Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
LE'RPWL.
LE'RPWL. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD CYSON.] YMFTJDWYB, I BATAGONIA. 0 GWMPAS 355 o flynyddoedd yn ol yr angorodd y mordwywr enwog Magel- lan mewn porthladd anadnabyddus, ond gwyddai yn dda ei fod yn perthyn i'r Cyfandir mawr Americanaidd ac yn gymaint a'i fod yn awyddus am dynu sylw y byd at y fiaith ei fod wedi darganfod traethell newydd yn y gororau deheuol, efe a alwodd enw'r lie yn St. Julian. Cyfaneddodd Mag- ellan yn St. Julian a Santa Cruz am bum' neu chwe' mis, yn ystod pa amser daeth ato ddyn o faintioli dirfawr, a ehanlyrrvyd hwn eto gan 18 o Bata- goniaid o faintioli cyfiredin. Yr oedd y brodorion wedi ymddilladu mewn crwyn, ac yr oedd eu hesgidiau o gwmpas llathen o hyd, a dwy droed- fedd o drawsfesur; a phan cerddai'r Patagoniaid, gwnaent rychau arutbr yn y ddaear, a chadwent dwrw ofnadwy drwy eu traed a'u tafodau, ac yn her- wydd aruthrolrwydd maintioli eu traed y rhoddes yr Yspaeniaid iddynt yr enw Patagones, ac oddiar foncyff y sen-enw hyn y deilliodd enw y wlad— Patagonia. Y mae llawer o ymosodiadau wedi cael eu gwneud ar yr oror Batagon- aidd fel man cyfadddas i sefydlu Ymherodraeth Gymreig; y mae gwrthwynebwyr yr ymgais glodfawr hon wedi dyweyd a thaenu pob math o chwedlau, gwirioneddol a chelwyddog, am y wlad a'i brodorion ond wedi'r cwbl, yr ydym ni yn rhwym o gyf- addef nad ydym wedi gweled un wrth- ddadl hyd yma ag sydd yn alluog i ddadymchwelyd ein hangerddolrwydd Patagonaidd. Dywed y gwrth-Bata- gonwr fod yn Patagonia rhyw luaws o gewri; ac yn wir, mae'r gelyn am ddychrynu'r ofnus a'r eiddil, drwy ddyweyd mai cewri yw holl frodorion Patagonia, ond gwyr y darllenwr, y myfyrivyr, a'r Si-ragfarn amgenach pethau am Patagonia a'i thrigolion, na'r hen gawdel hunan-greedig-y cewri. Yn y fiwyddyn 1615, bu dyn o'r enw Schouten yn Buenos Ayres, ond Did oes hanes iddo dd'od i gyf- ffyrddiad personol a'r Patagonwyr; ond b. eto ar ei ddychweliad i'w wlad ei hun, efe a gyhoeddodd i'r byd y chwedl an- wireddus am gewri Patagonia, eu bod yn rnesur o 10 i 11 troedfedd 0 hyd, a bod en Ueferydd fel taranau, a'u cyf- lymdra fel mellt Aralwg yw mai Pabydd oedd Schouten, ac yr oedd wedi Ilwyddo i enill rhai o'r anwariaid arfordirol i'r ffydd Babyddolj a gwyddai, os cawsai Ionydd yn mysg y brodorion, heb ymyraeth o'r sectau eraill ag ef, y buasai yn Iled debyg o Babeiddio yr holl wlad; ond yr oedd yn ofni y sectau hereticaidd ereill, am ba achos efe a daenodd yr hen chwedl mai cewri o faintioli an- ferth yw brodorion Patagonia; ac, ysywaeth, mae ysbryd taiog, yn ngbyd ag unbenaeth a gwrthnysigrwydd yr 0 9 hen Jesuit coelgrefyddol a chelwyddog wedi disgyn yn helaetb iawn ar fan Jesuitiaid Cymru. Y mae Pigafetta, Van Noort, Huyvet, Narborough, Falkner, Byron, Wallis, Viedma, D'Or- bigny, Cunningham, a Musters wedi treulio llawer iawn o'u hamser yn mysg y Patagoniaid, ac y mae'r oil o'r ym- chwilwyr dewrion yn