Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
----.--.-----O'R WYLPA.
O'R WYLPA. BHIF III. GYDA bod "76 bron gwneuc1 ei ym- ddangosiad, wele angeu yn cymeryd o'n plith un o hen dadau ceridoriaetb Cymru ymaitb, sef y 11 afar as a'r ymc. roddgar ROSER PEYN ON. Efallai yr adnabyddid ef yn well fel Asaph Glan Tat'. Bu yn ymdrecbgar iawn yn ystcd ei oes, yn neillduol telly yn ystod y ddwy ran flaenaf o'i yrfa. Efe oeddJ y cerddor hynaf o nod yn Neheudir Cymru. Perchid ef yn fawr gan ei lioll gydnabod. Bu yn g-refydd- 'I, 71 wr ffyddlawn yn ystod ei holl oes. Syrthiodd i'r bedd a'i arfan yn loew, wedi gwasanaethu ei genedl, a'r hwn y credodd ynddo mewn rhagor nag un ystyr. Tua 30 mlwydd yn ol, cyhoedd- odd gyfrol o gerddoriaeth, sef Telyn Seion,' yr hon a gynwysai donau, an- themau, cydganau, &ev llawer o ba rai oeddynt ei weithlau ef ei bun. Cafodd yr anrhydedd o feirniadu cerddoriaeth mewn nifer fawr o Eis- teddfodau yn ystod ei ddydd, ac ystyr- id ef a'r hen frawd lenan Ddu, Ponty- pridd, 30 mlynedd yn ol, fel y ddau brif gerddor. Nis gwyddom ddim am amgylchiadau bydol y diweddar Asaph, ond gobeithiwn fod ei weddw wedi ei gadael na raid iddi ofni amgylchiadau bywyd. Os na, ddarllenwyr anwyl, wele wrthddrych teilwng o dysteb neu gydnabyddiaeth oddiar law ilenorion a cherddorion y Deheudir. Hyderwn yr anrhega un o fechgyn Merthyr ni a r-gofiant o'r ymadawedig. Ein dy- mnniad ydyw,- I'w fedd anrhydedd fyddo,-sidan wellt Ymestynwch drosto; Awelon, deuwch i wylo I'r fan wael er ei fwyn o.' Yn ystod y ddau lis sydd newydd syrthio i'r gorpheno], y mae rhyw ddrychfeddwl wedi fy meddianu, yr hwn sydd fel ysbryd, braidd yn fy nilyn i bob man. Dyma fe, fod angen y Z-) CYHOEDDIAD MISOL anenwadol arnom yn Neheudir Cymru, yn yr hwn y gellicl cyhoeddi y cynyrch- ion buddugol sydd yn cael eu cadw o olwg y byd, yn nghyda'r rhai anfudd- ugol teilwng hefyd. Yr elw, os celid y cyfryw, i'w drosgtwyddo at achosion teilwng, Er engraifffc, dyna y diweddar gyfaill Simon James (Gwaliwr GwyJlt), yr hwn a gyfarfyddodd a'i angeu pan 0 yn dilyn ei alwedigaeth. Gadawodd weddw a chwech neu saith o blant i wylo ar ei ol. Oni fyddai yn anrhyd- edd i feirdd, Ilenorion, a cherddorion pe buasai ganddynt gyhoeddiad o'r fath a nodasom i gyhoeddi byr gofiant o hono, yn nghyda modd i estyn £ 5 neu £10 i'w weddw, neu ynte er cael careg bedd uweh ei ben, i ddynodi y fan y gorwedda un o feibion athrylith y dywysogaeth ? A dyna yr hea Asaph Glan Taf eto, am yr hwn, yn nghyda lluaws ereill y gellir dweyd na chawsant haner y tal a ddylasent gael am eu llafur, ac y buasent