Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
---'-.., Y JESUITTAID YN CANADA.
Y JESUITTAID YN CANADA. Y MAE y newyddion diweddaraf o Canada, yn dangos fod pren gwenwyn- ig Upas y Babaeth yn dwyn eiffrwyth naturiol ei hun yn Canada, o dan lywodraeth Brenines Lloegr. Y mae llawer o drigolion y wlad hon yn ym- fudo i Canada. Ac os bydd ganddynt gydwybodau Protestanaidd, y maent yn sier o gael dyoddef erledigaeth yno oddiwrth y Jesuitiaid. Ond fel y mae gwaethaf, y mae canoedd yn ymfudo y rhai ydynt yn byw mewn perffaith ddi- brisdod o Air Duw- I'r rhai hyny yr un peth yw Pabyddiaeth, a rhvw beth arall o ran crefydd. Ac y mae tuedd gref mewn llawer Protestant mewn enw i geisio dangos fod Protestaniaid cyn- ddrwg a'r Pabyddion mewn athraw- iaeth, dysgyblaeth, a phob peth. Y mae gelyniaeth calon y dyn annuwiol yn erbyn Gair Duw, am ei fod yn con- demnio ei hoff eilynod. Efe a gymer ryw esgus os gall i osgoi awdurdod y Beibl ar ei gydwybod. Ymhyfryda fyned ar draws gorciiymynion Duw, yn enwedig fel y maent yn galw am ufudd- dod y galon. Yn y Daily News, Llundain, am ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, gef Ionawr y 4ydd, yr oedd llythyr oddiwrth ohebydd, dyddiedig Montreal Canada, Rhagfyr 17, diweddaf. Yr hyn oedd uwch ben ei lythyr fel teitl, oedd, "Priestly outrage on the Pro- testant Indians of Lower Canada." Dechreuodd ei lythyr trwy ddweyd ei fod wedi bod yn fater o ymffrost gan ddeiliaid brenines Victoria, pa greu- londerau bynag a ddyoddefai yr Indiaid Americanaidd oddiwrth drigolion yr Unol Daleithiau, nad oedd dim ond dyngarwch yn cael ei ddangos tuag atynt, yr ochr arall i'r ffiniau, yn Canada, o dan lywodraeth Lloegr. Ond y mae yr ymffrost hwn, fel llawer ym- ffrost arall, yn myned gyda'r llif o ddi- dduwiaeth yr oes hon. Mewn sefydliad a elwir Oka, yn agos i un o lynoedd Canada, triga Indiaid perthynol i genedl yr Iroquois. Y mae yr Indiaid hyn wedi bod yn Baby dd ion. Ac oblegyd hyny rhoddodd llywodraeth ein gwlad ni, yn Canada, eneidiau, cyrff, a medd- ianau y bobl hyn odan ofal yr offeiriaid Pabaidd. Ond chwe blynedd yn ol, anfonodd y Wesleyaid genhadau i blith j bobl hyn. Buont yn llwyddianus iawn. Trodd bron yr oil o honynt allan o Eglwys Rhufain. Yr oedd y cenhadau yn cael eu cynal bron yn gwbl gan gyf- raniadau plant yr ysgolion Sabbothol yn Montreal. 0 amser eu troedigaeth hyd yn awr, y mae y Pabyddion Jesuit- aidd, creulawn, wedi erlid yr Indiaid dychweledig, yn ol eu ffurf cigyddol, arferol, yn mhob oes. Ac y mae ynadon y police, ac ynadon y sir, yn eefnogi yr offeiriaid Pabaidd yn yr erledigaeth. Felly y gwnaethant yn Nghymru a Lloegr dros gan mlynedd yn ol, tuag at y Methodistiaid Calfin- aidd, a'r Wesleyaid. Yr oedd yr ynad y pryd hwnw yn bleidiwr i'r erlidiwr Eglwysig. Dygant gyh addiadau o bob math yn erbyn y dynion gweiniaid di- amddiffyn, a charcharent hwy fel y