Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
- Y NOFEL: EINION HYWEL-
Y NOFEL: EINION HYWEL- (Buddugol yn Eisteddfod ddiweddar Aberdar.) PENOD XVII. DDARLI;s:"Y])D hoC Rhoddwn dro am Einioii unwaith etc. y mae ar yr hen gTaig er's amser beilacb. Gadaw- som ef yn nghanol y nos ar dymhestl oihadwy ie, yn crynu mewn ofn di- gyffelyb. Pan agorodd y wawr ei hamrantau mawrion, canfyddodd y baehgen ei fod wedi ei daflu i ynys goediog yn nghanol y weilgi, a bnan y deallodd fod o'i mewn fwystfilod lawer yn trigianu, er na chanfyddai yr un. Cododd o ben y graig a theithiodd yn araf trwy yr anialdir peryglus hyd nes yr aeth i lanerch fechan hynod bryd- ferth a cban fod y wybren mor glir ar ol y dymhestl y noson flaenorol, yr oedd yr haul yn anfon ei belydrau byw i lawr nes oedd y gwres bron yn ang- herddol. Eisteddodd ar y llanerch, a thrwy ei fod bron |newynu, gweddiodd yn daer ar Dduw am ei achub, oblegid yr oedd yn gweled yn eglur nad oedd dim yn ei aros ond marwolaeth yn y fath ynys anhysbell. Wedi gorpben ei weddi dclifrifol cododd ar ei draed ac edrychodd yn ei ymyl, ac er mawr gysur canfyddai rywbeth yn dyferu dros ddarn o'r graig gerllaw, a thrwy fod ei syched yn angherddol, bnan y rhoddodd ei enau o dan y dafnau. A belli yd oedd ond mel yn rhedeg o gell yn y graig. Ar ol ymddigoni, cododd n ar ei draed, ac er dychryn clywai ryw swn yn y goedwig yn mhen draw y lanerch, a chan dybied mai bwystfil ydoedd, dringodd i ben,coeden fawr a brigog oedd yn ei ymyl. Ond gyda ei fod yn eistedd ar un o'r canghenau preiffion canfyddai ddyn yn ymwthio i'r llanerch a'i wisg yn profi ei fod wedi bod mewn ymdrechfa galed. Eistedd- odd wrth fon y pren yr oedd Einion ar ei frigyn, gan ochneidio yn ddwys, a dweyd wrth Dduw ei fod ar drengu gan syched, a dynmno yn daer am war- edigaeth. Gyda ei fod yn dystewi, dyna Einion, o ganol y dail, yn gwaeddi arno am syllu yn ei ymyl, ac yfed o'r IF or, yn y graig. Ar hyn dyna y .), L n iruan Puddiedig yn ei chanfod ac yn codi yn araf i yfed o'i chvnwysiad mel- us a hyfryd, a chan dybied fod Duw wedi anfon ei angel i'w dangos iddo, syrthiodd ar ei ddeulin eilwaith a di- okhodd yn wresog am ei anfoniad, ac am y ffynon yn nghanol y fath anial- dir dyeithriol. Pryd hyn yr oedd Eiuion yn disgyn, ac erbyn i'r gweddi- wr gyiodi yr oedd baehgen ieuanc llath- redd yn sefyll uwch ei ben. A phan ei gwelodd, llanwodd ei galon a llawen ydd, a gwaeddodd a'i holl nerth. 