Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
"JOHN PLOUGHMAN'S TALK."
"JOHN PLOUGHMAN'S TALK." GAN Y PARCH. C. H. SPURGEON. Cyhoeddedig gan Passmore ac Alabaster, Llundain. NIFEB, fechan mewn cydmariaeth o'r Cymry sydd wedi dnrllen J: llyfr bychEjJn; ond dyddorol a phoblogaidd, hwn. Y mae yn agos cant a baner o filoedd o gopiau o hono wedi eu bargraffu eisioes, yr hyn sydd brawf diymwad o'i ddyddor. deb; a thrwy ganiatad y cyhoeddwyr, er mwjn y rhai hyny p'n darllenwyr nad ydynt yn deall yr iaith Seisnig, addawa un o'n gohebwyr ddyfynu amryw ddarnau o hono, a'u cyfieithu i'r iaith Gymraeg, y rhai a fwriadwn gyhoeddi yn y DAKIAN.
PETIIAU DIM GWERTH EU CYNYG.
PETIIAU DIM GWERTH EU CYNYG. Hen ddywediad doeth yw hwnw, "Na wariweh yr oil a feddwch na chredwch yr oil a glywch; na ddywedwch yr oil a wyddoch, ac na wnewchyroll aellwch." Mae cymaint o waith i'w wneud a all ein dwylaw, fel y mae yn drueni gwastraffu gronyn o'n nerth. Os na fydd y chwareu ( yn werth y ganwyll, gwell ymatal ar unwaith. Gwastraffu ainser yw edrych am laeth mewn post clwyd, neu waed mewn erfinen, neu synwyr mewn ffwl. y Peidiwch byth a gofyn arian gan ddyn cybyddlyd nes y byddoch wedi berwi careg dan (flint) yn feddal. Na, wysiwch eich dyledwr, yr hwn ni fedda ddim—ni wnewch ond taflu arian da arol arian drwg, yr hyn sydd debyg i golli eich ffnred heb gael cwningen. Peidi wch cynyg drych i ddyn dall: os bydd dyn mor hunaaol fel na fyn weled ei feiau, ni wna ond cweryla a chwi am eu nodi iddo. Nid yw o un dyben dal llusern i wadd, na siarad am y nef wrth y dyn na ofala am ddim ond ei arian brwnt. Mae amser i bob peth, a ffolineb yw pregetcm i ddynion meddw-taflu perlaa i foch ydyw. Gadewch iddynt sobri yn gyntaf, ac yna siaradwch a hwy yn ddifrifol. Os areithiwch iddynt pan yn feddw, byddwch yn ymddwyn fel pe baech yn feddw eich hun. Na osodweh gath i yru cerbyd, na dynion mewn lleoedd nad ydynt yn addas i fod ynddynt. Nis gellwch droi eirin yn afalau: meddyliau bychain a fyddant fychain. Trueni troi mwnci yn weinidog. Llawer o bregethwyr ydynt deilwriaid da wedi eu handwyo, a chryddion rhag- orol wedi eu troi o'u hiawn alwedigaeth. Pan y mae Duw yn golygu i greadur ehedeg, rhodda adenydd iddo; a phan y bwriada i ddynion bregethu, rhodda iddynt alluoedd. Trueni gwthio dyn i ryfel os na fedra ymladd. Gwell digaloni dyn wrth ddringo na'i gynorthwyo i dori ei wddf. Goddefwch i mi nodi, fel rhwng crom- fachau yn y man hwn, fod ambell greadur i'w gael ca chydnabydda wirionedd y gosodiad uchod. Mae ein brawd yn y lie hwn wedi tramgwyddo yn aruthr 'd' wrth y gweinidog a'r eglwys i'r hon y perthynai iddi am ei atal ar ei yrfa bre- gethwrol, yr hon a fuasai yn sier o droi yn fethiant arno, a buasai cystal iddo dori ei wddf a syrtbio yn destyn gwawd a dirmyg, fel y gwnaeth wrth ymdrechu rhwystro yr eglwysi i adeiladu ty i'w gweinidog. Ni