Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Gohehiaeihau.
Gohehiaeihau. [Nid ydym yn gyfrifol am eyniadau a golygiadnu ein gobebwyr, ondyr vdym am adael rhyddid barn i bobdyn, a rhyddid ypgrif-bin hefyd can belled ag y goddei terfynau cyfraith a moes- oldeb.—Gol.]
Y PABYDDION A'R BEIBL.
Y PABYDDION A'R BEIBL. YN awr mynwn weled beth a ddywedir yn. v llyfr y cyfeiriwyd ato; ac fe fadd- eua y darllenydd i mi am ddyfynu o hono heb ei gyfieithu, rhag i mi wneud cam ag ef. Fe wyr y darllenydd i Gymdeithas y Beib] au gael ei sefydlu yn Llundain yn 1804 amcan yr hon yw rhoddi Beibl i bawb o bobl y byd." Tua'r un adeg, o'r hyn lleiaf yn 1805, sefydlwyd Beibl Gymdeithas gan y Pab- yddion, yn Ratisbon, hen ddinas yn Bavaria, ar lan y Danube yn Germany. Amcan y gymdeithas hon oedd diwallu y werin Babyddol a'r Ysgrythyrau. Yn fuan ar ol sefydlu Cymdeithas Llundain, sefydlwyd canghen o honi yn Nuremburg, Germany, er cyhoeddi cyf- ieithiad Protestanaidd o'r Beibl, a sy- mudwyd hi drachefn i Basle. Dywed Mr. Radley mai un o'r llythyrau cyntaf a dderbyniodd pwyllgor Llundain oddi- wrth offeiriad Pabaidd o Suabia, yn dymuno cael yr Y sgrythyrau yn yr Ellmynaeg. Dyma ei eiriau, One of the first letters on record is from a Roman Catholic Clergyman in Suabia, who was anxious to obtain a supply of the Scriptures in German. He expresses himself ready, with several of his breth- ren, to promote their distribution among their respective flocks; but he adds, Our situation renders it extremely difficnlt to distribute Protestant versions. Let me candidly observe, that a Protes- tant edition of the Bible would hardly be suffered to have free course, after all that I know of the minds of the Catholic clergy and people. Gan nad oedd Cymdeithas Llundain y pryd hwnw (1805), wedi dechreu ar- graffu cyfieithiadau Pabyddol, nac yn tueddu at hyny ychwaith, anfonwyd gorchymyn i Gymdeithas Nuremberg (cangen o un Llundain) i roddi 1,000 o gopiau o'r Testament Newydd Protes- fcanaidd i'r offeiriad Pabaidd a nodwyd, i'w lledaenu yn Suabia a Bavaria. Ond gan na dderbynid cyfieithiad Protes- tanaidd gan y Pabyddion, darfu i'r offeiriad lwyddo gyda Chymdeithas Nu- remberg, i gyfnewid y rhai hyny am yr un nifer o Destamentau Pabyddol, a argraffwyd gan Gymdeithas Feiblaidd y Pabyddion yn Batisbon. Hartley's De- fence, p. 3. Pabydd o'r enw Mr. Schwarzel oedd wedi cyfieithu y Testament Pabyddol dan sylw, nid o'r Vulgate, ond o'r Groeg. Yn awr edrycher ar ffrwyth llafur y ddwy Feibl Gymdeithas, y Bab- yddol a'r Brotesranaidd, yn Germany, am chwe' mlynedd:— The Ratisbon Society continued to furnish, from time to time, gratifying reports of its progress, yet without ob taining the smallest assistance from the Bible Society, whose bounty still con- tinued to flow in another direction. In this way did things proceed until the year 1812; the Committee expiessing their satisfaction whenever a few copies of their Protestant version fell into the hands of the Roman Catholics in Ger- many yet without being able to secure for it any very cordial reception, or any dissemination among that body. It then appeared, as the result of a six years' experiment, that the German Protestant Society (first of Nuremberg, and after- wards at Basle), with considerable re- sources of its own, and largely assisted from year to year by grants from our Committee, had only been able to put into circulation about 12,000 copies of their German