Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

I LLYTHYR CARDI.

TALHAIAEN.

JOHN BUNYAN.

TYSTEB CARADOG.

MAE NHW YN DWEYD.

SALEM, ABERDAR.

News
Cite
Share

SALEM, ABERDAR. CYNALIODD yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol Awst 30ain, sef pen blwyddyn y plant, yn nghyd a gorymdaith yr I sgol- ion Sabbothol. Wedi i ni orymdeithio yn unol a'r cynllun oedd wedi ei ddwyn allan, dychwelasom yn ol tua'r capel, pryd y cyfranogodd deiliaid yr ysgol o'r wledd o de a bara brith ag oedd wedi ei darparu iddynt. Wedi hyny, cafwyd cyfarfod adrodd a chanu, er dwyn allan lafurwaith yr ysgol. Llywyddwyd, gan Mr. G. Williams, ac wedi cael araeth agoriadol ganddo ar natur y cyfarfod, a'r amcan oedd mewn golwg wrth gynal un o'r fath, sef cael y plant a'r bobl ienainc oil yn ddeiliaid o'r Ysgol SuI, yna caf- wyd adroddiadau a chanu, yn nghyd ag 9 Iz, anercbiadau gan y ddau hen frawd R. Hopkins a J. Thomas, yn mawr lawen- hau yn llwyddiant yr Ysgol Sabbothol. Bwriedir cynal cyfarfod ymadawol i J. Jones a'i deuln, Tresalem, Aberdar, sef deiliaid o'r Ysgol Sul, nos Lun, Medi yr deiliaid o'r Ysgol Sul, nos Lun, Medi yr 20fed, ar eu hymadawiad a'r lie i Pata- gonia, pryd y gwasanaethir ar yr ach- lysur gan y Teulu Dedwydd, Cwmdar, ac amryw frodyr ereill, a rhoddir cyfieus- dra o hyn i hyny i bawb o'u cyfeillion ddangos eu caredigrwydd iddynt. Yna diweddwyd y cyfarfod trwy dalu diolch. garwch i'r rhai fu yn gwasanaethu wrth y byrddau a chyfeillion caredig yr eglwyp, yn nghyd a'r cadeirydd. Ymadawodd pawb wedi cael cyfarfod wrth eu bodd, a'r plant yn gobeithio y daw adeg y pen blwyddyn eto yn fuan. LLAXC.

-------COED-DUO N.

AT Y BEIRDD.

[No title]

ADGOFION MEBYD Y BARDD.

YR YSGRIFBIN.

Y MORWR.

YR UCHEDYDD.