Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
STOCK-TAKIN, G- SALE OF DRAPERY AT H. LEWIS'S, 11, COMMERCIAL PLAOE, ABEBDARE. SHOW-KOOM GOODS to. be cleared at Desparate Prices. 2,000 Yards of Black Silks, extraordinary Cheap. m A lotZofTapestry Carpets, 2s. 7*4 regular price, 3s. 6d. Important Notice!! EVAN LLOYD, DRAPER, ABERAMAN, Being about to movefto his New Premises, I will offer the whole of his STOCK AT ANJMMENSE REDUCTION SO DAYS' SALE! Drapery to meet the Times! On and after SATURDAY, January, 22nd. RHYS ETNA JONES Will offer] his immense Stockfof Drapery at prices lower than ever before quoted Ready Made Clothing under Cost. Suits made to order during Sale will be made at cost. 7 _V 375 REMNANTS. SALE COMMENCING SATURDAY JAN. 22ND. EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR. CYNELIR yr Eisteddfod uchod dydd LLUiN SULGWYN, 1876, o dan nawdda AdraD Iforaidd Aberdar. Beirniaid y Canu, J. PARRY, M.B., Aberys- twytb, a JOHN THOMAS, BIaenanerch y Farddoniaeth, Parch. W. THOMAS (Islwyn); y Traethodau, Parch. J. Jones (Mathetes.) Yr Eisteddfod i ddechreu am 11 o'r gloch.- Un Cyfarfod. TRAETHODAU. Am y traetbawd goreu ar "Safle y Gweithiwr yn y Cyfansoddiad Pry- deinig," gwobr 10 10 0 Am y traethawd goreu ar Ddyled- swydd pawb i ytnuno a'r Cymdeithas- au CyfeiUgar (Friendly Societies), yn nghyd a'r lies deilliedig oddiwrthynt," gwobr • • • • • • 5 0 0 babddoniaeth. Am y Chwareugerdd oreu ar Atn- gylchiadau ymweliad Owen Glyndwr a Syr Lawrence Berkrolles," gwel y « Gwyddoniadur Cymreig," gwobr 10 10 0 ig, Testyn ychwanegol-Am y deuddeg Englyn Unodl goreu i'r diweddar •" Cynddelw," gwobr 3 3 0 Am y Duchangerdd oreu I'r Siar- adwyr a'r Ysgrifenwyr hyny syddmor hoff o orfeichio y Gymraeg a geiriau Saesonaeg "—dim dros wyth penill, gwobr .200 Am yr Englyn Unodl Union (Bedd- argraff) goreu i'r diweddar Griffith Williams, olr Bell Inn, Trecynon, am ei weithgarwch a'i gywirdeb fel aelod a Thrysorydd Cyfrinfa Ifor Aberdar, am uwchlaw 20 mlynedd gwobr 1 0 0 CERDDORIAETH. I'r Cor heb fod dan 150 o rif, a gano yn oreu Bendigedig fyddo Ar- glwydd Dduw Israel," gan John Thomas, Blaenanerch, gwobr 70 0 0 Yn nghyda Baton ardderchog i'r Arweinydd. I'r Cor o'r un Gynulleidfa, na enill- odd dros £ 20, a gano yn oreu, Y Gwlithyn," gan Alaw Ddu, gwobr 20 0 0 I Gor o Blant, heb fod dan 40 mewn rhif, na tbros 15 oed, a gano yn oreu "Nis rhoddwn fyny'r Beibl," gan Gwilym Gwent, o "Gar y Plant," .gwobr 6 0 0 Ail oreu 3 0 0 [Caniateir i wyth mewn oed i gynorthwyo. I'r Parti heb fod dan 20 na thros^SO, a gano yn oreu "Y Gwanwyu," gan Gwilym Gwent, gwobr 5 0 0 I'r gwryw a gano yn oreu Gogon- iant i Gjuiru," gan J. Parry, B.M., gwobr 0 10 0 Ferch a gano yn oreu "Tros y Garreg," o'r Songs of Wales," gan Brinlev Richards, gwobr 0 10 0 To the Brass Band who will best render a Selection of Welsh Airs, to be had from R. De Lacey, 10, Mill- brook Road, Brixton, London. [No Reeds allowed] 7 7 0 CELFYDDYDWAITH. Am y Crys Llian Gwyn goreu,- gwaith nodwydd 1 10 0 Am Enghraifft o'r. Gwelliant