version, and those chiefly among Protestants; while on the other hand, there had been distributed in the same space of time, and for the most part by sale, no less than 60,000 copies of the Roman Catholic translation, by the means very principally of the un- aided and discountenanced Society at Ratisbon; a fact which proves, if any- thing can prove, the impracticability of forcing a Protestant version upon a Roman Catholic population and that, i f we would give the Scriptures to Roman Catholic countries, it must be in the form of their own accredited transla- tions." Radley's Defence, pp. 4-5. Dyma y Pabyddicn, y rhai a gyhuddir o'r pechod o waharcid darlleniad yr Ysgrythyrau, ac y cyhoeddir eu bod yn ffieiddio y Beibl, wedi sefydlu Oym- deithas Feiblaidd, a hyny mor fore a'r fiwyddyn 1805 o lei at; ac yn gwasgaru yn Germany 60,000 o gopiau o'r Ysgryth- yrau mewn chwe' mlynedd o amser, tra na ledaenodd y Gymdeithas Feiblaidd Brotestanaidd fwy na 12,000. Addefa Mr. Radley yn ei.lyfr, fod hyd yn nod Pwyllgor Cymdeithas y Beiblau yn Llundain yn lied ragfarnllyd, ac an- wybodus o barthed Pabyddion y Cyfan- dir, yn eu cysylltiad a'r Beibl, cyn y fiwyddyn 1812; ac i'r dyben o gael gwybodaeth ychwanegol ar y pwnc, darfu i'r Parch. Dr. Steinkopff yn Hydref y flwyddyn hono, fyned ar daith trwy Germany, fel cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas Brydeinig, a bu hyny yn foddion i symud y rhagfarn. Dyma fel y dywedir yn llyfr Mr. Radley am hyn, He (Dr. Steinkopff) naturally made particular inquiry re- specting the Ratisbon Society, and found that edition after edition of its version had been printed, and as rapidly sold among the Roman Catholics of Suabia, Bavaria, Franconia, and Swit- zerland-that orders were coming in from all quarters-and that the people were hungering for the Bread of Life, in every direction. Yet when solicited to afford some pe- cuniary aid, in order to a more general and gratuitous distribution of this ver- sion among the power Romanists, he felt himself bound to decline compliance; considering the work to have been undertaken and executed under the entire control of Roman OathoKcs, and viewing the subject as one which might involve a diversity of opinion." Mae y dyfyniad hwn yn brawf fod y Pabyddion yn argraffu a lledaenn yr Ysgrythyrau yn mhlith y werin, a'u bod yn awyddus am gynorthwy arianol, fel y gallent eu gwasgaru yn rhad yn mhlith y werin dlodion; ac hefyd yn dangos nad oedd Pwyllgor Cymdeithas Feibl- aidd Llundain yn barod i estyn y cyfryw help, o herwydd bod y rhagfarn heb ei symud. Wrth fyned yn mlaen ar ei daith, cafodd Dr. Steinkopff ar ddeall mai nid cyfieithiad Schwarzel oedd yr unig un Pabyddol a ledaenid yn Germany. Dyma fel y dywed yr hanes:—"But in the progress of his tour, another German translation was brought under his notice, by the Roman Catholic Professor Van Ess, made from the Original Greek, in which he had been assisted by several Protestant Divines. This version hav- ing been approved, and publicly recommended by two of the most celebrated clergymen—the late Rev. Dr. Reinhard, first Chaplain to the Court of Saxony, and the Rev. Antistes Hess, of Zurich-Dr. Steinkopff was pre- vailed upon, in virtue of the discretion vested in him by the Committee, to make a grant of £200, for the distribu- tion of copies of this version of the New Testament among the poor of the Romish Communion, on condition that every- thing in the