tystio mewn modd difrifol nad yw'r Patagoniaid ond rhywbeth ar gyfartaledd maintioli brodorion y wlad hon, as nad yw chwedl y cewri ond rhyw hen fabinogi yn dwyn delw gelyn i gynydd trafnid- iaeth ac egwyddorion annhyblyg y gwirionedd. Dydd Iau diweddaf, am ddeuddeg o'r gloch i'r eiliad, cychwynodd mintai ddewr o'n cydwladwyr tua gwlad yr addewid—Patagonia. Yr oedd y fintai cyn ei chychwyniad yn aros gyda Mri. Lamb & Edwards, Union-street, L'er- pwl, a'r noson cyn ei hymadawiad, aethum idd ei gweled yn ei llety, ond siomwyd fi, gan fod lluaws o'r fintai wedi myned allan i edrych ansawdd y dref; ond y ddosran a welais i, mi a gefais ar ddeall eu bod yn dyfod o Aberdar a Chwmaman, ac yr oeddynt oil yn llawn gwrolfrydedd, mwythus- rwydd, a phenderfyniad, teilwng o anianawd cyn-frodorion Ynys Prydain. Yn y fintai hon yr oedd un gwr o'r enw Mr. T. M. Jones, ei wraig, a naw o blant, ac yr oedd ganddo sypynau aruthrol o offerynau amaethyddol yn ei ganlyn; ac yr oedd y brawd dewr yn llawn o'r bywyd a'r gwresogrwydd mwyaf Cymroaidd a Phatagoneiddiol, ac mae'n ddilys genym, os ca Mr. Jones a'i deulu lluosog gyrhaedd Teg Ganaan Patagonia, fod dyfodol ardderchog o'i fllen ef a'i hiliogaeth anturiaethus. Yr oedd y nntai yn rhifo tri-a-deugain, ond yr oedd y rhan luosocaf o honi yn ddi- briod, yr hyn, efallai, a fydd yn an- fFafriol i gynydd poblogaeth y Wlad- ychfa am adeg birfaith; ond ysgatfyd fod gan y bechgyn gweddwon obaith y daw eu duwiesau heirdd ar eu holau i Batagonia pan yr urddir hwy yn ieirll- esau, ardalyddesau breninesau, tywys- ogesau, ac ymherodresau ar treinlawr yr hen Batagonia gabliedig. Aeth Mr. Lamb a'i weinidogion gyda'r fintai ar fwrddyllong, acymddangosai ygatrawd yn lion, hawddgar, hewydus, oalonog, a boddlongar mewn gwirionedd. Dywed Lamb nas gwelodd efe dorf o ddynion yn fwy hapus a buoyant yn myned allan o'r porthladd hwn erioed. Nid yw o un pwys genym pa betb ydyw barn y gwrth-Batagonwyr am y priod- oldeb neu'r amnhriodoldeb idd ein cydgenedl ymfudo yno—y mae genym yr un httwI i bleidio'r lie ag sydd gan- ddynt hwythau i greu pob math o gel- wyddau a thyb-osodiadau, er mwyn troi'r llif ymfudol i gyfeiriad arall. Y mae yn ddirmygedig genym glywed ambell Gymro rhagfarnllyd, hunan- dybus, papilionaceous, a gwatwarilyd, yn ceisio gwneud gwawd a rheg o ym- drechion anrhydeddus ein goreugwyr i sefydlu arbenogaeth Gymraeg ar lan traethellau'r Chupat bell; ond myn y cyfryw i ni gredu nas gellit eu euro mewn gwladgarwch a dynoliaeth, ac mai gweled anghyfaddasder yn Mhata- go nia i ddodi lawr gynsail yr orsedd Gymreig, yw yr achos eu bod a'u man- fi iogau yn ymdrechu tori lawr bawb a phobpeth a feiddia ddangos eu hunain o du'r Wladfa. Yr ydym yn taeru yn ddiofn yn eu gwynebau, mai am na wa- hoddasid bwy i gymeryd rhan yn yr oruchwyliaeth wladfaol ar y cyntaf, y maent yn cynhyrfu nefoedd a daear er mwyn dadymchwelyd meddylrith a gobeithion y gyfundrefn Batagonaidd. Yr ydym ni yn dymuno nawdd Duw