0 gyfaill 0 ba le y daethost i'r fath le a "hwn." Yna y dywedodd Einion, y gallai yntan ofyn yr un gofyniad iddo ef. Yna dechreuodd adrodd ei hanes ie, "ei fed wedi ei chwythu oddi ar fwrdd y llong i'r mor yn nghanol rhy- ferthwy y noson flaenorol, a thrwy ryw fodd Dell gilydd iddo gael gafael mewn darn o bleneyn yn ngbanol y teniu, a'i fod wedi dal ei afael nes iddo gael ei dafiu i ben un o'r creigiau oedd ger- Haw 0 fel yr oedd y gwrandawr yn wylo, a hyny oherwydd fod y bach- gen wrfch adrodd ei helynt yn dweyd ei hanes yntau, ac wedi i Einion derfynu, dechrenodd y truan lefaru fel hyn Morwr ydwyf fi o Aberdovey, a'r llcng yr oeddwn ynddi yn rhwym i Peru 'ond yn yr ystorm neithiwr bodd- wyd fy Loll gyfeillion, fel mai myfi yn nnig & ddiangoid, ac y mae ysgerbwd einllong ar lan yr ynys gerllaw, ac os deuweh gyda mi, ni awn ati i'w chwilio cberwydd efallai fod peth ymborth ynddi "heb ei Iwyr ddifa." Felly y bu, a da." wy yn ymwthio rhwng y drain a'r ndcTi dyryslyd, ac o'r diwedd yn cyrbasdd yr hen lestr: a chan fod y mor wedi treio aethant i mewn i'w hys- tiysa-Li, pa rai oeddynt yn hynod ddryll- iedig, ac er eu mawr, gysur cawsant ya ei choudcd lawer o ymborth heb fod Demawr gwaeth, ac yno y buont am rai wYthr.osau. Y dydd aent allan i'r y r, y s, j:, nos ymguddient yn y Hong, a thrwv ev bod wedi cael amryw arfan. tan a defuyddiau saethn yn y llestr, yr oeddynt yn lladd toraeth o anifeiliaid gwylltion i gael eu cig. Eto, yr oedd- ynt vn g weled fod yr ymborth yn treul- io yn g;/fS.ym-gyflym, ac os na ddeuai gwaredigaeth heb fod yn hir, y bydd- L- ent heb ddim; ac i dreio am ffordd i fyned oddi yno, dacw Einion yn dringo i ben coeden uchel a dyfai uwch ben y mor, ac wrth un o'r brigau uchaf yn hongi^n baner goch, yr hon a gafodd honep baner goch, yr hon a gafodd I yn y llong. Ffordd lied ysmala i gael gwaredigaeth, onide ? Ond yn mhen pedwar diwrnod canfyddent yn y pell- der draw rywbeth tebyg i long, a bron yn union canfyddent gwch yn hwylio tnag at yr ynys; ie, yn gymwys i gyf- eiriad y faner goch, ac er mawr lawen- t ydd i gyfaill Einion, canfyddai ei frawd ei hunan yn disgyn ar y lan Khed- odd ato, a chusanodd ef yn wresog, ac wedi chwilio yr hen ysgerbwd, dacw y bad yn dychwelyd ac Einion a'i gyfaill ynddo. Ac 0 pan ddeallodd y bach- gen amddifad mai i Peru yr oedd y Hong hon eto yn myned llanwyd ei fynwes a llawenydd, oherwydd yr oedd wedi penderfynu myned yno trwy ryw fodd neu gilydd os na chyfarfyddai ag angeu ar y ffordd. Yn mhen enyd dacw yr hwyliau yn cael eu lledu i'r awelon, a'r llestr mawr yn symud yn ei flaen, ac mewn ychydig ddyddiau cyrhaeddasant y porthladd dymunol, ac wedi cael mordaith hyfryd. 0 Einion. dacw efyn awr yn ffarwelio a'i gyfaill hoff, ac yn eyfeirio i ganol y wlad eang a dyeithriol; ie, nid oedd yn adwaen yr un dyn, eto, parhaodd i deithio ynwrol. 0 ei d'lodi, nid oedd ganddo yr un geiniog i dalu am ei ym- borth. Pwy all draethu ei deirmad pan yn cael ei hwtio yn wag-law oddi- wrth ami ddrws ? 0 yr amddifad! Pa galon na theimla drosto yn nghanol gwlad estronol; ïe, yn grwydryn di- gartref Un diwrnod dacw ef yn cer- dded yn araf at un o'r palasau gwychaf yn yr holl wlad. $