wneir cydau sidan o glustiau bychod, ac ni ddaw mochyn byth yn chwareuwr da ar y flute, dysgwch ef cyhyd ag y mynoch. Nid doeth yw cynyg at anmhosibl- rwydd. GwasfcrafE ar by lor yw tanio at y dynyny lleuad. Mae gwneud estyll o flawd Hit yn ddyfais lied synwyrol o'i chydmaru a'r hyn y mae rhai o fy nghyfeillion yn ymgynyg ato, sef ymdrechu cael arian drwy brynu rhanddaliadan mewn cwm- peini: byddai llawn cystal iddynt geisio dal y gwynt mewn rhwyd, neu gario dwfr mewn gwagr. Mae clychau (bubbles) y dwfr yn ddifyrwch i blant; ond y mae cwmpeini ciychog yn arfau mor llym, fel na ddylai neb chwareu a hwy. Os oes gan fy nghyfaill arian a all fforddio eu colli, nid yw hyny yn un rheswm y dylai eu trosglwyddo i haid o gnafiaid. Pe buasai eisieu arnaf gael gwared o fy nghoes, ni fynaswn forgi i'w thori ymaith i mi. Rboddwch eich arian i ffyliaid yn hytrach na gadael i dwyllwyr eich hudo allan o honynt. Nid yw yn werth gwneuthur pethau dianghenrhaid. Peidiwch byth iro hwch dew, neu ganmol dyn balch. Peidiweh gwneud dillad i bysgod, neu Orchtiddiadau i allorau. Peidiwch paentio y lili, neu addurno yr efengyl. Peidiwch rhwymo pen dyn cyn y byddo wedi tori, neu gysuro cyd- wybod na wnelo gyffesiad. Peidiwch dal canwyll i ddangos yr haul, neu geisio profi peth nad oes neb yn ei amheu. Ni chyngorwn heb i wneud rhyw beth nad yw yn werth y draul. Gall dyn drwg gadw cymeriad da iddo ei hun drwy arddangosiad allanol o grefydd, ond y mae yn sicr o droi yn fusnes goll- edus iddo yn y diwedd. Pe buasai ein cenedl yn synwyrol, buasai yn ysgubo ymaith lawer o bersonau segur ond traulfawr, sydd yn bwyta y brag sydd yn gorwedd yn y ty a adeiladodd Jack. Y maent yn hyn ar ystad genedl- aethol heb wneud ond ychydig wasanaeth iddi. Y mae talu punt i ddyn am enill ceiniog yn llawer callach na chadw esgobion y rhai a gyfarfyddant a'u gilydd wrth yr xigeiniau er ystyried y ffordd oreu i wneud dim. Pe buasai hen gi fy meistr haner mor gysglyd a'r es- gobion, buasai wedi cael ei foddi Deu ei saethu cyn hyn canys ni fuasai yn werth treth y cwn. Beth bynag y mae amser eu eyfrifiad ar y ifordd mor wired fod Nadolig yn dyfod.
TAITH 0 ABERDAR I QUEENSLAND.
TAITH 0 ABERDAR I QUEENS- LAND. CYCHWYNAIS ar y9fed o Fehefin, 1875, gyda'r tren tua naw o'r gloch yn y boreu, am Paddington, Llundain. Yr oedd y cwmpeini yn ddifyr iawn hyd orsaf Pontypwl, pryd yr oedd yn rhaid ymadael. Yr oedd ytren yn wag iawn ar eu hoi; yr oedd y ceffyl mwg yn myned yn mlaen a ni yn gyflym, a ninau yn siarad a'n gilydd ein bod wedi gadael Cymru am amser maith os nad am byth. Yr oedd ar hyd ochr y ffordd o Hereford a Worcester, ganoedd o erwau o goed ffrwythau, &c. Yroeddem yn myned heibio llawer o orsafbedd bychain ar y ffordd, fel pe buasai yno ddim. Ac yr oeddwn ni yn hir ddysgwyl am orsaf i fyned allan, o herwydd yr oedd arnom chwant bwyd ac wedi blino i eistedd ac