Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

-KARL Y LLEW; NEU MAECUOG…

News
Cite
Share

KARL Y LLEW; NEU MAECUOG Y LLAW GOCH. PENOD VI. EDEYCEQDD y carcharorion yn y cyf- eiriad y daeth y goleu i mewin, a gwelsant ran o'r hyn a ymddangosai b oJ fel y graig ei hunan yn symud fel ar begwn yn ei ganol, ao yn fuan daeth dyn i mevn i'r gell affaglen gyneuedig yn ei law. Yr oedd wedi ymwisgo mewn du o'r pen i'r traed, ac ar ei fynwes yr oedd gem ardderehog yn dysgleirio, sef, arwydd y Llaw Goch. Pan drodd tuag at ei gyfeillion, adnabyddasant ef yn union. w Ixion." le, fy nhad. Yr oeddech yn dysgwyl am danaf." Yr oeddwn yn dysgwyl rhyw un, fy mab." Symudodd Marcbog y Llaw Goch yn mlnen pan gododd Manfred a Karl. "Clywais eich bod wedi cael eich cymeryd ddoe," ebe Ixion, a chred- wyf nad ydych wedi bod mewn un perygl. Nid yw Rupert o Frankenstein yn breuddwydio ond ychydig am y rhwyg wild '1 pi wei^on, Y mae y dyn a'ch arweiniodd chwi yma, yr hwn oedd a'r allweddi wrth ei ochr, yn aelod o'r Bruderschaft." Ydwyt ti wedi gweled yr Arch Dduc," gofynai Manfred. "Nac ydwyf," atebai Ixion. Nid yw yn bryd eto. Caf ei weled cyn bo hir. Y mae yn ychwanegu at ei ddrygioni bob dydd. Ond, fy nhad, gwelais im arall nad oeddwn yn dys- gwyl cael ei weled byth. Efe a'm atal- iodd, neu buaswn yma yn gynt." Pwy ydoedd, fy nhad." Cewch ei weled yn fuan." Yna gan droi at ein harwr, dywed- odd: Wel, fy mrawd, pa fodd yr ydwyt ti yn cael pethau." Credwyf fy mod wedi cael allan pa fath ddyn y gall yr Arch Ddue fod, a beth hefyd ydyw y Geweight Bruders- chaft. Nid wyf ychwaith yn beio fy hunan am adael i Rupert o Franken- stein fy nghymeryd heb ei wrthwynebu. Buasai hyny yn ynfydrwydd, ac yr oedd dianc yn anmhosibl." Nid wyf yn credu fod anifail yn ngosgorddlu yr Arch Dduc, faasai yn dy ddal di, pe bnasid wedi troi a ffoi." Dichon hyny," ebai'r dyn ieuanc, "ond nid oedd ceffyl Manfred yn gystal." Yr oeddwn i am iddo ddianc-- ceisiais ganddo wneud hyny, ond gom- eddodd," ebe yr hen wr, ac nid oedd amser i ddadlen." "Yr wyf yn gwerthfawrogi dy eg- wyddor," ebai Ixion, gan droi at Karl eto, ond paid a gadael i hyna ddy- gwydd etc. Nid yw dy fod ti yn cael dy ddal, yn cynorthwyo un brawd. Ni anghofir neb o'n cyfeillion fydd mewn eisieu. cynorthwy. Nid yw y Llaw Goch byth yn cysgu. Os ydwyt ti am wneud dy ddyledswydd, paid a goddef i neb dy ddal eto, os bydd dianc yn bosibl, gan nad pwy fydd wedi ei adael ar ol." Ond," ebai Karl, a fynech chwi i mi droi fy nghefn a gadael- ""Does dim gwahaniaeth pe buasefc yn gadael dy fam ar ol," ebe Ixion. Rhaid i ti edrych atat dy hunan yn gyntaf. Efallai y deui i ddeall hyn gydag amser. Ond dewch yn awr i ni gael myned o'r lie yma. Y mae wedi canol nos, a rhaid i ni aros yehydio- fynydan ar y ffordd. Dilynwch fi, a cherddwch yn ofalus." Gyda ei fod yn dweyd hyn, trodd ac ymneillduodd trwy y twll oedd yn y mur, ac wedi i Manfred a Karl ei ddilyn, gosododd ei fys ar v mur a throdd y cwbl yn ol i'w le." Arweiniodd Ixion hwynt yn awr trwy dramwyfa gul a garw, ac. mewn rhai manau yn liaith gan ddwfr. Deallodd Karl