gwelont yn dda, gan broffesu eu bod yn tori y gyfraitb. Fel hyny y proffes- ent hwy, sefy Pabyddion, pan yr oedd- ynt yn llosgi y merthyron yn Smith- field. Gwadant yu awr mai am eu crefydd y llosgvvyd hwynt. Gwadant godiad yr haul us bydd hyny yn ateb en pwrpas. Y mae celwydd yn llawer mwy cysegredig yn eu golwg na gwir- ionedd. Rhaid fod menyddiau y rhai a'u credant yn feddal. Ceisiwyd gan yr Aborigines Protection Society yn Llundain, i ddwyn achos y trueiniaid dan sylw o flaen swyddogion ein llyw- odraeth ni. Gwnaeth hyny. Ac an- fonodd Arglwydd Caernarvon, yr ys- grifenydd Taleithiol, at lywodraeth talaeth Canada yn eu cylch. Yr ateb a gafwyd oddiwrth y llywodraeth hono oedd "Nis gallwll wneuthur dim iddynt lie y maent ond os symudant rhodd- wn dir da iddynt yn agos i lyn Nipiss- ing." Dyma gydnabyddiaeth fod y Jesuitiaid yn drecli na llywodraeth Prydain yn Canada, neu ynte fod llywodraeth Prydain yno yn dueddol i gefnogi y Jesuitiaid. Yn mha le y mae Orangemen Canada yn awr ? Onid oedd ymffrost mawr am danynt hwy, fel asgwrn cefn Protestaniaeth yn y wlad hono, pan y bu y Prince of Wales ync ? Ond rhaid cofio eu bod hwy yn uchel Eglwyswyr selog. Ac efallai nad yw yn fater o ofid iddynt hwy, fod y Jesuitiaid yn erlid y Wes- leyaid Ymneillduol Indiaidd. Nid oedd yr Indiaid, druain, yn foddlon ymadael a'u hen diriogaeth a fu yn eu meddiant am oesau. Adeilad- wyd capel iddynt ychydig amser yn ol. Traul ei osod i fyny oedd £300. Llenwid ef ag addolwyr. Nid oedd nemawr o Indiad yn myned i addoliad y Pabyddion. Cyfodwyd y capel yn ngardd un o'r Indiaid, yr hon oedd wedi bod yn meddiant ei berthynasai ef am genedlaethau. Nid oedd neb wedi ceisio ei chael oddiarnynt. Yn absenoldeb cyfreithiwr yr Indiaid, yn llys yr ynadon, ceisiodd y Jesuitiaid gan y llys awdurdod i dynu y capel i lawr. Cawsant yr awdurdod! Pan oedd y perchenogion allan o'r ardal gyda eu goruchwylion, aeth Mob o Babyddion at y lie, ac heb roddi un rhybudd, tynasant y capel i lawr, a chludasant y defnyddiau i fod yn fedd- iant i'r offeiriad Pabaidd! Gwnawd hyn, difrod erledigaethus hyn, y cysegr ysbeiliad hyn, y Iladrad llechwraidd hyn, trwy awdurdod llys cyfreithiol yn Canada, o dan lywodraeth Coron Lloegr! A gwneir yr un peth yn Lloegr ei hun, os caiff y Jesuitiaid yn yr Eglwys Sefydledig, ac allan o honi, awenau y llywodraeth yn eu llaw. Y maent yn awr yn dylanwadu ar Ardal- ydd Bute i beidio rhoddi tir i adeiladu addoldai Protestanaidd arno. Ac y mae efe wedi rhoddi y swydd o osod offeiriaid mewn bywiolaethau sydd yn ei feddiant, yn llaw offeiriad mor Bab- yddol ag a allai gael. Cefnogir y Jesuitiaid gan fawrion ein gwlad ni. Gosodir hwynt mewn swyddau manteis- iol i erlid Protestaniaid. Gwnant hyny mewn gwahanol ffyrdd. Cynlluniant gelwyddau arnynt i'w rhwystro i gael dylanwad. Ac os byddant yn wan gwnant eu gorau i'w ddwyn i afael a chosp o ryw