Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
I LLYTHYR CARDI.
LLYTHYR CARDI. BORE LLUN, MEDI 12, 1875. MR. GOL,-M ae rhyw ysfa wedi fy nharo y boreu newydd hwn i ddweyd gair am y creaduriaid dwydroediog rhyfedd hyny sydd yn codi eu hunain i sylw yn ein gwlad y dyddiau hyn, sef, Y COEG-FEIRNIAD A.'R CKACH-FEIRDD. Dyma y bodau hyny sydd yn fwrn ar gylla pob gwir lenor a bardd yn mhob oes o'r byd. Ond credwyf fod mwy o honynt y dyddiau hyn nag erioed. Maent yn heidio ein dyffrynoedd, a'u henwau hwy sydd fwyaf amlwg yn ein cylchgronau misol a'n newyddiaduron. Ac 0 y fath show out a wnant o honynt en hunain. Maent yn ddigon i hel dyn- ion anllythrenol i gredu eu bod yn or- aclau ar bob pwnc yr ymdriniant ag ef, gan faint eu chwyddiaith a'i bombast- eiddiwch dihafal, bosh, humbug, ydyw y cyfan yn y diwedd. Os ewch i'w teimlo a'u profi, cewch eu bod yn perthyn yn agosach na brodyr i "goden fwg." A'r peth tebycaf iddynt ydyw hono, a Jack y Lantern, neu y ffug oleuni sydd yn ein corsydd ar rai amserau o'r flwyddyn. Dyma y bodau sydd yn credu fod Tyd- ain Tad Awen wedi eu cenedlu bwy yn feirdd, ac yn rhywbeth uwchlaw y cy- ff redin o ddynion. Ond ha! nid oes yr un spark o awen wedi ei osod erioed yn eu heneidiau gwagsaw, gwyntiog. Maent mor amddifad o hono a chopa'r Mynydd Du; ond y maent wedi darllen, clywed, neu freaddwydio unwaith fod rhai bod- au dwydroedig, fel hwythau, wedi cael cloi ond nid oedd y rhai hyny yn cario nog i ddal het rhwng eu hysgwyddau, ond penau yn ]lawn synwyr, barn, a deal], a chaionau wresog, gynes dan eu bronau, ac nid lwmp o iaoesol annheim- ladwy fel a feddiana y tylwyth yma. Unig nod y dosbarth yma yn ei hoes drafferthus, yw cyhoeddi, yn ei hym- drechiadau hynod, TVcle iii:" mae duw- ies enwogrwydd wedi galw arnom i rodio i'w theml i dderbyn nod o anfarwoldeb a chlod." Sa ha! rhaid eich ail foldio, ac ail furniteisio eich garets cyn y cewch roddi eich traed halogedig ar un o'i Ihvybrau cysegredig. Pe bae eneidiau cant a haner o filoedd o honoch yn cael eu rhoi yn yr un corff nis gellir gwneuthur bardd o hono wed'yn. Mae eich eneid- iau mor fychain fel y gall llon'd byd o honoch ddawnsio ar flaen nodwydd ddur, a chael digon o le heb berygl iddi fyned yn rou; rhyngoch. Nid oes un pwll glo na shop crydd, teiliwr, tincer, na chob- ler, heb fod rhai o'u brodyr yn y gym- deithas urddasol hon. Gallasai llawer bachgen wneud crydd, teiliwr, neu gob- ler dil, oni bai ei grachyddiaeth fardd- onol yn adeg ei addysgiaeth wrth y lap- stone neu yr ystyllen bressio: ac o her- wydd y camgyfeiriad a roddodd i'w fyw- yd, mae y dydd heddyw yn waeth na bod yn ddim byd, yn