wedi myned drwy y byd hwn yn well pe na buasent yn feib athrylith. Efallai y dywed rhai fod hyn yn anmhosibl i ni ei gael. Pwy geir i argraffu y cyhoeddiad ? Ceir digon, a chredwyf y gallesid dwyn y mudiad i weithrediad gydag ychydig bach-bach o drafferth. Tyb- iwyf fod nifer Ilenorion a beirdd y Deheubarth, heb son am y Gogledd, na'r cantorion, yn ddigonol. Golyger fod pob un o honynt yn cymeryd ond un copi. Yn sicr byddai hyny yn rhai canoedd. Gwyddom hefyd fod lluaws yn mhob ardal a brynent y cyhoeddiad yn llawen. Edrychwch ar ddyffrynoedd y Rhondda, Aberdar, Gilfaeh Goch, Maesteg, Cwm Tawe, &c., yn mha rai y mae nifer o fechgyn ag ynddynt dalent i gyfansoddi a thai- ent i werthu befyd. Y gwir am dano yw hyn, fy nghydlafurwyr llenyddol, fod amom angen rhywbeth o'r fath. Nis gellir byw ar swm yn unig, er fy mod yn wir hoff o gerddoriaeth. Os bydd fy nrychfeddwl yn unol a medd- yliau rhai o'r frawdoliaeth, bydded iddynt draethu eu barn ? Credwyf mai eisiau dechreu y mudiad sydd, yna, delai i weithradiad buan. Y mae gobaith am EISTEDDFOL GENHEDLAETHOL o'r iawn ryw yn Wrexham y flwyddyn hon. Hynod fel y rhagora y Gogledd- wyr arnom rhoddant wobrwyon ben- digedig. Gyrwch am y program lanc- iau y Deheubarth, ac ymroddwch a'ch holl allu i ddwyn peth o'r arian a'r clod i'r Deheudir. Yr eiddoch, J Y GWYLIWB.
L'ERPWL.
L'ERPWL. YMWELIADAU ENWOG-ION. DYDDMercher diweddafbu Iarll Derby yn Neuadd Sant Sior, L'erpwl, yn dosbartbu tlysau a gwobrwyon rhwng Gwirfoddolwyr Breiniol Caerhirfryn, Yr oedd yn wyddfodol, heblaw'r Iarll anrhydedfius, Iarlles Derby (uno deulu y Stuarts), Lady Margaiet Cecil, Iarll a Iarlles Galloway, Miss Franks, Mr. Pendil, Mr. T. H. Sanderson, (ymwel- yddion a Knowsley Park), y Milwriad Steble a'i foneddiges, y Milwriad Syr Henry de Bathe, Barwnig, a llu mawr o ddynion penaf L'erpwl a'r gymydog- aeth. Yr oedd bon toa a la mode yn addurno'r neuadd, nes gwneud yr ym- gynulliad yn arddangosfa o geinder a gogoniant moesweddau a ebelfyddyd. Yr oedd gwisgoedd cyfioddedog y Gwirfoddolwyr, yn gymysgedig a gwisgoedd sidanaidd a drudfawr y bon- eddigesau, yn gwneud yr orielau yn associations o'r tlysineb a'r ysbleneidd- dra mwyaf dylanwadol a dedwydd. Rhyfedd y fath faux pas yw i fawrion y wlad fabwysiadu'r fath ddulliau Iled- chwith i ddangos eu henwogrwydd di- plom'ayddol, yn nghyda eu rhwysg- fawredd pendefigaidd Dydd Mercher, yn Neuadd Sant Sir, yn nghanol gwynfydigrwydd a digon- olrwydd digymysg, yr oedd llu o gyf- oethogion a savants-nid sarants, cof- iwch-yn ymwledda ar brydferthwch hudoliaethus gwiniadwaith, ar geinder eu