oddiwrth yr hyn a welodd ei hunan, ac a glyw- odd gan Manfred, raai hollt naturiol yn y graig ydoedd ar hyd yr hon y tram- wyent yn awr, ac wedi ei chymwyso ychydig gan law dyn. Nid yw Frankenstein yn gwybod dim am y llwybr yrna," ebe Ixion, ac y mae amryw ereill am ba rai y mae yn hollol anwybodus." "Ond," ebai Karl, "pan y ca allan ein bod ni wedi dianc, bydd yn rhaid i'r ceidwad wneud ryw eglurhad. Pa; esboniad y rhydd y dyn hwn." Y mae hyny wedi ei drefnu," ebai Mon. Yn mhen haner awr wedi i j chwi gael eich cau i fyny, cafodd y ceidwad arferol ganiatad i fyned i ym- weled a rhai o'i dylwyth yn mhentref Drosendorf. ac i dreulio y nos yno. I Cafodd ei allweddi eu trosglwyddo i swyddog arall. Y mae yr allweddi yn hongian yn awr yn yr ystafell wyiio, a'r swyddog erbyn hyn yn llys y Llaw Goch. Yr ydym i fyny a'r Due yn y peth hyn." Cyn fod Karl. wedi cael amser i ofyn dim yn rhagor, daethant at fur arall, yr hwn a edrychai yn hollol gyfan, ond agorwyd ef yn ddidrafferth gan Ixion, ac wedi myned trwy hwn, cawsant eu hunain mewn ystafell wedi ei hadcil- du o feini. "Yr ydym yn awr," ebe Ixion, o dan y priiadeilad, a dangosaf yn fuan, i chwi y fath ddaeargell sydd wedi cael ei hadeilad 1 oils i mn vcynu iodd Frankenstein t t v j V mae y fynt-ii i < o i of ei ban, ^<jdvluna<i o-. \j auili rdd arall i iyncd iddi. Cafodd y cruikwyr a'i adeiiadasant-—bedwar ohonynt—eu rhoddi i fnrwohieth yn fuaa wedi iddi gael ei chwblhau. Dygwyddod'l i Winifred, y ceidwad, ddod o hyd iddo yn ddamweiniol, a rhoddodd hysbys- rwydd i mi y ddoe." "Ac i bwy ddyben yr adeiladv,-ya eit goiyuai Manfred yn awyddus. Oewch weled yn fnan. Bvdd'vch yn ofalus i beidio gwneud dim stwr yma, gan fod ystafell y Duo uv/ch ein penau." Yn fuan, daethant at beth a ym- ddangosai fel mur cyfan a solid, ond fel o'r blaen, trwy gyffyrddiad llaw Ixion, trodd rhan o'r mur ar golyn, a chawsant le agored. Y tuhwnt i hwn. cawsaut eu hutiaiu mown cell fwaog, gal, a drws haiarn y pen pellaf iddi. Agurodd Ixion ef, ac •••UH daliodd ei i fyny, a cheisiodd gan Manfred fyucd i mewn. Daeardy gul yioeda, a gwelybychan to wellt yn yr ochr b,, iddo, ar yr hwn yr eisteddai hen v, r, g\vallt pa un oedd mor wyned a'r eira. Ei farf yn hir, ac yn annhieiuus, a'i ddillad yn hongian yn garpiau am dano. Cododd i fyny pan welodd yr ymwelwyr yn dyfod i mewn, fel pe buasai yn en dysgwyl. Cydiodd yn llaw yr hen wr, a syllodd yn ei wyneb, yr hwn a welid yn amlwg gan oleuni y fiaglen. <! Manfred llefai. "0, a ydwyf yn cael dy weled unwaith eto. Manfred, ydwyt ti ddim yn fy adnabod i ?" Edrychai yr hen wr yn graff ar yr hyn a fu unwaith yn wyneb hardd a llawn, ond yn awr yn salw ac yn rych- iedig, fel un wedi dyrysu, ond yr fuan yr oedd y cwbl yn glir. Y nefoedd drugarog ebai. Ai breuddwyd ydyw hyn, neu a ydyw y llawenydd yn wirioneddol. Y Barwnig Lodwig o Drosendorf. A ydyw fy synwyrau wedi dyrysu." Nac ydynt, Manfred, o herwydd myfi ydyw Lodwig, yn fyw o hyd. Nid oeddwn yn meddwl bedair awr ar hugain yn ol, y buaswn byw i weled diwrnod arall. Ond y mae dyfodiad an- nysgwyliadwy Ixion, dy fab, a'r