goreu o Lusern Ddyogel (Safety Lamp,)" gwobr 2 0 0 AMODAU. Y Cyfansoddiadau, yn ngbyda'r Lamp a'r Crys, i'w hanfon i'r Ysgrifenydd erbyn yr 31ain o Ebrill, 1876. Enwau pawb a fydd yn cystadlu ar y testynau ereill i fod yn llaw yr Ysgrifenjdd erbyn yr 21ain o Fai, 1876. Ni wobrwyir on) fydd teilyngdod. Y Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo y Pwyllgor. Rhaid i bob ymgeisydd na alio fod yn bre- senol, anfon ei enw dan sel i'r Ysgrifenydd er- byn dydd yr Eisteddfod. Gofelir am bersonau cymhwys i feirniadu y Lamp a'r Crys. Cynelir CYNGHERDD FAWREDDOG yn yr hwyr, pryd gofelir am enwogion o fri i wasan- aethu. Cyhoeddir cu henwau yn y newyddiadnron, Jis o leiaf cyn dydd yr Eisteddfod, yn nghyd ag enwau Llywyad ac Arweinydd y dydd—y lle, yn nghyd a'r prin i'r Eisteddfod a'r Gyngherdd, ele. Arran y Pwyllgor,—D. R. LEWIS, Teg, 33, Wind Street, Aberdare. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r Da;ri.an' i'w cyfeirio :—" Editor of TAEIAN Y GWEITHIWR, Aberdare. Pob archebion a thaliadau i'w hanfon, Mills, Lynch, a Davies, "Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare. Nid amddiffyn Goren Tarian ond Tarian. Cyfiawnder.
CAMERON YN AFFRICA.
CAMERON YN AFFRICA. Y mae llythyrau dyddorol iawn wedi dyfod yn ddiweddar oddiwrth Lieuten- ant Cameron, at Syr R. Rawlinson, llywydd y Royal Geographical Society, yn nghylch ei ddarganfyddiadau ef yn y gwledycld lie y bu yr enwog Dr. Livingstone yn gwneud ymchwiliadau. Yr hanes ddiweddaf a gafwyd am Mr. Cameron, hyd yn ddiweddar oedd, ei fod wedi gadael Ujiji yn mis Mawrth, 1874. Bu cryn bryder yn ei gylch am amser, gan ei fod yn ymdeithio mewn gwledydd peryglus, i orphen gwaith ymchwiliadol Livingstone. Cymerodd gyfeiriad i randiroedd cwbl ddieithr i Ewropeaid, He yr oedd y trigolion yn llawn o elyniaeth yn erbyn Ewropeaid, yn ddiau o herwydd eu bod wedi cael eu cyflroi i hyny am ganrifoedd, trwy hanesion am weithrediadau barbaraidd caethfasnachwyr Ewrop, yn erbyn tor- feydd o'u cydwladwyr. Dywed Mr. Cameron ei fod wedi llwyddo i groesi y Cyfandir Affricanaidd, o'i ockr ddwy- reiniol i'w ochr orllewinol. Ymdeith- iodd 1,200 o filldiroedd. Y mae wedi bod yn afiach o dan ddylanwad scurvy, yn ddiau trwy ei fod yn methu cael ymborth priodol. Er y dymunai ddyfod adref ar unwaith, eto y mae yn pen- derfynn peidio, nes y daw yr hin yn gynesach yn y wlad. Y mae wedi bod am flynyddoedd bellach yn yr hinsawdd boethaf oddeutu y cyhydedd. Amhyny ofha y byddai ai ddyfodiad yma yn y gauaf yn niweidiol i'w iechyd. Dywed efe fel y canlyn am y wlad yr aeth trwyddi:—"Y mae hi yn wlad ardderchog ac yn iachus iawn. Y mae hi yn annesgrifiadwy o gyfoethog mewn adnoddau. Y mae genyf sampl o'r glo da sydd ynddi. Y mae ynddi gyflawnder o fwn aur, copr, arian, &c. Yr wyf yn sicr ped anturid cyfalaf mewn modd doeth, y gellid cario mas nach gymaint ag un sydd yn y byd ar lynoedd mawrion, afonydd achamlasau yn y wlad hon. Mewn tair blynedd byddai y fasnach yn sicr o ddwyn tal i'r anturiaeth-s^jfr." Diau y bydd holl Loegr yn ymgyn- hyrfu