i sefjl1 o'r diwedd, dyma ninau wedi cyrhaedd Llundain, prif ddinas y byd, a'r porter yn gwaeddi Paddington. Stopiodd y cerbyd, allan a ninau i'r esgynlawr, a dyma ddyn byr, gweddol dew, barf a gwallt gwyn yn dyfod atom, ac yn gofyn yn garedig os mai ni oedd yn myned i Queensland, ac erbyn siarad ag ef, yr oedd Mr. James o'r Crown, Aberdar, wedi telegraphio ato i fyned i'n cyfarfod. Fe ddaeth yn mhen ychydig o amser wagen i gario ein luggage a cherbyd i'n cario ninau. Yi oedd genym ddeg milldir i fyned i'r Docks, a ebawsom lunch ar haner ffordd a dyferyn o ddiod am ddim. Erbyn ein bod yn yr East India Docks, yr oedd yn ddeg o'r gloch, aethom i'r Ilong ac ar ol myned i'r decks canol, fe dybiais fy mod wedi myned i ystabl fawr. Yno yr oedd rhai yn noeth yn y gwely, ereill haner noeth ar y llawr, rhai yn canu, ereill yn gwaeddu. Fe aethum i'r bunk i orwedd ar y planciau,yr oedd yn rhy ddiweddar i gael gwely y nos hono. Tranoeth, codais yn foreu, ac ar ol teithio allan am ychydig cefais wybod fod pawb ereill wedi gorfod cael cerbyd i'w cario a thalu yn ddrud am dano, a ninau wedi cael y cwbl am ddim. Yn yr hwyr dydd lau, fe gawsom y ship kits, ac fe fnom yn cerdded heolydd Llundain trwy'r dydd. Boren dydd Gwener, aethom mewn tug boat tua Gravesend, yr oeddem yno tua deg o'r gloch, yno fe ddaeth haid o fadau o'r dref a gwahanol bethau i werthu, megys llestri, bara, caws, gwinoedd, &c. Dydd Sadwrn, fe ddaeth pregethwr o dan y Gymdeithas Gen- adol i'r bwrdd, a chawsom bregeth ganddo, a chynghorion lawer. Rhodd- odd Destament Seisnig, dwy geiniog yr un, i bob un a'i cymerai. Bu yno dydd Sul a Llun, a rhoddodd farewell present i bob un, sef, sypyn o bapyrau Seisneg. Bu offeiriad Pabyddol yno hefyd yn darllen ei lithiau, a madden beiau. Tua 4 o'r gloch boreu dydd Mawrth, aethom o Gravesend gyda'r tug boat, a gwelsom y Great Eastern yn Chernsey, ac ychydig yn is ar yr afon gadawodd y tug ni, a gollyngwyd yr angor i lawr. Daeth yr Inspector i'r bwrdd dydd Llun, ninau yn dangos y certificate, a'n gosod gyda'n gilydd i dderbyn y bwyd. Dydd lau, angori o hyd. Dydd Mercher, cychwyn am chwech y boreu, yr oedd yn foreu hyfryd a mwyn, angorwyd am ychydig, ac aethpwyd yn mlaen nes o flaen tref brydferth Deal, yna angorwyd dros y nos. Dydd Gwener, codwyd yr angor am dri y prydnawn, gwelsom dir Ffrainc, gadawodd y pilot cyntaf ni yn Dover. Dydd Sadwrn, gwelsom y Dungeness, lie suddodd y Northfleet, a gwelodd rhai, meddent hwy, ei masts trwy y dwfr. (I'w orphen yn ein nesaf.) JOHN REES.
BODDIAD TRUENUS.
BODDIAD TRUENUS. DYDD Sal diweddaf, daethpWyd o hyd i gorff un Mr. Sherrin, commercial traveller, o Abertawe, yn Nghamlas Morganwg, ger Pontypridd. Yr oedd clwyfau ar ei wyneb. Yn ei logell cafwyd dros X200 mewn aur, cheques, & Cafwyd cwdyn Iledr yn cynwys ei lythyrauynygamlasy dydd blaenorol.
Y BHODYR CRISTIONOGOL YN PONTYPRIDD.