GOGONIANT DYN YN EI SYL-WEDDAU…
GOGONIANT DYN YN EI SYL- WEDDAU CYFANSODDOL. Gan y Parch. J. TV. PlIgh, Abergwaun PENOD V. Y NRSAF yw yr (eœito motory nerves), sefy rhai hyny sydd yn dilyn eu cwrs oddiwrth arwynebau tufewnol y medu- la oblong ate, neu y rhan hyny o'r mer yspeinawg, yr hwn yn ei esgyniad sydd yn uno a'r ymenydd ei hun. Y nesaf yw y giau anadlawl respiratory nerves, pa rai sydd yn canghenu oddiwrth y medula oblongata i wahauol barthau y pen, y gwddf, a'r gist (chest). Hwn yw y peiriant o ddyfais Ddwyfol i anadlu a'r organau lleisiol, Uefarol, ac amlygol trwy gyfrwng iaith. Trwy y peiriant hwn y mae uchafiaeth dyn i'w ganfod mor amlwg ar bob creadur zn arall ar y dcaear. Y nesaf yw y giau cydymdeimladol (ganglionic), sef y rhai hyny sydd yn uno mewn cydymdeimlad y peirianau hyny o'r corff, trwy y rhai y eyflawnir y gwahanol swyddogaethau organaidd, megys ymgarthol, dyddyfnawl, a gwa- hanol gyfnewidiadau yr ymborth. Yn awr, yn gymaint ag nas gellir cymharu anifail a dyn yn nifer ac hel- aethrwydd ei alluoedd meddyliol, felly hefyd nid oes yr uu o bonynt a ddeil ei gymharu iddo o ran perffeithrwydd a dadblygiadau ei gyfundraeth gieuol. Mae y cysylltiad rhwng y gyfundraeth hon a'r ymenydd yn un agos iawn mor agos, mewn gwirionedd, a'r un a fodola rhwng yr ymenydd a'r meddwl. Mae y meddwl yndyfodyn ymwybodus a gwrthddrychau allanol, yn unig trwy effaith grymusol a wneir ar y parth hwnw o'r ymenydd a elwir synwyrfa j (sensorinm). Gwneir argraff ar un- I rhyw ran o'r corff iyn arwynebol trwy gyftyrddiad gallnsedd naturiol, megys gwres. yr hylif gwefrol, neu ryw allu allanol arall. Trosglwyddir yr argraff- iadau hyn gan y giau i'r synwyrfa, gwna hyn gyfnewiad yn yr ymenydd, a dywedwn y pryd hwnw fod yr argraff* yn deimladwy hyny yw, y mae y meddwl yn dyiod yn ymwybodol o bono. Y mae y meddwl yn dyfod yn ym- wybodol a gwrthddrychau allanol trwy dri o raddau, neu sefylifaoedd gwahan- ol — -00 "'£"7" 1. I aeroymaa or argrair a wneir yn y pen eithaf i gieuyn yr ymsyniad. 2. Y trosglwyddiad a wneir o'r ar- graif hwnw ar hyd corff y gieuyn yr ymenydd. 3. Y cyfnewidiad a gynhyrfir gan yr a graff hwnw yn yr ymsynwyrfa, trwy yr hwn y mae ymsyniad yn cael ei gy- nyrchu. 1 1 Arterwa a dyweyd pan yn oyoaaet o dan unrhyw boen, O y mae fy mhen, neu fy mraich, neu fy rhroed yn boen- us iawn ond mynud o ystyriaeth a wasanaethai i'n darbwyllo ein bod yn gyfeiliornus. Pe byddai y cysylltiad sydd rhwng y giau fel trosglwyddfa i'r ymenydd yn cael ei dori, neu hyd yn nod yn cael ei rvvysfcro rhwng hyny a'r 'Y parth dolurus, ni byddai yr un argraff, pa mor rymns bynag y byddai yn deiml- adwy. Eto, pe byddai corff y gieuyn yn cael ei lidio neu ei-ddirwasgu, y