Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
LLYTHYR CARDI.
LLYTHYR CARDI. CARDI-LAND, Tach. 22. j TYSTEB TYSTEB TYSTEB DYMA destyn refine, smooth, i ddy- weyd gair bach am dano. Testyn sy'n cael y sylw mwyaf liygad a chalon- dynol y genedl Gymreig—enwog yn ei llenoriaeth dderchafedig a gogoneddus, ac anfarwol-dyst genyf fod anfarwoldeb a chlodydd llawer dynsodyn pwysig wedi ei fachu wrth ei dysteb deilwng Tysteb sydd erbyn hecdyw yn ffieidd- beth yn ngholwg pob dyn sy'n berch- en synwyr cyffredin gweddol. Maent wedi dod yn bethau mor gyffredin a llyffaint yn Nghors Machno, neu gre- gin cocos ar draethell Dyfi. Nid oes genym ddim yn erbyn rhoi tyst- eb i ddyn fo yn ei tbeilyngu-dyn sydd wedi treulio ei oes werthfiawr i wneud daioni yn mhob cybh y troai ynddo. Ond, ysywaeth, nid dyma y dosbarth sydd yn cael tystebau yn yr oes ffuantus a gwagsaw hon. Nage. Wei, pwy? Ha! ha! onid y "joc- keys cerddorol o'r ddau ryw, y rhai sydd yn marchogaeth y wlad i andros drwy eu hoes ddi-ddaioni a diles-y rhai ag y mae y wlad wedi talu can- oedd o bunoedd iddynt am eu gwasan- aeth mewn cyngherddau ac eistedd- fodau drwy y blynyddoedd. Y dosbarth yma sydd yn ddigon gwyneb-galed a haerllug i fvnu y geiniog eithaf am eu bysgrechiadau dallhuanaidd, pe bae pob pwyllgor yn myned yn wreck cyn y boreu. Dyma blant y tystebau yn mhob tref a gwlad, cwm, a dyffryn. Diau genyf fod llawer pwyllgor yn foddlon c^faddef fod Cardi yn ei Ie ar y pen hwn. Mae canoedd o honynt wedi llosgi eu dwylaw a'u traed gyda v giwed hon cyn hyn. Ond yn enw Deffrobani paham y gwneir y fath ffolineb o honynt yn y diwedd. Yvredi i'r "jockeys" hyn dreulio ryw ddeg mlynedd yn circus gerddorol GwaHa;, rhaid cyhoeddi pamphlednn cymaint a drws melin i ddatgan talent, rhinwedd- an, a gwasanaeth, hon a hon, neu hwn a hwn i lenyddiaeth en gwlad. Ond diwedd y gan yw y geiniog. Mae hi neu ef yn deilwng o dysteb genedl- aethol am eu llafur i ni fel Cyrmy. G-adewch i ni gael olrhain tipyn o hel-- yntion bywyd cyhoeddus y brodyr yma. Addysgwyd hwy ar dranl y wlad i raddan helaeth, bu fyw ar gefn y wlad drwy ei oes hyd yn hyn. Vfnaeth ef cldim erioed i'r wlad heb y gyflog uchaf a hawliai hwy bob amser fel peth dy- ledus iddo. Gill wvd ar Mr. Black- bird un tro i ddod i gyngherdd i ddileu dyled capel y Bryn. Nid oes yn y Bryn ond cynulleidfa o weithwyr tlodion, oiid ymdrechgar i'r ben. Lethai y ddyled hwy i'r ddaear bron. Noson y gyngherdd a ddaeth, ond trwy fod