a'i dangnef i'r fintai fach grand sydd newydd adael hen draethellau gwlad eu —1^ bamuii ■Mil IIWHI TmUMIWM gen euigBeth- -gwl ad eu serch a'u ore- fydd, ac arosed nawdd ac ymgeledd Creawdwr cyrau'r ddaear ar y Pata- goniaid Cymreig hyd byth anorphen* 0 for blwng ac ofer bia-pob gormes, Fob garsn ac ymwasgfa Mir gweled Cymry Gwalia-yn troi'a fyg Eto i gynyg gwlad Patngonia. Pybyr rhoes brodyr yabrydol—eu hedd A'u bneddiant cnrtrefol O'r naill du, er enill dol, A meusydd anormesol. Pwy eto gynyg ladd Patagonia ? Oes eto heriwr goeg ddiystyra Yr baddef anwyl- oes gwr ddifenwa Aelwydydd aury wlad dda-rydd heddwch A dyogelwch i ysbryd Gwalia ? Pe tai gwyneb Patagonia—mor lln Ac mor lwys a'r Wynfa, Dir wed'yn y gwael droedia-Adail deg Y newydd goleg a brynodd Gwalia. Elw'r cwbl i wyr y cablu,-dyma Bob dim eu pregethu Eu camrwyeg yw dwyn Cymru Yn aberth dwl i'w buarth du. Fe ddaw yr adeg pan fydd i nvydan Y rhaglaw anwar i gloi ei enau Fe gwyd yr huan ar lan eur-lynau Y GamWYR unig, a maws awenau, Y Cymry enwog a grog wrth greigian, Y wlad sydd weithian o dan groch donau, Oerlidiog getbern erledigaethau; Llewyga bleiddiaid a dall gableddau, Brwvdwyr gwyll, a'r bradwr gau-ad ei cbwant I groth ddiffyniant pob gwarth a phoenau! Ar ol i wawdwyr i lwydo,—a gwarth Droi'n gylch am eu hamdo, Bydd awen glaerwen dan glo Haul tyner y wlad bono. Y mae mintai arall i gychwyn diwedd yr wythnos hon, ac fe ddanfonir ad- roddiad neillduol am dani i'r DARIAN nesaf.
MOODY A SANKEY.
MOODY A SANKEY. Y mae'r ddau wr enwog uchod wedi cyrhaedd America yn ddiogel, er i Mr. Moody gael taith lied anymunol, gan fod cefn neifion yn dra gwrthwynebus i deimlad corfforol yr efengylwr diamwys a gwyneb agored hwn. Buout naw di- wrnod ar y mor, a phan diriasant yn America, cawsant dderbyniad tywysog- aidd gan bob gwir Gristion, ond mae'n alarus cofnodi i ambell watwarwr Luci- feraidd ddangos eu dygasedd tuag at y diwygwyr enwog, a gwir briodol y gall- ant waeddi gydag Esay, Pwy a gred- odd i'n ymadrodd, ac i bwy y dadgudd- iwyd braich yr Arglwydd! Yr ydym ni yn gwbl argyhoeddedig fod Moody a Sankey wedi gwneud llawer o ddaioni yn Liverpool, a manau ereill yn Mhryd- ain, ac mae hyd yn nod y cludyddion a'r plant yn canu yn orfoleddus drwy heol- ydd Liverpool, yr hen gerddi a ganai Moody a Sankey pan yn y dref hon. Pan oedd y ddau frawd anwyl yma, ni chlywsom ni neb yn eu diraddio ond tafarnwyr a chwareuwyr. O! do yn wir, clywsom Babyddion a chatrodau'r Chwilysoedd arteithiol yn darogan trancedigaeth fuan i oruchwyliaethau llafurfawr y ddau wr Americanaidd, ond pan byddo llwch ysgymun, addolwyr Bacchus yn cael ei wasgaru drwy grom- bil y dyfnder mawr, ar awr y cladeni anfeidrol, bydd cigyddion anhydrin y Babaeth, a rhengoedd pendronllyd acchus yn melldithio awr eu genedig- aeth, ac ar esgynloriau y tragwyddol- ddydd. yn nghwmni beirdd ac ofyddion dinas Duw, gwelir Moody a Sankey yn mlaenaf gwyr, yn plygu dan bwys Duw- dod eu sylweddau anfeidrol!