gleiniau, ar osgedd eu etiquette, ar ■ urddasolrwydd eu swyddogaethau, ac ar eu hynafiaethau pendefigaidd a breiniol; Ye, pan yr oedd yr Ysgrifenydd Tramor yn amgylchynedig gan bob mawredd masnachol a gwleidyddol, ac yn gwario arian ar yr hyn nid yw fara, yr oedd miloedd o lafurwyr diymad- ferth L'erpwl bron llewygu o eisieu tamaid o fara. "Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tylawd," meddai Duw, ond mae larll Derby a gwleidyddwyr mawrion Prydain Fawr, drwy eu hymddygiadau anelusengarol, wedi troi yr ymadrodd dwyfol i gwyn fyd a ddirmyga'r tylawd, ac a sicrhao agendor mawr rhyngom 1-1 Z7, ni a'rbobl gyffredin. Dyna ydyw am- Iinelliad ddamcaniaethol gwyr yr aur a'r arian, a chabledd eithafol iddynt hwy a'u cynfibnwyr blonenog i ym- drechu dadymchwelyd ein haeriad. Yr oedd yr Iaril anrhydeddus yn canmol gwrolirydedd ac ymddangosigdau trws- iadus y Gwirfoddolwyr yn Caerhirfryn. Efallai eu bed yn drwsiadus, ond am eu gwrolfrydedd, nid yw yn debyg y gwyr efe na neb arall am dano. Ond dylai'r Iarll urddasol wybod fod yr arian a wastreffir ganddo ef a mawrion y tir yn ofynol i brynu bwyd a diod i filoedd o'u cydgreaduriaid ag ydynt yn ym- ochain dan galedi ac angenhoctyd, a thu yma iddynt estyn eu dwylaw i ddiwallu anghenion y truenusion di- nodded, nid yw eu hymffrost cenedl- garol ond sham a mefl ar gymeriad yr hil ddynol. Tempus Fugit yw ar- wyddair oes y pendefig, yr un fath a'r cardotyn, a chludir eneidiau y ddau i'r farn, ysgatfydd, yn yr un cerbyd, a gosodir eu cyrff i orwedd yn yr un ddaear, ac yno y cydraddolir hwynt hyd awr y dsdeni ofnadwy, ac "Fel lladron dison y daw,- Boed adda3 y byd iddaw I" Anrhydeddwyd L'erpwl a phresenol- deb un o "brif wleidyddwyr Ewrop yr wythnos a basiodd ond wele un mwy na Derby wedi dyfod i Babilon fawr y llongau yn mherson George Muller, y dyngarwr mawr o Gaerodor. Dydd Sadwrn diweddaf cymerodd ran yn agoriad y Midway House, Sandon Ter- race, yr hwn a bwrcaswyd yn noddfa i enethod diamddiffyn. Pregethodd yn Victoria Hall y Sul canlynol, a llywydda yr holl gyfarfodydd yno drwy yr wyth- nos. Ganwyd y gwr rhyfedd George Muller yn Kroppenstaedt, Prwsia, yn y flwyddyn 1805, ac yr oedd ei dad ar y pryd yn gyllid gasglwr. Pan ydoedd George yn 15 oed, efe a gollodd ei fam, yr hyn a barodd iddo arwain bywyd di- fraw ac anwastad hyd 1825, yn mha gyfnod yr ymadawodd a rhengoedd afagddu, ac a ymgysegrodd ei fywyd i achos crefydd. Gan fod ei hanes mor adnabyddus, afraid ymhelaethu, ond gwell dweyd fod Muller weithian yn 70 mlwydd oed; ond mae y dyn mawr yn mwynhau iechyd rhagorol, ac y mae ganddo 