y gwyntoedd oer ac afrywiog yn chwiban noson wlyb ac ystormus yn nghlustiau y wlad, ychydig ddaeth i'r Bryn trodd y gyngherdd yn fethiant llwyr yn mhobystyr. Ni ddaeth Mr. Black- bird yno cyn haner y cwrdd o herwydd y tywydd ystormus; pan alwyd arno i ganu, cwynai ei fod wedi cael anwyd blin a chrygni, ond dadganodd ddwy don swta, at ymaith ag ef am ryw ad- gyfnerthiad i'w berson i'r Hotel oedd gerllaw. Wrth drafod yr arian y noson hono deallodd y brodyr yn y Bryn eu bod wedi rhoi eu traed ynddi. Wedi talu am yr hysbysleni a'r tocynau, nid oedd ganddynt ond ychydig yn weddill i dalu Mr. Blackbird. Gofyn- asant iddo am ostwng tipyn ar y pris arferol trwy fod pobpeth wedi bod mor anffafriol iddynt, ond yr ateb oedd Dim, fy ymrwymiad i mi trwy deg neu hagr." A bu gorfod ar y creadur- iaid tlodion fyned i chwilio am fenthyg arian i'w dalu ef, neu dyoddef y can- lyniadau o beidio fel y bygythiai. Ow Ow dyma haerllugrwydd ceffyl dall. Ond syndod yr holl syndodau ydyw fod y wlad wedi bod ar ol hyn yn taflu arian i logell Mr. Blackbird mewn ffurf o dysteb am ei wasanaeth i'w genedl, pan nad aeth gam erioed er mwyn ei wlad na'i achos, ond ar gefn ceffyl o anr neu arian. Ac yn wir, rhaid dweyd fod Mr. Blackbird yn specimen cywir o'r mwyafrif o'r rhai sydd yn cael tystebau yn y blynyddoedd yma. Yr ydym yn adwaen lluaws o lenorion a beirdd sydd wedi llafurio yn galed am y lleiaf peth i ddim llawer o honynt yn fynych mewn angen arian, ond a adewir felly, pan y mae spar bills llenyddol yn cael gwynt dan eu hedyn. Barned y darllenydd y rheswm o beth mor anuniawn.- Gallem enwi rhestr hirfaith o blant y tystebau sydd wedi eu cael yn hollol annbeilwng, gan eu bod wedi mynu cael eu talu am eu gwaith cyn troi eu cefn arno. Fel prawf nad yr hwn sydd deilwng, ac wedi gwasanaethu ei genedl gydag egni sydd yn cael tysteb, ydyw gwaith y. genedl yn ei difiawder at y bardd campus, y lienor addfed, a'r hynafieith ydd craff, yr hen Owen Williams, o'r Waunfawr, yn arfon. Ni bu dyn erioed yn fwy o len-garwr na chenedl- garwr na O. Williams, ac ni wnaeth ond pur ychydig o Gymry fwy nag ef o blaid ein llenyddiaeth a'n defion. Ond ust! Beth gafodd oddiar law ei genedl ? Tysteb, bid siwr! Nage, nage, ond gweithio bob dydd am ei fara a'i ddwfr, nes cyrhaedd yr oedran mawr o bed war ugain a deg, a rhagor, heb dderbyn ceiniog goch yn ffurf tyst- eb. O warth cenedlaethol. Rhoi tystebau i gorachod a pheidio i gewri. CARDI.
Y "PIGWR BBYCHAU."