sport, acyn brixiwr i'r holl genhedioead gwareiddiedig. A phe bae yr Exquimauxs yn cael ei hanes yn eu byd thewllyd, chwarddent am ben y fath fiolineb a lol botes wedi ei wneud gan ddyn yn Nghymru. Ac yn wir, os gwelwch chwi yn dda, mae y dosbarth yma, bob copa walltog, yn cario ffugenwau hirwyntog. ISTiu oes un cwm, afon, na nant, na mynydd yn Nghymru na chaiff ei anfarwoli gan- ddynt hwy yn y drefn a ganlyn :—1., Cwmbach, Richards, R. Gilfach Goch, Edwards, J. Sol. Daves, D. Wind Jones, R. Fern Price, T. Mill Bee, acyny blaen yn dragwyddol nes Synu, pensyfardanu dyn," a'i yru o'i hwyl yn gyrbibion wyll ulw las. Yr oeddwn yn cbwertbin yn iachus y dydd o'r blaen wrth ddarlltn beirniad- aeth na, coeg-feirniadaetb, wys? yn un o'r papyrau yna. Rhoddais raff i hyny o ddarfelydd sydd genyf i geisio tynu dar. lun o'r coeg-feirniad hwn yn darllen ei di ash ar y shibboleth dan sylw. Fel y dychymygais, dacw ef yn d'od yn mlaen i'r platform,un Haw fel drontol ar ei ochr, ac yn llaw arall bapur mawr pwysig, sef tynged y cystadleuwyr yn eisteddfod canwyll frwynen. Torsythagydagawdur- dod cardinal, a siarada mor bwysig a phe bae pob gair o'i enau yn creu seren. A dywed fod llinellan yn y gan arall yn tynu dagrau o'i lygaid wrth ei darHen gan y newydd-deb a'r teimlad dwys a redai trwyddynt, a hyny yn gelwydd bob gair. Byddai yr un peth i'r hurtyn pen- ffol ddweyd fod "teimlad byw" mewn coes mandrel, a thlysineb barddonol mewn coes mochyn a hyny. A phe bae y coeg-feirniad hwn mor gall a pheidio difynu rhai o'r cyfansoadiadau enwog dan sylw, ni buasai yn bradychu cymaint o'i anwybodaeth yn y gangen bwysig hon. Nid oes dim celfyddyd, awen, na dim ynddynt; maent yn un chaos afiun- iaidd drwyddynt draw; a gallwn eu dar- llen hyd foreu y mil blynyddoedd heb golli deigryn o gwbl. Ond y r oedd rhy w dynerwch gwyryfol yn perthyn i'r beirn- iad dan sylw; wylodd ef lond tegell ,ddwywaith wrth eu darllen. Ond, o ran hyny, efallai ei bod yn well yn llawys- grif y bardd buddigol nag wedi i ddiawl g n y wasg roi ei fysedd duon arnynt a'i llychwyno; collasant bob teimlad a thy- nerwch o'r G- G- i swyddfay DAMAN. Tebyg ydyw fod y bywyd wedi ffoi neu farw ar y mynydd wrth groesi, druain o Jaonynt. 1
TALHAIAEN.
TALHAIAEN. Y mae o fy mlaen y fynya hen waith bardd yn feddianol ar wir awen. 0! mae ynddo ganeuon rhwyddion campus, maent yn berwi gan fiwsig. Mae y gan faith bono Tal ar ben y Bodran," yn bleser ei darllen mae yn iechyd i galon dyn gael rhywbeth fel hyn yn lie uwd a llaith glas o hyd, ac o hyd. CARDI. O.Y.—Y mae Mr. Humphrey Jones, Pen lone, yn dosbarthu y DARIAN yn Nhalybont, Ceredigion.
JOHN BUNYAN.