2,000 o blant amddifaid yn Nghaerodor, a thraul eu dilladu, eu haddysgu, a'u bwydo am y flwyddyn ddiweddaf ydoedd £24,00D, tra yr oedd y derbyniadau yn £48,000, a daeth y swm anrhydeddus i mewn drwy gyfran- iadau o dair ceiniog i fil o bunau. Dyma wron yn mysg gwroniaid! Dyma ddyngaredd yn ymfyrlymu o fryniau tragywyddol Paradwys! Y mae wedi ymwerthu i ddaioni. Y mae holl goed a cheryg ei dai amddifaid wedi eu heneinio gan ei ddagrau Crist- ionogol, ac nid oes digon o dan yn n 17, ymherodraeth y fagddu i losgi un darn o'r adeiladoedd nawddogol. Pan fyddo enwau peirianwyr, celfyddydwyr, bren- inoedd, cadfridogion, a rhyfelwyr yn huno yn mysg adfeilion diddymdra, deil enw a gweithredoedd George Muller yn ogoniant i ogoniant ei hun. n Tra bri rhaid moli IMuller,—y ddaear A ddiwel ei geinder Mae engyl yn ymyl Ner Yn bwydo 'i nefawl bader! Ei weddi fawr a hoedda fod-ei serch A'i sail ar y Duwdod Ac o'i Dduw mae dilnw'n d'od I lenwi ei gail hynod. Yn iach i berchenogion, gohebwvr, a darllenyddion TARTAN R GWEITHIWR. ATHAN FARDD.
YMWELIAD A Q W EITHFAOEDD…
YMWELIAD A Q W EITHFAOEDD ALCAN MORGANWG. PAN oeddwn ar fy adeh yn ystod y dyddiau a aethant heibio, ac yn dy- gwydd ehedeg uwch ben gwaith alcan aidd Avon Vale, Aberafon, canfyddais ddosbarth o weithwyr, o'r melinwyr alcanaidd,yn cynal cyfarfod rbyngddynt a'u gilydd yn an o'r melinau. Er cael gweled a chlywed yr hyn oedd yn myned yn miaen ganddynt, eauais fy adeu, a disgynais i lawr yn araf, araf ar un o'r muriau, yr hwn oedd mewn man cyfleus i'w gweled a'u clywed yn siarad; ond er fy holl awydd a'm pryder, yr oedd y cyfarfod wedi terfynu. Ni chlywais ac ni ddeallais pa bwnc oedd ganddynt yn yr ymdrafodaeth, ond yn unig clywed un o'r gweithwyr yn gwaeddi nerth ei geg, gan ddweyd: Fy nghydweithwyr oil, bydded hysbys i chwi ein bod yn bwriadu cynal cyfar- fod rhyngom a'n gilydd nos Sadwrn nesaf, am 7 o'r gloch, yn y New Inn, a bydded i bob un o honoch wneuthur ymdrech i dtdyfod i'r cyfarfod, a hyny yn brydlon. Wedi iddynt ymadael a'u gilydd yn heddychol, esgynais i fyny, gan ledu fy aden, ac ehed'eg o amgylch ogylch y wlad, a mwynhau awyr pur y net, ac yn llygadsyllu ar fynyddoedd, coedydd, llysiau, a gwrthddrychau o wahanol ryw. Ehedais yn ddigon uchel yn yr awyrgylch rhag cael fy niweidio gan fy ngelynion lluosog, er cael myned i'r cyfarfod ar y noson grybwylledig. Y noson a ddaeth, ac ehedais tua chyf- eiriad y New Inn; ac wedi dyfod yn agos yno, cauais fy aden, a disgynais i lawr yn araf ar gareg ffenestr yr ystafell He y cynaliwyd y cyfarfod a chan nad oedd un lien ar y ffenestr yr oeddwn