Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

,YR HUGUENOTS.

News
Cite
Share

YR HUGUENOTS. WEDI i dcleddf- greulon Louis XIV, "brenin Ffrainc, yn y flwyddyn 1685, ddyfod mewn grym, yn erbyn y Pro- testaniaid uchod, syrthiwyd arnynt gan eu gelynion Pabyddol, fel pe buasent yn anifeiliaid gwylltion peryglus. Def- nyddiodd eu herlidwyr Pabyddol bob ffurf o greulonderdeb tuag atynt er mwyn eu gorfodi i newid eu crefydd. Yn nghanol: bloeddiadau cigyddol a chableddus, crogent wyr a gwragedd wrth eu gwallt, neu eu traed, wrth ceilings eu hystafelloedd, neu ar fachau mewn simneiau, lie y ceisient eu mygu trwy roddi gwair neu wellt gwlyb ar y tan. Cyn eu llwyr ladd felly, tynent hwy i lawr, ac os na law nodent eu bod yn troi yn Babyddion, gosodent hwy i fynydrachefn ar y bachau. Taflent rai i dan a barotowyd ganddynt, ac ni chymerent hwy allan nes eu haner rostio. Cylyment raffau o dan eu ceseiliau a suddent hwy mewn ffynonau neu bydewau dwfn llawn o ddwfr, ac nis tynent hwy i fyny nes addctw troi yn Babyddion. Diau fod miloedd wedi cael eu boddi fel hyn gan y Pabyddion, oblegyd fod y Protestaniaid yn ffydd- lori i Air Duw, yr hwn felly a'u cymer- odd i wynfyd. Rhwymid hwn fel drwg-weithred- wyr, fel y rhwymid y rhai a osodid ar y ddirdynglwyd, ac yn y sefyllfa hono arllwysid gwin i'w cylla nes i'w synwyr gael ei foddi, ac yn. y sefyllfa hono gorfodent y trueiniaid i gydsynio i fod yn Babyddion. Beth a all brofi yn fwy eglur nad rheswm dyn, mewn parch, rhyddid, a llywodraeth, yw yr hyn a geisia y Pabyddion i bleidio eu crefydd hwy., Kid oes dim mewn dyn a ofnant yn fwy na rheswm. Ac y mae llawer ynmhiith Protestaniaid yn ofni ym- ddangosiad rheswm yn ei onestrwydd, rhyddid, a'i awdurdod, fel pe byddai yn ellyll. Y mae miloedda,broffesant gadw chwareu teg i reswm, rbag cael ei toddi mewn un ffordd, a wnant eu goreu i'w gylymu a'i foddi mewn ffvrdd ereill. Cymerai y Pabyddion rai o'r Hugu- enots Protestanaidd, a thynent eu dillad oddiam danynt, ac amharchent eu cyrff noeth' yn mhob dull a allent ddyfeisio. Gosodent binau bach yn eu cyrff noeth, o'u penau i'w traed, torent hwy a pen- Jcmves,r]xwjgent eu trwynau a gyfeil- iau (pincers) coch-boeth, a llusgent hwy yn y sefyllfahono o amgyleh yr ystafell, nes iddynt addaw troi yn Bab. yddion neu farw. Cofied pobl Cymru mai yr un blaid a wnaeth hyn yn Ffrainc, llai na dan can mlynedd yn ol, ag sydd yn ceisio eu hudo i anfon eu plant i'w hysgolion yn awr i ddysgu iddynt, fod y creulon- derau uchod yn hollol iawn. Cofied pobl Cymru fod holl ddefodwyr ynfyd Eglwys Loegr ac ereill, yn ymgyng- rheirio a'r dynion sydd yn gwneud eu goreu [i ddwyn y wlad hon o dan ddylan.- wad y dvhirod Pabyddol. Cofied pobl Cynjru fod y dyhirod hyn wedi lladd bron cynifer o Brotestaniaid yn Ffrainc ag sydd o drigolion yn holl Gymru yn awr. A gorfoieddant, yn eu llyfrau a argrefrir yn awr, ac a ddosperthir yn Nghymru, eu bod wedi gwneud hyny. Ond ceisiant roddi y bai ar y brenin- oedd, am y creulQnderau, pan y gwyr pawb, ac y cydnabyddant hwy mewn Ilyfr o waith offeiriad o'r enw Keenaa/ ac a ddosperthir yn Nghymru. yn awr, fod y Pab ei hun wedi llawenychu uwch ben erledigaethau ,yr Huguenots Protestanaidd yn Firainc. Curent y Protestaniaid hyn a ffyn, llusgent hwjht yn Uawn^clwyfatt i'r eglwysi Pabaidd. A galwai y dyhirod celwyddog bresenoldeb gorfodol y tru- einiaid felly, yn droad at Babyddiaeth Gellir bron meddwl fod tad y celwydd ei hun yn synu wrth glywed celwyddau diwisg, rhyfygus, ei blant Pabyddol. Cadwent y Protestaniaid ar ddihun am saith neu wyth niwrnod. Cymerai y