JOHN BUNYAN. Nos Lun, Medi 6ed, traddodwyd darlith ardderchog ar y testyn uchod gan y Parch. W. Harris, Heolyfelin, Aberdar, yn y capel lie yr arfera weinidogaethu. Dilynodd ei destyn yn ffyddlon o'i ened- igaeth mewn pentref bychan o'r enw Eletow, ger Bedford, yn y flwyddyn 1628, hyd ei farwolaeth. Fel y dywed- odd yi areithydd, mab i dincer isel ei amgylchiadau ydoedd Bunyan, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono ei hunan y rhan foreuol o'i fywyd, pryd yr arwein- ia.i fywyd oedd yn warth i neb ei arddel, ac enill iddo ei hun y cymeriad o fod yn bla ac yn felldith i'w gymydogaeth. Gan nad yn mheth bynag yr ymafaelai, yr oedd yn ei wneud a'i holl egni: pan yn pechu, yr oedd a'i holl galon yn y gwaith, ac yn hynodi ei hun yn fwy na neb arall yn ei bechod; a'r un modd wedi cael troedigaeth, byddai farw dros yr egwyddorion a bleidiai. Ymnnodd a'r fyddi'i yn ddwy-ar-bymtheg oed; wedi hyny cynghorwyd ef i briodi, ac er mor dylawd ei amgylchiadau, a drwg ei ly z," gymeriad, ydoedd, bu mor ffodus a chael yn briod iddo un o'r gwragedd mwyaf rhiuweddol yn y deyrnas, a'r hon a brofodd yn fendith anmhrisiadwy iddo, ac fel y dywedodd y darlithydd, byddai yn fendith i'r wlad pe byddei holl wrag- edd Cymru yr un stamp a hi, ond fel y mae yn resynus meddwl, y mae canoedd o'r dynion goreu a fuont ar y ddaear erioed wedi rhesu eu hunain yn mhlith y meddwon gwaethaf, ac wedi eu mell- dithio am byth drwy briodi a rhyw hychod bryntion, dioglyd, ac mnyben o fenywod. Gan nad pryd y daw ambel! i wr i'r ty, nid oes yno ddim ond yr an- nybendod, y bryntni, a'r sarugrwydd yn ei dderbyn, a'r canlyniad yw, y mae yn myned i'r dafarn i dreulio ei oriau ham- ddenol, lie y mae yn cael mwynhau ei hun ar aelwyd lan, a chael cyfeillion hawddgar i ymddyddan a hwy. G wyn fyd na chai Mr. Harris gapelaid llawn o'r menywod a nodwyd i draddodi y rhan hon o'i ddarlith iddynt, byddai yn well meddyginiaeth at eu cyfiyrau na Hollovja/is Pills, nac uurhyw gyffeitiau ereill. Ond menyw yn deilwng o'r enw gwraig a gafodd Bunyan. Bu yn fodd- ion i'w ddarbwylloi fynychu cyfarfodydd addoliadol, a'r bregeth gyntaf a glywodd oedd yn cael ei thraddodi ar y drwf o dori y Sabboth, yr hon a gafodd effaith ddyladwy arno. Yn fuan wedi ei droedigaeth, enwog- odd ei hun fel crefyddwr selog a brwd- frydig. Nid oedd dim canolog yn perthyn iddo, ond taflai ei holl enaid i ryw bwynt eithafol. Pan y pechai, gwnai hyny yn deil wng o Satan ei hun ond unwaith yr ymadawodd a'i fyddin, ymladdodd yn ei erbyn fel cawr, a phwy a wyddai yn well am wendidau yr henjorts, y rhai y bu efe gynt, fel cadfridog mawr, yn arwain ei fyddinoedd i'w hamddiffyn? Gwyddai y man i daflu ei bombshells i'w gwneud yn wenfflam ar unwaith, fel y gwnaeth gan- oedd o weithiau wedi byny. Pan yr oedd yn pregethu mewn anedd-dy un diwrnod, daeth swyddog y Llywodraeth a gwarant ganddo ato, a'i rybuddio i atal; ond nid yehydig a ataliai Bunyan i bregethu; trodd ei lygaid seraphaidd at y swyddog ac edrychodd trwyddo, ac heb yngan gair wrtho cafodd lonyda i derfynu ei bregeth; ond yn fuan wedi hyny, dygwyd ef o flaen yr ynadon am yr un trosedd, sef pregethu yr efengyl, pryd y dywedodd wrthynt mai pregethu a wnelai gan nad beth a wnaent iddo, a'r diwedd fu ei daflu i garchar. sef i hen gastell llaith a thywyll Bedford. Gor- fodwyd iddo felly i ymadael a'i briod a'i bedwar plentyn anwyl, un o'r rhai bych- ain oedd ferch fach ddall, yr hon a wasgai