poen a deiinlid a briodolid gan y dyoddefydd, nid i'r parth a niweidiwyd, ond i'r ar- wyneb He y mae y giau hyn wedi ei gwasgu. I brofi hyn gwasanaethed y ffaith a ganlyn :-Ar ol tori ymaith unrhyw aelod, megys dun neu fraich, y dyoddef- ydd a deimla boen ac a awgryma at y bysedd neu y bodiau a ysgarwyd, ac nid at y parth a niweidiwyd. Yn awr, yn gymaint a'n bod wedi sylwi ar wahanol ddosbarthiadau y gyf- undrefn gieuaidd, symudwn yn mlaen i edrych ar rag)roldeb y creadur rhy- fedd dyn yn ei berthynas synwyrol neu ymsyniadol, y rhai a dderbyniant ar- graffiadau neillduol iddynt eu hunain. Y synwyraa corfforol hyn ydynt bump —1. Teimlad 2. Bias; 3. Arogl; 4. Clywed 5. Golwg. Y teimlad yw y mwyaf gwasgaredig o'r ymsyniadau allanol y mae yn daenedig dros yn agJS yr hollgorff ond mewn modd I mwy neillduol a llym yn mhenau y bysedd, ac yn y genau. Ond ymddeng- ys na byddai yr ymsyniad o deimlad— yr hwn sydd mor gryf yn y Haw o fawr ddefnydd, oni bae fod y Haw wedi ei chynysgaeddu mor ryfedd fel y gall gyflawni cymaint o wahanol ysgogiadan. Ac yn hyn, fel llawer o bethau ereill, y gwelir ei ragoroldeb neillduel, ar bob creadur aralL —« —
BEIRNIADAETH CYFARFOD CYSTADLEUOL…
BEIRNIADAETH CYFARFOD CYSTADLEUOL GWAWR, ABERAMAN. PEDWAR PENILL I'R CAPEL NEWYDD. UN cyfansoddiad ddaeth i law, yn dwyn y fFugenw Ieuan Ionawr :— Cyfansoddiad llipa, dibwynt, ac an- wireddus nid oes cymaint ag un llyfch- yren benigol yn nghorff ei gyfansodd- iad. Wele enghraifft mae'n gapel hardd a tho o slat3 o rhyw ddaearol gwarel yn cuddio'i ben a hwnw'n uwch na phen y gwynt ar awel." Er fod yr awdwr wedi cael y maeS iddo ei hun, eto, methodd a bod yn llwyddianus yn ei amcan. Cynrycb- iolydd gwael o'r anwyl fardd henafol "Ieuan Ionawr" ydyw'r "Ieuan Ion- awr hwn. Atalier y wobr. Y TABERNACL YN YR ANIALWCH. Derbyniwyd pedwar o gyfansoddiad- au ar y tesryn hwn, yn dwynyrenwau, Gwalch, Gostyngedig, Idwal, a Pererin. Rhenir y gystadleuaeth hon yn natur- iol i ddau ddosbarth. Yn yr ail ddos- barth saif Gwalch, a Gostyngedig. Gwalch.-Nid digon o walch y trs hwn. Ysgrif fer, o faintioli Uythyr cyffredin, mewn llawysgrif gryno, ac, yn rhydd o bechodau orgraffyddol. Methais a chodi un frawddeg wreidd- iol yn rhoddi prawf o alluoedd medd- yliol dim ond dyfyniadau Ysgryth- yrol syml. Na thramgwydded yr aw- dwr pan y dywedaf: Fi fod yn gyfan- soddwr byranadl@g, digalon, a dioglyd. Gostyngedig.