fath. Cymerasant fantais ar wendid yr Indiaid druain. Anghof- lant i Dduw felldigo Amalec am byth am iddo, fel coward, syrthio ar y llesgaf yn y llwythau." Cymer Duw blaid yr Indiaid, a gwna i gynddar- edd" y Jesuitiaid "i'w folianu." Wyl- odd penaeth yr Indiaid yn fawr pan y gwelodd fod ei le addoliad wedi cael ei dynu i lawr gan ei elynion Jesuitaidd. Y mae yn awr yn 93 mlwydd oed. Ymladdodd gynt dros orsedd Lloegr. A dyma y diolch y mae yn ei gael yn awr am hyny Y n ngwyneb yr erledig- aetb, cydsyniodd yr Indiaid a chynyg y llywodraeth i ymfudo at lyn Nipissing. Ond gwrthoda y llywodraeth gyflawni ei haddewid. Cynygia dir arall gwael iddynt, lie y byddant o dan draed y Jesuitiaid. Os na chyfyd Protestan- iaid Lloegr, fel un gwr i orfodi y cryf arfog i ollwng ei ysglyfaeth yn rhydd, gwae hwynt.
TREORCI-DAMWAIN.
TREORCI-DAMWAIN. Dydd Linn diweddaf, yn nglofa Birch Grove, dygwyddodd damwain i ddau o'r gweithwyr, trwy gwymp o'r top. Cafodd nn o honynt ei ladd yn y man. a dwy goes y Hall eu tori.
MOUNTAIN ASH-AMGYLCHIAD TORCALONUS.
MOUNTAIN ASH-AMGYLCHIAD TORCALONUS. CANOL dydd Mawrth diweddaf, tra yr oedd pump o fechgyn ieuainc yn difyru eu hunain ar lyn bychan ger amaethdy Nixon a'i Gyf., rhoddodd yr ia ffordd oddidanynt. Cyrhaeddodd cynorthwy i'r lie mewn pryd i aehub pedwar o hynynt, ond boddodd un o'r enw Daniel Davies, Cilhaul, 13 oed, yrhwnaafael- odd am beth amser mewn cangen rn o'r coed sydd yn tyfu ar ymyl y llyn. Safai merch ieuanc yn y man ar y pryd, yr hon a ddymunai arno ddal ei afaef am ychydig nes y cyrhaeddai cymorth. 0 nis gallaf ddal rhagor," meddai y bychan, gan ymollwng i'r dwfr. Yn amser y strike, yn y flwyddyn 18 VI boddodd brawd iddo
GWEITHIAITABERDAR A PLYMOUTH.
GWEITHIAITABERDAR A PLYMOUTH. DAETH helyntion Mr. Fothergill a'i gwmni i derfyniad boddhaol yr wyth- uos ddiweddaf. Y mae cwmni newydd bellach wedi ei ffurfio, a bydd i weith- iau Abernant a Plymouth gael eu cario yn mlaen o hyn allan dan lywyddiaeth bwrdd cyfarwyddol, tra y mae Mr. Fothergill ei hun wedi ei apwyntio yn brif oruchwyliwr. Y.mae y gofynwyr i gael debentures am eu holl ofynion ac os bydd i'r fasnach lo a haiarn fyw- iochau, y mae pob gobaith y cant eu cyflawn dalu i (yny, ond yn ddilog. Telir y ddyled yn gyfrandaliadau, y cyfrandal cyntaf o bum* punt y cant i gael ei thalu mewn yohydlg fisoedd. Y mae yn cael ei deimlo gan bawb fod y"gweithiau mawrion hyn, trwy y trefni ant sydd wedi cael ei ddwyn oddi- amgylch, wedi eu hachub o ddinystr, tra ar yr un pryd y sicrheir nad oedd gobaith i'r gofynwyr ond trwy yr un cynllun. Yi oedd trefniant o'r fath ar y cyntaf yn ymddangcs braidd yn an- ZD mhosibl. Bellach nid oes eisieu ond gweled y fasnach yn bywiochau ychydig nes bydd yr holl weithiau mewn Ilawn bywyd, a miloedd, fel cynt, yn cael cyfle i enill eu bywioliaeth yn Abernant a Ply- mouth. —4 —
TANCHWA YN NORTH STAFFORDSHIRE.
