Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GWRAIG WROL.

News
Cite
Share

GWRAIG WROL. YN ystod y gwrthryfel. yn Poland, yr hwn a ganlynodd wrthryfel Thadeus Kosciuske, gorfodwyd amryw o feibion gorea y wlad anftodui hono i ffoi am eu bywydan, gas adacl eu cartrefi a'u eyfeillion hoffusaf. Yn rnhlith y rhai hyny a fuont fwyaf awyddus am rydd- had Poland, ac yn fwyaf gelyniaethus i Rwsia a Prwsia, yr oedd Michael Sob- ieski, henafiaid yr hwn oedd wedi bod yn frenhinoedd rhyw gant a haner o flynyddoedd cyn byny. Yr oedd gan Sobieski ddau fab yn rhengoedd y gwladgarwyr, ac yr oedd y tad a'i ddau fab yn mhlith y rhai hyny a elwid gan y Rwsiaid yn wrthryfel wyr, ac yr oedd pris wedi cael ei roddi am eu penau. Yr oedd yr Archdduc Constantine yn awyddus iawn am ddal Michael Sobieski Wedi clywed fod gwraig y gwron Po- laidd gartref yn Cracow, aeth Constan- tine yno ati. Madam," ebe efe, gan ei hanerch yn ddefosiynol, canys yr oedd yn fenyw hardd a boneddigaidd, cred- wyf eich bod yn gwybod yn mha le y mae eich gwr a'ch dau fab yn ymgudd- io." Yr ydwyf yn gwybod syr." Os dywedwch wrtbyf pa le y mae eich gwr, caiff eich dau fab fod yn rhydd." Ac yn ddiogel ?" Ie madam, mi a gymeraf fy 11 w. Dywedwch wrthyf pa le y mae eich gwr,"a chewch eich meib- ion yn ddiogel adianaf." "\V el, ynte," ebai y foneddiges, gan godi ei Haw yn urddasol, a'i gosod ar ei mynwes, y mae yn gorwedd yn ddiogel yma-yn nghaion ei wraig, a bydd genych i rwygo allan y galon hon cyn cael gafael arno." Er cymaint o orthrymwr oedd yr Archdduc, cafodd yr atebiad y fath effaith arno, fel y cyhoeddodd faddeuant uniongyrchol i'r tad a'r ddau fab.

ANWYBODAETH.

Advertising