Pabyddion eu tro nos a dydd i'w gwylied, er mwyn cadw cwsg oddiwrth- ynt. Os gwelent hwy yn gogwyddo eu penau o dan ddylanwad cwsg, taflent ddwfr o fwced i'w hwynebau, neu dal- ient y kettles uwch eu penau., a churent hwy i gadw swn parhaus, nes i'r tru- einiaid fyned yn wallgof. Os caffent ddeall fod neb o'r Protestaniaid yn glaf yn eu gwelyau, gwyr neu wragedd, mewn twymynau neu ryw afiechyd arall, aent at eu gwelyau, a churent ddeuddeg drum yno am wythnos gyfan, hyd nes iddynt droi yn Babyddion, nen gael eu cyflymu allan o'r byd. Byddai yn anhawdd meddwl fod poenydwyr uffern ei hun yn fwy pell na'r Pabydd- ion creulawn oddiwrth deimladau dynoliaeth, a gadael allan bob ystyr- iaeth am grefydd. Famau Cymreig, a ellwch chwi gymeryd y galon i anfon eich plant tyner i ysgolion y blaid a wnaent fel hyn a Phrotestaniaid Cymru pe caffent yr awdurdod i wneud hyny yn eu Haw ? Os gwadant hyn peidiwch a'u credu, oblegyd y maent yn gwneud yr un pethau yn awr yn Ffrainc, byd y meiddiont fel y dengys adroddiadau- y Feibl Gymdeithas bob blwyddynt. Mewn; rhai manau rhwyment dadau a gwyr pertbynol i'r Huguenots wrth byst y gwelyau, a threisient eu gwrag- edd a'u merched o flaen eu llygaid. Caniateid i drais cyhoeddus o'r fath i fyned yn mlaen am oriau. Tynent ewinedd dwylaw a thraed rhai Protes- taniaid llosgent draed eieill. Cymer- ent feginau a chwythent i gylla gwyr a gwragedd, nes peri i'w hymysgaroedd bron i hollti. Os na byddai hyn yn ddigon i beri iddynt droi yn Babydd- ion, carcherid hwynt mewn daeargell- oedd drewllyd, budr, afiach, tywyll. Defnyddid yno tuag atynt bob math o greulonderau y gallai dychymyg cyth- reulig ei ddyfeisio. Tynent eu tai i lawr. Ac os byddent yn feddianwyr tir, gwnae y Pabyddion bob ymdrech i droi hwnw yn anialwch. Torent goedydd y Protestaniaid i lawr, a chymerent eu gwragedd a!u plant, i'w carcharu mewn mynach-dai. Wedi i filwyr Pabyddol y brenin ddyfetha pob peth ag oedd yn nhy y Protestant, gcrfodent ef i brynu pob peth i fodd- loni eu chwantau hwy, ar gost rhai ereill. Yna gorfodid ef mewn llys i roddi ei hawl i'w dy a'i dir i rai ereill am ddyled y gost. Os byddai rhai o'r Protestaniaid hyn yn ceisio dianc rhag cael eu dal gan y cigyddion Pabyddol, ymlidid ar eu hoi fel own ar ol ysgyf- arnogod, ar hyd y meusydd a thrwy y gelltydd, a saethid hwynt fel pe buas- ent yn fwystfilodrheibus. Gorchymynai yrynadon iddynt gael eu dal fel drwg- i weithredwyr. Pan y delid hwynt caffent dtiniaeth fel y drwg-weithred- wyr gwaethaf. Y Pab, yi 'hwn a elwid Inncent XI., oedd y Pab a deyrnasai y pryd hwnw. Anfonodd at frenin Ffrainc genadwri Tw ganmolynyriaith uwchaf, am osod y creulonderau uchod ar waith, "The Catholic Cburch shall celebrate your name with never dying praises for a Work of such devotion towards her," oedd ei eiriau ef yn y genadwri. Ac i gadw coffadwriaeth o'r erledigaeth fell- digedig gwnaeth y brenin Louis dri o fathod, ac arwyddluniau arnynt yr dadgan fod yr Eqlwys Brotestanaidd yn Ffrainc wedi cael ei dfxjystrio. jYttifudodd llawdr o filoedd o'r wlad. Ceisiodd y llywodraeth yn mhob modd rwystro, dylif yr ymfudiad. Gosodwyd dynion i wylied pob tref a phorthladd, acaddawyd gwobrau mawr os dalient yrymfudwyr. Ond bu y cwbl yn ofer. Trwy lawer ffordd ymaith yr aethant yn lluoedd. Cawn olwg eto ar eu ffoedigaeth o wlad eu gelynion Pabydd. ol, ac o gyrhaedd eu creulonderau.

.—:* MR. BRIGHT YN BIRMINGHAM.

DAM WAIN AR Y RHEILFFORDD

MASNACH GLO A HAIARN.

GOSTYNGIAD YN NGHYFLOGAU SWYDDOGION,…

Y WLADFA GYMREIG.

MARWOLAETH TRUENUS ,GWALLGOFDDYN.

Y STRIKE YN LLWCHWR.

[No title]