yn drwm arei feddwl. Ond buan y trodd yr hen garchar yn fyfyrgll, lie yr ysgrifenodd ei lyfr bydenwog Taith y Pererin," ac amryw o lyfrau da eraill. Tri llyfr yn unig oedd yn cyfansoddi ei library, y rhai oeddynt bob amser ar y bwrdd ganddo—y Beibl, y Mynegai Ysgrythyrol, a Hanes y Merthyron gan Fox. Yn y rhai hyn yn unig y myfyr- iai, nid fel llawer o bregethwyr y dydd- ian presenol "yn codi eu testynau o'r Beibl, a phregethu o'r neivspaper, neu godi eu testynau o lythyrau Paul, a phregethu politics am eu bywydau." Cyn hir enillodd Bunyan serch y ceidwad gymaint fel y caniataodd iddo dalu ym- weliad a'i deulu anwyl yn fynych, a threuli i ambell noswaith gyfan gyda hwy; ond barnodd yr esgobion gelyn- iaethus ei fod yn cael gormod o ryddid, a danfonasant gwyn i Lundain yn ei erbyn; ac apwyntiodd yr awdurdodau swyddog i edrych i'r mater, ac un nos- waith ganol nos, pryd yr oedd Bunyan gyda'i deulu, yr oedd yn methu yn deg a ciiael ei feddwl yn llonydd i gysgu, a dj'wedodd wrth ei wraig ei fod yn rhwym 0 ddychwelyd tua'r carchar yr amser hwnw o'r nos. Teimlai yr hen geidwad yn lied anfoddlawn wrth Bunyan am ei aflonyddu o'i gwsg, a rhoddodd sen ysgafn iddo am na ddychwelai yn gynt, neu arcs hyd y boreu; ond nid oedd yn ystyried mai llaw fawr a thrugarog Rbagluniaetb oedd wed ashosi hyn er eu lles hwy ill dau. Cyn ameer agor y carchar yn y boreu, yn ddisymwth dyma y swyddog o Lundain yn dyfod, ac yn hawlio agoriad ar unwaith, a mynu gweled a oedd y carcharorion oil yn ddyogel, yn neillduol Bunyan. Yn y man hwn drylliodd y darlithydd Infidel- iaeth yn chwilfriw, a'i gau-resymau am gydgyfarfyddiad dygwyddiadau, &c. Wedi treulio dros ddeuddeg mlynedd yn yr hen garchar, cafodd ei ryddhau mewn dull hynod, drwy gyfryngwriaeth un dyn a fu yn foddion mewn rhyw ddull i achub bywyd y Brenin Charles, a'r hyn a ddewisodd fel tal oddiar law y brenin am y weithred oedd, cael chwech o garcharorion wedi eu rhyddhau, a dy- gwyddodd Bunyan fod yn un o'r cyfryw. Cyn ei ryddhau o garchar, etholodd eglwys fechan o Fedyddwyr yn Bedford ef yn weinidog iddynt. Traethodd Mr. Harris yn helaeth ar Bunyan fel duwin- ydd, areithiwr, a phregethwr dylanwadol, ac am y torfeydd mawrion a ymgasglent yn nghyd i'w wrandaw am saith o'r gloch y boreu, yn Llundain, pan ar ei ymweliadau blynyddol a'r lie; ac am y weithred ddiweddaf a gyflawnodd, sef cyfryngu rhwng un mab afradlon a'i dad, sef boneddwr cyfoethog iawn oedd we li digio bron yn anfaddeuol wrth ei fab drygionus, yn yr hwn amcan gogon- eddus y bu yn llwyddianus, ond costiodd hyny ei fywyd iddo yntau trwy gael ei wlychu a chael anwyd trwm wrth deithio y daith bell. Bu farw yn 60 oed, wedi ysgrifenu 62 o lyfrau. Yr oedd des- grifiad y darlithydd oarchus o Bunyan yn marw, a'r angylion yn gwylied ei anadliad olaf, ac fel pe yn cystadlu a'u gilydd am yr anrhydedd o gymeryd enaid mawr y breuddwydiwr grand i Wynfa, yn un o'r golygfeydd mwyaf ys- blenydd. mawreddog, aruchel, ac elfeith- iol. N¡d yn unig yr oedd y ddarlith drwydui yn hynod o ddyddorol, ond yr oedd yn orlawn o'r gwersi mwyaf gwerthfawr, a'r traddodiad yn rhagorol. Mewn y-tyr addysgia,dol. gallaf ddweyd yn ddibetras, fel ereiil a'i clywsant, mai hon oedd y goreu a glywais erioed—yn wir deihvng o'r testYJt a'r traddodwr. Rhoddir yr elw oddiwrthi i gynorth- wyo gweddw dlawd a saith o blant am- ddifaid a rhoddodd Mr. Harris ei lafur gwerthfawr am ddim at yr achos teilwng. Trecynon. W. D.