mewn cynlluniau masnachol yn ol awgrymiadau Mr. Cameron pan y delo efe adr2f. Yn ol yr hyn a ddywed efe, gallai efe gymeryd taith arall trwy y gwled- ydd y bu ynddynt, gyda dwbl gysur, ac a haner traul y daith gyntaf, at derlyn pa un y mae efe wedi dyfod. Y mae yn bosibl uno yr afon Congo sydd yn rhedeg i'r gorllewin a'r afon Zam- besi yr hon a reda i'r dwyrain, trwy wneud carolas o 30 milldir o hyd trwy wastad-dir niawr. Y mae y cynyrch- ion canlynol i'w cael yno yn awr Nutmeg, coffee, semsen, ground-nuts, oil-palms, mpafu. (pren yn cynyrchu olew), rice, India-rubber, copal, a sugar cane. A gellii cynyrchu cyfiawnder o wenith, cotwm, &c., yno. Cwmni yn meddu cyfalaf o £ 2,000,000, a allai agor masnach fawr lwyddianus yno mewn tair blynedd, medd efe. Y mae darganfyddiadau daearyddol Mr. Cameron yn werlhfawi iawn. Y mae wedi darganfod fod 96 o afonydd yn rhedeg i'r llyn mawr Tanganyika, am yr hwn y gwelsom lawer o bethau yn hanes Dr. Livingstone. Deallodd nad oes ond un afon yn rhedeg allan o hono, yr hon a eilw efe Lukuga. Ceis- iodd ddeall a oedd yr afon hon yn rhedeg i afon Lualaba Livingstone. Cafodd fod hyn yn ffaith. Tybiodd Livingstone mai y darn uwehaf o'r afon Nile yw y Lualaba. Ond barna Mr. Cameron ac ereill mai yr un afon yw y Lualaba a'r afon Congo. Nid yw yn ddigon uchel uwehlaw y mor, yn ol ei farn ef, i fod yn rhan uchaf i'r afon Nile. Y mae yn 500 o droedfeddi islaw i'r Nile yn Gondokoro. Y mae efe wedi ei gweled yn tueddu i'r gor- llewin, yn lie tua'r gogledd i ateb i olygiadau Livingstone. Wrth hyn, ymddengys fod Ptolemy, llywodraethwr dysgedig yr AifTt, yn y cyn oesoedd, a Dr. Livingstone, wedi camsynied wrth osod tarddiad y Nileynmhell i'r dehau tubwnt i'r llyn Albert Nyanza. Y mae yn ofidus fod Mr. Cameron wedi cael ei rwystro gan elyniaeth y trigolion i ddilyn yr afon Congo o'i tharddiad i'r fan lie yr arllwysa ei hun i'r mor. Ymddengys nad yw y llynoedd a welodd Livingstone yn agos i'r cyhyd- edd yn perthyn i'r Nile. Y mae y rhanau gogleddol o Affrica, trwy ba rai y mae y Nile yn rhedeg, yn llawer tlotach eu hadnodau na'r rhandiroedd trwy ba rai y pasiodd Mr. Cameron. Y mae y Nile yr rhedeg trwy anialdir eras, tywodlyd, corsog, am filoedd o filldiroedd. Yn ei thaith casgla ddefn- yddiau i wneud yr anialwch trwy ba un y cerdda yn ddoldir ffrwythlon, i ateb angenion y trigolion a drigant yn agos iddi. Ond y mae y wlad, i'r dehau, tuhwnt i darddiad y Nile, yn wlacl o lynoedd mawrion, o afonydd llydain, ac o ddytfrynoedrl toreithiog, flTwyth- lon, yn cael eu mwydo a ffrydiau gris- ialaidd, o dan han] wen faethlon y cyhydedd. Nid rhyfedd yn y byd fod .Mr. Cameron wedi treulio pedwar mis ar bymtheg, yn ymdaith trwy y gororau hyn, yn rhoddi canmoliaethbrwdfryaig iddynt. Os bydd trigolion y deyrnas hon yn debyg o syrthio i dwymyn frwdfrydig Mr. Cameron, hi wyddis yn y byd, pa anturiaetbau gwrol a osodir ar droed, i droi darnau belaeth o gyfandir Affrica fel gardd yr Arglwydd" mewn ystyr foesol a chrefyddol fel mewn ystyr naturiol. 4.
Y GWENYN SILLEBOL.