TANCHWA YN NORTH STAFFORDSHIRE. DYDD Mercher diweddaf, taflwyd pen- tref Talke eto i ddychryn mawr trwy ddamwain mewn glofa. Y man y cym- erodd y danchwa le oedd y Gammage Pits, a berchenogir gan gynrychiolwyr y diweddar John Wedgwood. Collodd pump, allan o'r 16 oedd ar y pryd yn y gwaith, eu bywydau yn hynod ddisym- wth. Y mae oddeutu cant yn gweithio yn y gwaith, ond yn y glo y cymerodd y ddamwain le nid oedd ond saith yn dygwydd bod ar y pryd. Gwnawd dinystr mawr ar ben y pwll trwy y danchwa. Bernir mai achos y ddam- wain oedd taniad ergyd, a hyny yn groes 1 gyfarwyddyd y goruchwyliwr, yr hwn oedd mewn rhan arall o'r lofa yn adeg y ddamwain.
TRI 0 WEITHWYR WEDI EU LLADD…
TRI 0 WEITHWYR WEDI EU LLADD YN NGLOFA Y RHYDING. DYDD Mawrth diweddaf, cyfarfyddodd tri o weithwyr a'u diwedd yn dra di- symwth yn drift y Rbyding, glofa perthynol i Mr. D. Bevan. Castellnedd. Y mae yn ymddangos eu bod ar y pryd yn clirio ymaith gwymp trwm oedd wedi dyfod ar y ffordd, a thrwy na fuont yn ddigon gofalus i sefyll coed wrth fyned yn mlaen, syrthiodd ail gwymp yn yr un lie, gan ladd tri yn y man. Yr oedd dan o honynt yn wyr priod.
Advertising
BYWEDIB, y bydd i'w Mawrhydi y Frenhines agor ySenedd-dymhornesaf yn bersonol, ac y bydd Tywysoges Cymru gyda hi ar y pryd.
PONTARDDULAIS.
PONTARDDULAIS. Nos Iau diweddaf treuliwyd awr neu ddwy ddifyrus yn Pontarddulais, mewn cyfiwyno rhoddion priodasol i'r Parch. J. W. Jones. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Mr. Roberts,yr ysgol- feistr, ac ereill. Wedi derbyn yr an- rhegion, datganodd Mr. Jones ei ddi olehgarwch am yr anrhegion, gan ddatgan nad oedd yn dysgwyl y fath oddion gwerthfawr.
4 Y WLADFA PATAGONAIDD.
4 Y WLADFA PATAGONAIDD. DYWEDIR fod cynhauaf diweddaf ein cyfeillion yn Patagonia wedi myned yn fethiant, ond nad yw y mudiad Gwlad- faol er hyny wedi myned felly. Yr oedd yr Indiaid wedi eu rhagrybuddio er ys talm nad oedd yr afon yn myned i godi yn uchel eleni, a dywedent hyny am nad oedd rhyw drwch mawr o eira ar y mynyddoedd. I gyfarfod a hyn, nid oedd ein cyfeillion Patagonaidd wedi parotoi, a phan ddaeth y gorlifiad, ni cliafwyd digonedd o ddwfr i ddyfr- hau y dyffryn. Ond yn y dyfodol, gor- lifiad mawr neu beidio, bydd ein cyd- wladwyr Patagonaidd wedi gofalu fod eu camlesau dyfrhaol yn cael eu llenwi, a hyny trwy beirianau, os nad'ellir ei gael ffordd arall. Y mae yn debyg, pe buasent wedi tori y camlesau yn ddyfnach eleni y buasent wedi cael eu dyffryn wedi ei ddyfrhau, yr hyn hefyd a ofalant ei wneud yn y dyfodol.