TYSTEB CARADOG.
TYSTEB CARADOG. Yx mhwyHgor diweddaf Undeb Cor- awl Deheudir Cymru, penderfynwyd fod trysorfa Tysteb Caradog i gael ei chadw yn agored hyd y Xadolig nesaf. a dim yn hwy, beth bynag- fyddo ei llwyddiant. Taer ddymunir felly ar bawb sydd yn teimlo dyddordeb yn llwyddiant y dysteb i wneud en goreu mewn casglu tanysgriliadau o hyn i hyny. Drwg genym orfod dweyd mai bychan yw ei llwyddiant hyd yma. Pan gychwynwyd y symudiad yr oedd genym bob He i gredu fod teimlad y genedl yn gyfryw ag oedd yn sicrhau tysteb anrhydeddus i Caradog, a? er mai siomedigaeth (hyd yma) ydyw, nid ydym wedi colli ein ffydd yn ngheuedlgarwch y Cymry. u Den- parth gwaith yw ei dechreu ac ond i'r casglyddion ddecbreu o ddifrif yr ydym yn dra hyderus y cant ddigon o gefnogaeth. IVueni dybryd os try y symudiad yn fethiant. Nid oes eisieu ond UN ymdrech egniol a chyffredinol er cyrhaedd y nod; ac felly, er mwyn ein anrhydedd fel cenedl, yn ogystal a lies Caradog, gadawer i ni osod ein hysgwyddau o dan y baich o ddifrif. Bydd yn falch iawn gan yr ysgrifen- ydd anion llyfrau i unrhyw rai a ddy- munant eu cael. Dymunir ar y rhai sydd wedi gorpben casglu i anfon eu llyfrau a'u casgliadau i'r ysgrifenydd. Dros y pwyllgor, M. 0. JONES, Treherbert, Ysgrifenydd. near Pontypridd.
MAE NHW YN DWEYD.
MAE NHW YN DWEYD. Y MAE nhw yn dweyd mai tri pheth sydd yn gwneud niwed mawr i'r deyrnas hon, sef hen gount, y fasnach feddwol, a threuliau y teulu brenhinol. Y mae nhw yn dweyd eu bod wedi digio yn anfaddeuol wrthy meistri hyny sydd yn gwrthod eistedd gyda Mr. Mac- don dd wrth fwrdd Cymodol Deheudir Cymru. Y mae nhw yn dweyd wrth y gweith- wyr am fyned i mewn i'r Undeb Cenedl- aethol mor fuan ag y gallont, ac iddynt ymgaloLQji, oblegyd bydd codiad pris iddynt yn fuan, yn ol sefyllfa y farchnad ar hyn o bryd. Y mae nhw yn dweyd fod y Welsh Jews bron myned yn fethdalwyr, ac y bydd yn rhaid iddynt werthu eu blychau er mwyn cael arian i dalu yr hen gount yr aethant iddo yn ystod y strike ddi- weddaf. Y mae nhw yn dweyd wrth yr hen Gardi am beidio anfon rhagor o'i Dri- oedd i faes y DARIAN, neu ynte bydd yn sicr o dynu y byd am ei ben. Y mae nbw yn dweyd wrth un a'i clywodd nhw, am guddio yn ddyogel, oblegid y mae yr heddgeidwad ar ei ol, ac os caiff afael ynddo, cospir ef hyd eithaf y gyfraeth. Y maeuhw yn dweyd fod y gweith- wyr wedi cael eu gostwng y swm o chwech a chwech y bunt, ond nad oes yr un