Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Y JESUITIAID.

News
Cite
Share

Y JESUITIAID. GAN fod cymaint o son y dyddiau hyn am y Jesuitiaid yn Itali, Germani, Ffraiuc, a'r wlad hon, fel prif achosion holl gynhwrf gwleidyddol teyrnasoedd Ewrop, ac am hyny, fel prit achosion arafwch mawr llwyddiant mewn mas- nach, a hyny yn efIeithio yn fawr ar enillion gweithwyr. Y mae yn cael ei ystyried yn fater o bwys gan bawb i ddeall egwyddorion, ac i wybod hanes cymdeithas neu urdd y Jesuitiaid. Ymddangosodd erthygl alluog iawn ar yr urdd hon yn y Quarterly Review fisoedd yn ol. Ceisiwn roddi i'n darllenwyr gy- nwysiad yr erthygl. Y mae athraw- iaethau y Jesuitiaid yn faterion hanfod- ol yn eu bodolaeth fel urdd. Defn- yddiant arwyddlun neu arwydd-lyth- yrenau y tu allan yn ngolwg y byd, y rhai nad ydynt yn desgrifio eu deddfau na'u hathrawiaethau. Y mae y llyth- yrenau A.M.D.G. yn cael eu rhoddi ganddynt fel llythyrenau cysegredig ar bob gwaith neu adeilad, neu unrhyw beth a berthyn i'r urdd. Golyga y llythyrenau uchod y geirian ael maJo- ram Dei gloriam, yr hyn a arwydda, "er mwyn gogoniant mwy rhagorol Duw." Nibu dim rhagrith mwy Phariseaidd erioed. Gwyr pawb mai amcan yr urdd oedd gyru gogoniant Duw o'r byd, er mwyn sefydlu gogon- iant y Babaeth. Hyn yw ei hamcan yn awr. At hyn y mae yn gwneud ymdrechion trwy yr holl fyd. Trwy y llytberenau uchod fel ar- wyddnodau y mae y Jesuitiaid am i'r byd gredu eu bod hwy yn meddu gwy- bodaeth o bethau dwyfolgoruwch pawb, ac mai ganddynt hwy y mae y modd- ion a'r offerynoliaeth fwyaf effei thiol i gyfodi dynion i ffafr Duw ac i ogon- iant tragwyddol. Nid oes un corffor- iad arall o ddynion wedi gwneud hon- iadau mor chwyddedig. Y mae yr enw Jesuit yn un chwyddedig. Cy- merir ef oddiwrth yr enw Jesus, Iesu. Y mae yr enw lesu yn y genetive Lladin, fel lesa yn Gymraeg. Societ- as Iesu, neu society of Jesus y geilw yr urdd ei hunan. Oddiwrth yr eiw hwn y deillia y gair Jesu-it, neu ddyn Iesu. Y mae yr enw hwn yn honiadol i'r pen, fel pe na byddai neb ond hwy yn ddilynwyr i Iesu Grist, na neb yn ceisio gogoneddu Duw ond hwy. Fel urddau ereill, y mae gan yr urdd hon un llywydd cyffredinol, unbenaeth- wr ar bawb. Gelwir ef y General, neu Gadtridog yr urdd. Yn nghyfreithiau yr urdd, nid oes caniatad i'r aelodau amrywio yn eu golygiadau am ddim, mewn siarad, nac araeth, na llyfr, yr hwn nis gellir ei gy- hoeddi heb ganiatad a chymeradwy- aeth y General. Dyma y geiriau am ei awdnrdod ar lyfrau, yn iaith deddf yr urdd, "Nullum librum scriptumve a quoquam recognoscendum o.ccipient prwterquam a P. Generali aut ejus nomine a P. Secretario. Ystyr hyn yw, nad oes un llyfr i gael ei dderbyn na'i gydnabod heb fod y swyddog mwyaf hwn wedi ei gymeradwyo. Cyhoeddwyd argraffiad newydd o lyir yn cynwys golygiadau yr urdd ar dduwinyddiaeth foesol yn Rhulain, yn 1872, dair blynedd yn ol. Cymerad- wywyd y llyfr hwn gan y Pab. Y mae yn un o lyfrau pob ysgol Babyddol trwy'r byd fel standard moesoldeb. Tri pbeth a neillduola gyfundrefn foesol y Jesuitiaid. (1.) Probabilism (lebygoliallt). (2.) Mental reservation (Meddwl-geliad). (3.) Cyfiawnhad moddion a'r dyben. Fel hyn gellir d weyd am bawb a geis- iant gyfiawnhau unrhyw foddion a ddefnyddiant, am fod y dyben yn dda, eu bod yn dal un o sthrawiaethau hanfodol y Jts. itiaid. Ac fel y mae gwaethaf, y mae genym ganoedd yn Nghymru yn awr yn selog iawn o blaid yr athraw. iaeth hon. Ni cheisiant gyfiawnhau y moddion fel moddion. Ond hawliant gael eu hystyried yn rhinweddol, os bydd eu hamcan