shape of note or comment should be withdrawn." Dyna yr arian cyntaf roddwyd gan Bwyllgor Cymdeithas Feiblaidd Llun- dain, tuag at gyhoeddi a lledaenu Cyf- ieithiadau Pabyddol o'r Ysgrythyrau; ond y mae yn amlwg na wnaed hyny cyn bod y Pabyddion eu hunain yn cyf- ieithu a lledaenu y Beibl yn iaith y bobl yn Germany. Caf ddangos eu bod wedi cyfieithu a lledaenu yr Ysgrythyrau yr un fath mewn gwledydd ereill cyn gor- phen; ond cyn symud oddiwrth Ger- many, nodaf enghraifft eto. Ar y 4ydd o fis Hydref, 1813, rhoddodd Pwyllgor Cymdeithas y Beiblau yn Llundain, ddau cant o bunau i Gymdeithas y Beiblau yn Basle, Germany, er cynorth- wyo hono i ledaenu y cyfieithiad Protes- tanaidd yn mhlith Pabyddion Deheudir Germany a Switzerland. Dyma ateb ysgrifenydd Cymdeithas Basle :—" We have consulted several Catholic friends, who feel deeply interested in the dis- semination of the Scriptures, both as to the existing wants in various provinces, and the most judicious method of distri- bution. The result of our inquiry is, that there are few places in which Ca- tholics are disposed to receive a Protes- tant edition. We shall, therefore, pro- cura a considerable number of the Batisbon New Testaments, and of that published by Van Ess." Eadley's De. fence, p. 5. Barnwyf yr addefa pob dyn diragfarn, a chredwyf yr addefa Mr. Jones o'r Rock, fod mantais gan Bwyllgor Cym. deithas Feiblaidd Basle, i farnu a deall pa gyfieithiad oedd fwyaf derbyniol gan y werin; ac yn unol a'u barn, wele hwy yn defnyddio y zC200 cyntaf a gawsant oddiwrth y Fam Gymdeitbas, i brynu a gwasgaru Cyfieithiadau Pabyddol. Mae y ffaith fod Cymdeithas Ratishon yn Uedaenu 60,000 o'r Ysgrythyrau mewn chwe' mlynedd, ac hefyd yn gwerthu gwerth £200 o gopiau Pabyddol i Gym- deithas Brotestanaidd Basle, yn brawf nad yw Pabyddion Germany yn gwa- hardd y Beibl i'r bobl. Gellir ychwan- egu, mai Cyfieithiad Pabyddol y Pro- ffeswr Van Ess, argreffir, ac a ledaenir gan mwyaf yn Germany gan y Feibl Gymdeithas Brydeinig a Thramor, o'r flwyddyn 1813 hyd yn awr. Gwir fod Cyfieithiad Luther yn boblogaidd yn mhlith Protestaniaid Germany, ond ni chymer y Pabyddion ef o gwbl, tra y mae eiddo Van Ess yn llawn mor gy- meradwy ag eiddo Luther yn mhlith Protestaniaid. Gallwn feddwl fod y ffaith fod gan y Pabyddion gyfieithiadau o'r Ysgrythyrau i iaith Germany, a'u bod yn eu lledaenu wrth y degau a'r ugeiniau o filoedd, yn brawf nad ydynt yn gwahardd darlleniad y Beibl yn mhlith y werin Babyddol yn y wlad hono. Gair yn mhellach am Switzerland. Mor fuan ag y darfu i'r Feibl Gym- deithas ymgymeryd a chyhoecZdi Cyf- ieithiad Pabyddol Van Ess, yn 1813, dyma ddywedir fu y canlyniad:—" Thou- sands and tens of thousands of copies of the New Testament began to be circu- lated. Among the immediate conse- quences of a more unrestricted course, we are told of no less than one hundred Catholic parishes, in a single Canton of Switzerland, in which the reading of the Scriptures (Protestant versions) had been prohibited, having now received permission from the Bishop of the dio- cese freely to peruse them. They were introduced into Roman Catholic Schools, &c." Radley's Defence, p. 6. Dyna brawf pellach mai y Cyfieith- iadau Protestanaidd yn unig wrthwyn- ebir gan Esgobion ac offeiriaid Pabaidd, ac nid y Beibl fel Beibl. D. Mobganwg. (Pwbarhau.) O.Y.—Dygwyddodd dau wall yn fy llythyr yr wythnos ddiweddaf, sef Harri VII. yn lie Harri viii., ac oppresses yn lie opposes.