addew- id a roddodd wedi rhoi nerth newydd i mi. Teimlaf yn awr y gallaf fyw i weled dyddiau gwell eto. Gwelaf fod fy mywyd wedi ei gadw drwy yr holl flynyddau yma i ryw ddyben da." "Ond," ebai Manfred, Nis gallaf ddeall pa fodd yr ydych chwi yn fyw, pan oedd pawb yn credu eich bod wedi marw. Paham y cadwodd yr anghen- fil Frankenstein chwi, ac i ba ddyben." "Am y rheswm," ebai y barwnig, "ei fod yn crecu fy mod yn dal rbyw ddirgelion pwysig perthynol i'r Uyw- odraeth, pa rai y gobeithiai eu cael genyf. Ymwel 7 mi am flynyddoedd nnwaith bob thni.s, ac weithiau yn amlach na gydag addewidion teg, a ffrydiai o fygythion dychrynllyd, gan feddwl y buaswn' yn dadguddio rhyw beth iddo. Yn y blynyddoedd diweddaf, nid ymwelai a mi ond yn anfynych, a'r prydiau hyny ni wnelai ddim ond fy ngwatwar, hyd at y ddau fis diweddaf. Creda o hyd fy mod yn dal rhyw ddirgelion, a bygythia beth arall yn awr. Dywed fod fy merch yn fyw, ac o fewn cyrhaedd ei allu ef, ac y bydd iddo ddial arni hi os na chyffesaf. Yr oeddwn wedi meddwl fod fy merch wedi marw. Tyngodd Frankenstein wrthyf unwaith ei fod wedi ei chladdu. 0, fy anwyl Gertrude Plentyn pryd- ferth ydoedd. Os ydyw hi yn fyw, y mae yn ei maint yn awr." Beth oedd ei hoedran pan welsoch chwi hi ddiweddaf," gofynai Ixion. Dwy flwydd." Y mae yn ddwy-ar-hugain oed yn awr, ynte." Rhaid ei bod. Yr ydwyt yn iawn Ixion. Er fod yr oriau a'r dyddiau yn llusgo yn drwm, byddwn yn foddlawn i'r cwbl pe gwybyddwn fod fy merch yn fyw." Y mae yn fyw," ebai Ixion, ac yn cael ei adwaen fel merch i Franken- stein." Trugaredd Peidiwch ofni dim, fy arglwydd. Gellwch fod yn sicr ei bod yn ddyogel. Y mae rhai sydd a gallu ganddynt i amddiffyn yn ei gwvlio yn ofalus. Y mae yn feddianol ar brydrerthweh a rhinwedd, a chewch fod yn hapus yn ei chwmpeini cyn bo hir." Cewch," ebai Manfred, gyda gwres a theimlad, "ac i roi y cam gyntaf yn y cyfeiriad hwnw, cewch fyned gyda ni ar unwaith o'r daeardy tywyil yma." Siglodd y barwnig ei ben. Pah gofynai Manfred, mewn syndod. "Fy anwyl dad," ebai Ixion, "yr wyf wedi bod yn siarad a Syr Lodwig, ac y mae ef yn deall yn dda. Rhaid cymeryd pwyll gyda Frankenstein, Credwyf eich bod chwi a Karl wedi dianc trwy fradwriaeth y swyddog oedd yn lie y ceidwad am y noswaith ond pe byddai i'r barwnig adael y lie yma, am yr hwn y creda na wyr neb ond ei hunan, ac un gwas arall sydd yn hollol ffyddlon iddo, deuai i wybod ar un- waidi fod rhyw allu dirgel ar waith. Na; rhaid i'r Barwnig Drosendorf aros yma am dipyn eto, ond gofalir yn dda am dano. Edrycha Winifred, y ceidwad, ar iddo gael lluniaeth dda a phriodol. Yr wyf wedi cael allwedd i'r drws haiarn yma, ac wedi eyfar- wyddo Winifred yn y ffyrdd dirgel y daethom ar Lyd iddynt, oud ni chaiff fod yn hir." Yr wyf yn foddlawn," ebai'r barwn- ig, gan fy mod yn gweled mai hyny sydd oreu. Felly, Manfred, peidiwch a gofidio dim o'm plegyd i, ymddiried- af i Ixion. Ac yn'awr, gadewch i mi weled eich cwmpeini." Cymerodd Ixion ein harwr wrth ei fraich, ac a'i harweiniodd yn mlaen. A

LLUEST Y MYNYDD.

YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.