yn dda er defnyddio moddion pabyddol, paganaidd, croes i Air Duw i gyrhaedd yr amcan hwnw. Ymladdant dros y moddion bron fwy na thros yr amcan, gan broffesu mai yr amcan sydd yn eu cynhyrfu. Ond pa le yr oedd miloedd o honynt yn sefvll gyda golwg ar yr amcan cyn i'r moddion Pabyddol gael ei osod i fyny. Gwelir hyn mewn llawer ffurf o weith- redu yn mhlith yr enwadau crefyddol. Gyda golwg ar y pen cyntaf, gan gyfeirio at chwant y cnawd dywed y llyfr dan sylw:—" Pan y bydd profed- igaeth yn parhau, nid oes angen ei gwrthwynebu yn barhaus, am y byddai n y hyny yn faich, ac a ddarostyngai ddyn i amheuon aneirif! Dyma egwyddor moesoldeb a ddysgir gan Jesuitiaid yn ysgolion y Pabyddion yny deyrnas hon. n Y mae cewri y wasg Saesonaeg yn agor eu llygaid i edrych ar y peryglon. Ond y mae lie mawr i ofni y bydd sen- timentalism ddallu miloedd o'r Cymry, a'u hanwybodaeth o'r rhwydau a rodd- ir o flaen eu plant yn ysgolion y Pab- yddion, yn debyg o gyfodi oes o bobl yn Nghymru, y rhai a fyddant yn bleidwyr selog i Babyddiaeth. Y mae canoedd o blant Ymneillduwyr yn my- ned i ysgolion y Pabyddion i gael eu dysgu yn yr egwyddorion uchod. Yn Llyfr Glas y llywodraeth am 1872-3, rhydd Mr. Waddington, yr inspector, banes am ysgolion y Pabyddion, a'r plant sydd ynddynt yn Pontypool, Abersychan, Cwmbran, Pontymeistr (Risea), a Blackwood. Dywed am ysgol y Pabyddion yn Pontypool, mai niter y plant yn yr ysgol yw 186, a'r rhai hyny y mae 107 yn blant J Pab- yddion, 17 yn blant Eglwyswyr, a 62 yn blant Ymneillduwyr! Nifer y plant yn ysgol y Pabyddion yn Aber- sychan yw 238, o'r rhai hyny y mae 218 yn blant Pabyddion, 4 yn blant Eglwyswyr, ac 16 yn blant Ymneilldu- wyr! Nifer y plant yn ysgol y Pab- yddion yn Cwmbran yw 98, o'r rhai j hyny y mae 58 yn blant Pabyddion, dim plant Eglwyswyr, a 40 o blant Ym- neillduwyr Nifer y plant yn ysgol y Pabyddion yn Pontymeistr (Risca) yw 72, o'r rhai hyny y mae 16 yn blant Pabyddion, dim plant Eglwyswyr, a 56 o blant Ymneillduwyr Nifer y plant yn ysgol yjPabyddion yn Blackwood yw 60, o'r rhai hyn y mae 22 yn blant Pab- yddion, 4 yn blant Eglwyswyr, a 34 yn blant Ymneillduwyr Fel hyn, mewn pump o ysgolion Pabyddol, yn cynwys gyda eu gilydd 624 o blant, 421 o honynt sydd yn blant Pabyddion, 25 yn blant Eglwyswyr, a 208 yn blant Ymneillduwyr, bron hauer nifer plant y Pabyddion eu hunain Yn ngwyneb fod cynifer o ffurfiau y Pabyddion, a'u hegwyddorion hwy, yn cael eu mabwysiadu gan lawer o'r Cymry mewn llawer modd y dyddiau hyn ac yn ngwyneb fod nerth ieuenc- tid Cymru wedi myned i sianel cerdd- oriaeth, fel cyfundrefh o seiniau anghy- sylltiol a meddyliau Protestanaidd, a bod llai o lawer o geisio deall meddwl Duw yn y Beibl nag a fu flynyddau yn ol, a bod y tipyn gwrtaith sydd yn yr Ysgolion Sabbothol yn hytrach mewn ymgyrhaedd at fanylion hanesyddol a daearyddol y Beibl nac at ei addysg foesol, athrawiaethol, ac achubol, yn nghyda llawer o bethau ereill. Y mae yn eithat amlwg fod Cymru yn cael ei pharotoi yn ei harferion i fyned mor Babyddol a'r Iwerddon cyn pen llawer o flynyddau, os na ddaw rhyw dro neill- duol ar chwaeth y genedl. Am ein bod yn awyddu rhwystro canlyniadau mor ddrwg, cymerwn sylw o hanes y Jesuitiaid allan o'r Quarterly Review, &c., eto, os yr Arglwydd a'i myn. +

PETHAU NEWYDD A HEN.

DAMWAIN ALARUS I SINCWR.

MR. MACDONALD A'R GLOWYR YSGOTAIDD.

MASNACH GLO A HAIARN.

COLLIAD BYWYDAU AR Y MOR.

> YR UNDEB CENEDLAETHOL.

41 Y WLADFA.

Y CYNAUAF AMERICANAIDD.

RESOLVEN-YR UNDEB CENEDLAETHOL.

[No title]

MARWOLAETH.