yn gallu gweled bob un o honynt. Yr oeddynt oil yno yn gytun, oddieithr un, yr hwn oedd yn esgusod- ol ar destyn oedd yn cael ei drafod ganddynt mewn cysylltiad a'r gwaith, sef gwneuthur llun o waith yn ystod ei ddiwrnod, ac yr oeddynt yn siarad yn bur ddoniol a phenderfynol. Gwelais un o'r gweithwyr, yr hwn sydd fychan ei gorff, a golwg penderfynol arno, yn codi i fyny oddiar ei eisteddle, ac yn cerdded yn unionsyth yn mlaen tua chanol yr ystafell, a'i fraich ddeau i fyny, gan lefaru gyda nerth ac aw- durdod:—Mr. Cadeirydd a'm cydweith- wyr oil, chwi welwch ein bod oil wedi gwneuthur ymdrech mawr i ddyfod i'r cyfarfod hwyrol hwn; ac y mae yn ddyledawydd arnom i fod yn bresenol. A oes rhai o honoch chwi, tybed, yn gwybod am rywun a absenolodd ei hun o'r cyfarfod, fel y gallwyf fyned ato, a'i gyrchu yn ol i'r cyfarfod, a churo ei gefn a gwialen, am iddo esgeuluso'r cyfarfod. Ar hyn, atebodd y gynull- eidfa yn gynhyrfua na wyddentyn mha le yr oedd y trachwantwr. Wel, meddai yntau, pe byddai yma gyfarfod yn cael ei gynal genym i wnenthur mwy o waith, diameu y byddai efe yma heno hyd braich gyda'r pwnc; ond gan mai lleihau y gwaith sydd genym mewn golwg, nid yw yn tmol a'i archwaeth. Mae y cyfryw ddyn yn warth ac yn sar- had. Siaradwyd llawer iawll o bethau ganddo ag oedd yn rhy ffiaidd ac yn annheilwng i ymddangos mewn nnrhyw newyddiadur. Cynhyrfodd gymaint ar y gynulleidfa, fel yr aeth y cyfarfod yn ddyryslyd, a gorfu i'r cadeirydd parchus o angenrheidrwydd fynu dys- tawrwydd, a. hyny a deyrnasodd. Yr eiddoch,—BARCUD.
[No title]
Y MAE gorchymyn gorfodol am ffnrfio Bwrdd Ysgol yn Llandeilo wedi ei dderbyn. Cymer yr etholiad le ar yr 31ain o'r mis presenoL
CYNFELYN A'I ENSYNIADAU.
CYNFELYN A'I ENSYNIADAU. TEBYG genyf fod Oynfelyn yn bwriadu gwneud hafog o'r hen Gardi druan. Ond mae llinyn ei fwa wedi tori, a'i saethau pilbrwynaidd yn hollol ddieffaith hydyn hyn. Byddai yr un peth iddo fel bardd y "gadair bum' swllb" honi ei fod yn brif fardd cenedlaethol a hyny. Pwy gred y fath gwiltwr barddonol a hwn. Mae Cynfelyn yn dyfyna rhan o ryw feirniadaeth ar y "Wawr." Wyr y Oardi ddim am y pwnc o gwbl. Tebyg mae Oynfelyn oedd y buddugol ar y testyn. Hoffwn ei gweled yn fawr, er mwyn cael testyn chwerfchin am haner awr. lthaid ei bod yn wir "Amoraidd." Byddai yn werth chwech eistedd i lawr am orig er gwrandaw Cyn yn ei hadrodd. Mae yn adroddwr diail. Dychymygaf ei wel'd yn codi ar ei bedion gydag awdur- dod. Yn sych-besychu am funyd, yn tynu ei law fawr drwy ei wallt eithin- aidd, neu yn cyrlio ei fwstash doniol. Dyna fo yn dechreu adrodd, Ilais cryf fel rhaiadr, ei ddau lygad yn fflamio gan athrylith yn ei ben, a'i gorfE lluniaidd yn cael ei droi fel y bo y geiriau yn galw, a dim haner modfedd yn ychwaneg. Ei ddwy fraich fel dau fynegbyst o bob tu iddo. Yr oil yn cydgynorthwyo er rhoi allan y synwyr perffieithiach a digoll Dyna ddarhm gwan o Gynfelyn fel adroddwr. Ei ddarlun fel Bardd eto.