• GWRTHDARAWIAD AR Y MIDLAND.
• GWRTHDARAWIAD AR Y MIDLAND. Ugain mynyd wedi 11 dydd Sadwrn diweddaf. cymerodd gwrthdarawiad ofn- adwy le ar linell y Midland, yn Kild- wick, gorsaf fechan rhyw 16 o filldir- oedd o Bradford, swydd Caerefrog, pryd y daeth y Scotch Express i gyffyrddiad a gwibdaith-gerbydres o Morcame, neu Mor Cam," yn ol cystraweniaeth glas- surol. Drwy y gwrthdarawied dych- rynllyd hwn collodd saith eu bywydau, ac anafwyd deugain yn ofnadwy. Yr oedd y mwyafrif o'r ymdeithwyr yn perthyn i Bradford; a phan wnawd hanes y gwrthdarawiadyn hysbysidrig- olion y dref hono, ymdrodd y trefolion tua gorsaf y Midland fel gwallgofiaid, a darfu i-r llywodraethwyr alw ar hedd- geidwaid y dref idd eu cynorthwyo i gadw rhyw fath o drefn yri yr orsaf. Tra yn son am wrthdarawiad ar terra firma, y mae un ofnadwy wecu cymeryd lie ar fonwes Neptune yr wythnos ddi- wedc ,f; yr ydym yn cyfeirio at y Van Guard anffodus, ond gan y bydd genych adroddiad mewn man arall, nyni a ym- ataliwn, gyda dymuno llwydd i'r Pata- goniaid a theulu dyn yn mhob man dros derfynau eithaf y ddaear. "PATHOS," sef ATHAN FAEDD. [Bydd y rhan arall o lythyr goheb- ydd Liverpwl yn ein nesaf.
YSGOLDY NEWYDD, DOWLAIS.
YSGOLDY NEWYDD, DOWLAIS. CYNELIK Trydydd Cyfarfod Cystadleuol Gymdeithas Lenyddol Dowlais yn y lie uchod, nos SADWRN, Tachwedd 6ed, 1875. Beirniaidy Cyfansoddiadau, &c., Parch. D. REES, Bethapia, Dowlais; y Canu, Mr. JOHN JONES, Seion, Rhymney. Programmes i'w cael am geiniog a dimai yr un, gan EDWARD DAYIES, Ysg. 19, Ivor Street, Dowlais.
SAFON Y SLIDING SCALE.