Y GWENYN SILLEBOL. MAE rhyw bethau newyddion yn dyfod 0 America vn barhaus. Nid oes neb yn meddu dychymyg mwy toreithiog na'r Americaniaid. Treuliant eu holl fywyd mewn cynlluniau i godi y byd ar flaenau ei draed mewn syndod. Os na fydd pob peth yn annysgwyliadwy, arutbrol, a digyffelyb, ni fydd yn werth dim yn eu golwg hwy. Y mae pob hen ffurf o weithredu, or cael ei gysegru gan oesoedd o ddefnyddioldeb, yn cael ei dafln i don-ien I sothach, gan yr Americaniaid, i, wneud lie i'w dargan- fyddiad sensational hwy. Ceisiant bob amser greu syndod-A dyeithrweh, dirgelwch, nen rwysg, yr enw a roddaht ar ryw gynllun newydd o'u heiddo. Pwy allasai ddychymygu am enw fel I Spelling Bees' ond hwy ? Nid yw yn ddigon yn eu golwg hwy i gynllunio offer newydd i weithio, cyn- llun newydd i deithio ar hyd y ddaear, ar hyd y mor, trwy yr awyr, neu ar raffau dros afonydd rhaiadrol peryglus, ond rhaid iddynt ffurfio llwybr newydd i gynyrchu difyrweh yn mynwesau bon- eddigion a boneddigesau, ar law v rhai y mae amser wedi myned yn drwm. Y mae deniadau mewn llwybr newydd i greu difyrweh, yn enwedig os bydd y llwybr hwnw yn cael ei osod allan fel un da at lesoli dynion yn foesol, neu ddeallol, neu gelfyddydol. Y mae difyrwch y Spelling Bees wedi ymddangos yn lied ami o flaen llygaid darllenwyr papyrau newyddion Saesonaeg. Cyn y bydd y bendro i droi yn wenynen wedi cymeryd medd- iant o ambell Gymro, efallai nad an- fuddiol fyddai rhoddi ychydig o awgrymiadau desgrifiadol o'r Gwenyn Sillebol.' i Y mae ychydig neu lawer o ddynioll yn cyfarfod mewn lie i gystadlu a'u gilydd yn nghylch sillebu geiriau yn gywir. Y mae holl werth hyn fel mater o addysg yn ymddibynu ar allu y beirn- iad i fod yn gywir ei hun. Ymddengys nad yw y gallu hwn yn beth anhebgor- ol. Amcan y cyfarfod yw cynyrchu difyrweh trwy gystadleuaeth — hen egwyddor fawr eisteddfodau a chyng- erddau. Defnyddir moddion effeithiol i brofi anwybodaeth dynion fjl y gwneir a Chineese puzzles. Fel hyn ceir dilyrweh ar araul dyn gwybodus os metha efe sillebn rhyw air na ddef- nyddir byth mo hono at un pwrpas, neu eiriau eraill a bertbynant i ryw wyddoniaeth am gelfyddyd neillduol. Caitf y dyn sydd yn gofyn y cwestiwn yn nghyJch y gair y pleser o deimlo ei hun uwchlaw y dyn gwybodus, er ei fod yn bagan mewn cydmanaeth iddo yn mhob peth 0 bwys. Gofynir i ddyn sydd wedi bod dros ei ben mewu gwyddoniaeth feddyliol i sillebu 'paral-, lelopipedon," ac os metha efe mewn Hytbyren, bydd y gofynwr, yr hwn, ¡ efallai, na wyr y gwahaniaeth rhwllg y llythyren gyntaf yn y wyddor a throed tarw, yn gorsedda ei hun uwchlaw yr athronydd. A hyny oedd ei amcan, nid chwanegu at wybodaeth yr athronydd. Y mae ystyr, tarddiad, a sillebiaeth geiriau yn rhoddi cyfie i ddychymyg, ac i amrywiaeth barn, gan fod amheuon mawrion yn nghylch y naill a'r llall; felly ceisir y pleser o gael defnydd dadl yn sefylifa amheus y gwirionedd ar faterion o'r fath. Y mac y rhai sydd yn treulio eu hoes mewn ymchwiliadau o'r fath, ac yn idiots mewn pethau j gan' mil mwy angenrheidiol, yn gwa- haniaethu yn eu 11 barn ar darddiad geiriau, &c. Cyn troi yn wenyn edryched ein darllenwyr fod mel yn y eweh.