-Mae gan hwn ychydig hirach anadl na'i gydymgeisydd, a cheir arwyddion yn nghorff ei ysgrif o alluoedd meddyliol; eto, mae ei ami wallau orgraffol yn milwrio yn erbyn ei lwyddiant. Os oedd Gwalch y Gos- tyngedig yn barnu fod eu hysgrifau byrion hwy yn werth y wobr; beth oedd barn Pererin, tybed, pan yn 'sgrif- enu 27 tudalen ? Pe eawsai y ddau ymgeisydd hyn y maes yn agored idd- ynt eu hunain, y mae yn amheus genyf a allesent afaelyd yn y pres cydrhyng- ddynt. Yn y dosbarth blaenaf y saif Idwal, a Pererin. Dyma ddau awdwr o nod- wedd arall yn cydio yn eu gwaith gydag egni, ac yn ymorchesti am y wobr gyda thaerni cystadleuol. Cyn belled ag y mai y Tabernacl, fel adeil- adwaith, yr Allorau, yr Arch, y Dru- gareddfa, &c,, yn myned, y mae y ddau yn cerdded yn gyfochrog, law yn Haw; yna cyll ldwal ei nerth, tra y cymer Pererin wibdaith trwy y Cysgod- au," a thrwy y GwersyU i ddosbarthu y llwythau. Dyri i ni hefyd drem ddaearyddol hapus o'r Anialwch di- gynyrch yn adeg y genedl, ac amcan- gyfrif o honi; a chwyd y lien yn ad- roddiadau teithwyr diweddar, i ni gael cipdrem ar y brodorion yn y cyfnod presenol. Symia ei draethawd ifyny yn Gethsemane, yn swn yr hen benill difrifol, 0 fy enaid cod dy olwg, Gwel yn amlwg ben y bryn, &c. ? Y mae gan Idwal draethawd da, yn L"¡ tra ragori ar Gwalch a Gostyngedig ond fel mae yr ansawd o' du, y mae Pererin yn rhagori arno yntau yn ngweithiad allan y testyn, ac yn ei fan- ylder hanesyddol. Ystyrir Pererin yn gwir deilyngu y y wobr.
-')WY DYLEDSWYDD OEEFYDDWYK…
-')WY DYLEDSWYDD OEEFYDDWYK IEUAIEC YN NGWYNEB DRYGAU YR OES BKESENOL. Dau ymgeisydd a dderbyniwyd ar y testyn gwir ddyddorol hwn wedi cyn- ffoni eu cynyrehion a'r ffugenwau Brython a Garmon. Y mae gan Brython, ar y cyfan, draethawd twt a chryno, yn ymdrin a'i bwnc gyda gryn dipyn o ddeheurwydd ond yn ei hwyl draethodol a ar grwydr am yn agos i dair tudalen i geisio profi fod y Sabboth o osodiad dwyfol. Er nad yw yn hollol anmberthynasol yn y tair tudalen hyn, eto, cyll y pwynt dy- ladwy, a gwanycha nerth ei draethawd. Cyfarfyddir a man frychau sillebol, ond tybiwn mai olion esgeulusdod ydynt. Na ddigaloned. Pe na bae Garmon yn y gystadleuaeth ni fuasai petrusder genyf i wobrwyo Brython. Garmon.—Traethawd rhagorol, yn cynwys saith o benodau meithion ond nid ydyw eu meithder yn lladd dim ar eu dyddordeb, nac yn gwanychu dim ar nerth yr awdwr. Trinia ei bwnc yn afaelgar, bywiog, a grymus, mewn gwisg ieithyddol goethedig, mewn meddyliau cwmpasog a medr llenoroI. Nid ydyw yn un sarhad ar gymeriad Ilenyddol Brython i gael ei drechi gan awdwr cyhyrog fel hwn. Garmon, heb os, nac oni bae, ydyw y goreu, ar air a chydwybod. W. MORGAN (Morfab). Aberdar, Awst 20, 1875.
BEIRXIADAETII Y PAR HOSANAU.
BEIRXIADAETII Y PAR HOSANAU. Un par o hosanau ddaeth i law, yn dwyn y ffigenw, Teilwng o'r Wobr." Da genym hysbysu nad yw yr ymgeis- ydd wedi camsynied yn ei detholiad o ffigenw y tro hwn. Y mae wedi llwyddo i wneuthur par o hosanau sydd yn wir deilwng o'r wobr. Pe byddai rhagor yn y gystadleuaeth, byddai yn cryn orchest iddynt enill y gamp. Rhodder y wobr i Teilwng o'r Wobr. Aberaman. ELIZABETH REES.