AT NOFELYDD A "LLUESTWR" Y…
AT NOFELYDD A "LLUESTWR" Y "DARIAN." GYDA chaniatad y Gol., dymunwyf eich anerch ar eich ysgrifau yn y rhifyn diweddaf. C, 1. Y Nofelydd. "Oh! ymae bron — "O! rian deg"—"O! ei chwys"— "O! na ddeuai," &c., &c. Cynwysa Penodau XV. a XVI. o Einion Hywel," O ugain o weithiau. Da chwi, dyg- wch i ymarferiad, yr hyn yn ddiameu a wyddoch, sef fod amryw o foddau i am- lygu synedigaeth, dychryn, &c., heblaw drwy ysgrifenu 0!" ar ddechreu brawddeg. 2. "Llllestwr." Yn eich llith yr ydych yn ymosod yn llechwraidd ar gymdeithas ddylanwadol, ddaionus, a lluosog, o dan yr enw ffugiol Cymdeithas Hen Sgidie o blaid Cynildeb." Gwyr pob darllen- ydd at ba gymdeithas yr ydych yn cyf- eirio. Ymddengys eich bod wedi cael gafael ar rai o lyfrau cyfrinachol y gymdeithas hono, a than rith adrodd ymddyddan nifer o gyfeillion, yr ydych yn dyfynu ac yn cyhoeddi rhanau o'r llyfrau hyn, ac wedi newid ychydig ar y brawddegau dyfynedig. Os daethoch yn feddianol ar y llyfrau hyn yn y ffordd gyffredin, yr hon ffordd yw yr unig un onest ac honourable, yna yr ydych wedi ymrwymo yn ddifrifol, yn ngwydd Duw a dynion i beidio dadguddio C, eu cynwys yn y modd anmhriodol a ddefnyddiwch yn awr. Os mai yn ddamweiniol y daeth y llyfrau i'chllaw, dymunwyf eioh adgofio, gan mai rhai cyfrinachol ydynt, nad yw yn gyson ag anrhydedd dyn, ac nad oes genych fwy o hawl i gyhoeddi eu cynwys, nag a fyddai genych i gy- hoeddi cynwys llogell-lyfr, neu lythyrau private y rhai a allech eu pigo i fyny yn ddamweiniol ar yr heol. Yr wyf yn eich herio i brofi ei bod yn ddyledswydd arnoch i ddynoethi y gymdeithas ar gyfrif y twyll neu yr anfoesoldeb a gy- nwysa y llyfrau; a dymunwyf awgrymu, os mai yn ddamweiniol y cawsoch hwynt, mai eich dyledswydd fel bon- eddwr Cristionogol, yw eu hanfon, gydag apology, i swyddfa ganolog y gymdeithas i ba un y perthynant. Y mae yn bosibl, ond ni chredwyf ei fod yn debygol, eich bod wedi cael y llyfrau drwy dwyll. Os felly, boed rhyngoch a'ch Barnydd. Dichon hefyd, ond gobeithiwyf yn wahanol, fod eich Iles a'ch buddianau tymhorol yn cael eu gwrthwynebu mor egniol gan y gym- deithas a oganwch, fel mai ofer fydd Eob ymdrech i'ch cael i ystyried ei achos yn ddiragfarn. Dichon y gallasech wneud gwasanaeth i'ch gwlad a'ch cenedl drwy alw sylw at rai o ffaeleddau y gymdeithas a wawd- iwch, megys gorhoffder at wisgoedd, defodau, &c., ond oni fyddech yn fwy effeithiol, pe cyfeiriech at y gymdeithas odditan ei henw adnabyddus ? Sicr yw, eich bod yn camgymeryd yn fawr pan yn galw aelodauy gymdeithas yn Pha- riseaid," Tylwyth y Butain," &c., yn gystal a phan yr awgrymwch fod y gym- deithas yn gofyn ymrwymiadau croes i ddyledswyddau dyn i'w wlad a'i Dduw, a'i bod yn gymdeithas ddidduw, yn honi cryfder na pherthyna iddi. Y mae y llyfrau sydd yn eich meddiant, y daioni mawr a gyflawnodd Duw drwy offeryn- oliaeth y gymdeithas, a'r llu mawr o ddynion cyfrifol a gwir dduwiol ydynt yn arweinyddion ynddi, yn gwrthbrofi eich haeriadau a'ch awgrymiadau. Der. byniwch y nodiadau hyn fel cerydd a weinyddir mewn addfwynder, gan un ymdrechgar i ddeall a méithrin egwydd- orion arwyddair y gymdeithas yr ymos- odwch arni. Medi 16eg, 1875. D. R.
AT WEITHWYR MOUNTAIN ASH.