..... ALL ANDHYLJFOD YN NGLOFX…
ALL ANDHYLJFOD YN NGLOFX BROAD OAK, CASLLWCHWR. BLIN genyf hysbysu fod anghydfod yn parhau yn y lofa uchod, a,c nid oes un arwydd am derfyniad heddyw, (dydd Llun). Yr ydym ar y strike oddiar dydd Na- dolig, ac nid oes un cynygiad wedi ei wneud o un ochr i ddwyn yr annealldwr- iaeth i drefu, ond, rhagor na'n bod yn benderfynol i sefyll dros gael ein brawd yn ol fel ninau. Buasai yn dda iawn genyin pe buasai y manager dipyn yn fwy pwyllog. Dylasai ystyried wrth ei fod yn cloi y dyn allan mai efe oedd cynrychiolydd y glowyr yn yr ymryson, a'i fod ar vr un pryd yn dwyn ffon ei fywioliaeth oddiarno ynyr ardal hon, yn yr boa ardal y cafodd ei eni a'i fagu. Os oedd y gweithwyr wedi dewis y brawd fel dirprwywr iddynt, onid oedd yn iawn iddo siarad yr hyn oedd yn weled yn oreu dros y gweithwyr ? Pe buesai yn gwneud yn wahanol, odid na fuasai yn afionyddu ar lieddwch ei sryd-weith- wvr. Paham oedd y gornchwyliwr yn dymuno cael dirprwyaeth oddiwrth y gweithwyr, os nadei brif bwnc oedd cloi y brawd allan ? Mac ei ystranciau tra- haus a gormesol yn profi ei ymddygiad i'r pen draw. G-weithredoedd destlus ydyw danfon llythyrau i'r glo fey dd eylchynol i atal y gweithwyr i gael gwaith. a hwythau wedi gweithio eu pythefnosyn iawn iddo ef cyn ymadael. Hefyd, ceisia ei oreu i ddarbwyllo gweithwyr Llanelli, Felin- foel, a Llwynhendy, mai strike yn eu herbyn hwy ydyw yr anghydfod presenol, ac nid dim arall; ond da genym hysbysu fod gweithwyr y lleoedd uchod yn dj a adnabyddus a'i ystranciau a'i anwiredd- au. Os nad ydym yn camsynied, mai rbywbetb rhyfedd yn siwr o ddyfod i gyfaffed a'r boneddwr hwn fel Judas gynt, os na wna gyfnewid tipyn arno ei hun. Blin genyf hysbysu iddo gael dau o Lwynhendy i fyned yn Made legs, fel y dywedir, ac v maeat wedi gweithio pythefnos. Gwylltlanc.
i CYFARFOD LLENYDDOL BETHANIA,…
CYFARFOD LLENYDDOL BETH- ANIA, LL WYNYPIA. DAETH y cyfansoddiadau sydd yn dwyn y ffugenwau canlynol i law yn bryd- lawn Dau englyn i'r Darn Llaw sydd ar ffenestri'r Tafarnaai."—Anti Bacchus, Daniel, Eiddigeddug. Y "Ddadl Ddirwestol." — Gwlithyn Gloew. Nac edrych ar win pan fyddo'n goch."—Sj ml, Temlydd sydd yn teimlo Yn y diwedd efe a frath fel sarfE a.c a biga iel aeidr."—Gwyliedydd. Pump > wilt a'r Costau.Naza.read. Y peryglon o'r Ymyfed Cymedrol." Plato, Dirwestwr Dirwystr, Pavo, Shon Cent, Gwyliedydd, Timotbeas. Hoxo DDU.
ITRECYNON.
TRECYNON. Nos Sul diweddaf, dygwyddodd tro hynod yn y lie hwn i barti yn cynwys tri dyn, dwy wraig, a dau blentyn, wrth ddychwelyd adref wedi bod allan ar bleserdaith. Dywed rhai eu bod yn cael eu llywodraetku gan ysbrydoniaeth; beth bynag, y mae yn eglur eu bod o dan ddylanwad rhyw allu lied effeithiol; canys penderfynasant osod y ce?'byd yn mlaenaf, ac i fod yn wreiddiol yn eu boll weithrediadau, cymerasant frordd newydd, gan yru yn eu gwrthol dros y di byn ar cchr yr heol, nes syrthio yn bendramwnwgl-y ceffyl a'r cerbyd a'i lwyth i'r gwaelod. Yn ffodus, diang- asant oil heb dderbyn fawr niwaid, gyda'r eithriad o'r cerbyd, yr hwn a ddrylliwyd, a'r cylchaudur. Tebyg fod y dam-age a achoswyd i'r rhai hyn yn bwysig. Cafwyd lietiau a boneti rhai o'r excursionists mewn gardd gyfagos. Rhag datguddio yr olygfa mor eglur i'r byd, yr hyn ni fuasai yn ddymunol iawn gan rai o'r dramatists. Yr oedd cuHwin mawr y nos wedi syrthio ar y scenery ramantus.—Meto.
