Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. YMADAWTAD MOODY A SANKEY. Y MAE y ddau efengylydd American- aidd wedi terfynu seinio eu hydgyrn yn y wlad hon y tro hwn; ond ni therfyna effeithiau daionus eu hymweliad i dra- gywyddoldeb. Bydd miloedd lawer yn cofio am danynt gyda dedwyddwch yn y nefoedd byth. Anrhydeddwyd hwynt mewn modd arbenig a chydnabydd- iaeth eefnogol a bendithiol y nefoedd. Mvnodd Brenin Scion barch iddynt gan arglwyddi y wasg. Dangosodd had y sarff, byd y meiddient, nad oedd eu llywiawdwr satanaidd hwy yn eu cymeradwyo. Oni buasai i hyn gy- meryd lie buasai llawer yn barod i ambeu fod eu gweinidogaeth oDduw. Hynpd oedd gweled y Taranwr, -Tup Iter Printing Souse Square, sef y Times, yn rhoddi canmoliaeth mawr iddynt ar eu bymadawiad. Dywed fod hynodrwydd mawr yn atdyniadau eu gweinidogaeth, nid yn unig am fod tyrfaoedd yn eu dilyn, ond am fod mil- oedd lawer o'r un person au yn myned i'w gwrando o ddydd i ddydd yn ddi- stop. Cydnabydda nas gellir priodoli eu llwyddiant i gyffroad difeddwl teim- ladau, nac i ffugiaith, na ffurfiau o weithredu theatrical. Yn lie diystyru y symlrwydd oedd yn annhebyg i ddim yn ein gwlad ni, ystyriai y Times mai ein dyledswydd yw chwilio am y gallu oedd ganddynt hwy i ddylanwadu ar y Iluoedd a'u gwrandawent. Ystyria nad oes un gweinidog yn y deyrnas yn rhy nchel ei sefyllfa i wneud y fath ym- chwiliad. Tystia fod cwyn cyffredinol, fod yr eglwysydd a'r capelau yn weig- ion, yn enwedig o'r dosbarth gweithiol, ond mewn engreifftiau eithriadol. Y mae yn eitbaf eglur i dduwinydd- ion craffus fod gallu dylanwadol yr Efengylwyr Americanaidd, (1), yn y ffaith mai geirian Duw ac nid geiriau dyn oedd eu pregethau a chynwysiad eu canu. (2), Yn y ffaith eu bod yn gosod y pwys mwyaf ar sierhau presenoldeb Duw gyda hwynt, trwy weddio taer parhaus, a bod Duw yn bresenol gyda hwynt mewn atebiad i'w gweddiau. (3), Yn y ffaith eu bod yn pregethu Croes Crist, yn ei aberth a'i iawn, fel yr unig Geidwad i bechaduriaid. Gwnaent hyn, nid yn achlysurol, ond cadwent at hwn, fel eu hunig bwnc. Crist personol, byw, yn llawn o gariad, gallu, a baeddiant, fel Cyfryngwr, oedd nwchaf bob dydd yn eu hanerchion a'u caniadau. Yn hyn yr oeddynt yn dilyn esiampl yr apostolion yn oes y gwyrth- iau mawrion. (4), Yn y ffaith fod eu cenadwri yn fywyd. profiadol yn eu heneidiau eu hunain. Nid cynyg nwyddau ar ba rai ni roddent werth eu hunain yr oeddynt hwy. Yr oedd yn amlwg i bawb fod yr efengyl ac ysbryd Crist i achub y byd wedi eu llwyr feddianu. Nid oedd ganddynt allu corfforol, nac eneidiol, na moment o amser at ddim ond at eu gwaith mawr o ddwyn y byd i ddyogelwch tragy- wyddol yn Nghrist. (5), Yn y ffaith eu bod yn gwbl ansectaidd. Yr oedd mater uchel eu gweinidogaeth, yn nghyd a'i hamcan, yn eu codi uwchlaw holl ffiniau sectau y byd. Fel hyny ni thramgwyddasant ragfarnau sectyddol. Enillasant barch a chydweithrediad y sectau efengylaidd. Canmolwyd hwynt gan y rhai hyn yn mhob cylch, nes y daeth pob dosbarth o ddynion yn awyddus i'w gwrandaw. (6), Yn y ffaith eu bod wedi gwrthod gwobrau arianol am eu llafur. Y mae poblog- rwydd Garibaldi, trwy holl Ewrop, i'w briodoli mewn rhan fawr i'w wrtbodiad parhaus ef o wobrau arianol am ei ym- drechion gwladgarol-bron digymhar, yn y dyddiau hyn. Nid oes dim yn lleihau parch calonau gwrandawyr yn gynt at weinidogion yr efengyl, na'u syched amlwg at gyflogau tywysogaidd, a sefyllfaoedd uchel yn y byd, cyfartal a dynion eyfoetbog. Cauir calonau y gwrandawyr at yr hyn a ddywedant, pe baent yn "llefaru a thafodau dynion ac angylion." (7), Yn y ifaith eu bod wedi cadw eu llafur yn nghanol poblogaeth- au lluosog, lie y gallent sicrhau gwran- dawyr. Ceisiwyd ganddynt fyned i lawer man, ond gwrthodasant ddos- barthu eu hymdrechion rhwng lleoedd bychain—bychain mewu ystyr gyd- marol. (8), Yn y ffaith eu bod yn gweithredu gyda phenderfyniad di-ilclio yn ol eu cynlluniau eu hunain. Pe buasent wedi gwrando ar gynghorion miloedd o gynllunwyr gwahanol, neu wedi ceisio llunio eu gweithrediadau yn ol y feirniadaeth a fa arnynt mewn gwahanol gyhoeddiadau, ni buasent wedi llwyddo mewn dim. Yr oedd eu penderfynolrwydd i wneud yn ol y ddoethineb :oedd ynddynt, yn peri i bawb adael iddynt gael eu ffordd, yn cnwedig pan. y gwelsant fod y ffordd hono yn llwyddo. Gallesid enwi llawer o bethau eraill a'u hynodent hwy, o herwydd paraiy buontynllwyddianus. Ond tebygem mai yn y pethau uchod, gan mwyaf, yr oedd dirgelwch eu llwyddiant. Gobeithiwn nad yw eu llafur ond yn ei ddechreuad, ac y rhydd Pen Mawr yr eglwys hir oes a nerth iddynt i fod yn ddefnyddiol yn ei deyrnas cf. Byddai yn llawenydd gan filoedd eu gweled eto yn y wlad lion, i efengyleiddio ei thri- golion drwyddi oil. Bydded felly.

* SEFYLLFA MASNACII GLO A…

CYFARFOD CYNEYCHIOLWYR DOSBARTH…

ALLFORIAD BLYNYDDOL GLO.

4 MERTHYR-MARWOLAETH MR W.…

CATS AR RAN GWEITHWYRI TANDDAEAROL…

GORUCHWYLIWR I DDOSBARTH ABERDAR.

I"SKETCHES ABOUT WALES," by…

[No title]