AT WEITHWYR MOUNTAIN ASH. Anwtl GYDWEITHWYR,- Y I' ydym wedi sylwi yn rhai o'r papyrau Saesneg a Chymraeg eich bod yn erfyn ar holl weithwyr daear Cymru i beidio ymofyn gwaith yna hyd nes y bydd yr ymryson ag sydd yn bodoli rhyngoch chwi a'r Goruchwyliwr, mewn perthynas i ethol- iad meddyg dros y gwaith, wedi ei ben- derfynu. Pe buasech yn gwybod y cwbl, nid oedd achos i chwi grybwyll hyny, oblegyd yr ydym yn adnabod rhai tylwyth sydd yn y pyllau yna yn rhy dda. Beth bynag am hyny, yn ol eich addewid y buasech yn hysbysu trwy gyfrwng y DARIAN, pan y byddai y cyf- ryw ymryson wedi ei benderfynu. yr ydym ni yn nghylchoedd Pontypridd a Chwm Rbondda, yn gofyn paham na fuasech yn cyflawni eich addewid, os yw y pwnc wedi ei setlo, neu a ydyw y cyfryw ymryson heb ei benderfynu ? Os nad ydyw, carem wybod beth ydych yn feddwl gwneud o hono, canys yr ydym yn llygadu yn graff arnoch, gan ystyried fod y pwnc o gyfryw natur ag sydd yn galw sylw yr holl wlad arno yn ddifrifol. Oblegyd yn ol rhediad y llith a ymdda- ngosodd yn y Daiuan yn ddiweddar, os goddefwch i'r goruchwyliwr ddewis meddyg drosoch, ac i chwithau dalu y cyfryw, pa un bynag a fydd genych ffydd ai peidio; neu os na wnewchchwi neu ryw rai ereill hyny, nad oes dim gwaith iddo. Anwyl gyd-ddynion, beth a ddaw o hon- om yn y diwedd? Mae yn eich gosod mewn sefyllfa mor ofnadwy o druenus, fel mai yn ddigon i dynu dagrau o lygaid y dyn a'r galon galetaf, wrth feddwl na feiddia y gweithiwr tlawd gael y medd- yg a ddewisa i weinyddu arno ef na'i deulu pan yn glaf, heb niweidio ei am- gylchiadau. Mae byn yn ffiaidd ac yn annheilwng o wlad efecgyl. Felly yr ydym yn taer ddymuno na fydd i chwi, weithwyr Mountain Ash, ddablygu eich hunain yn llai na dynion yn y pwnc hwn trwy oddef y fath anghyfiawnder i gael ei sefydlu, rhag ofn i'r cyfryw bla ledaenu trwy noil weithf eydd ein gwlad, ac yn y diwedd achosi rhywbeth tebyg i strike gyffredinol i gael gwared o hono. Ac fel atalfa ar y cyfryw beth, yr ydym yn dymuno arnoch alw cyfarfod cy- boeddus, a phenderfynu rhyw gynllun rhesymol i hawlio eich iawnderau, oher- wydd mae genym ddigon o drafferth gyda'n meddygon gwaith yn ami o'n dewisiad ein hunain, ond pe goddefem i feddyg gael ei scriwio arnom yn erbyn ein hewyllys, nid oes ond Un a wyr dyfnder y canlyniadau.—Yr eiddoch, GWALCH.
LLITH Y PIGWR BRYCHAU.