-Nid oes un dyn na dynes wedi ysgrifenu a siarad mwy o farddoniaeth na Cyn. yn yr ystyr sydd ganddo ef am farddoniaeth. Ei brif nodwedd fel bardd ydyw yr hir, y dibwynt, a'r diddiwedd, ac yn cynwys y tragwyddol wasgarog. Creda mai mewn peth fel hyn y cynwysir y peth byw" hwnw sydd mor ddyeithr i Oynfelyn. Cana ar bob pwnc hynod, Eithr yn wir metha saethu nod. Hefyd mae ganddo fwy o feddwl am weithiau ereill nag sydd ganddo am ei allu ei hun. Earned y darllenydd beth a feddylir wrth y frawddeg uchod. Fel bardd, y mae yn hoff iawn o arfer geir- iau ansathredig a dyeithr. Ymgais at dwyllo yr anwybodus ydyw hyn-dangos ei fod yn ddoeth ac yn fawr, pryd nsd yw. Oona, Cynfelyn, mai nid dy ofn di sydd arnaf, am na wnaf sylw o honot mwy; ond y mae yn enghraifft o'm syn- wyr cyffredin i, a'm parch i'th eiddilwch dithau. Felly dyma fi yn rhoddi y pin heibio ar y pwnc hwn am byth, oddieithr i ti esgor ar gelwydd eto. Blwyddyn newydd dda i bawb. Tra b'o lien ac awenydd, A chan fwyn, achwvn fydd." Ar ffrwst,-OARDI.
MARWEIDD-DRA MASNACH.
MARWEIDD-DRA MASNACH. YN y DAMAN am Rhagfyr 31ain, 1875, ymddangosodd llythyr o dan y penawd uchod gan ryw J. M., o Drecynon; a chan fy mod yn ddarllenwr cyson o'r DARIAN, dysgwyliaf ofod i ddweyd ych- ydig eiriau gyda golwg ar egwyddor ag amcan neillduol awdwr y llythyr cry- bwylledig. Dywed J.M. mai yr amcan mewn golwg gan y personau hyny sydd yn arfer eu dylanwad o blaid yr Undeb, yw hunanles. Arswyd y byd, dyna feddwl drwg! Yr wyf yn credu yn hollol mai hunanles sydd gan y gwr o Drecynon" mewn golwg, pan yn ein cymhell i ym- wrthod a'r Gymdeitbas Undebol, a sef- ydlu Cymdeithas Ymfudol. Dichon y byddai un o'r fath yn dda; ac os llwyddir yn yr amcan mewn golwg, gobeithio nad anghofia y swyddogion anfon J.M. o Wlad y Tlodi i Wlad y Brasder yn un o'r rhai cyntaf, am mai hyny ydyw ei amcan, ac nid lies cyffredinol y genedl. Diamheu fod digon o alluoedd yn y gwr o Drecynon" i wneuthur llawer o ddrygioni, trwy wenwyno meddyliau eich darllenwyr, a'u harwain ar gyfeil- iorn. 0 ganlyniad,' gan mai TARIAN Y GWEITHIWB ydyw eich newyddiadur, gochelwch yn y dyfodol rhag agor eich; colofnau i ddynion sydd bob amser yn amcanu at fradychu y radd weithgar. Hartlepool. HEN BUDDLER.