Y "PIGWR BBYCHAU." MR. GOL.—Fel derbyniwr a darllenwr cyson e'ch newyddiadur, ystyriwyf fod genyf hawl i ymddangosiad y sylw hwn ar lith y "Pigwr Brychau" yn eich rhifyn diweddaf, [yn gystal a rhifynau blaenorol. Cymer y llithiwr hwn arno y swydd bwysig ac anrhydeddus (?) o bigo brychau o gynyrchion barddonol a rhyddiaethol gohebwyr y gwahanol newyddiaduron. Pan y cymer personau arnynt y gwaith 9 o adolygu a rhoddi gwersi i ereill, dys- gwylir fod ynddynt hwy eu hunain gym- hwysderau, a graddau o berffeithrwydd at y gorchwyl. Edrycher am foment ar druthiau y "Pigwr" ei hun o'r dechreu- ad, a cheir ynddynt nid brychau, ond y trawstiau mwyaf ac amlycaf-rhai y dysgir ei gochelvd yn y gwersi cyntaf mewn llenoriaeth. Darnia ddecldfau boneddigeiddrwydd fel edau garth, yn nefnyddiad geiriau isel ac ystrydebol,— geiriau dyfynedig o eiriaduron preswyl- wyr conglau eithafol a therfynol cym- deithas. Maent wrth law, a gall wn eu difynu yn hawdd pecaniatai gofod. Mae y Pigwr" hefyd fel pe ar ei eithaf yn gwthio ei hunan i'r golwg agos yn mhob brawddeg o'i eiddo. Oni wyr efe fod hyn yn drawst a ochelir yn wastad gan bob dyn o.sj'nwyr a chwaetb mewn go- hebiaeth ? Yn ei lythyr yn y DAKIAN, dyddiedig Tachwedd 5, ceir'y rhagenwau "ydym," ein," ni," a 6" gymaint a phumpa deugain o weithiau, ac yn ei lith diweddaf cyfarfyddwn a'r un tylwyth mynwesol, o leiaf bedair-ar-ddeg-ar-hugain o weith- iau, a phe cesglid hwynt o'i lithiau i gyd, a'u gosod wrth eu gilydd yn un gadwyn, cyrhaedd yr holl ffordd o Dreorci, heibio Eglwysilan i swyddfa'r DARIAN yn Aberdar. A dyma'r dyn sydd a digon o bres yn ei wyneb i honi ei fod yn rhoddi gwersi i'r cadeirfeirdd o Bont- llanfraith a Hirwaun. Onid gwell a mwy cydweddol a'i allu fel lienor fyddaiiddo ymarferyd ag ysgrifenu i'r wasg hanes darlithiau, cyngherddau, a damweiniai y gymydogaeth lie mae yn bywyn gyntaf ? Mae darllenwyr TARIAN Y GWEITHIWR, yn rhy oleuedig i dderbyn a chymer- adwyo cynyrchion anaddfed a gwallus hogfeirdd hunanol a bostfawr; ac os ydych chwi Mr. Gol., am hyrwyddo a lledaenu cylch edmygwyr a derbynwyr eich newyddiadur, goreu pa gyntaf yr ysgubwch bob ysgarthion o'r fath o'ch colofnau.-Yr eiddoch, PLGWR TRAWSTIAU.
MR. HENRY RICHARD, A.S., A'I…
MR. HENRY RICHARD, A.S., A'I ETHOLWYR. YR wythnos ddiweddaf, talodd Mr. Henry Richard ymweliad a'i etholwyr yn Merthyr, Dowlais, Aberdar, a Moun- tain Ash. Anerchodd ei etholwyr yn Aberdar, nos Iau, Tachwedd 18, pryd y cymerwyd y gadair gan D. Davis, Ysw., Maesyffynon. Mr. Richards, wedi rhai sylwadau ar- weiniol, a sylwodd ar y ddeddf a ddyg- wyd yn mlaen yn y senedd-dymor diw- eddaf gan yr Ysgrifenydd Cartrefol, sef Ysgrif y Fflangelli, yr hon a roddai