SAFON Y SLIDING SCALE. Os na cheir y tystiolaethau yn briodol, a thystiolaethwyr hefyd, os yn ofynol, fel y mae yn dra thebyg y bydd, bydd hyny yn sicr o fod yn achos gofid, nid yn unig i'r rhai hyny sydd yn ol o'u rhoddi, ond i'r dosbarth yn gyffredinol. Felly cy- nghorem weithwyr pob glofa a'r sydd yn Undeb y Meistri, ag sydd heb roddi'r tystiolaethau, i wneud hyny gyda brys; ac hefyd i benodi rhywun yn barod, rhag y gall galw fod am dystion gerbroa y Bwrdd yn Nghaerdydd. Mae erthygl wedi ymddangos yn yr Iron, (un o'r awdnrdodau goreu ar ochr cyfalaf,) ar Fwrdd Cymodol Deheudir Cymra, yn yr hon yr ydym yn cael cip- olwg ar y mater yn ol fel y mae'r meistri yn edrych arno. Geilw y Bwrdd yn fwrdd i dynn cynllun, a gwneud cynygiadau am y modd i reoleiddio huriau y gweithwyr yn y dyfodol." Dywed fod gosod safon yn bwnc sydd yn herio dadansoddiad." Dywed hefyd, fod tri rheswm neillduol ag sydd yn rhwystr i brisoedd y tori glo yn '71 i fod yn safon gyfiawn i'r meistri, sef ymyriad y Mines' Regulation Act; codiad anghydmarol yn nghyflogau gwahanol fathau ereill o lafurwyr, yn nghyd a theyrnasiad cyfEredinol cyflogau uchel. Ac y mae yn ofni yn fawr fod y pethau hyn yn bygwth mater i gyflafareddiad cyn y gall yr achos gael ei benderfynu yn foddhaol. Gellir gweled yma fod eyflafareddiad yn aros yn fieri, yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr i'r ochr arall o'r ty. Dywed yn mhellach, fod rhanbarth ddwyreiniol y Deheudir yn rhyw 3 per cant, yn uwch yn bresenol nag oeddent yn '71, a bod y rhanau gor- llewinol yn 40 per cent. yn well. Gwelir fod yr erthygl hon yn rhoi yehydig o oleuni ar y mater fydd gan y Bwrdd i ymdrin ag ef; ac ar y rhwystr fydd ar fforad y ddwy blaid i dd'od i gytundeb, am fod ei syniadau mor wahanol o berthynas i safon. Hefyd, gwyddom oil fod yr ystadegau o barth i'n sefyllfa bresenol yn hollol anghywir. Mae hyn ar unwaith yn stampio yr angenrheid- rwydd am gael yr ystadegau cywir; ac os na cheir hwynt, bydd y canlyniad yn anocheladwy. Gydweithwyr, dyma ni yn terfynu un- waith eto, gyda dymuno y bydd yr ym- drech eiddil hon o'n heiddo yn foddion i argyhoeddi rhywrai o'r sefyllfa, ac i'w dwyn i deimlo yn briodol o'i herwydd. Ein hunig amcan wrth geisio ysgrifenu ar y pwnc oedd, dangos ein sefyllfa, a'r anenrheidrwydd am undeb a chydweith- rediad er cael cyfiawnder yn ngwyneb hyny. Yr hyn sydd yn ofid calon i ni yw, fod yn lie undeb wasgarfa, ac yn lie cydweithrediad rhyw ddiofalwch marwol annheilwng o honom ein hunain, a di- nystriol i'n hachos, Byw fel yr ydym yn ngwyneb ffeithiau diymwad o ormes, anghyfiawnder, ac anghwblhad, hyd yn nod o'r cytundeb diweddaf a gaed, a chenym o fewn ein gafael y moddion at wella ein sefyllfa, a galluoedd at hyny, mae'n syndod fod ein hymdrech mor lleied, ein hagwedd mor fnwaidd, a'n zel mor oer; a thra fo'r annheimladrwydd hwn yn bodoli, ni raid i'r ychydig sydd yn ceisio codi eu cydweithwyr i ystyr- iaeth briodol o'u sefyllfa wrth ymddi- heuriad. Y mae yn cael ei gofnodi mewn hanesyddiaeth am ryw