Y BHODYR CRISTIONOGOL YN PONTYPRIDD. CYNALIWYD cyfres o gyfarfodydd llwydd- ianus iawn yn y lie uchod, fel y canlyn Ar ddydd cyntaf yr Arglwydd yn y flwyddyn; bedyddiwyd wyth o bersonau ar gyffies o'uffydd gan Mr. D. 0. Thomas, acy mae yn liawe genym ddweyd, fod ereill eto yn ymofyn am yr un fraint. Yn mhen yr wythnos, am ddau a chwech o'r gloch, cyfarfu yr ysgol ac adroddas- ant ddarnau barddonol, a rhanau o'r llyfr santaidd. Adroddwyd gyda rwydd- ineb a deheurwydd mawr. Nos Percher, daeth plant yr ysgol a'u cyfeillion yn nghyd, a chawsant wledd rhagorol o de a theisen gan y chwaer haelionus Mrs. Cheen. Yn ychwanegol at yr uchod rhoddwyd gwledd i holl dlodion y tlotdy, yn wyr, gwragedd, a phlant. Hawdd dirnad teimladau diolchgar y tlawd wrth fwynhau ffrwyth caredigrwydd Cristion- ogol, mewn gweithredoedd mor deilwng o efelychiad. Yn ganlynol, cynaliwyd cyfarfod adrodd ac areithio, o dan lyw- yddiaeth medrus Mr. D. 0. Thomas, ac yna ymadawodd pawb ar ol mwynhau hwyrddydd dedwydd a da.
TREDEGAR. '
TREDEGAR. DYDD Sadwrn diweddaf, hebryngwyd gweddillion marwol Mr. James Phil- lips, Church-street, i fynwent Eglwys Bedwellty. Cychwynodd yr orymdaith alarus o'i breswylfod am ddeuddeg o'r gloch, yr hon oedd yn gynwjsedig o elorgorbyd a chwech o gerbydau. Yr oedd lluaws o'r brodyr o Gyfrinfa St. George, sef y Free Masons, wedi ym- gasglu ar yr achlysur, yn nghyd ag amryw o'r masnachwyr gwahoddedig,
Y CRYTHWR TEIMLADOL
Y CRYTHWR TEIMLADOL Yn oedd hen filwr aanalluogwyd mewn rhyfeloedd, unwaith yn chwareu ei gi-wth yn Prater, Vienna. Yr oedd ei gi yn cario ei het, ond ni tliaflai neb ddim iddi. Yr oedd yr hen wr yn llindorus a newynog; acwedi methu chwareu. eisteddodd yn ddigalon ar gareg. Boneddwr wrth fyned heibio a safodd ac a sylwodd arno, gan ddweyd, Rhoddweh fenthyg eich erwth i mi P y am ychydig." Wedi ei roddi mewn ton dda, dywedodddrachefn,—"Cymer- wch chwi yr arian, ac mi chwareua inaa." Dechreuodd chwareu, ac arosai lluaws i edrych ar foneddwr o'i fath ef yn chwareu ar yr heol, a rhyfeddent wrth y gerddoriaeth a glywent. Aeth y dyrfa yn fwy ac yn fwy, a llenwai yr het yn gyflym ond nid gyda phres yn unig, ond hefyd gydag arian ac aur. Dechreuodd y ci achwyn, canys ni fn yr het erioed mor drymed i'w dal. Dy- wedwyd wrth yr hen wr am roddi cy- nwys yr het yn ei logellau, yr hyn a wnaeth, a dechreuodd lenwi drachefn. Wedi chwareu alaw genedlaethol, rhoddodd y boneddwr y crwth yn ol, a diangoddcyn y, gallesid diolch iddo. Pwy ydyw, oedd ymholiad pawb ac atebodd rhyw un mai Armaud Boucher, y crythwr enwog, ydoedd. Y mae wedi gwneud hyn o elusen, gadewch i ni ddilyn ei esiampl." Gyda hyny gwnawd ail gasgliad, a rhoddwyd yr oil i'r hen fllwr tlawd, yr hwn, trwy dyner- wch Boucher, a gysurwyd yn fawr yn ei dlodi.
MENYW WEDI LLOSGI I FARWOLAETH.…
MENYW WEDI LLOSGI I FARWOLAETH. Y MAE cyffro mawr wedi ei achosi yn mysg y trigolion yn Ely, ger Caer. dydd, o herwydd dygwyddiad anffor- tunus a gymerodd Ie yn Rose Cottage, prydnawn dydd Gwener diweddaaf. Yr oedd henf wraig, yr hon oedd dros 80 mlwydd oed, yn preswylio gyda ei merch. Oddeutu 6 o'r gloch y prydnawn crybwylledig aeth ei hwyres fechan i'w hystafell-wely, lie yr oedd yn eistedd yn yroyI y tan, a rhoddodd iddi gwpanaid o de. Aeth y ferch fechan i ffwrdd, gan dybied fod ei mamgu yn ddiogel. Yn mhen awr o amser, beth bynag, dychwelodd ei merch adref, yr hon a aroglodd fwg yn y ty, ac aeth i'r lan i'r llofft, lie y canfyddodd ei mam, druan, wedi llosgi i farwolaeth.
