Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GYMDEITHAS HEN SGIDIE.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GYMDEITHAS HEN SGIDIE. 8. Mewn atebiad i ofyniad "Ieuan," gesyd Lluestwr, Owain, i brofi fod y C.H.S. yn un Babyddol, &c., yn y ffordd ryfedd a ganlyn:—Dyfyna luaws o ad- nodau i brofi athrawiaeth yr lawn, yna cymera yn ganiataol foci C. H.S. yn gwadu yr athrawiaeth hono, ac yna cyhoedda uwchben y gymdeithas y melldithion a fygythir yn yr Ysgrythyr i wadwyr Crist. Y mae y ffordd sydd ganddo i brofi fod C.H.S. yn gwadu yr lawn yn ddcniol dros ben. Gresyn ganddo fod Wbately, a Smart Mill, wedi marw cyn gweled y dull newydd hwn o ymresmu. Dyrna fe, Y mae C.H.S., yn dysgu ath- arawiaetb yr lawn drwy implication, gan hyny y maent yn eu gwadu." Campus u'ude? Cymerwch enghraifft arall o ym- resymiad o'r unbatrwn. Y mae y llythyr hwn yn dysgu by implication fod person vn ysgrifenu i'r DAKIAN o dan y ffugenw Llaestwr gan hyny, yr wyf fi yn credu, nacl -Of'S person o'r fath yn bod. 9. Yna, yn lie profi ei bwnc try at bynciau ereill. Dywed fod Sosiniaeth y salons wedi calonogi un Sosin" i fyned o atngylch. y wlad i hawkio goods Sosin- iaeth drwy Gymru, gan feddwl fod pryn-, wyr i'w cael yn mhlith dysgyblion y salons. Nid yw Lluestwr wedi dysgu digon o foneddigeiddrwydd Cristionogol i alw y person y cyfeiria ato yn wein- idog Undodaidd," ond rhaid ei ddifenwi er ceisio creu rhagfarn yn ei erbyn drwy ei alw yn Sosin yn hawkio." Dyma'r fath dermau a ddefnyddiai offeiriaid Eglwys Loegr at bregethwyr Methodist- iaid gant a haner o flynyddau yn ol. Nid yw Lluestwr ychwaith yn ddigon o ddyn i getsio proii ei osodiad yn nghylch y peth a galonogodd y Sosin" hwn i hawkio." Nid yw wedi hysbysu pa un a, yw y Sosin hwn yn "Hen Sgidiwr" ei hun ai peidio, ac nid yw efeyn gwybod efallai mai aelodaa o G.H.S. oedd rhai o'r person au a'i gwrthwynebasant yn Llanelli. Gwrthwynebwyd y cenadwr yn Llanelli gan weinidogion uniawn- gred." Do, siwr; a dangosasant drwy eu hymddygiadau fod rhai o honynt heb ddysgn egwyddorion cyntaf rhyddid crefyddol, er maint ei twrw am Gyd- raddoldeb, Dadwaddoliad yr Eglwys, &c. Mawr fel Jy digiodd y Sosiniaid am fod y gweinidogion hyny wedi amheu anfEaeledigrwydd eu cenhadwr." Ni honodd eu cenadwr anffafeledigrwydd erioed yn o! pob tebyg, ac nid am amheu hyny y du;odd Undodiaid Llanelli, os digiasant., Y mae pleidwyr C.H.S. yn digio os na chymera pawb yn gan- iataol fod y cwbl a wnant hwy yn an- ffaeledig gywir." Yr unig sylwad a wnaf ar hona yw, trueni na fuasai Lluestwr wedi cymeryd cold bath er oeri ychydig ar ei ymenydd cyn ysgrifenu y fath anwiredd. Y mae y papyr an- ffyddol hwnw, yr hwn a gamenwir Christian World." Haerllugrwydd Jesuitaidd, cibddall yn unig allai beri i Llaestwr gyhoeddi mai papyr anffyddol yw y Christian World," a thybiwyf na fyddai Lluestwr yn hir iawn cyn cael ei wysio o flaen un o lysoedd cyfraith y wlad, pe byddai iddo gyhoeddi y fraw- ddeg yna mewn newyddiadur Seisnig dylanwadol. Dywed fod y papyr hwn wedi digio wrth y gweinidogion am "beidio cusanu bawd troed y Sosin." Y mae fy llygaid yn rholio mewn syndod" eto gerbron y fath haeriad anwireddus. Ni cheisiodd neb ganddynt gusanubawd ei droed, ac nid ywyn debygol y cawsent wneud hyny pe ewyllysient. Dywed fod ''yn anrhydedd i ddysgybl ffyddlon Crist gael ei erlid gan ei elynionef." Gwir iawn, a dylai gofio fod yr holl erlid a fu yn Llanelli yn ddiweddar wedi bod o du y gweinidogion uniawngred," a bod y Sosin" wedi ymddwyn fel bon- eddwr yn yr holl ymdrafodaeth, onide bydded ei elynion yn farnwyr. 10. Dywed Lluestwr fod C.H.S. yn mawrhau dyn uwchlaw Duw, Crist, &c. Anwiredd yw yna y dylai Lluestwr wrido o'i berwydd. Nid oes ganddo y sail leiaf i'w haeriad. Yn niwedd ei lythyr (Rhag. 31ain), ceisia dan ffigiwr fel ieithydd dysgedig. Gwelwch Ladinwr, bobol!" Gwelwch un yn deall French, hawyr Edrych- wch arnaf fi!" yw ei iaith. Cynterfynu caniatewch i mi ddweyd mai y pwnc yw, nid yw y Beibl yn dysgu yr lawn, nac ychwaith a ydyw yn ddrwg gwadu yr lawn, ond pa un a yw C.H.S. yn gwneud hyny. Dyna y pwnc hanfodol. Profed Lluestwr hyny os gall. Terfynai hyuy y ddadl hirfaith hon, a cheid lie yn y DAIUATC i dcliscusso pynciau dyddorol ereill. D. R.

. HELYNT Y MEDDYGON YN MOUNTAIN…

Y liWRDD CYMODOL.

--.-----.-.--ANERCHIAD DIFRIFOL.

EISTEDDFOD LLWYNYPIA A BEIRNIAD…

- CALLINEB ANIFEILIAID.