, V '" NODION O'R AMERICA.
V NODION O'R AMERICA. TARAWYD dinas Utica a syndod cyff- redinol gan y newydd galarus fod y Parch. Rees Davies wedi marw ar amrantiad, boreu dydd Mawrth, Rhag- fyr 14eg, yn 61 mlwydd oed. Cododd y boreu fel arferol, ac ar ol bwyta aeth i symud yr eira o'r Uwybrau oddiam- gylch y ty, ac wedi gorphen bu farw tra ar gychwyn at ei alwedigaeth. Bu farw yn y ty allan, heb yngan gair wrth neb. Ganwyd Mr. Davies yn Bryn Crug, Meirionydd, yn 1815, a dechreuodd bregethu gyda'r Wesleyaid yn lied foreu. Aeth i America yn 1814, ac yn mhen dwy flynedd neill- duwyd ef i gyflawn waith y weinidog- aeth. Yr wythnos ddiweddaf bu Cymro o'r enw y Parch. William Johns farw yn Little Falls, N.Y., mewn amgylchiadau lied gyfyng. Daethai i'r cylchoedd hyn tua blwyddyn a haner yn ol, o rywle yn Pennsylvania, a bu yn pregethu y rhan fwyaf o'r amser yn Herkimer a Little Falls. Pregethodd yn Gymraeg hefyd mewn rhai manau yn Swydd Oneida. Yr oedd yn gyfansoddwr Saesonaeg pur dda; a phe cawsai fyw, yr oedd yn bwriadu cyhoeddi Hanes Dyffryn y Mohawk, yr hwn oedd agos wedi ei gwblhau ganddo. Dyn 58 mlwydd oed ydoedd, a genedigol o Ddeheudir Cymru. Aeth tri dyn yn Portland, Maine, y dydd o'rblaen i ddynwared Wm. Tell, ond mewn dull gwahanol. Daliodd un gath gerfydd ei chynffon a'i phen i lawr, tra yr oedd y Hall yn saethu ati wrth oleu canwyll yn llaw y trydydd ond diangodd y gath yn ddianaf, tra yr aeth y belen drwy law y dyn .0
MASNACII GLO A HAIARN.
MASNACII GLO A HAIARN. IONAwR 4, 1876. Middlesborough. Pig iron tel o'r blaen o ran pris ac archebion. Oblegyd lluosogiad gofyn- ion am dano y mae forlle iron yn 6c. yn uwch ei bris. Nid yw y wasgfa ar weithwyr allan o waith gymaint ag a ellid ddysgwyl. Y mae dysgwyliad mawr y bydd 'V; en derfyniad y cyflaf- areddwyr yn nghylch pwnc y gyflog yn debyg o ddwyn bywyd newydd i'r gweithfeydd. Y mae meistri rhai gweithfeydd wedi cael cynifer o arch- ebion ar eu llyfrau fel nad ydynt yn dyfod i'r farchnad i ymofyn am ragor. Mountain Ash. Nid yw y gweith- wyr wedi bod mown llawn waith hyd ychydig ddvddiau yn ol. Dywedir eu bod mewn llawn waith yn awr, am fod yr amseroedd yn gwella. Glandwr. Y mae strike yn ngweith- feydd dm:y lie hwn oblegyd lleihad oyflogau. Y mae oddeutu 100 allan o waith. lonawr 5, Wolverhampton. Ofnir y cyfodir pris glo ffwrnesi 2s. y dynell. Os gwneir hyn. ystyrir y bydd v can- lyniadau yn ddrwg iawn. Y mae rhai gwneuthurwyr haiarn eisioes yn gwrth- od derbyn archebion am y prisoedd a ffynant yn awr. Ac y mae y glowyr mewn rhyw byllau wedi gofyn. am 6c. y dydd yn rhagor o gyflog am godi y glo trwchus, a 3c. y dydd am godi y glo nad yw felly. Fel hyn y mae y flwyddyn yn agor yn bruddglwyfus. Ond yr achos o hyn, dalier sylw, yw, fod y meistri yn cyfodi pris y glo yn y farchnad. Os gWDant y mae gan y gweithwyr hawl i ragor o gyflog.