[No title]
Y MAE Cymdeithas Cenedlaethol y bywyad-fadau wedi achub 725 o fywyd- au yn ystod y flwyddyn diweddaf.
Advertising
PELENI AC OJNTl\lENT HOLLOW A Y.-Anhwyl- derau y Gwddj. Gellir pwella pob math o'r doluriau hyn yn uniongyrehol ac effeithiol trwy rwbio yr ointment hwn yn y gwddf ddwywaith yn y dydd, a thrwy gymeryd ymborth rnaethlawn a phriodol. Trwy y feddygiuiaetb syml hon gwellir holl ddoluriau y gwddf, o ba natur bynag y byddout, ac y mae ei ansoddion mor naturiol ac effeithiol, felna raid ofni ei ddefnyddio ar unrhyw amgylchiad. Y mae yr ointment hefyd yn fyd- enwog am symud pob crygni, chwyddiant, ac aflendid o'r gwddf. J >
MASNACII GLO A HAIARN.
MASNACII GLO A HAIARN. IOMAwii 13,.Caerdydd. Wythnos dda o Iwytho Ilongau a glo. lonawr 13. Middlesboroug. Y mae arwydd bywiocad mewn rhanau o'r gwaith a hyny am fisoedd. lonawr 13, Newcastle. Pob gwaith yn myned yn mlaen, ond y mae y glowyr lawer o honynt yn methu cael gwaith ond am ddau ddiwrnod yn yr wythuos. Masnachyr haiarn yn gwella. lonawr 13, Birmingham. Y mae llyfrau archebion y rhan fwyaf o wneuthurwyr haiarn yn llawn. Amcana rhai cwmniau i chwythu allan eu ffwrn- esi. Neu y maent am i'r wlad gredu hyny.
[No title]
RHEDODD mail train i dren glo nos Sadwrn diweddaf rhwng yr Amlvythig a Temworth. Anafwyd chwech o swyddogion y llythyrdai, un o honynt yn bur ddrwg. CAFODD George King, ceidwad helwr- iaeth Syr Joseph Bailey, ei saethu gan herwhelwyr rhwng Crnghywel a Llan- gynidr. Llwyddodd y dynion i ddianc. Gadawodd King weddw ac wyth o blant i alaru ar eiol. TRA yr oedd Jno. William Hughes, 13 oed, mab i Mr. Williams, Waenunig, ger Talybont, Brycheiniog, yn cerdded ar lan y gamlas, llithrodd ei droed, a syrthiodd i'r gamlas. Pan y cyfwyd gafael yn ei gorff yr oedd yr anadl wedi ymadael. Cydymdeimlir yn fawr a'r rhieni yn eu trailed, PEYDNAWN dydd Sul diweddaf, tra yr oedd nifer o fechgyn yn difyru eu, hun- ain ar 1yn mawr ger Birmingham, torodd yr ia odditanynt, a syrthiodd chwech o honynt i'r dwfr. Daeth cy- Dorthwy i'r lie yn uniongyrchol, ond cyn dwfr ei fod yn allnog i'w cael allau o'r yr oedd pedwar o honynt wedi boddi.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Oyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol MR. D. W. JONES, (Dafydd Morganwg), Hii-waun.