[No title]
Y MAE yn debygol fod Mr. Henry Mitchard, goruchwyliwr y glowyr yn Pengam, yn bwriadu symud i ddos- bartji New Tredegar, ar gais y cyfeill- iSyno. —
Advertising
LIBANUS, ABERAMAN. CYNELIK Cyfarfod Llenyddol yn y Capel uchod, nos Lun, Chwefror 21, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiawyr llwyddianus ar wa- hanol destynau. Am y traethawd goreu ar' lawn ym- ddygiad yn moddion gras." Gwobr gan Mrs. Williams, chandler OlC 0 I'r Cor o Blant, dan 16 oed ac heb i 'd dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu Yr hen, hen hanes," o Swn y Jiwbili Caniateir chwech mewn oed i'w oyn- orthwyo. Gwobr gan Mr. Lloyd 0 16 0 I'r Cor heb fod dan 20 mewn nifer, a gano yn oreu Rotterdam a'r "Hen ljQfed," 0 Lvfr Ieuan GwyJlt 1 5 0 Y programmes i'w cael gan yr Y IIgrifenydd,- Mr. EDWARD EDWARDS, 44, Regent-street, Aberaman. UNDEB CENEDLAETHOL Y MWNWYR. DYMUNIB ar bawb ag sydd wedi dechreu talu i Gyfrinfa Rhif 11, Cross Inn, Tre- cynon, i bresenoli eu hunain yn ystafell y gyfrinfa, nos Lun, y 24ain o'r mis hwn, er ymdrin a mater neillduol. Wrth orehymyn,-D. MORGAlf, Yøg. TEMPERANCE HALL, MERTHYR TYDFIL. pYNELIR EIS f'EDDFOD fawreddog yn y Ile VJ uchod dydd LLUN y PASG, EbrilJ 17,1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr 11 wyddianns mewn Cerddoriaeth, Barddonfaeth, &c., 1'r Cor heb fod dan ]00 mewn nifer, a gano yn oreu Teyrnasoedd ) Ddaear." ..30 C 0 I'r Cor o un gynulleidfa heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu "y Cwmwl," o waith Gwilyrn GWent. Rhanau 1 a 2 o'r Gerddorfa." 8 0 0 1'r Cor o Blabt a juiuio yn oreu Follow your Leader," o'r "Ooward," No. 118, Vol. 10, April 1875. Caniateir i wyth mewn oed gw.nugyda'r plant.. 2 0 0 Am y Farwnad oreu i'r diweddar Barch. R. Ellis, [Cynddelw.] 3 3 0 Bydd y gweddill o'r festynau i'w cael yn y Programme,yr hwn sydd i'w gael gan yr Ys- grifenydd am geiniog; drwy y post, ceiniog a dimai. Beirniad y Ganiadaeth,—J. THOMAS, Yaw., Llanwrtyd. Beirniad y Farddoniaeth, Rhydd- iafth, an Adnxidiadau,—Parch. Mr. Williams [Tydfylyn,J Merthyr. Ysgrifenydd,—JOHN VAUGHAN, Pentrebach Cottage, Mertbyr. 1, Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg." EISTEDDFOD ADRAN YSTRAD RHONDDA 0 WIR IFORIAID. CYNELIR EISTEDDFOD, dan nawdd y Gwir Iforiaid, ar Ddydd Gwyl Dewi, sef y laf o fis Mawrth, 1876, yn y PUBLIC HALL, Treherbert. 1'r Cor heb fod dan SO mewn nifer, a gano yn oreu "Y Glowr," gwaith Gwilym Gwent. Cyhoeddedig gan I. Jones, Printer, Treherbert. 20 0 0 A Songs of Wales wedi eu rhwymo yn hardd i bob arweinydd aflwyddianus. 