. CRYBWYLLION DIWEDDARAF.
CRYBWYLLION DIWEDDARAF. Bu nifer fawr o lofeydd dosbarth Cwmafon yn segur ddyddiau Sadwrn a Llun diweddaf, a hyny o herwydd fod y cyfanswm glo a godir yn fwy na'r gofyn. Y mae cyd-ddealldwriaeth rhagorol yn bodoli yma yn bresenol rhwng meistri a gweithwyr, ac nid oes genym ond gobeithio y bydd i hyny barhau yn hir. Cafodd badhgenyn yn Maesteg, y dydd o'r blaen, ei scaldiaw i farwolaeth trwy syrthiad tegell, tra yr oedd ei dad a'i fam yn leddw ar y pryd. Dydd Sul diweddaf, syrthiodd dyn o'r enw Shepherd, yr hwn oedd yn tancwr yn y glofeydd newyddion islaw Victoria, Glyn Ebwy, o ben y pwll i'r gwaelod. Yr oedd ei gorff wedi ei dori yn ddarnau. Dyn sengl ydoedd, ac yn lrodor o Bath. 0 Y mae gweithwyr haiarn Glyn Ebwy wedi dyfod'i benderfyniad o gymeryd telerau y meistri gyda golwg ar y gos- tyngiad cynygiedig, er y bydd yn 12J y cant i rai dosbarthiadau o weithwyr. Y mae masnachwr o Hull, o'r enw Ward, yr hwn a ddiangodd ryw flwydd- yn yn ol wedi cyflawni twyll, wedi cael ei gymeryd i fyny yn Fiji. Y mae menyw, yr hon, yr wythnos ddiweddaf, a adawodd ei phlentyn yn mynedfa Coleg Hwlffordd, i sefyll ei phrawf yi wythnos hon. Y mae wedi gwneud ymgais at gyflawni hunanladd- iad trwy foddi ei hun. Y mae gweinidog eglwys y Presby- teriaid yn Nghaerdydd, y Parch. Mr. Furguss, yr hwn a fu yn un yn derbyn y Parch. J. Evans, Trinity, Aberdar, i'r cyfundeb hwnw, wedi gadael yr enwad, a myned at Eglwys Wladol Scotland. Dechreuodd un o'r dynion cyfoeth- oeaf yn New York ei fasnach drwy brynu hen farilau peillied; ac wedi hyny dechreuodd brynu hen farilau olew. Bu ganddo ar un adeg 1,000,000 o farilau ar law. Collodd yn ystod y panic 250,000 o ddoleri; ond er hyny y mae yn gyfoethog eto. Ymddengys fod Mr. Stanley (J. Rowlands) yn feddianol ar radd o ysbryd cenadol canys ymae wedi bod yn ceisio proselytio y Brenin Uganda at Gristionogaeth. Ar ei awgrymiad bwriada y Gymdeithas Genadol Eglwys- ig yn Liosgr anfon cenadon i ganol- barth Affrica, lie mae meusydd eang iddynt lafurio. Dywedir fb 1 Ann Connolly, o San Francisco, yr hon sydd yn 73 mlwydd oed,yn gwneud cais amysgariaeth oddi wrth Henry Connolly, 75 mlwydd oed, o herwydd na chadwodd efe at yr addewid a wnaeth cyn priodi i roddi heibio cnoi tybaco.