gweinidog wedi cael ei ostwng o ddimai ac y mae nhw yn dweyd y bydd yn rhaid iddynt bregethu yn well arall nag y maent yn bresenol, neu ynte cael eu gostwng yr un fath a phob gweithiwr a all. Y mae nhw yn dweyd wrth rai o ferched a gwragedd'Cap Coch am fod yn gallach mewn cyfarfodyddllenyddol o hyn allan. Y mae nhw yn dweyd fod llawenydd nid bychan gan rai o drigolion Cwmaman pan glywant fod dyn wedi marw, am y rheswm y cant wrth ei gladdu yfed yn belaeth o'r hyn sydd yn eu gwneud yn ffolach nag ydynt yn bresenol, a thrwy hyny gyru yn eu cerbydau fel mae yn beryglus i neb fod ar yr heol. Y mae nhw yn dweyd wrth berchen- ogion tai am eu gostwng mor fuan ag y n ZD 0 gallont, neu bydd canoedd yn sicr o fyned i Patagonia cyn diwedd yr haf nesaf. Y mae nhw yn dweyd fod anwyl briod Mr. J. Thomas, No. 10, Coegen-street, wedi rhoddi genedigaetb i fab, a galw- ant ei enw ef Wooddedrowffe. BRYNHEULOG.
SALEM, ABERDAR.
SALEM, ABERDAR. CYNALIODD yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol Awst 30ain, sef pen blwyddyn y plant, yn nghyd a gorymdaith yr I sgol- ion Sabbothol. Wedi i ni orymdeithio yn unol a'r cynllun oedd wedi ei ddwyn allan, dychwelasom yn ol tua'r capel, pryd y cyfranogodd deiliaid yr ysgol o'r wledd o de a bara brith ag oedd wedi ei darparu iddynt. Wedi hyny, cafwyd cyfarfod adrodd a chanu, er dwyn allan lafurwaith yr ysgol. Llywyddwyd, gan Mr. G. Williams, ac wedi cael araeth agoriadol ganddo ar natur y cyfarfod, a'r amcan oedd mewn golwg wrth gynal un o'r fath, sef cael y plant a'r bobl ienainc oil yn ddeiliaid o'r Ysgol SuI, yna caf- wyd adroddiadau a chanu, yn nghyd ag 9 Iz, anercbiadau gan y ddau hen frawd R. Hopkins a J. Thomas, yn mawr lawen- hau yn llwyddiant yr Ysgol Sabbothol. Bwriedir cynal cyfarfod ymadawol i J. Jones a'i deuln, Tresalem, Aberdar, sef deiliaid o'r Ysgol Sul, nos Lun, Medi yr deiliaid o'r Ysgol Sul, nos Lun, Medi yr 20fed, ar eu hymadawiad a'r lie i Pata- gonia, pryd y gwasanaethir ar yr ach- lysur gan y Teulu Dedwydd, Cwmdar, ac amryw frodyr ereill, a rhoddir cyfieus- dra o hyn i hyny i bawb o'u cyfeillion ddangos eu caredigrwydd iddynt. Yna diweddwyd y cyfarfod trwy dalu diolch. garwch i'r rhai fu yn gwasanaethu wrth y byrddau a chyfeillion caredig yr eglwyp, yn nghyd a'r cadeirydd. Ymadawodd pawb wedi cael cyfarfod wrth eu bodd, a'r plant yn gobeithio y daw adeg y pen blwyddyn eto yn fuan. LLAXC.
-------COED-DUO N.