1'r Cor o un gynulleidfa heb fod dan 40 mewn nifer, a gano yn oreu Y Cycbod ar yr Afon," gwaith Pencerdd America. Cyhoeddedig gan Isaac Jones, Printer, Treherbert ..10 0 0 1'r Cor o blant heb fod dan 30 mewn nifer, a gano yn oreu Mwy sydd eto i ganlyn," o Swn y Jnvbili. Caniateir i wyth mewn oed eu cynortbwyo 2 0 0 I'r Seindorf Bres heb fod dan 12 mewn nifer, a chwareuo yn oreu "0 Father, whose Almighty power," oar- rangement De Lacy, Llundain 5 5 0 Am y traethawd goreu ar "Ifur- iaeth" 2 10 0 Am y bryddest oreu heb fod dan 100 o linellau ar y Ppgwn Gogleddol (North Pole) 2 10 0 BEDDARGRAFF. Am y Beddargrafl Hir a Thoddaid; goreu i Thomas Richards, mab Griffith a Catherine Bichards, liar Hael, Llwynypia. 0 7 0 Llywydd y dydd—Gwilym WHliams, YswoJ Miskin. Arweinydd—Parch. J. W. Maurice Treherbert. Beirniad y Faiudoniaeth, &c.,— Parch. H. W. Hughes, (At wy&t!.) Beirniad y Gerddoriaeth,-Proffeswr Parry, Aberystwyth. Bydd Cyngherdd arddeioliog yn yr Bydd y programme yn barod yn fuan, ao i'w gael gan yr Ysgrifenydd am y pris arferol, sef ceiniog a dimai.— Tw os WILLIAMS, Ysgrifenydd, Oak Cottage, Penyrenglyn, Treherbert, near Pontypridd. TEMPERANCE HALL, ABERDAR, YNELIR Eisteddfod fawreddog yn y lie uchoJ Vj dydd GWENER Y CROGLITH, 1876, dan nawdd rhai o brif foneddigion y He, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddianue mewn Caniadaeth, Rhyddiaeth, Barddoniaeth, &c., &c. CANIADAETH. 1 I'r Cor heb fod dan 100 mewn rhif JE s. d. a gano yn oreu yr ail chorus, Achieved is the Glorious Works," o o Haydn's Creation 30 0 0 Ac oriawr aur (gold watch) i'r arwein- ydd, gwerth £10. RHYDDIAETH. 4 Am y Traethawd goreu ar y Swydd Archoffeiriadol o gysegriad Aaron hyd farwolaeth Crist." 3 0 BARDDONIAETH. Am y bryddest farwnadol orou, ddim dan 200 o linellau, i'r diweddar Barch. Joshua Thomas, gweinidog yr Anni- bynwyr yn Nhresalem, Aberdar ..200 Enwau y beirniaid, yn nghyda'r gweddil Jo'l' testynau i'w cael yn y Programme, yr hwa sydd yn barod, ac i'w cael gan yr Ysgrifenydd- ion am geiniog drwy y post, ceiniog a dimai, Ar ran y Pwyllgor, J. DAVIES, 24, Regent-st., D. EVANS, 362, Cardiff road, Aberaman. EISTEDDFOD BETHEL, OWN- PARK, TREORKEY. CYNELIR Eisteddfod Flynyddol y capel uchod dydd Gwener y Groglith, Ebrill 14eg, 1876, pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr buddugol ar y testynau canlynol:— I'r Cor a gano yn oreu Teyrnasoedd y Ddaear" ..10 0 0 1'r Cor a gano yn oreu Let the Hills resound" 5 0 ø 1'r Cor o Blant dan 16 oed, a gano oreu "J trusalem, fy nghartref gwiw," a'r Tonic Solfa 2 0 0 Am y penillion goreu i T. G. Llew- elyn, Ysw., Baglan Hall, am roddi He i adeiladu Capel Bethel, Cwmpark 10 8 Am y traethawd goreu ar Hanes Cwmpark" 119 Beirniad v Traethawd, y Farddoniaeth, &e., -0. W. JAMES, Merthyr. Beirniad y Gan- iadaeth,—Mr. D. BOWEN, Ebbw Vale. Ar- weinydd,-y Pared. W. MORRIS (Rhosynog,) Treorky. Y gweddill o'r testynau i'w gweled yn y pro- gr amme, yr hwn sydd yn barod, ac i'w gael am geiniogyr un—trwy y post, ceiniog a dimai. EDWABD HARRIES, Cwmpark, Treorkey, Neai Pontypridd.