-'----'-+----,---LLUEST Y…
-+- LLUEST Y MYNYDD. lVIEDI ] 7, 1875. DAETH Rowland Eryri, Thomas, gweinidog Bethbirei, capel yr Independ- iaid, ataf ddiwrnod neu ddau ar ol y cyfarfod yn mha un y bu Dick Tyeaws yn datuddio dirgelion y Salon, mewn cryn drwbl meddwl yn nghylch ei enwad ef. Holo, Rowland, be sy arnoch chi," ebe fi, 'rych chi yn edrych yn brudd- aidd iawn heddy." "Digon, digon o achos bod felly, LIuestwr bach, oblegid y mae y byd bron ar ben." Beth sydd ? beth sydd ?" abe fine. Wel, a dweyd y gwir wrthych chwi, y mae yr Independiaid yn my- ued yn Fethodistiaid gyda chyflymdra mawr, ac am wn i nad ant yn Bab- yddion yn fuan. Beth feddyliech chi ? Y mae ein cwrdd cwarter ni yn awr wedi myned yn gynhadledd o esgobion a deoniaid, i wneud cyfreithiau awdur- dodol i lywodraethu eglwysi, yn wein- idogion ac aeiodau. Ac os beiddia un eglwys, neu weinidog, tu fewn i esgob- aeth y ewrdd ewarter, wneud dim heb ymgynghori a'u mawrhyduyr esgobion a'r deoniaid cynulledig yn y cwrdd cwarter, cynygia un o'r esgobiou fel y canlyn. 'Yr ydym m, yr esgobion a'r deoniaid presenol yn ysgymuno gwein- idog ac eglwys Naut-y-foel ailau o'n hundeb.' Cyhoeddir yr ysgymundod yn y papyrau Seisnig a Chymreig, yn enwedig yn mhapuryr esgobion, yr hwn a elwir Angel a Jupiter,' lie y cryn- hoer holl hynodion y corff Methodist- aidd neu Bresbyteraidd newydd, yr hwn a elwid gynt yr Enwad Annibyn- ol. Y mae gweithred y cwrdd cwarter yn ysgymuuo unrhyw eglwys yn saethu bywyd annibynol yr eglwys bono yn llwyr allan o honi." Bid sicr, Rowland," ebe fine. Nid yw y pie nad yw yr ysgymun- dod yn gallu effeithio ar yr eglwys ddim ond pie Jesuitaidd, oblegid y mae gwaith y Pab yn ysgymuno Elizabeth gynt, a Victor Emmanuel yn ddiwedd- ar, wedi bod mor llwyr ddieffaith ag ysgymundod eglwys Nant-y-foel gan gwrdd cwarter Pont-y-ddafad. Nid galla i gynyrchu canlyniad sydd yn w setlo cyfiawnder neu Gristionogaeth ysgymundod, ond haeddiaaau y weith- red ynddi ei hun, yn ol y Testament Newydd. Ac os yw eglwys yn gallu bod yn annibynol wedi iddi hi gael ei hysgymuno gan y cwrdd cwarter, o waethaf y cwrdd cwarter y mae hi yn annibynol, fel y teirnasodd Elizabeth ac y teyrnasa Victor Emmanuel o waethaf ysgymundod y Pab. A chyf- raith y wlad yn y deeds perthynol i'r capel yn unig a'i dyogela allan o graf- angau y cwrdd cwarter, i fod yn eiddo i'r eglwys ysgymunedig. Nid o gyf- raith y wlad yr oedd yr hen Annibyn- wyr yn cael annibyniaeth yr eglwysi, ond o'r Testament Newydd. Gan hyny, mewn cysylltiad a ffurf brawdoliaeth Cristionogol, yn ol y Testament New- ydd, nid mewn cysylltiad a chyfraith y wlad ypenderfynodd y tadau Annibyn- ol i alw ein henwad ni yn Independ- ents. Peth newydd hollol yw i wein- idogion ein henwad ni i ymffurfio yn rhyw gorporaticn ecclesiastical mewn cwrdd cwarter, i ymyraeth a gweith- rediadau mewnol eglwysi, mewn sylw na phenderfyniad. Ymgais i efelychu cwrdd misol neu sasiwn y Methodist- iaid, neu synod, neu