aw- durdod pelJach yn nwylaw yr Ynadon i arfer y fflangell am droseddau o greu- londeb, y rhai a ddywedid oedd argyn- ydd cyflym yn y wladhon. Nid oedd ganddo ef ddim cydymdeimlad a'r dyn- ion anifeilaidd hyny a afferent greuion- deb tuag at fenywod, &c., ond ei fod ef yn methu deall pa fodd y byddai y cyf- ryw ddyn yn llai o anghenfil wrth arfer creulondeb cyffelyb tuag ato yntau. I Arglwydd Aberdar godi ei lef yn erbyn yr Ysgrif hon, a thori i lawr y brif ddadl o'i phlaid, fel y bu gorfod ar Mr, Cross ei thynu yn ol; ac nid oedd gan- ddo ef ond gobeithio na fyddai iddi gael ei chynyg mwyach. Ysgrif arall a ddygwyd o flaen y Senedd oedd Ysgrif er lluosogi Esgobion, amcan yr hon oedd rhanu Esgobaeth Rochester yn ddwy, a chreu esgob newydd, a'i alw yn Esgob Sant Alban. Teimlodd ef yn ddyledswydd arno i vrrthwynebu yr .Ysgrif hono, a hyny ar y tir nad oedd efe yn credu y byddai ychwanegu y cyfryw swyddogion yn un fantais i'r Eglwys a'r Wladwriaeth. Yr hyn yr ymgymerodd efe ei wneud oedd ceisio dangos nad oedd neb eisieu y fath ychwanegiad esgobol. Ei fod yn sicr nad oedd yr Anghydffurfwyr yn teimlo angen am y fath swyddog, a dygodd yn mlaen dystiolaethau o newyddiaduron yr Eglwys ei hun yn dangos nad oedd un I adran o honi hithau yn cydsynio ag am- can yr Ysgrif, ac nad oedd yn eeg o gwbl ar y Senedd i ymyraeth, os nad oedd gal wad ar yr eglwys am esgob newydd. Am danom ni yn Nghymru. nad oedd rhyw gariad mawr rhyngom ni a'r Esgobion oedd genym, a'n bod fel tywysogaeth Anghydffurfiol yn barod i anrhegu y Senedd a phedwar o'r cyf- ryw swyddogion, os byddai iddynt hwy roddi i ni ddadgysylltiad eglwysig yn gyfnewid am danynt. Yn ei waith yn cyfeirio at y dyfodol, dywedai ei fod yn fwy na thebyg y byddai i ymdrechion gael eu gwneud er penderfynu pwnc yr Ysgrif Claddu. Fod yr ysgrif hono wedi cael ei dwyn o flaen y Senedd am- ryw weithiau gan Mr. Osborne Morgan. Siaradwyd o blaid yr ysgrif y senedd- dymor diweddef gan Mr. Gladstone a Mr. Forster, ac iddo yntau wneud ei oreu i gynrychioli syniadau Anghyd- ffurfwyr Deheudir Oymru ar y pwnc. Ond mai yr hyn a hynododd y ddadl ar yr ysgrif hono oedd araeth Mr. John Bright, yr hon a wnaeth argraff amlwg ar y ddwy blaid yn y Ty; ac er i'r Tori- aid arfer eu holl allu yn erbyn yr ys- grif, cafwyd nad oedd y mwyafrif yn ei herbyn ondl4 ar ol i'r Ty ymranu. Yn wir, fe ddywedir i rai i^r Ceidwadwyr orfod cael eu llusgo wrth wallt eu penau i wneud y mwyafrif hwn, tra y dywed- odd ereill o honyntmai hwnw oedd y tro olaf am byth iddynt bleidleisio yn erbyn yr Ysgrif Claddu. Y mae y sef- yllfa hon ar bethau wedi effeithio yn fawr ar y blaid eglwysig, ac y maent yn awr a'u holl egni yn ceisio cynllunio argyfer