LLWYINYPIA-GALWAD I WEINIDOG.
LLWYINYPIA-GALWAD I WEIN- IDOG. MAE Eglwys y Bedyddwyr yn y He nchod w edi rhoddi galwad wresog i'r Parch. J. N. Jones, L'erpwl, i ddyfod i'w bugeilio. Deallwyf ei fod wedi ateb yn gadarn- haol, a bydd yn dechreu ar ei weinidog- aeth yn y He gobeithiol hwn Sul y Pasco Diameu genyf y bydd yn dreat i'r gymydogaeth boblogaidd hon gael ga- fael mewn brawd o safle Mr. Jones, i weinidogaethu yn y lie. Gobeithio y bydd i Dduw arddel ei lafur nes dwyn llawer o dir y colli i dir y cadw. Gohebydd.
LLANILLTYD F AERDREF.
LLANILLTYD F AERDREF. YN foreu dydd LInn diweddaf deu- wyd 0 hyd i gortrun William Edwards, 58 oed, mewn cioddfa geryg yn Llan- illtyd Faerdre. Bernir i'r trancedig syrthio dros y clcgwyn, yn gymaint a bod ei ddwy goes wedi eu tori, a rhai o'i ddanedd wedi tasgu o'i enau.
UNDER CENEDLAETHOL Y MWNWYR.
UNDER CENEDLAETHOL Y MWNWYR. Y.MAE yn cael ei hysbysu y bydd i Mr. Thomas Halliday a Mr. Wm. Pickard o Wigan, fel oynrychialwyr Undeb Cenedlaethol y Mwnwyr, gynal rhes o gyfarfodydd yn Neheudir Cymru yn gynar yn ystod y mis nesaf.
PETHAU G WERTH EU COFIO.
PETHAU G WERTH EU COFIO. 1 Gwka benzine a chlai cyfiredin lan- iiau mvnor.—Os byddweh yn pryrra carpedau i barhau yn hir, dewiswch y rhai affigyrau by chain.—Dywpd natur- iaethwyr y gwna un wenal ddifetha chwe' mil o Avybed mewn un dydd.- Symuda ymenyn spotiau tar, a gwna sebon a dwfr, dracbefn, symud ystaen- inu brasder.—I symud paent fydd wedi lluchio ar hyd y ffenesfri, todd- wch soda mewn dwfr cynes, a golch- wch y ffenestri a hwnw gyda gwlanen esmwyth.
[No title]
Cymerodd cwymp trwm le dydd Mawrth diweddaf yn tynel Kilbum, ar reilffordd y North Western, yr hwn a fu yn angeuol i un dyn. Y jiae yn wybodus i'n darllenwyr fod cytarfodydd nosawl yn cael eu cynal yn thai parthau o Lundain, er mwyn ljienywaid drv g y ndinas. Yn un o'r cytarfodydd hyn cufwyd fod naw o bob deg o"r rhai hyn wedi bod yn perthyn i'r Ysgol Sabbothol, a bod saith o bob deg o honym wedi syrthio trwy feddwdod. YN ystod y flwyddyn 1872, adeiladwyd yn Llundain 7764 ? dai, a 145 o heol- ydd newyddion, a flurnwyd dau square newydd. Hyd yr heolydd newyddion a'r squares oeddynt 22 o filldiroedd, a 832 o lath eni. Hyd yr heolydd new- yddion a'r squares a agorwyd yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf ydyw 1181 o filldiroedd a 54 o latheni.
Family Notices
PRIODWYD. lonawr 10. yn swyddfa y cofrestrydd Merthyr, Mr. Thomas Parry, a Miss Rachel Enoch, y ddau o Abernant. BU FARW. Ionawr 12fed, ar ol hir gystudd, Mrs. Gwenllian Evans, Aberclydach, Res01- ven, yn 61 mlwydd oed, bu yn aelod ffyddlon am flynyddau. lawer gyda'r Methodistiaid yn Sion, Resolven. Cyf- arfu tyrfa luosog yn nghyd y dydd Sadwrn cyfisol, er talu y gymwynas olaf iddi. Pregethodd y Parch. Moses Thomas, ar yr achlysuryny ty. Cladd- wyd hi yn mynwent eglwys y lie, mewn gwir ddyogel obaith y caiffi adgyfodi ar ddysglaer wedd ei phriod. S. M.