presbytery y Pres- byteriaid, neu gonference y Wesleyaid, yw honiadaeth y ewrdd cwarter, ei fod yn medduawdurdod iysgymuno eglwys. Pwy roddodd yr awdnrdod byny iddo ? Ni wnaeth yr eglwysi. Os gwnaeth- ant, suddasant Annibyniaeth mewn Presbyteriaetb. Ni wnaeth Crist na'i apcstolion. Nid oes sillaf o blaid y fath ysgymundod yn y Testament Newydd. Dywedant nad yw yr ys- gymundod yn ddim i neb, mai rhyw beth yn eu plith eu hunain yn unigyw. Os nad yw yn golygu dim tuag at yr eglwys a ysgymunir, yna, paham yr enwir hono mwy na rhyw eglwys perth- ynol i'r Methodistiaid neu y Bedydd- wyr ? 0 meddant, nid ydym yn ys- gymuno yr eglwys o fod yn eglwys.' Dim diolcli i chwi, maddaf finau, am hyny.. (YT ydym yn ei hysgymuno o'n hundeb ni.' Pa undeb yw eich undeb chwi ? Ai gweinidogion eglwysi An- nibynol ydych? Me, undeb fel bro- dyr yw ein hundeb ni! Onid undeb fel brodyr yw undeb eglwysig capel Nant- y-foel, ac undeb llawer cryfach na'ch undeb chwi, oblegid yr ydych chwi yn annibynol ar eich giiydd. Gan byny, rope of sand yw eich undeb chwi eto, er eich bod, efallai yn meddwl ei wneud yn un awdurdodol, Presbyteraidd. Am- cenwch wneud hyny yn awr mewn effaith, trwy gyhoeddi i'r byd nad yw eglwys Nant-y-fbel yn deilwng o fod mewn brwdoliaeth Gristionogol. 1 Na, na,' meddant hwy, 'yr ydym yn ei hystyried yn eglwys Gristionogol.' Beth ydych chwi ynte ? Cristionog- ion.' Yr ydych felly yn ysgymuno eich cyd-Gristionogion, allan o undeb perffaith ansylweddol, yr hwn na pher- tbynech iddo, pe bae efeyn sylweddol, heb broffesu eich bod yn Fethodistiaid neu Bresbyteriaid. Yr ydych yn pro- ffesu fod genych hawl i ysgym-ino heb fedru dangos dim o'r Testament New- ydd o blaid yr hawl, ac yn proffesu fod gan eglwys Nant-y-foel hawl i ddewis pob peth tu mewn iddi hi ei hunan yn annibynol ar bob eglwys arall, er eich bod chwi yn ymyraeth a'r hawl hono trwy ei hysgymuno! Nid fel Anni- bynwyr yr ydych yn ysgymuno, ond fel rhyw rai ereill. Nis gellwch ddweyd fel pwy. O y mae genym ryddid i wueud y peth a fynom,' medd- wch chwi. Oes, ond y mae terfyuau y rhyddid hwnw mor helaeth, fel y gellwch fod yn Babyddion, os mynweh. Nid pa faint o ryddid sydd genych chwi yw y cwestiwn, ond a yw esgym- uno eglwys Annibynol o undeb nad yw yn perthyn i'r cgwyddor annibynol, yn gyson ag Annibyniaeth ? Nis gall bytb f; > 1, mwv nag y gall goleuni fod yn gy.«>on a thywyiiweh. Ond y mae drwg mawr yn y fusoes. Yr ydych yn ymgynghori a ch giiydd, fellleng o ysbrydion drwg, i liiweidio dylanwad yr eglwys i wneud daioni dros Dduw. Nid oes dim da yn eich gwaith na'ch amcan,' mwy nag sydd genych o syifaen yn ngair Duw 'am yr hvn a wnewch. Drwg genyf, Mr. LIuestwr, eich blino a fy nghwvn." Ni raid i chi byth, Yr oeddwn wedi dysgwyl Owain Llysfeisyr yma, sef gwemidog y Bedyddwyr, ac amryw ereill, ond nid ydynt wedi dyfod eto. Yr ydych chwi wedi llanw eu lie yn dda, oadarn, ac Ysgrythyrol. Yr ydych yn myned 'rw i'n gwel'd. Dydd da i chi Rowland." LLUESTWB.