COED-DUO N. Treuliwyd amser dedwydd iawn yn y Myrtle Grove House, paJas yr haelionus a'r Parch. R. Jones, offeiriad Penmain, y 6ed cyfisol, gan Eglwys Penmain. Yr oedd Mr. Jones wedi darparu swper hyfryd—y cigfwyd mwyaf blasus ar y bwrdd, a phobpeth yn y drein oreu i'w ateb. Mr. a Mrs. Jones ar eu goreu yn croesawi, a'r canwyr yn gwneud cyfiawnder a'r danteithion. Wedi swpera, canwyd amryw ddarnau yn swynol a meistrolgar ar y green o flaen y ty, yn mhlith y rhai yr oedd anthemau "Molwch yr Arglwydd," Can Moses," a Bendigedig yw yr Arglwydd." Wedi mwynhau un o'r cyfarfodydd hapusaf, ymadawodd y cauwyr yn yr hwyl oreu, a phob un yn dymuno bendith ar Mr. Jones a'i deulu hawddgar, a llwyddiant am ei lafur diorphwys yn y plwyf.—E.G.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu hoi Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MR. D. W. JOATES. (Dafydd Morgantog) Hirwain.
[No title]
Englyn i'r Lleuad.—Nid yw yn hollol gywir. Treiwch eto. Penillian ar ol Hannah, tnerch Mr. D. Evans, §c. —Gorfu arnaf dalu dwy geiniog am gludo y rbai hyn. Nid oes dim barddoniaeth i ym- ddftsigua yu y DAhIAN ar guel. Sen Fynwent Drtwen.—Testyn eithaf da, ac y iiiae'r pc ailliun y a o lew end trw.- io ychydig arnynt. Bro Emlyn, Maehtvdiftd yr Haul, Y Tymhorau, 1 Gwanwyn, Ir Ilaf, Yr Hydref, Y Gauaf. -1he y i-bui hyn mor dda, fel yr wyf yn ambeu nui un lo (led a'u gwnaeth, er nas gallaf lutifi yn uahnnol. Dicbon y cawn oleuniar hyn ar 01 i(i<i ynt gael ymddangos. Of un lti oed yw wiiwr y rhai h\n, dvraa well bardd na Dewi Wyn o Eifioii os caiff fyw ychydig. Alao y rhai canlynol yn cael eu hanfon i'rswyddfa i aros eu tro, :i Bro Emlyn, &c., hpfyd :— Aerostick to Miss J. T., Y Pysgotwr a'i Gwch, Owen Williams, Waunfawr, Y BaV>an, Y Celwyddog, y Daran, Yr Ysgadenyn, Y Ferfa-drol, Gwraig y Meddwyn, Yn mlaeu yn wrol awn, Yr awen vn methu cael testyn. Da fyddai i'rpenil!wyrymdrechu cydodli yllinell riaeuaf a'r drydedd, yn ogystal a'r ail a'r bedwaredd, pan fyddo'r odlau yn galw am y Surf hyny.
ADGOFION MEBYD Y BARDD.
ADGOFION MEBYD Y BARDD. Wrth gofio am fy rnebj d, A dyddiau boteu f (,e. Fy meddwl gwan ymsaethai, fel O fagnel, i'r lie rhoes Fy mant i mi o'i bronau Ei lIaeth maelhrinllwl cun. Yr hwn i mi oedd lawer gwell Ei faeth nag- unrhyw win; I'r man lie y chwareuais, Do, ganwaith gwn, a mwy, A'm calon fach yn hollol iaoh Oddiwrth y byd a'i glwy'; 1'r man lie teimlai* gyntaf Fod ynwyf serch, ond gwan, At dref fy ngenedigaeth, 0 Cilgeran-dyng'i, fan. Rhoi clust i glych Cilgeran Wrth svvDio drwy y fro, Sy'n dwyn i'm meddwl yr amser gynt, Mor fy wiog y'nt i'm co'; Deffroais lawer boreu O gwsg gan acen gref, Ircdioawndrosirynaphant Yn nglm mrii plant v dret; Mor ber yr yma:ymysgai Eu sain a bywiog si Hen Deifi I w ys pan ar r-j jflan Yn chwareu gyda'r Hi' O'm cl) w mae'r adsain heddyw, Er c>>fii>'r amser gynt, Aeth hon hIe-prau boreu f' oes Ar daen i'r ped war gwynt. 'Ilwy'n cofio am Gilgerin, Yn nghyd « llawer gwedd Adwaenwn g\ III, ond heddyw sydd Yn pydru yn y bedd Mor ber oedd sain dv glychau, O! hen Gil»eran lad, A glvstiau llu n'm trryndiflu cu, A theulu ly fy nbad Er rhoi filychau heddvw O'u swn driw feddau i hai'n, Y naili na'r Hall ni chlywant, na, O'u peraidd hyfryd sain Maent. yn eu beddau'n huno 0 dan wyuid dywyreh hedd. Ao ni all sain dy sljchau gwi v Byth dreiddio drwy i'r bedd. Mae Awn cloeh fawr Cilyeran, Drwy'r awel deneu ndd Yn dweyd am ryivuneto ro'ir 1 huno yn v pridd, A d'weda wrthy t finau Tro'th oju'tr dwys y'mla'n, Er <rwel d y dydd y rho'ir dy gorfl Yn ymboitli pry fed man Gall fud fy IIldid a lilinail Ar dd'od i »yswllt cun, Ac ynddo gunpir fy newrvvych gorff A llwch y bedd yn un N,n y bv(lflwyt' Dan wech dywarchen werdd, Boed i gloch fawr Cilgeran wiw 0 hyd wir seinio'm cerdd. LLBW DYFED.