y gwaethaf. Oredai hefyd ei lod yu debyg y byddai i rywbeth gael ei wneud gfycla golwg ar addysg. Modd bynag, yr oedd hyn. yn cael ei ddweyd, a chredai ef fod arwyddion yr amserau yn cadarnhau byny. Wrth son am y blaid Ryddfrydig, dywedai mai prif wen- did y blaid ar hyn o bryd ydyw, nad oedd ganddynt yr UIl pwnJ neillduol ar yr hwn y gallent oil gytuno. Bod yn dda ganddo ef weled yn araetb Marquis o Hartington gyfeiriad fod y gallu Rhyddfrydol yn bwriadu rhoddi o'r neilldu eu gwahaniaethau ar y pwnc pwysig o addysg, ar y tir fod galwad cyffredinol trwy y wlad am gyfundrefn o addysg fydol dda, Yr oedd yn wir ar- gyhoeddedig THai hyny ynunig a osodai y 1, y pwnc o addysg ar dir safadwy, ac y dylai y llywodraeth ymgadw yn hollol rhag myned yn mhellach nag addysg fydol, gan daflu y cyfrifoldeb o addysg grefyddol ar y gweinidogion, y rhieni, yr Ysgolion Sabbothol, a'r ihai sydd yn ymwneud a chrefydd. Nad oedd efe am gael addysg heb grefydd-y byddai hyny fel Gyfundrefn heb haul. Ei fod of, pan y clywai rai o gyfeillion yr Eglwys yn dyweyd eu bod yn wrthwyneb- ol i'r Beibl, yn teimlo rhywbeth fel sar- had yn codi i'w feddwl, yn enwedig pan y byddai hyny yn cael ei ddweyd mewn cysylltiad a Ohymru canys pwy oedd wedi gwneud cymaint dros gael y Beibl i G-ymru a'r Anghydffurfwyr, a phwy oedd wedi gwneud cymaint tuag at ddwYn addysg Feiblaidd i gartrefi Gymreig ?
Y BWRDD CYMODOL.
Y BWRDD CYMODOL. DICHON fod y cyfeillion sydd yn eis- tedd ar y Bwidd uchodyn teimlo nad yw y gwaith o gymodi mor bleserus ag yw yr enw o swynol. Tebyg eu bod wedi eistedd eisoes rhyw wyth o ddydd- iau, heblaw nifer o ddiwrnodau ereill ag sydd yn angeniheidiol er trefnu eu materion cyn cwrdd yn bleidiau o am- gylch y bwrdd. Mwy na thebyg fod y cyfeillion sydd yn cynrychioli llafur ar y Bwrdd uchod erbyn hyn yn teimlo y byddai yn well ganddynt weithio deg awr galed wrth y mandrel nag eistedd chwech i wylied a gwrthwynebu pump o gynrychiolwyr galluocaf a fedd cyfalaf yn Nghymru. Edryeher arnynt—pwy ydynt ? Dyna Mr. W. Menelaus, Dowlais, yn rhwym o fod yn un o'r dynion mwyaf galluog a fedd y deyrnas, cyn ei fod wedi cyrhaedd y satan an- rhydeddus o fod yn gadeirydd presenol yr Iron and Steel Instituteac y mae Mr. W. T. Lewis yn debyg o fod yn un o'r engineers gorea yn Neheudir Cymru, ac yn gwybod hanes ac ansawdd y Dar a'r Rhondda i'r manylwch mwyaf. Mr. T. Challengor Smith yn far-gyfreithiwr, ac wedi bod yn ymarfer yn y swydd. Mr. T. Cartwright, er ei fod yn un o'r rhedeg- wyr ceftylau mwyaf ei oes, eto yn gyfreithiwr proffesedig; a Mr. D. Davis, Maesyffynon, yn un o feibion athrylith, ac yn meddu gwaed a phrof- iad un ag sydd wedi gweitbio ei ffordd o'r lower i'r upper