frenin, yr hwn yr oedd ei deyrnas ar gael ei han- reithio gan elyn estronol. Cariwyd y newydd iddo gan genad neillduol pan oedd yntau yn mwynhau ei hun gyda'i arglwyddi. Gwasgai y genad am gael ymgom a'r brenin, ceisiai a'i holl egni ddangos iddo fod ei genadwri yn un bwysig neillduol; ond yr ateb a gafodd gan y brenin oedd, Pethau pwysig i mi yfory:" ac felly y bu, y fory a ddaeth, a chafodd y brenin ei hun yn aberth truenns i'w ynfydrwydd—collodd ei goron, collodd ei deyrnas, ac alltudiwyd ef gyda'r miloedd allan o'r wlad. Rhvw- beth tebyg i hyn yw hi gyda miloedd glowyr Deheudir Cymru heddyw. Siar- adwn a hwynt am undeb, a gosodant ni i lawr yn benboethiaid a chyffrowyr y bobl, yn earn hunanles, &c.; tra y mae ffeithiau beunyddiol yn profi nad oes dim yn bresenol ond undeb a chyd- weithrediad a all welia ein sefyllfa; ac hyd yn nod y ni sydd mewn undeb a'n giiydd, ydym drwy ein hoerfelgarwch a'n marweidd-dra, ein diffyg cydweled- iad o barth i ba undeb a wna'r tro, yn aros o'r naill beth i'r llall, hyd y mae lie i ofni os a y claearineb a'r diofalwch hwn lawer yn mhellach, y bydd iddynt roddi lie i ganlyniadau nad ydys yn breuddwydio am danynt yn bresenol. Pa hyd ynte, gyfeillion, y caiff pethau aros yn eu sefyllfa farwaidd bresenol P Pa hyd y caiff anundebiaeth, anghyd- ffurfiaeth, eiddigedd, a rhagfarn fod fel pryf difaol yn bwyta ein nerth ? Pa hyd y caiff teuluoedd eu tlodi heb achos ? Yr ydym yn colli y tir o dan ein traed mewn difaterweh, ae heb deimlo ein sefyllfa o'i herwydd. 0 na f'ai genym hyawdledd teilwng o'r achos, ac fel y dywed y bardd, "Meddyliau fo'n anadlu, a geiriau fo'n lloegi." Ie, Ilosgi nes deffroi ein cydweithwyr o'r cysgadrwydd marwol presenol-llosgi hyd nas gallo un gronyn anghydfod ac anghytundeb fyw yn ein mysg. O na welid ni yn un fyddin gref a chryno, ar ein heithaf yn dal breichiau ein gilydd i fyny. Yna deuai ein nerth a'n dylanwad i'w teimlo yn fuan—deuai dynion i ganfod fod lies gwirioneddol yn yr I achos deuai y naill i galonogi y llall; deuai yr ansefydlog yn sefydlog, y gwan yn gryf, yr oer yn frwd, y llwfr yn ddewr, a'r oil yn un corff iachus a gweithgar. Modd bynag, yn bresenol dewchinigael rhoddi heibio bob gwa- haniaeth, a phenderfynu cydweithio er ceisio sefydlu moddion i dd'od a meistri a gweithwyr i gydweithio a'u gilydd-y naill i wasanaethu y llall, fel brawd yn gwasanaethu brawd, fel y byddo i strikes a lochs-out ddarfod o'r tir. Gower Road. MABON.
Y PARCH. JOSHUA THOMAS.
Y PARCH. JOSHUA THOMAS. SYRTHIO y mae gwroniaid maes y wein- idogaeth Gristionogol, acynmysg ereill, y person y mae ei enw yn benawd i'r llinellau hyn. Wedi tua deugain awr o gystudd trwm, hunodd yn yr angeu, dydd Iau, Medi yr 2il, 1875. Yr oedd y;Parchedig Joshua Thomas yn fab i'r diweddar Barch. D. Thomas, Penmain, Mynwy, a'i fam Elizabeth, yn ferch i Mr. William George o'r Brithdir, plwyf Gelligaer, Morganwg. Cafodd Joshua, yn gystal a'r lleill o'r plant, eu dwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Wedi iddo, yn ieuanc, ymuno