YR YSGRIFBIN.
YR YSGRIFBIN. I roi gwawr hir a gwiwrin,—a pharbad 1 ffi'ydiau lien iej.in, A'r daiellt. awr dilin, Goraf beth yw ysgrifbiD. Try fil i rawd darfply,ld,-i filiwn Mae'n fael charcuydd Gwa" i bawl) o'i geisio bydd I rui dawn ar adeuydd. D. AB LOAN.
Y MORWR.
Y MORWR. Yn fachgen penfelyu gadawodd ei wlad, 0 ganol nynghorion duwjolaidd ei dad, Anturiodd yn furwr yn ieuanc a lion I hwylio y cefnfor heb fraw yn ei fron. Y morwr bach lIon, y morwr "acb lIon, Mordwya y cefnfor heb fraw yn ei fron. Ar ol iddo hwylio yn. mhell dror. y don, Mae serch at ei hen wlad yn chwyddo'n ei iron; Bob nos wrth fordwyo hiraethu y bydd Am weled gwen Cymru at, doriad y dydd. Y morwr bach lion, &c. Yn hwylio y cefnfor bum' mlynedd y bu Cyn iddo zliel Ilvtbyr a'i amlen yn ddu; 0« 1 a iv odd 6' galon cyn tori y pel, E) fam wedi marw yn gyntaf a we!. Y morwr bach Hon, &c. Wrth ddarllen y geiriau dy fam yn y bedd," 0 gwaeda ei galon a gwelwa ei wedd Fe roddai'r byd cyfan pe pallai roi cam A Tiei^io am unwaith i fynwes ei fam. Y jo.irwr bach Hon, &< Ychyiig feddyliodd v morwr bach lion Pan ydoedd yn hwyiio yn brudd ar y don, 1\1'\i !\yrthio mile 'i rldl\gr/lU drdof'w bob un, Wlychasant ei ruddiau i'w feddrod ei hun. Y morwr bach lion, &c. Yn nghanol y storom mae mellten o draw Yn rhwygo yr awyi, er dycbryn a braw, Ymferwa y dyfnfor tra'r morwr bach Hon Yn suddo i orwedd dan ymchwydd y don. Y morwr bach lion, v morwr bach lion, Mae'n cuddo i orwedd dan ymchwydd y don. Y geiriau diweddaf o'i enau a gawd, « 0 lesu, fy Mbrynwr, 0 lem, fy mrawd, Os yma yn eigion y mor mae fy rnedd 0 hwylia fy enaid i wynfyd a hpdd." Y morwr bach lion, V morwr hach llon, Mae'n suddo i urwedil (itiii viiiehwyd(-i v (]()n, GWiLYM NEDD.
YR UCHEDYDD.
YR UCHEDYDD. Ar iaoh aden yr Uchedydd—eheda A i hudol leferydd Heb boen e' gana beunydd, Er bywhad ar doriad dydd. GLAN GWELAIS.