ten. Ond y mae parhad neu estyniad yr eisteddiadau yn profi ar unwaith fod gan y dynion galluog hyn rywrai i'w gwrthwynebu nad yw yn hawdd eu troi o'r neilldu. Yn anffodus, a'r hyn sydd yn rhwym o fod yn gosod y mater yn drymach fyth ar ysgwyddau y rhai a gyn- rychiolant lafur yw, nad ydynt ond pedwar yn lie pump. Mae'n debyg nad yw Mr. T. Halliday wedi bod yn alluog i fod yn bresenol er y ddau eisteddiad cyntaf, oblegyd damwain a gyfarfyddodd a hwy ar y rheilffordd ac yn mhellach, nid yw Mr. Macdonald, A.S., wedi gallu bod yn bresenol o gwbl. Felly, gwelir fod y frwydr Wedi ei gadael i orphwys ar ysgwyddau y pedwar cynrychiolwr cartrefol— pedwar ydynt wedi gorfod enill eu bara drwy chwys eu gwynebau ie, y pedwar hyn sydd yn gorfod cyfnewid bwledau rhesymeg, a chroesi cleddyfau ffeithiau a phump o champions cyf- alaf, ac y mae lie i ofni nad ydynt yn cael y cynorthwy priodol, na'r adgyf- nerthiad dyladwy oddiwrth y rhai a gynrychiolant. Gyfeillion a chyd- weithwyr, a yw yn rbesymol i bethau fod felly ? A yw yn ddynol ynoch i beidio a thalu eich chwechau at dreul- iau y Bwrdd ? Oni ellwch weled fod hyu yn rhwym o fod yn nerth i'r mr-istri ac yn wendid i chwithau ? Ie, agos a bod yn ddigon i osod eu holl resymau yn ddirym, otlegyd diffyg ymddiried ynoch chwi. Beth sydd yn ymddangos yn ein tudalenau heddyw, ond cytundeb newydd yn gofyn i bob meistr a gweithiwr yn y glofeydd cymdeithasol i arwyddo y bydd iddynt dderbyn ac aros wrth y ddyfarniad gyflafareddol. Er nad oes dim allan o le yn hyn, eto, nid ydym yn gallu gweled dim drwyddo ond fod 11 diffyg ymddiried wedi codi, oblegyd diffyg undeb a chydweithrediad yn eich plitb fel corff o weithwyr. Gyf- eillion, a gaiff y peth an hyn barhau yn .1 hwy? Na, na, na! Dewch allan fel un gwr i amddiffyn eich cynrychiol- wyr, rhag y gallant yn y diwedd ddyweyd "gwnaethom y gwaith, ac nid oes arnom eisieu eich cynorih- wy mwyach," a bydd rhaid i chwi- thau fyw wrth yr hyn allant wneud heboch.
Y CYTUNDEB.
Y CYTUNDEB. £ < COFNOMAI) o gytundeb a wnawd heddyw, yr ail ddydd-ar-ugain o Tach. 1875, rhwng y personau y mae en arwyddnodau yn gynwysedig yn Schedule gyntaf a ysgritenir isod, y rbai ydynt aelodau y pwyllgor unol penodedig i gario allan y cy- tundeb, yn ol llaw, a gyfeirir ato yma yn y rhan gyntaf. Y person y mae ei arwyddnod yn yr ail ganeglen [ schedule] a gyfeirir ati yma yn ol ilaw, ydyw perchenog, goruchwyliwr, neu lywodraethwr glofa ? a chanddo awdurdod i gyflogi gweithwyr i'r unrhyw, neu i arwyddnodi y cytun- deb hwn, o'r ail ran. Y personau y mae eu henwau yn gynwysedig yn y drydedd ganeg-len [schedule] a gyfeirir ati yma yn ol Haw, ydynt weithwyr cyflogedig y lofa a grybwyllwyd ddiw- eddaf