[No title]
Angeu, Y Dafarn, a Beddargraff J. TV.- Nid oes cynghanedd- yn y llinellau. Ymdrechwch ddysgu y rheolau. Ymweliad a bedd plentyn G. D.-Dim cynghanedd. Bedd Dafydd Rees.-Dim cynghanedd. Gwraig a theulu y Meddwyn.—Mae cy- maint wedi canu yn dda ar y testyn hwn fel mai trueni cyhoeddi peth cyffredin j arno. Treiwch gael testyn newydd. Gwyn am y Gauaf.—Mae'r gynghanedd yn gywir ond trydydd linell yr ail englyn, sef yr unig englyn ar y testyn. Oeisiwch ddweyd eich meddwl yn fwy syml, ac eglurach. Y Goleuni.—Nid oes cynghanedd yny llinell hon: "Ond haul neu ddydd ;wawl i ni." TliraetJi ar ol mab, 8fc,—Dim digon o gelfyddyd. Y Weddw Dlawd— Nid ydynt yn hollol gywir. Treiwch eto. Beddargraff John Jones, Sfc.—Englynion gwychion iawn; er hyny, nid gweddus j cyhoeddi rhes o'r fath hyn ar yr un tescyn. Pert iawn yw hwn Huno yn y gro yn Iesu Grist-mae John Jones daiar-gist Ond daw fel gem heb drem drist O'i ddieithrawl wedd athrist." Acrostic to Miss II. E. W.—Gwelliant mawr ar hwn fuasai odli y llinelJau. Nid oes camp fawr arno fel y mae. I'r swyddfa. Noah Abram.—Rhy eithafol o lawer. Dylid cadw yn agos at y gwir, hyd yn nod wrth goffa am ddyn da. Y rhai canlynol i ymddangos yn eu tro -Iestyn Morganwg, Cynddelw, John Maddock, Y Oristion, Gwelliantau Moesol yr oes, Plant J. ac M. Bowen, Orist yn y Bedd, Bedd y Oristion, Y Dyn Dauwynebog, Y Gauaf, y Bedd, Y Gath, Sobrwydd, Yr Hwsmon, Gwa- hoddiad y Gwladfawyr, Y Morwr.
CUSAN.
CUSAN. Pit beth ydyw cusan ? Rhyw arwyadjo deimlad Serchgarol alecha yn mynwes y dyn 'Does dim a all atal ei wir yrnddangosiad Tra cariad yn eistedd ar orsedd ei hun Tra iaith fel yn methu a eibrwd fy nghariad," Tra Betch ac. an w y ldeb yn llanw y iron, Pryd hyny trwy guaan dangosir y teimlad Ar fin ei anwylyd mewn gweithred yn Ilun. Mae'r enw yn swynol, ond mwy gogoneddas Yw rhoddi y cusan-y fin wrth y fin; Trwy hyn rhoddir delw o serch ar ei gwefus, Ac arwydd o deimlad ouddittdig y dyn Ond eto nid ydyw ond effaith, mae'r achos Yn Hechu mewn calon sy'n orlawn o serci, Mae megys rhyw for gorgynhyrfus yn berwi, A berwi'n gynhyrfus a wna tra bo merch. • TIBEROG.
LLINELLAU
LLINELLAU Br misoedd Bhagfyr, lonawr, Chtvefror, Mav:rths Ebrill, a Mai. Dyma llbngfyr, mis byraf Ydyw bwn wpdi ein haf; o mor oer mae yr eira, 'N wythu dyn,'un.'sywaeth, da; Yr hoeijus fel yr henwr Yn glau 1yn dun gload dw'r; Eira a rhew yn lewaidd A grin yr holl wlad i'w gwraidd, A'r llyniiu dw'r oil yn deg A gwendou oil mor geindeg Daf.'ar a glont-a dw'r glyn, A'i (ÜJuJi a geir n ddillyn; Rhaiwdiau oil bartbau'r byd Hyfeilch golofnau hefyd; Llaweroedd mewn lliw arian, Mewn dur glo mae'n dwr glJln Gwael fawneg ar gul fynydd Drwy rewiant yn balmant bydd Mai arian glan suglenydd, Gwyn liw y dw'r ganol dydd; A pbob bryn, dyffryn, a. dol, 0 dan eira'n dyn oerol; Yn edrych loywon wydrau Drwy Ewrob y mae pob pau; Arian lympiau donau'r dw'r, A gain edr) ch gan wydrwr Dw'r o graig drwy'n daear gron A oer rewa yr awrhon, A'n