LLITH Y PIGWR BRYCHAU. MR. GOL.Dywedwch wrth y "gwr du sydd genych yn y swyddfa yna am fod yn fwy gofalus gyda ei waith. Gwnaeth ddau wall pwysig yn fy llith flaenorol. Y mae wedi gwneud un frawddeg yn hollol ddisynwyr trwy ollwng enw un beirniad enwog allan, ond lied debyg y dealla rhai y frawddeg fel y mae gan hyny, yr ydym yn goll- wng y gwr du yn rhydd y waith hon Nis gwn a fydd i ni fod yr un farn a'ch darllenwyr, pan y dywedwn ein bod wedi syrffedu ar y sebon meddal a wastraffir i seboni gwahanol bersonau yn ein newyddiaduron. Gwelsom yn ddiweddar uno" Losgfynyddau Pwll- heli, ac i ychwanegu at ei ramantus- rwydd, gwelid uwch ei ben Yr ail oreu o 25 o gyfansoddiadau Dyna ymfflam- iad gwych i'r grand display of fireworks beth bynag. Ond yr wythnos ddiweddaf, wele ystorm bwffyddol arall yn chwythu nes oedd y Volcano yn glafoeri cyfog- lyn y ddraig," a holl feirdd Cymru yn gorfod yswatio mewn dychryn," Qnd peth rhyfedd genym fod y beirdd mor barod i ddychrynu yn ymyl y Llosgfynydd hwn. Dywed yr awdwr ei fod "Yn gwneud i'r boll adar ddistewi a'u can." Ond nid ydym yn credu fod eisien i'r beirdd.ofni oblegyd hyn. Saethwch er- gyd o bylor o hen wn clats" iblith llond cae o'r adar mwyaf cerddorol, a chewch eich hun yn swn nodyn olaf y finale ar fyr. Dywed y sebonwr hwn fod awen ei gyfaill yn od," ac ar ei phen ei hun." Pe byddai defnyddio geiriau ramantus a hirwyntog yn rhestru \*irhyw un yn un o feirdd penaf y Deheudir," byddem yn un o'r rhai cyntaf i gydnabod awdwr y Llosgfynydd hwn yn un o'r cyfryw. Ond yn ein byw nis gallwn weled dim yn y Llosgfynydd hwn yn fwy barddonol a rhamantus nag ydym wedi ei ddarllen lawer gwaith am ,ffrwydriadau Llosg- fynyddau mewn gwahanol wledydd. Ond yr hyn a ofnwn yn uglyn a'r sebon- iad hwn ydyw, fod rhai yn sisial, mai trwy yr un drws a'r us y daeth yr ystorm bwffyddol hon i wyneb y darllenydd. Ond gobeithiwn mai nid felly y bu. Peth arall sydd yn methu dygymod yn dda a chwaeth yr ysgrifenydd hwn yw y dull atgas sydd gan ein hawdwyr cerddorol o seboni eu gilydd. Er's tipyn yn ol gwelid Emlyn yn seboni Pencerdd America a'i holl egni. Yr oedd hyn cyn Eisteddfod Pwllheli, cofier. Y mae gen- ym awdurdod un o gerddorion goreu y Deheudir wrth ein cefn i brofi nad oedd y darnau a gyfansoddid y pryd hwnw yn werth gwastraffu sebon arnynt. A phe buasai rhyw lane heb lawer o son am dans yn awdwr i'r darnau hyny, beidd- iaf ddweyd y buasai Emlyn yn defnyddio y fflangell a'r wyntyll yn lie y box a'r sebon. Wedi hyn gwelsom Emlyn yn seboni Alaw Ddu, ac i wirio yr hen benill:— c. Can di benill mwyn i'th nain Fe gan dy nain i tithau." Dyma Alaw Ddu yr wythnos ddiweddaf ar ei eithaf yn talu yr "hen chwech" yn ol i Emlyn. Nid ydym yn dweyd am eiliad nad ydyw Alaw ac Emlyn yn wir deilwng o'r clod a bentyrant un ar y llall; ond yr ydym yn protestio yn y modd mwyaf pendant yn erbyn y dull a gymerant i seboni en gilydd. Beth pe byddai rhyw ddau neu dri o feirdd yn myned i efelychu y cerddorion hyn, byddent yn sicr o gael eu gwneud yn wrthddrychau gwawd eu cydfeirdd o Gaergybi i Gaerdydd. A phaham y caniateir y rhyddid i bwffio eu gilydd i'r cerddorion? Cymered y brodyr y sylw hwn yn dawel. Y mae y wlad yn dechreu agor ei llygaid. Cawn sylwi yn mhellach i'r cyfeiriad hwn y tro nesaf.
YR URDD FARDDOL.
