o bryd i bryd yn y DAKIAN, amryw lythyrau, naill ai oddi- wrth y trefedigaethwyr ar yr afon Chupat eu hunain, neu ynfce oddhvrth y goruchwylwyr hyny sydd yn dal cysyllt- iad masnachol, neu fel arall, a'r drefedig- aeth: ond an amI y gwelir yn y wasg Gymreig dystiolaeth unrhyw berson anmhleidiol o berthynas i sefylIfa, ein cydwladwyr yn y rhan hono o'r byd. Ond er mwyn rhoddi mantais i'r Oymro i gael barn Sais, am gyfiwr y drefedig- aeth ar yi- afon Ghupat, cyfieithais y llythyr canlynol, yr hwn a ymddangos- odd yn y Times am ddydd Sadwrn di- weddaf Yn fy ngohebiaeth gyda'r mail diweddaf o Buenos Ayres, fe ddyg- wyddodd rliybudd awgrymol i'r rhai hyny sydd yn bwriadu ymfudo i'r dre- fedigaeth Gymreig ar yr afon Ghupat, Patagonia. Fe ysgrifena fy nghyfaill;, (enw yr hwn yr wyf yn ei roddi i chwiy, fod y trefedigaethwyr y nesaf beth i newynu. Rhyw 1,000 i 1,200 o drefeaig- aethwyr wedi myned i lawr acw, ac heb ddim iddynt i'w fwyta. Yr hen drefedig- aethwyr wedi danfon i fyny, ac wedi gwerthu cynyrch y fiwyddyn d diweddaf, ond cadw yn unig ddigon i gynal eu rhif bychan eu hunain. Ni chyfododd yr afon Chupat y fiwyddyn hon, felly gan nad yw y tir wedi eiddyfrhau, na'i droi, ni fydd dim cnwd eleni." At hyn, medd yr ysgrifenydd, gallaf yehwanegu, pan bum- i lawr wrth y Chupat yn 1873, yr oedd y drefedigaeth fechan yn nghylch 140 o eneidiau ac ar ei phrawf fan (turning point); wedi am sex* maith o ddyoddefaint ac anghen, yr oedd yn dechreu codi digon o iafur i ddiwallu ei rheidiau. Fe ychwanegwyd at hyn yn y ddwy ilynedd ganlynol weddill, yr hwn a allforwyd i Buenos Ayres. Fe ddarfu sefyllfa iewyrchus y drefedigaeth fod yn argymhelliad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, i gychwyn mudiad ychwaneg o Gymru—mudiad rhy fawr mae lie i'w ofni i gyfateb i'r adnoddau cyfyngedig sydd wrth law y trefedigaethwyr. Y mae yn dra thebyg y bydd i'r llywodraeth Argentine gyn- orthwyo yr ymfudwyrdiweddaraf i fyned dros eu anhawsderau cyntaf, ac efallai na fydd. pethau cynddrwg ag y dywedir. Eto, efallai y bydd gair o rybudd yn eich colofnau yn foddion i rwystro ein cyfeillion Gymreig rhag gwneud gormod o adnoddau cyfyngedig y drefedigaeth yn Patagonia. Yr eiddoch, &c., CHILTON.
J ABERDAR.
J ABERDAR. NEWYDD DA O'R GADLYS. ANAML iawn y mae newyddion da i'w cael y dyddiau presenol. Rhyw son am ostyng- iad pris neu strike, neu weithiau yn caei ei hatal sydd i'w gael braidd o hyd, ond wele newydd da o'r Gadlys ffwrnes wedi cael ei chwythu i fewn, dyna oedd can a chydgan pawb drwy ddyffryn Aberdar, diwedd yr wythnos ddiweddaf. Dydd Gwener diweddaf, yr oedd y mag- nelau yn cael eu gollwng allan nes oedd yr hen gwm yn diasbedain o ben bwy gilydd, a phob ergyd yn dywedyd un o -Fwriiesi'r.Gadlys yn cael ei chwythu i fewn," a miloedd o dafodau yn ateb, da iawn." Difyr iawn yw civ wed ami 1 hen wr a hen wraig yn adrodd eu teirn- lad yn wyneb y fath newydd. Yn ol yr hyn a glywais gan rai o awdurdodau'r gwaith, dengys eu bod yn bwriadu dech- reu y gwaith mwn yn f ac y bydd yna le i amryw weithwyr. Llwydd iddynt ddywedaf o e. X c JOB, a phe bawn yn agoa i'r awd i oden, gwnwn guro eu cefnau gai ( h.yeyd da iawn, ewch rhagoch, Terfj trwy ddweyd, 'Rhorf n glod i'r awdurdodau,—a chodwn Uwch adwyth eu henwau Dyrcliafwn parchwn trwy 'n pan, Wyr envvog am eu rhiniau, Yr eiddoch, GWEXTEIWK-
[No title]
:0'2- Y MAE gwehyddion sidan amryw gwmniarx yn Macclesfield wedi striko yn erbyn gostynglaytlogau. Mewn un amgylchiad, y mae y gwaith wedi ex i Glasgow, trwy yr hyn yr achuba y meistri 12 y cant.