a'r eglwys yn Penmain, yn fuan gwelodd yr eglwys fod ynddo gymwys- derau i fod yn enau cyhoeddus dros Dduw at bechaduriaid; anogwyd ef i ymaflyd yn y gwaith o bregethu. Wedi cael prawf digonol ynddo fel pregethwr, ac iddo yntau gael mwynhau ychydig o ysgol ragbaratoawl, cafodd dderbyniad. i'r Athrofa Annibynol, yr hon oedd y pryd hwnw yn y Drefnewydd, Gogledd Cymru, ond sydd yn awr yn Aberhon- ddu. Wedi treulio ei amser yn yr Ath- rofa, derbyniodd alwad oddiwrth yr eg- lwys, oedd yn ieuanc y pryd hwnw, yn Adulam, Merthyr Tydfil, a chafodd ei neillduo yno i gyfiawn waith y weinidog- aeth efengylaidd, dydd Gwener, Ebrill 5ed, 1833, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y gweinidogion canlynol: Parch. D.,Stephenson,Behoboth, Bryn- mawr; Mr. Lewis, Fenni, a bregethodd ar Natur Eglwys y Testament Newydd. Holwyd y gweinidog ieuanc gan T. B. Evans, Ynysgau; gweddiwyd am fen- dith ar yr undeb newydd hwn gan Mr. Lewis, Tredwstan; siars i'r gweinidog f ieuanc gan W. Jones, Penybontarogwy siars i'r eglwys gan H. Jones, Tredegar, wedi hyny o Gaerfyrddin; ac yn nghyf- arfod 3 o'r gloch, pregethwyd gan y Parchedigion, Hughes, Maendy; Hughes, Casnewydd, wedi hyny Trelech; a J. Ridge, Cendl, ac efe yw yr unig un o honynt sydd yn awr yn fyw, ac os ydym yn cofio yn gywir, ei fod yn awryn pres- wylio yn Casnewydd. Yn mhen rhyw gymaint wedi ei urddiad ymunodd mewn priodas a'r hon a adawodd ar ei ol yn nglyn galar, ac yn awr yn isel mewn cystudd gyda dwy ferch alarus oblegyd priod hoff a thad tyner. Cafodd yn Mrs. Thomas amgeledd gymhwys. Claddodd amryw o blant, ac yn eu mysg John, tua naw mlynedd yn ol, pan yn fyfyriwr yn ngholeg Caerfyrddin, ac y mae gweddillion marwol y tad a'r mab yn gorwedd heno yn yr un bedd yn Libanus, mynwent y Crynwyr; hefyd merch iddo oedd y diweddar Mrs. Oliver, priod y Parch. H. Oliver, B.A., Casnewydd. Bu Mr. Thomas yn ffyddlon, ymdrech- gar, a llwyddianus yn ei gylch gweinid- ogaethol yn Adulam; ac yn adeg ei weinidogaeth yn y lie hwn y Uafuriodd i sefydlu yr eglwys Annibynol yn Pen- darran; yn mhen rhai blynyddoedd symudodd i gymeryd gofal gweinidog- aethol yr eglwysi Annibynol yn Beth- lem, ger Llangadog, a chapel Isaac, sir Gaerfyrddin. Bu yn llafurus a llwydd- ianus yn y lleoedd hyn, ac yn ystod ei weinidogaeth ychwanegwyd at yr eg- lwysi hyn luaws o rai a gedwir byth. Yn mhen blynyddau symudodd oddi yma i gymeryd gofal yr eglwys sydd yn Saron, Aberaman. Nid hir y bu yn Saron, ac ugain neu y pum' mlynedd a'r hugain diweddaf o'i oes, bu yn weinidog ffydd- lon, gweithgar, a difefl yn Salem, Aber- dar, a Libanus, Mynwent y Crynwyr, sir Forganwg. Dydd Llun canlynol i'w farwolaeth, Medi 6ed, hebryngwyd gweddillion marwol ein hen gyfaill i orwedd mewn beddgell yn mynwent Libanus. Cyn codi oddiwrth y ty, yn heol Seymour, darllenodd a gweddiodd y Parch. D. Price, Siloa; yna cychwynwyd a'r corff mewn clorgerbyd, gyda chwech o alar- gerbydau, yr hon a flaenorid gan dorf fawr o weinidogion a lleygwyr drwy y dref ac wedi dyfod mor bell a