o'r drydedd ran. Lie o dan gytundeb a awd iddo ar yr wythfed dydd-ar-hugain o Fai, 1875, rhwng Pwyllgor Glofeydd Cymdeithasol Myn- wy a Deheudir Cymru, a dirprwyaeth o weithwyr y glofeydd yn y cyfryw Gymdeithas, ac a ad-drefnwyd drwy gytundeb arall dyddiedig Tach. 28ain, pryd y cytunwyd fod unrhyw gyf- newidiad yn yr huriau yn y cyfryw lo- feydd, ar derfyniad tri mis, o'r 31ain o Fai diweddaf, ymddibynu ar raddfa huriau symudol, i'w llywodraethu gan bris gwerthiad y glo; y cynllun at y cyfryw huriau graddfaol i gael cytuno ami gan bwyllgor unol o ddeg o ber- sonau, pump i gael eu nodi gan y meistri, a phump gan y gweithwyr. Y cyfryw bwyllgor i eistedd cyn y bo un rhybudd i'w roddi am godiad nen ostyngiad. A phe byddai i'r cyfryw bwyllgor tod yn analluog i benderfynu ar gynllun safon i'r cyfryw raddfa o huriau symudol, neu unrhyw beth per- thynol iddi. fod penderfyniad y cyfryw gwestiwn i gael ei roddi i ganolwr, barn yr hwn sydd i fod yn derfynoL Ac y mae i fod yn delerau yn y cyfryw gynllun,—y gall y naill neu'r llall o'r pleidiau derfynu y cytundeb o drwy roddi ctwech mis o rybudd. Ac fod y pleidiau hyn, perthynol i'r rhan gyntaf, fel yr addefant yma, ac wedi eistedd amryw weithiau ar y mater dan sylw, ac mewn cydgordiad a'r cytundeb, fod rhybuddion i'w rhoddi er terfynu v Contracts" sydd yn bodoli yn bresenol yn y glofeydd cymdeithasol ar yr Slain o Rhagfyr, 1875. Ond y mae yn fwriadol i'r gwaith gael ei gario yn mlaen fel arfer yn y cyfryw lofeydd. Felly cytunir yma gan y pleidiau cynwysedig yn yr ail a'r drydedd ran, y bydd iddynt dderbyn, ac aros wrth ddyfarniad y cyfryw bwyllgor unol, neu ganolwr fel y gall yr achos fod ar y materion o'u blaenau, neu'r naill neu'r llall o honynt. A bod y personau a gynygir yn y pleid- iau yn y drydedd rhan yma, yn cytuno i barhau gweithio yn y Lofa ar, ac wedi y dydd cyntaf o Ionawr nesaf yn ddarostysgedig i fis o ry- budd o'r ddau tu, i'w roddi ar y dydd cyntaf, ac i derfynu ar y dydd diweddaf o unrhyw fis, yn ol yr huriau fydd gymwysiadol o bryd i bryd yn y cyfryw Lofa o'r dydd cyntaf o Ionawr nesaf o tan unrhyw fath ddyfais, neu rbaddfa, neu o tan derfyniad, neu ddyfarniad y pwyllgor crybwylledig, neu ganolwr. D. DAVIES, CADEIRYDD. W. ABRAHAM, IS-GADEIRYDD. W. MKFELATTS, H. MITCHARD, W. S. CARTWRIGHT, J. PROSSER, W. T. LEWIS, D. MORGAN, T. C. SMITH, T. HALLIDAY,
.. Y MANIFFESTO.
Y MANIFFESTO. AT LOWYR A MWNWYR MYNWY A DEHEUDIR CYMRU. GYDWEITHWYR.-Gwelir yn ol y cytun- deb a rhoddir isod, ei fod wedi ei drefnu rhwng cynrychiolwyr cymdeith- as y meistri a ninau eich cynrychiolwyr chwi, fod yr holl} gytundebau sydd yn bodoli yn bresenol i derfynu yn ei effaith ar yr 31ain o Rhagfyr, 1875.