Y CASGLIAD DIvlEDDAR YN Y…
Y CASGLIAD DIvlEDDAR YN Y BEOADOAK. DYXJIINEM, gydnabod trwy gyfrwng y DAHIAN, dderb-rniad dau swilt oddiwrth Mr. vVm. Bevaxi, adeiladyd.d,Gasllwchwr, tuag at chwyddo swm y casgliad uchod, ac lief yd ein bod wedi gwneud ychydig o gamsynied wrth gyhoeddi rhestr y tanysgrifiadau, trwy osod cyfran Mr. W. Richards, Uasllwc-hwr, yn swm y cyfeill- ion, yn lie cyhoeddi ei enw a'i rliodd o swllt. Yr ydwyf dros fy nghydlowyr yn cvnyg y dioichgarweh mwyaf gwresog a diffiuant i fasnachwyr, a phawb o bres- wyiwyr G-lan y Llwchwr, am ei cydym- deimlad a'i haelionusrwydd tuag atom yn y cyfyngder hwnw. Ydwyi yr eiddoch, UN GLO WYR.
----------AT DD08BABTII LLWCHWR…
AT DD08BABTII LLWCHWR 0 UN- DEB Y GLO W YR. BYDDED hysbys fod cyfarfod tri misol y dosbarth wedi ei ohirio am wythnos, oblegyd fod y Bwrdd Cymodol yn cwrdd ly I dyd(i Sadwrn ncsaf. Yr eidducb,— ABRAHAM.
TRINITY ABERDAR—ANBHEGFLAD
TRINITY ABERDAR—ANBHEGFLAD Nos lau yr wythnos ddiweddaf, ymgyn- ullodd yr eglwys Bresbyteraidd Seisnig a addola yn Trinity, Aberdar, yn nghyda chyfeiTiion ereill, i fwynhau cwpanaid o de gyda'u gilydd cyn niyned at y gorch- wyl o anrhegu y Parch. J. Evans a thysteb arddprcho r. yn cynwys can" gini ac anerchiad hr, id. yn hghyd a saith gini i'w farch ^cch.n. Ca,deirydd, D. Rosser, Ysw. Siariadwyd ar yr achlysur gaay Parchn. Mr. Jones, M.A., offeiriad y lie Mr. Davies, Soar; a Mr. George, Undodwr. Datganwyd amryw ddarnau tlysion gan gory capel, acyn ardderchog gan Mr. 'Rosser ei hun. Cafwyd cyfar- fod ardderchog yn mhob ystyr. Dioleh- odd Mr. Evans i'r gynulleidfa am yr anrheg ardderchog, ac am y cariad a'r brwdfrydedd mawr a ddangosa,sant tuag ato, a gwnaeth sylwadau pwysig ar gy- nwysiad yr aneiehiad, yr hon oedd yn hardd iawn, wedi ei hyrgrifenu gaix ddyn ieuanc yn swyddfa y Mri. Gregors, Abertawe.
— TERFYNIAD YR ANNEALLDWR-IAETII…
— TERFYNIAD YR ANNEALLDWR- IAETII YN BROADOAK. DYDD Mawrfch y 18fed o lonawr, torodd gwawr gobaith am derfyniad yr anghyd- fod yn y mwnglawdd uchod, trwy ddy- feisiad a chynllun Mr. L. L. Bowen, mining engineer, Penbailey,. Llwchwr. Hysbysodd Mr, Bowen xdian o'r gweith- wyr, ei fod ef wedi cael telerau gan y meistr i'w gosodo'u blaenau er terfynu'r annealldwriaeth, os buasent yn cymeryd hyny. Dywedodd Mr, Bowen wrthynt am gyhoeddi cyfarfod y nos canlynol, y buasai efe yn dod yno i wneud ei oreu i derfynu yr ymryson, ac os buasai yn methu ar un noson, y buasai yn ceisio eil- waith. Cynaliwyd cyfarfod y nos can- lynol, a chawsom y pleser a'r mwyniant o gael Mr. Bowen yn y canol yn nghyf- rinfa Cross Keys, Casllwchwr. Bu yno lawer o vmgomio rb wng Mr. Bowen a'r gweithwyr ar wahanol faterion, ond methwyd yn lan a dwyn yr anghydfod i derfyniad. y noson hor.o ond y mae clod arbenigol yn ddyledus iMr. Bowen am ei barourwydu a'i ymdrech i ddwyn dynion i drefn, oblegyd yr oedd llawer ,,y wedi gwasgaru.
AT LOWYE A MWNWYR StR. FYNWY…
AT LOWYE A MWNWYR StR. FYNWY A DEHEUDIR CYMRU". C;Yvv r, Yr y ly:n weii ein gosod o d 1'* u U 0 ch han- erch. t".Yr gyLchIythr, } n yn am 6c. yn 5 M urv -Jem v Bwrdd Cymodol. yr \[ cyntaf a X540 1 1 o-s >nd rhyw j v y b eto i'w 1 i n ( -ml j LLiw y Cyfrif- Ol uw'.r, K'lem Y=t' i," &c. O ganliad, erfyniwn ariicc\ g>t dfsvnio a'n cais yu ddiymaros.. (Arwyduwyd.) Isaac Conuick, G. Coles, James Windsor, S. Davies, Ysg. W. Abraham (Mabon), II. Mitchard, J. Prosser, D. Morgan, T. Halll- t day.