Station- street, arosodd y dorf, ac wedi i'r cer- bydau fyned drwyddynt, cychwynasom i orsaf y Grreat Western, yn ganoedd mewn rhif, er cyfarfod yr elorgerbyd rhwng Libanus a'r Navigation; wedi cyrhaedd mynwent Libanus, gweinyddwyd ynp gan y Parchedigion J. Mathews, Castell. nedd; E. Hughes, Penmain; T. Rees, D.D., Abertawy; J. Farr, Aberdar; D. Jones, B.A., Merthyr Tydfil; Jonah Morgan, Cwmbach ac R. Evans, Bethel. Yr oedd yn yr angladd dros driugain o weinidogion a phregethwyr y gwahanol enwadau yn Mynwy, Brycheiniog, a Morganwg. Yr oedd Mr. Thomas yn ddyn caredig a, diniwaid. Ni chlywais neb erioed yn dywedyd ei fod wedi cynyg eu niweidio na'u drygu, Yr oedd yn ffiaidd ganddo glywed neb yn cael euhenllibio a'u han- mharchu. Yr oedd yn ddyn diwyd; treuliodd ei oes mewn gweithgarweh, gyda diwydrwydd ac yni anghydmarol. Yr oedd yn weddiwr mawr; dysgasai bob amser fod yn gyfarwydd a Duw; gydarhwysg y dywedai panyn gweddio, 0 fy anwyl Dduw; 0 fy anwyl Ar- glwydd." Yr oedd yn nodedig am ddi- wydrwydd; nis gallai wenieitho; nid oedd modd ganddo i wneud gwyneb hir, pen cam, a gostwng gwefl er daugos rhyw wmbredd o dduwioldeb; ffieiddiai bethau felly gyda chasineb santaidd. Ystyriai mai didwylledd ysbryd, a char- iad at Dduw oedd yn gwneud i fyny wir grefydd. Yi oedd yn ddiargyhoedd yn ei fuchedd. Fel pregethwr, yr oedd yn drefnus. call, dealladwy, hjnod o wresog, a dy- lanwadol. Yr oedd yn hynod gymwys- iadol yn ei bregethau, y testyn bob am- ser yn ateb i'r amgylchiad, a bnasai drwy byny yn hynod aderbyriol. Y Sabboth olaf y bu yn fyw ar y ddaear, pregethai yn fwy tanllyd nag y clywyd ef erioed. Treuliodd y Sabboth hwnw gyda'r eg- lwys yn Salem. Pregethodd yn y boreu oddiar Salm cvii. 20; pwnc ei bregeth oedd y Feibl Gymdeithas, a danfoniad Gair yr Arglwydd dros y byd. Am 2 o'r gloch, eisteddai yn gadeirydd cyf- arfod Feibl Gymdeithas yn Carmel, add- oldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Tre- cynon; ac am 6 o'r gloch pregethodd eilwaith yn Salem, oddiar Nehemiah, ix. 17; pwnc ei bregeth oedd yr "hen wrandawyr apeliai at y cyfryw rai oedd felly yn Salen, a dywedai, Feallai, fy anwyl Dduw a wyr, mai dyma y tio olaf y caf gyfleusdra i'ch cytnhell l blygu, dewch heno. 0 fy anwyl Dduw, plyg yr hen wrandawyr heno." Ar y Llun eilwaith gorymdeithiai yn ngorymdaith yr Ysgolion Sabbothol. Prydnawn dydd Mawrth aeth gyda y tren i'r cyfarfod parotoad yn Libanus, ond gan fod Mrs. Thomas mor gystuddiol, dywedwyd wrtho gan ddiaconiaid yr eglwys, os ewyllysiai y gallasai ddychwelyd gartref heb aros i'r cyfarfod, gan nad oedd ganddynt un achos neillduol eisieu ei drin. A chan nad oedd modd i ddy- chwelyd adref ar ol y cyfarfod, daeth gyda y tren olaf; a'r noson hono, tuag un o'r gloch y boreu, cymerwyd ef yn glaf, a bu farw dydd Iau, yn 72 ml.wydd oed, wedi treulio 42 mlynedd yn wein- idog llwyddianus. Boed heddwch i'w lwch, nawdd ein Duw i'w weddw alarus a chystuddiol, a bydded i'w ddwy ferch, y rhai sydd eto yn fyw, a'i wyrion, fod dan nawdd y nefoedd. CAERWYSON.