CYMDEITHAS HEN SGIDIAU.
| lien, fod yr aelodau yn gwrthod ymres- ymiaiau Lluestwr fel rhai anghywir, a'i esboiiadau fel rhai anmherthynasol. Dyiivna Lluestwr lawer iawn o adnodau, ond ychydig bach sydd yn profi ei osod- iad .n, ac ymae y rhan fwyaf yn rhai r>n Liherthynasol hollol. ± mae rhai o adn id an prawf yn dwyn ar gof i mi Ga teeism Esgobaethol a adarllenais uu- Tvai-th. Dywedid ynddo mai er mwyn ataY dynion i gael llysenwau yr enwid pla't wrth en bedyddio, ac fel prawf o hyn T, dygidyu mlaen hanes y plant a felidithiwyd gan y proffwyd am iddynt ei ddifenwi, a'r rhai a larpiwyd gan eirth. Yn awr, o-ii allai y detffyn mwyaf plocyaaidd ddeali nad oedd y ffaith fod eirth wedi llarpio y plant am iddynt ddifenwi y proffwyd. yn profi nac yn pert by a dim i'r gosodiad yn nghylch dy- ben enwi plant yn y bedydd. Yr un lath gallai y darllenydd mwyaf disylw weled ar unwaith nad oes perthynas naturiol rhwcg yr adnodau a ddyfyna Lluestwr a'r gosodiadau yr amcana efe eu profi drwyddynt. ac ll;¡.d yw ei waith yn eu camgymhwyso fel ag y gwna ond ffordd "tad y celwydd i wrthdroi yr Ysgrythyrau, er mWYll teratio dynion i bechu." A.c nid yw ei ddywediad fod aelodau Cymdeithas Hen Sgidiau yn hw vrf i-ydig i greduGair Duw a'i ufydd- hau, ddim amgen na haeriad haerllug a disail. Nid yw y ffaith fod mi o "gydweith- wyr Moody," yn aghyd a rhai o gyfeill- ion Lluestwr swyddogion penaf salon" y rhai a ddesgrifia efe fel dynion duw- io],' -nid yw y ffaith eu bod hwy (os gwnaethant hyny) wedi condemnio llyfrau Cymdeithas Hen Sgidiau, yn un prawf cu bod o nodwedd niweidiol. Rhaid cael prawf gryn dipyn amgenacb o hyn yma na bod rhywun yn rhywle wedi dweyd rhy wbeth, rywbryd, ryw- faint yn anffafriol am danynt. Nid yw Moody—llawer llai ei gydweithwyr-yn anffaeledig; a chan fod Lluestwr yn gwaeddu mor groch yn erbyn derbyn athrawiaeth fel un orthodox cyn ei chwilio (er nas gofyna C. H. S. i neb hyny;) beth pe bai ef yn ymostwng i ddweyd enw cydweithiwr Moody, yn nghyda manion ereill yn:ei gylch a alluoga y darlle lwyr i wybodmaint y pwys ddylid ei roddi ar ei farn, pa beth a ddywed- odd, yn nghyda pha frawddegau neill- duol a ystyriai efe yn wrthwynebol i'r gwirionedd neu i chwaeth bur. Pob parch i Moody a'i gydweithwyr, am y gwaith y buont yn otferynau i'w gyflawni, er byny, ffolineb o'r mwyaf yw en haner a Idoli fel y gwna rhai, ac ynfydrwydd yw eu gosod i fyny fol oraclau y rhai pan agorant eu geneuau, na fydded i gwn gyfarth." Pob parch i'r gwaith a gyflawnwyd ganddynt, meddaf fl, eto, byddai yn ddoeth i'r rbai a ant i'r hys- teria yn ngbylch eu gweithrediadau fod ychydig yn fwy dystaw am dipyn, er cael,gweled esboniad amser ar natur troedigaeth ymddangosiadol y dychwel- edigion; canys y mae lie i ofni fod teimladau llawer wedi eu cynhyrfu yn angerddol gan ganu Sankey a phre- gethau Moody, y rhai na newidiwyd eu calonau gan Ysbryd Duw, ac y dyg- wydd i lawer eto yn ol y wir ddiareb- Y ci a ymchwel at ei chwydfa ei hun, a'r hwch, wedi ei golchi, i'w ymdreiglfa yn y dom." B.R.