YR URDD FARDDOL. ER pan gyhoeddwyd y llith hono o'r eiddom, a gynhwysai "Ddanteithion y Beirdd," buom mewn cryn helynt a phenbleth. Dysgwyliem yr heddgeid- wad i'r ty bob dydd a gwys ya ei law am libel oddiwrth fechgyn anhydyn y nodwydd, am feiddio o honom insultio eu tywysog hwy, ai fi-adychu mewn perthynas i'r ddiod a yfai. Druan o Brynfab! Cyn ei fod braidd wedi gwella oddiwrth effeithiau dolurus y nodwyddau, wele'r mynawyd yn ei ystlys drachefn. Synwn i ddim na chaiff y lest a'r lapstone am ei ben bob yn dipyn. Pwy cisiau bod mor gas i'r andras o'r Hendre sydd arnynt wys ? ac yntau yn trigo yn ddiniwed yn eu hymyl. Gwareder ei enaid o law y Criepiaid dienwaededig hyn. Teimlasom yn siomedig i'r eithaf pan ddeallasom fod y bardd pert Eur- fryn wedi bod yn ymyl ein drws y dydd o'r blaen, a ninau gartref ar y pryd, ac heb gael ysgwyd llaw ag ef, a'i groes- zD awu a chwpanaid o de. Ymddengys fod yr "Ymfflainycliwr Gurnos yn mwynhau ei hun yn rhagorol yn y Gogledd, yn mhresenolcleb a chymdeitbas yr ystlen deg, y OeJtydd o'r Almaen, a'r Gadair Anr. Bendith arno. Rhyw ysmotyn enwog ar lawer o ystyriaethau ydyw heol Brynheulog tuag Aberdar yna, yn arbenig felly am amlder ei beirdd. Y mae yn wir na faidd ymgystadlu a Gilfach Goch yn hyn o beth, lie mae y beirdd yn amlach na gwybed, ac yn feinach na meinder. Modd bynag, yno y mae y bardd hynaws Morfab yn plethu priod- asgerddi y dydd, ac yn breuddwydio am Patagonia a'i gwynfydedigrwydd y nos. Yno hefyd y mae Gwilym Nedd a'i ddysgybl ffyddlon Ap Teitus, yn barddoni nes bo'r gymydogaeth yn dan ac yn fliuwch i gyd Rhwydd hynt iddynt i ddringo llethrau Parnasus. Clywsom fod y bardd doniawl Dewi Deyrn yn bwriadu cyhoedd cyfrol wythplyg o'i weithiau. Bydd hon yn cynwys ei arwrgerdd odidog i Foch sir Benfro," a'i bryddest ar Bresen fawr y Bala," &c. Paham y sonir mwy am 'Iliad' Homer, a 'Paradise Lost* Milton! Beth yn enw Tydain tad awen sydd wedi dyfod o'r bardd melusber Dewi Afan ? Ai byw ein cyfaill Dewi ? pa le y mae ei delyn yn crogi ? Dywenydd gan ein calon weled eich gohebydd galluog o Lerpwl yn dyfod allan o'i neillduedd unigol mor rymus a nerthol. Ni anadlodd cyfaill cywir- ach a mwy hael ei galon nag Athan. Diolch iddo am ei deyrnged englynawl o barch i goffadwriaeth y bardd a'r hynafiaethydd clodfawr Cynddelw. Clywson gan gyfaill o Trecynon, fod Tiberog yn myned yn hen wr bach sionc, a'r bardd Cynonfryn yn dyfod yn ieuangach bob dydd, Da genym ddeall fod ei frawd Gwilym Medi yn gwella bob wythnos. Mae Cludydd hefyd yn ymddangos yn dda rhagorol ag ystyried ei fod newydd briodi gwraig o herfeddeigion gwlad Ilengist. Cofion fil at holl aelodau'r Urdd Farddonol, Rhoswawk.
LLITH 0 ABERHONDDU.
LLITH 0 ABERHONDDU. NID yn ami y gwelir llith o'r lie uchod yn eich newyddiadur poblogaidd, er mai anmhoblogaidd iawn ydyw yn y dref hon, ac fe ddichon fod hyny i'w briodoli i raddau am nad oes yma yr un llyfr- werthwr na' newsagent' Cymraeg. Mae hyn yn rhyfedd am hen dref enwog fel hon—tref ag oedd gynt mor Gymroaidd ei dull, mor Gymroaidd ei hiaith, &c., yn awr heb un papyr Cymreig yn cael ei werthu o'i mewn braidd. Fe welir cip- olwg weithiau yma ar y "Seren" y Fellten," y Goleuad," a'r Tyst," am y rheswm eu bod yn dwyn argraff y gwahanol sectau crefyddol; ond am y DAMAN, oblegyd ei fod yn darian i'r gwahanol sectau i gydamddiffyn en hun- ain, nid yw pobl sectyddol y dref hon yn malio ond ychydig am dano.