dai-ar syw ydyw hon, Gwenawl a'i 'sanau gwynion ? Gwingwyd hi mewn gwasgod wen, 0 glori'neu bais gteirweR; Gwen ao oer hon gawn i gyd, Y wir fitm j n ei hoer fyd Coedydri a gelltydd gwalltawg, ø Rhai n a geir fel arian gawg Mae holl goedydd, uentydd ni, Yn' oer vvyu arian ini; Ar huno cu hoer anadl Dan drom Joes nid oes dadl; Nid difyr yw Rhagfyr hwn, Yn oer lawn fe'i darluniwn Drwy ein gwlad oer ruad-roch, Ei rewiant sydd yn oer rocb Anifeiliaid yu filiwn 0 dda b"dd a ddygodd hwn Ni ddaw o'i law wen fyth les, Yn ogoniant wen gynes; Pwy a gan i'r gwr glan glod ? Rhagfyr, awn oil o'i drigfod, Hyn pe gallwn, neidiwn i 1 Fai atiwyl haf ini; Awn o Ragfyr a'i ddrygfyd, Oil o'i boen i ryw well byd o na chawn wres mynwes Mai, Wyrdd loyw-frwd heirdd lifrai; Yno fi dd ymunwn fod Yn oesi fy myd isod, Lie heb Ragfyr difyr, da, Nac lonawr fytb, hen gena', Na'r du oer, chwerw oer chwaith, o ran mawl yrwn ymaith; Na ymyrwn a'r mawr oer, Gwadwn ef gyda'i hin oer Agotiad briall garaf, 0 cheir hwn i ddechreu haf; Mis y gog, megys a gwen, Yw ElnilJ dan baul wybren; Efcrill a Mai, lifrai lan, 0 urdd hollol beirdd allan; Lifrai natur eglur oil, O wedd hygain sydd ddigoll; Mis Mai, drwy lifrai yn lan, O ddu wyll ddeuodd allan Yn IJaw natur eglur oil, Mir i ddegau mor ddigoll; Rhwydd fyw iaith rhoddafo hyd, Mae'n nwyfron am Mai 'n hyfryd. O DINORWIG.
ENGLYNION
ENGLYNION A gyfansoddwyd pan yn glaf. 0! anwyd, 'rwyf am unwaith—yn 'clvwaneg Yn chwenych it' ymdaith I rywle, puid d'od 'r ailwaith I fy nhy tra ar fy nhaitb. Beunydd yr wyf dan boenau-arswydol, Mor sydyn daw gloesau; Ni wyr dyn y gwyn sy'n gwau Yn echrys drwy fy ochrau. Codi ni wnaf o'm cadair,-a meddu Moddion yw'm arwyddair; CafFael i mi yw cyffair. Ond pwnc yw yfed Ilond pair. Pwy luniodd y peleni— wir hynod P Mor an hawdd eu profi; Cwynaf a mawr yw'n cyni, A all hyn fy ngwella i? Archwaeth nid oes at orchwyl-yn y byd Gall y boen bobegwyl, 0 berwydd y blin arwyl, Eirias aeth, ni erys hwyl. Dengys mai cenad angau-yw anwyd A'i boenus arteithiau; Rhengol yw ei gyfryngau, Y mae'r oil jn marwhau. Rwyum wylio, rhag i'r ymwelydd—hwn oil at fy nhy beunydd, Yn wir ddwys, nes caf ryw ddydd Ras i'w breswylydd. Rhigos. GWILYM ALAW.
CARNELIAN.
CARNELIAN. A nyddwyd ivrth ddarllen engbpiim/peni* gamp Gwydderig a Watcyn JlVyn ?In y Darian ddiweddaf. Os talent, sy'n dwvn stoliau,—anwylyd Carnelian yw'n ddiau; Gwron pur o ir,)wri'n phu Yn dwyn golud ein gwyliau. Mewn bri gnn gen ri y gân-y rhifir Ef (I heddyw allan Coron beulog Carnelian Yw ei dJos gydwybod lan. DYFBDFAli.
. GWELLIANT GWALLAU.
GWELLIANT GWALLAU. YN y penillion anerchiadol a ymddangos- asant yn y rhifyn diweddaf o'r DARIAN, yn y pen ill blaenaf, yn lIe Pe d'weaum fod barddoniaeth," darllener Pe d'wedwn fod barddoniaeth. Yn y pumed penill, yn lie Bu Graigylhjn yn gysgod," darllener Bu Craig y Llyn yn gysgod. j Ac yn y penill olaf, yn lie Gwnaf yn y pell gorphena)," darllener Gwnaf yn y pill gorphenol. G. ALAW.